Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C. Campbell.
Bu i'r Cadeirydd longyfarch Mr Geraint Thomas ar fod y Cymro cyntaf i ennill ras feicio fawreddog Tour de France. Er mwyn cydnabod ei lwyddiant, cafwyd cefnogaeth ar gyfer awgrym o gysylltu â Mr Thomas er mwyn gofyn a fyddai'n rhoi caniatâd i Felodrom Caerfyrddin gael ei ailenwi'n 'Felodrom Geraint Thomas' a'i wahodd i'r cyfleuster.
Bu i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol longyfarch Mr Thomas. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y: Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2018, gan eu bod yn gywir. |
|||||||
2AIL GORFFENNAF 2018. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2018, gan eu bod yn gywir. |
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2017/18. Yn yr adroddiad, rhoddwyd trosolwg gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd ag asesiad ar y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2018/19.
Mynegodd yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Phlant eu gwerthfawrogiad i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i staff am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r adroddiad yn cael ei brawfddarllen a'i ddiwygio ymhellach, yn amodol ar ei gymeradwyo, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref 2018. Ar ôl hynny, byddai'n cael ei gyhoeddi'n ffurfiol a byddai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad, a bydd llythyr blynyddol AGC yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr 2018.
Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o'r Weithdrefn Gorfforaethol, at Flaenoriaethau Strategol yr adroddiad ar gyfer 2018/19, y manylwyd arnynt yn Atodiad 1, ac yn benodol at eitem 12 ynghylch parhau i ddarparu cymorth i breswylwyr y mae dementia yn effeithio arnynt. O ystyried yr ystadegau yn yr adroddiad sy'n dangos nad oedd 42% oedolion yn teimlo eu bod yn rhan o'r gymuned ac nad oedd 45% yn gallu gwneud pethau sy'n bwysig iddynt (gweler tudalen 18 a thudalen 35), gofynnodd a fyddai modd estyn y cymorth sydd ar gael i'r bobl hynny yn ogystal â’r rheiny sy'n dioddef o ddementia.
Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yr Awdurdod yn ehangu’r cymorth i bobl yn y cymunedau, yn ogystal â'r rheiny sydd â dementia. Roedd Strategaeth Cydnerthu Cymunedol wedi'i datblygu ac roedd cydgysylltwyr cydnerthu cymunedol wedi'u penodi drwy gyllid y Gronfa Gofal Integredig er mwyn nodi rhwydweithiau cymorth yn y gymuned a allai roi cyfleoedd i bobl gymdeithasu. Hefyd, roedd 4 rhagnodwr cymdeithasol wedi'u penodi i weithio'n uniongyrchol gyda meddygon teulu er mwyn cynorthwyo pobl i ymgysylltu â chymunedau a lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd fod pawb yn gwybod bod mynd i'r afael ag unigrwydd yn gwella iechyd a llesiant pobl yn ogystal ag arbed miliynau o bunnoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Trwy weithio gyda chymunedau a phartneriaid iechyd, roedd y Cyngor yn arwain mentrau llwyddiannus a oedd yn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gan wella ansawdd bywydau pobl a lleihau'r nifer sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty. Byddai'r Cyngor yn parhau i ehangu'r gwaith ymyrraeth ac atal allweddol hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18 yn cael ei gymeradwyo. |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2017-18. PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-18 ynghylch yr Iaith Gymraeg, a luniwyd yn unol â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg a Safonau'r Gymraeg. Nodwyd bod y ddwy egwyddor ganlynol yn sail i waith Comisiynydd y Gymraeg:- · Yng Nghymru, ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. · Dylai pobl yng Nghymru fod yn gallu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2017-18. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. PDF 221 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro’r gyllideb refeniw a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2017/18. Roedd y ffigurau alldro terfynol yn dangos tanwariant o £306k ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol. Fodd bynnag, o ystyried tanwariant ar daliadau cyfalaf a’r trosglwyddiad o’r cronfeydd wrth gefn adrannol a’r rhai a glustnodwyd, sefyllfa net yr Awdurdod oedd tanwariant o £480k. Roedd y sefyllfa honno’n cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa a gyllidebwyd sef trosglwyddo £200k o’r cronfeydd wrth gefn, nad oedd angen ei wneud, gan arwain at amrywiant net ar gyfer y flwyddyn o danwariant o £680k. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn rhagweld tanwariant diwedd blwyddyn o £22k. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw. |
|||||||
Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22. PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a roddodd fanylion ynghylch y rhagolwg ariannol presennol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y model ariannol ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf. Yn yr adroddiad amlinellwyd y cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y cyfnod tair blynedd 2019/20 hyd at 2021/22.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
STRATEGAETH BARCIO SIR GAERFYRDDIN. PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2016, wedi cymeradwyo argymhellion Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ynghylch Taliadau Parcio Ceir, yr oedd un ohonynt yn gofyn am i adolygiad gael ei wneud o'r strategaeth parcio ceir bresennol. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried strategaeth parcio ceir ddiwygiedig a oedd wedi ystyried nifer o faterion gan gynnwys polisi parcio, data am y galw a nifer y lleoedd, technoleg debyg, yr achos economaidd dros godi tâl ynghyd â rheoli meysydd parcio. Hefyd, nododd yr adroddiad y blaenoriaethau canlynol ar gyfer parcio:- · Blaenoriaethu lleoedd parcio arhosiad byr yng nghanol trefi; · Diogelwch meysydd parcio; · Defnydd o dechnoleg; · Gwybodaeth; · Cyfuno modelau; · Safonau parcio; · Diwrnodau parcio am ddim; · Darparu mannau anabl mewn meysydd parcio; · Parcio coetsis; · Cyfleusterau i feiciau a beiciau modur. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Barcio ddiweddaredig Sir Gaerfyrddin. |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2017-18. PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2017-18 ynghylch y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Nodwyd mai un o’r prif fanteision o lunio adroddiad blynyddol oedd rhoi cyfleoedd arbennig i adolygu, monitro ac adfyfyrio ynghylch a yw trefniadau a chamau gweithredu awdurdod yn effeithiol a'u bod wedi parhau i fod yn briodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2017-18. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cylch Gwaith y Panel Ymgynghorol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033 ynghyd â chofnodion cyfarfodydd y Panel ar 9 a 17 Tachwedd 2017 ac ar 19 Ionawr 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cylch Gwaith y Panel Ymgynghori ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 ynghyd â chofnodion ei gyfarfodydd. |
|||||||
RHAGLEN WAITH GYCHWYNNOL Y BWRDD GWEITHREDOL. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith a luniwyd ar y cyd â'r holl adrannau a Rheolwr Busnes y Bwrdd Gweithredol a oedd yn tynnu sylw at y prif benderfyniadau polisi a chyllidebol oedd i'w gwneud dros y 12 mis nesaf. Nodwyd y byddai'r rhaglen yn parhau i gael ei hadolygu a'i chyhoeddi ddwywaith y flwyddyn gan sicrhau y byddai rhaglen gyfredol ar waith yn barhaus.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Flaenraglen Waith a ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo i'w chyhoeddi. |
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fusnes brys. |
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||
CAM 2 FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu’r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
Yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i’r cyhoedd adael y cyfarfod, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol fanwl ynghyd â rhesymau dros Orchymyn posibl a wneir gan y Cyngor. Er y byddai budd y cyhoedd yn cefnogi ymagwedd agored a thryloyw fel arfer, roedd hynny’n llai pwysig na budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd masnachol a chyfrinachedd cyn gweithredu unrhyw hysbysiadau/gorchmynion.
Oherwydd sensitifrwydd masnachol y materion dan sylw, dylid gohirio'r protocol o ran presenoldeb personau awdurdodedig nad ydynt yn aelodau o’r bwrdd gweithredol ar gyfer ystyried adroddiadau eithriedig, gan orchymyn iddynt adael y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran darparu Cam 2 Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad. |
|||||||
GWERTHU TIR YN: DE-DDWYRAIN LLANELLI. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu’r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
Yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i’r cyhoedd adael y cyfarfod gan fod budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Baragraff o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn bwysicach na budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad, gan y gallai hynny danseilio’r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Oherwydd sensitifrwydd masnachol y materion dan sylw, dylid gohirio'r protocol o ran presenoldeb personau awdurdodedig nad ydynt yn aelodau o’r bwrdd gweithredol ar gyfer ystyried adroddiadau eithriedig, gan orchymyn iddynt adael y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.
Bu'r Bwrdd Gweithredol, yn dilyn ei gyfarfod ar 4 Mehefin 2018 (gweler cofnod 24), yn ystyried adroddiad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran gwerthiant tir yn ne-ddwyrain Llanelli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad ar gyfer gwerthu tir yn ne-ddwyrain Llanelli. |