Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

C. Campbell

9 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2018/19

Ei frawd a'i chwaer-yng-nghyfraith yn athrawon;

L. Evans

9 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2018/19

Ei merch yn athrawes;

 

P. Hughes-Griffiths

 

9 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2018/19

Ei ferch yn athrawes;

P.M. Hughes

11 – Cynllun Cyflawni Gwasanaethau 2018/19 - Diogelu'r Amgylchedd

Buddiannau yn y fasnach manwerthu.

 

3.

COFNODION - 22 HYDREF 2018 pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2018, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO YNGHYLCH CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 31 Awst 2018.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant o £2,237k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £3,432k gan yr adrannau. Rhagwelid gorwariant o £237k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.

 

7.

DIWEDDARIAD YNGHYLCH RHAGLEN GYFALAF 2018-19 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y rhaglen gyfalaf yn erbyn cyllideb 2018/19, fel yr oedd ar 31 Awst 2018.

 

Nodwyd bod gwariant net o £57,535k yn cael ei ragweld ar hyn o bryd, o gymharu â chyllideb net weithredol o £57,241k, gan roi £294k o amrywiant. Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio ar sail £4.642m pellach, o 2018/19 i'r blynyddoedd i ddod, er mwyn rhoi ystyriaeth i wybodaeth ddiweddaredig ynghylch y proffil gwariant, ac roedd y llithriad yn y gyllideb o 2017/18 wedi'i gynnwys yn y ffigurau a ddosbarthwyd. Hefyd, roedd ymarferiad ailbroffilio’r gyllideb addysg yn cael ei gynnal i adlewyrchu cynnydd cynlluniau yn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd ar y rhaglen moderneiddio addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

 

8.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2019/2020 i 2021/22 pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad uchod a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar Gyllideb Refeniw 2019/20 a'r ddwy flynedd dilynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am amserlen proses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru, amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Byddai'r adroddiad yn sylfaen i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei chynnal gyda phwyllgorau craffu'r Cyngor a'r gymuned yn ystod y cyfnod Tachwedd 2018 - Ionawr 2019 cyn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ac wedyn i'r Cyngor.

 

Er bod y prif setliad dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn well na'r disgwyl, roedd yn lleihad ar setliad y flwyddyn gyfredol, a phan roddir ystyriaeth i ffactorau chwyddiant, a newidiadau demograffig a newidiadau o ran y galw, byddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

Roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb, fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad, yn golygu cyflawni'n llawn yr holl gynigion o ran arbedion a gyflwynwyd, ynghyd â nodi’r diffyg yn 2020-21 a 2021-22 a chynnig arbedion i wneud yn iawn am hynny. Roedd angen nodi lleihad pellach mewn costau a/neu byddai angen cytuno ar fwy o gynnydd o ran y dreth gyngor er mwyn cyflawni cyllideb gytbwys ym mhob un o'r tair blynedd. O ystyried maint y bwlch yn y gyllideb a ragwelid, roedd y cynnydd yn y dreth gyngor wedi cynyddu o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig blaenorol i 4.89% ym mhob un o'r tair blwyddyn ariannol, a oedd yn lliniaru rywfaint o leiaf y cynigion o ran arbedion y byddai angen i'r cyngor eu hystyried.

 

Nododd y swyddogion nifer o fân newidiadau yr oedd eu hangen yn Atodiad A mewn perthynas â Chanolfan Hamdden Sanclêr [colofn Ffeil Ffeithiau] a Hebryngwyr Croesfannau Ysgol [Disgrifiad o'r arbedion effeithlonrwydd].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi a bod strategaeth y gyllideb dair blynedd yn cael ei chymeradwyo fel sylfaen i ymgynghori, a bod ymgais benodol yn cael ei gwneud i gael sylwadau gan ymgyngoreion ynghylch y cynigion effeithlonrwydd y manylwyd arnynt yn Atodiad A i'r adroddiad.

9.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON 2018/19 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr C. Campbell, L. Evans a P. Hughes-Griffiths wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu codiad cyflog Medi 2018 y manylwyd arno yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018. Ymgynghorwyd yn llawn â chymdeithasau athrawon, yn rhanbarthol ac yn lleol, ynghylch y Polisi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2018/19 a'i ddosbarthu i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.

 

10.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON DIGYSWLLT 2018/19 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol a oedd wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu codiad cyflog Medi 2018 y manylwyd arno yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2018/19 a'i ddosbarthu i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.

 

11.

CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2018/19 - ADAIN DIOGELU'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd P. Hughes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2018/19 - Diogelu'r Amgylchedd a oedd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau Adain Diogelu'r Amgylchedd ac yn manylu ar y galwadau a'r heriau o ran y gwasanaeth a sut y bwriedir mynd i'r afael â'r rhain mewn modd cadarnhaol yn 2018/19.

Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd wedi cymeradwyo'r Cynllun yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2018/19 - Diogelu'r Amgylchedd.

 

12.

Y POLISI PRYNU A GWERTHU EIDDO pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Polisi Prynu a Gwerthu Eiddo diwygiedig a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2005.Roedd y polisi diwygiedig, yn enwedig yr atodiad ynghylch gweithdrefnau rhestr wirio, yn ymateb i faterion a godwyd gan adolygiad archwilio diweddar o'r systemau a'r gweithdrefnau sy'n ymwneud â rheoli eiddo'r Cyngor.  Cydnabuwyd y gallai eiddo gwag gael effaith negyddol ar ardal a pho hiraf y maent yn aros yn wag, mwyaf yw'r perygl y bydd problemau fandaliaeth a diogelwch yn codi. Y gobaith oedd y byddai'r polisi diwygiedig yn cefnogi gwerthu eiddo diangen mewn modd amserol i leihau'r perygl hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Prynu a Gwerthu Eiddo diwygiedig (Mehefin 2018).

 

13.

GWIRIADAU'R GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS) - POLISI pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried fersiwn drafft o'r Polisi ynghylch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd [DBS] a fyddai'n sicrhau, pe bai'n cael ei gymeradwyo, fod y Cyngor yn gweithredu’n unol â chanllawiau/codau'r DBS a chanllawiau/codau statudol cysylltiedig eraill.Byddai'rpolisi a'r prosesau cysylltiedig yn sicrhau bod unrhyw risg sy'n gysylltiedig â chyflogi pobl i weithio mewn ysgolion, gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed yn cael ei lleihau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiwn drafft o'r Polisi ynghylch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

14.

GEIRDAON CYFLOGAETH - CANLLAWIAU pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried fersiwn diweddaredig o'rCanllawiau ynghylch Geirdaon Cyflogaetha oedd yn adlewyrchu newidiadau o ran arferion a newidiadau diweddar i'r ddeddfwriaeth Diogelu Data.Roedd y Canllawiau diwygiedig wedi'u hanelu at reolwyr sy'n rhan o'r broses recriwtio ac roeddent yn cynnig arweiniad ynghylch derbyn a darparu geirdaon.  Roedd y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) wedi cyhoeddi arweiniad diweddaredig ynghylch y pwnc hwn yn ddiweddar ac roedd hyn hefyd wedi'i adlewyrchu yn y Canllawiau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r canllawiau diweddaredig.

 

15.

ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2018, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar yr adolygiad o'r Polisi Hapchwarae a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghori 2018 a'r Polisi Hapchwarae diwygiedig – Deddf Hapchwarae 2005. Nododd yr Aelodau fod y Polisi Hapchwarae presennol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod ym mis Chwefror 2016 wedi dod i rym ar 11 Mawrth 2016. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Hapchwarae gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. Roedd y Polisi Hapchwarae yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

16.

ADOLYGIAD O'R POLISI TRWYDDEDU pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 11 o gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2018, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch yr adolygiad o Bolisi Trwyddedu'r Awdurdod a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Ymgynghori ynghylch y Polisi Trwyddedu a Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses o ymgynghori ac adolygu. Roedd y Polisi Trwyddedu presennol wedi'i fabwysiadu ym mis Chwefror 2016, yn amodol ar gynnal ymgynghoriadau pellach ynghylch y posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Ym mis Ebrill 2018, diwygiwyd y ddeddfwriaeth er mwyn cyfeirio at Asesiadau Effaith Gronnol yn hytrach na Pholisïau Effaith Gronnol. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori rhwng 3 Ebrill a 1 Mehefin 2018 yn benodol ar gyfer awdurdodau cyfrifol, preswylwyr lleol, busnesau, deiliaid trwydded presennol a'u cynrychiolwyr gan gyrraedd 1000 o unigolion a sefydliadau. Nododd y Bwrdd fod y ddogfen polisi trwyddedu ddiwygiedig a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad, yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu. O ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori, y prif fater a godwyd oedd y darparwyd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Roedd y cynllun dirprwyo wedi'i ddiwygio i adlewyrchu arferion da a newidiadau i'r ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y Polisi Trwyddedu diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

17.

CLWB PÊL-DROED CWMAMAN pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 11 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2018, bu'r Bwrdd yn ystyried cais pellach gan Glwb Pêl-droed Amatur Cwmaman am gymorth ariannol i alluogi'r clwb i gwblhau ail gam y gwaith o uwchraddio cyfleusterau ei faes, gan sicrhau statws Haen 2 er mwyn iddo aros yng Nghynghrair Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo rhoi hyd at £56k o gymorth ariannol i Glwb Pêl-droed Cwmaman.

 

18.

GWAITH ADFER LLIFOGYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi'i thynnu'n ôl.

 

19.

UNRHYW EITEMAU ERAILL Y GALL Y CADEIRYDD, OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU Y DYLID EU HYSTYRIED YN FATERION BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fusnes brys.

20.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

21.

AILDDATBLYGU'R HEN FARCHNAD NWYDDAU YN LLANDEILO (HEN NEUADD Y FARCHNAD)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 20 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn rhoi'r awdurdod dan anfantais berthnasol mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio'r pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y dewisiadau a oedd wedi cael eu hystyried o ran ailddatblygu Hen Neuadd y Farchnad, Llandeilo, er mwyn darparu lle cyflogaeth newydd. O ystyried y cyfleoedd cyllido presennol a diffyg llwyddiant o ran cyflawni yn flaenorol, barnwyd bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i allu cyflawni'r prosiect hwn.

 

Nodwyd bod yr adeilad wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd a bod cynigion amrywiol o ran ei ailddatblygu wedi bod yn aflwyddiannus ac mai'r achos sylfaenol oedd bod cost adnewyddu'r adeilad rhestredig Gradd II* yn fwy na'i werth. Fodd bynnag, roedd cyfle yn awr i'r Cyngor sicrhau cyllid allanol os gallai'r Cyngor ymrwymo i ddarparu cyllid cyfatebol. Os bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, rhagwelir y bydd yn arwain at y canlynol:

 

·         Creu oddeutu 45 o swyddi newydd

·         Cymorth i 17 o Fusnesau Bach a Chanolig drwy greu lle busnes o'r radd flaenaf gan ddarparu canolfan i gwmnïau lleol ddatblygu

·         Adnewyddu adeilad nodedig

Rhagwelwyd hefyd y byddai'r prosiect yn sbardun a fydd yn arwain at fusnesau newydd yn gweithredu yn y dref farchnad, yn creu cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol ac yn denu rhagor o ymwelwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

21.1          fod y Cyngor yn arwain ac yn cyflawni'r gwaith o ailddatblygu Hen Neuadd y Farchnad, Llandeilo, er mwyn darparu lle cyflogaeth newydd;

21.2          bod y Cyngor yn mynd ati i geisio cyllid allanol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect;

21.3          bod y Cyngor yn darparu cyllid cyfatebol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau