Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole a D. Jenkins (yn absennol yn sgil mater arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor)

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 4YDD MEHEFIN, 2018 pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol oedd wedi ei gynnal ar 4 Mehefin, 2018, gan eu bod yn gywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH SIR GAERFYRDDIN AR GYFER Y CELFYDDYDAU pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Strategaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Celfyddydau 2018 - 2022, a oedd yn cynnig fframwaith ar gyfer datblygu gwasanaethau hyd at 2022 i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o fod yn lle ar gyfer profiadau celfyddydol eithriadol sy'n ysgogi ac yn ennyn diddordeb ein cymunedau ac yn dathlu ei ddiwylliant unigryw a dwyieithog. Er mwyn tanategu'r weledigaeth honno, roedd y strategaeth yn nodi'r pedwar amcan allweddol canlynol:-

 

-        Llesiant Diwylliannol;

-        Llesiant corfforol a meddyliol;

-        Llesiant economaidd drwy gefnogi sefydliadau creadigol a diwylliannol a;

-        Datblygu a chynnal gwasanaeth celfyddydau sy'n effeithlon ac yn effeithiol (drwy wella'r incwm a gynhyrchir, dulliau arloesol o weithio, cydweithio a chryfhau ymgysylltiad â'r cyhoedd).

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Strategaeth wedi cael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Celfyddydau 2018 - 2022..

 

7.

GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL DRAFFT – CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli a oedd yn manylu ar yr ymatebion a oedd wedi dod i law i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ar hynny rhwng 18 Rhagfyr, 2017 a 9 Chwefror, 2018. Nodwyd y byddai angen cyflwyno'r Gorchymyn i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i’w fabwysiadu’n ffurfiol.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r cynnig, os caiff ei fabwysiadu, yn caniatáu ystod o ddefnyddiau o fewn ardal ofodol benodol yng nghanol y dref heb fod angen caniatâd cynllunio a bod y cynnig yn rhan o broses ymyrraeth ehangach, gan gynnwys gwaith Gr?p Gorchwyl Llanelli i adfywio'r dref. Roedd hynny'n cynnwys darparu ar gyfer defnyddiau masnachol ar y lloriau gwaelod a defnyddiau preswyl ar loriau uchaf eiddo o fewn ardal benodol, gan arwain at ragor o ymwelwyr a masnach.

 

Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.1

Dderbyn y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli;

7.2

Cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad;

7.3

Cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad hwn, a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno;

7.4

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol, yn ôl yr angen, i wella cywirdeb ac eglurder y Gorchymyn Datblygu Lleol;

7.5

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion ddiweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.

 

 

8.

POLISI CYFRYNGAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch mabwysiadu Polisi Cyfryngau Cymdeithasol newydd ar gyfer yr Awdurdod sy'n diweddaru ac yn cryfhau'r canllawiau presennol ynghylch y cyfryngau cymdeithasol. Nodwyd bod datblygiad y polisi yn deillio o archwiliad a gynhaliwyd yn 2017 a bod y polisi yn ceisio egluro sut a pham y dylai staff fod yn gyfrifol ac yn ofalus wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Os byddai'r polisi yn cael ei fabwysiadu, byddai'n destun archwiliad blynyddol ffurfiol ac archwiliad anffurfiol bob chwe mis.

 

Yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd D. Cundy, am eglurhad ynghylch geiriad paragraff 3.1 ynghylch negeseuon, delweddau, cartwnau, jôcs neu ffeiliau ffilm sy'n amlwg yn rhywiol. Cadarnhawyd bod y term 'rhywiol amlwg' yn cynnwys pob un o'r uchod a byddai geiriad y paragraff yn cael ei newid yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar newid geiriad paragraff 3.1 fel y nodwyd uchod, fod y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei fabwysiadu.

 

9.

DARPARU TELEDU CYLCH CYFYNG YN SIR GAERFYRDDIN YN Y DYFODOL pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch darparu teledu cylch cyfyng yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol yn dilyn adolygiad a oedd wedi'i gynnal gan Heddlu Dyfed-Powys i osod 116 o system gamerâu newydd ledled rhanbarth yr heddlu. Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, cynigwyd y byddai 46 o gamerâu yn cael eu gosod ledled Sir Gaerfyrddin erbyn mis Gorffennaf 2018 a byddai lleoliad y camerâu yn seiliedig ar ddadansoddiad o dueddiadau troseddu, a byddent yn cael eu monitro o Bencadlys yr Heddlu gan staff penodedig er mwyn gwella ymateb yr heddlu i ddigwyddiadau.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, er y byddai system newydd Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd lle'r 87 o gamerâu sy'n rhan o system y cyngor ar hyn o bryd, nid oedd 42 o'r camerâu hynny yn rhan o'r system newydd a byddai angen rhoi ystyriaeth i'w dyfodol fel y manylwyd arno yn opsiwn 1 h.y. datgomisiynu y camerâu neu opsiwn 2, sef comisiynu adolygiad.

 

Yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy at opsiwn 2 a gofynnodd a ellir ymestyn yr ymgynghoriad arfaethedig i gynnwys sefydliadau eraill gan gynnwys er enghraifft Shelter (i fonitro unigolion sy'n cysgu ar y stryd) a Heddlu Monitro newydd Llanelli er mwyn monitro ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod dadansoddiad Heddlu Dyfed-Powys o leoliadau camerâu wedi cynnwys amrywiaeth o faterion gan gynnwys mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Dywedodd pe bai Opsiwn 2 yn cael ei fabwysiadu, gellid cynnal ymgynghoriadau â sefydliadau allanol eraill megis Shelter, lle bo'n briodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1

Nodi'r dull arfaethedig a goblygiadau i'r Cyngor o ran cyflwyno system teledu cylch cyfyng newydd Heddlu Dyfed-Powys;

9.2

Bod y Cyngor yn cytuno i ganiatáu i Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio polion golau dynodedig a pholion teledu cylch cyfyng i gynnal system teledu cylch cyfyng newydd Heddlu Dyfed-Powys;

9.3

Bod y Cyngor yn cytuno i dalu am ffioedd trydan sy'n gysylltiedig â chamerâu teledu cylch cyfyng Heddlu Dyfed-Powys;

9.4

Bod perchnogaeth dros y polion teledu cylch cyfyng yn trosglwyddo o'r Tîm Diogelwch Cymunedol i'r Is-adran Priffyrdd, bod dyraniad o'r gyllideb ar gyfer costau trydan yn cael ei drosglwyddo a bod yr Adran Briffyrdd yn gyfrifol am dalu costau trydan cysylltiedig.

9.5

Cytuno ar Opsiwn 2 fel y dull gweithredu yn y dyfodol ar gyfer y 42 o gamerâu eraill a bod y Cyngor yn comisiynu adolygiad o'r camerâu sydd y tu allan i gwmpas system teledu cylch cyfyng Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys y costau ar gyfer rhoi'r camerâu y mae adrannau'r Cyngor neu'r cynghorau tref am eu cadw, ar waith eto, gan gynnwys adnewyddu camerâu gan fod eu technoleg wedi dyddio/wedi torri;

9.6

Cynnal trafodaethau ag adrannau'r cyngor, cynghorau tref a chymuned, a sefydliadau eraill yr effeithir arnynt, lle bo'n briodol, ynghylch yr hyn a ddewisir.

 

 

10.

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2018 y Cyngor a nodai'r amcanion a'r fframwaith polisi a strategaeth ar gyfer rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn unol ag argymhellion 'Y Côd Ymarfer newydd – Seilwaith Priffyrdd sy'n cael ei Reoli'n Dda' a sut oeddent yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi nodau corfforaethol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cynnwys y pedair rhan allweddol ganlynol a byddai'n gweithredu fel portffolio cyffredinol o ran strategaethau unigol sy'n datblygu ar gyfer elfennau o'r ased megis glanhau cwteri, a sut y byddant yn cael eu cynnal a'u cadw yn y dyfodol:-

 

-        Roedd Rhan 1 yn disgrifio rôl gefnogol y rhwydwaith priffyrdd yn y cyd-destun polisi ehangach ;

-        Roedd Rhan 2 yn disgrifio polisïau'r rhwydwaith priffyrdd a oedd ar waith neu a fyddai'n cael eu datblygu, a'r amcanion a fabwysiadwyd o ran rheoli'r rhwydwaith priffyrdd;

-        Roedd Rhan 3 yn darparu templed ar gyfer adroddiad blynyddol ynghylch cyflwr yr ased, y cynnydd dros y 12 mis diwethaf a'r cynlluniau ar gyfer y 12 mis nesaf;

-        Datblygwyd Rhan 4 fel llawlyfr cynnal a chadw a fanylai ar y ffordd y byddai'r Cyngor yn rheoli ac yn cynllunio'r elfennau unigol sy'n cynnwys yr ased seilwaith priffyrdd.

 

Yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy at dudalen 159 yr adroddiad a'r effaith bosibl y gall gostyngiad o ran buddsoddiadau arwain at ddychwelyd i amodau ffyrdd gwael. Gofynnodd pa gynllun buddsoddi y byddai'r Cyngor yn ei fabwysiadu o'r tri opsiwn a nodwyd yn yr adroddiad er mwyn cynnal y rhwydwaith ffyrdd yn y Sir, yr ail fwyaf yng Nghymru, gan fod ansawdd uchel y rhwydwaith yn hanfodol ar gyfer symud drwy'r Sir.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd at dudalen 157 yr adroddiad a dywedodd fod y templed a geir ynddo yn un enghreifftiol yn unig ac yn seiliedig ar ddata drafft. Hon oedd flwyddyn gyntaf y gyllideb dan y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, felly byddai cofnodi data yn helpu'r Cyngor i benderfynu ar fuddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd yn y dyfodol, fel rhan o'r broses gyllidebol flynyddol. Atgoffwyd y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.2m yn ychwanegol unwaith yn unig i'r awdurdod yn y flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd. Er y croesawyd y cyllid hwnnw, roedd angen rhagor o gyllid i gynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd ac roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd â Chymdeithas Syrfewyr Sir Cymru, yn cyflwyno'r sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2018 yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2017/18 ar ddiwedd y flwyddyn. Dywedwyd y byddai'r llithriad yn y flwyddyn o £12.116m o gymharu â chyllideb net weithredol o £55.969m yn cael ei gynnwys yn rhaglen y blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI’R TRYSORLYS A’R DANGOSYDD DARBODAETH 2017-2018 pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2017 (gweler Cofnod 16), wedi mabwysiadu Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18. Yn unol â'r polisi hwnnw, cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn amlinellu gweithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod 2017/18 ac yn crynhoi'r gweithgareddau oedd wedi digwydd yn ystod 2017/18 o dan y penawdau canlynol: Buddsoddiadau; Benthyca; Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth; Prydlesu ac Aildrefnu.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn derbyn Adroddiad Blynyddol 2017/18 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys.

 

 

13.

CLWB PÊL-DROED RHYDAMAN pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cais a gafwyd gan Glwb Pêl-droed Rhydaman am gymorth ariannol ar gyfer y diffyg o £123k o ran prosiect i uwchraddio ei faes, yr amcangyfrifir y bydd yn costio £201k, i gydymffurfio â'r meini prawf a osodwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn galluogi'r clwb i gystadlu yn Adran 1 Cynghrair Bêl-droed Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi cymorth ariannol i Glwb Pêl-droed Rhydaman, gwerth hyd at £125k, gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cytuno ar werth y cyfraniad terfynol (o fewn y terfynau) a'r amserlen dalu.

 

 

14.

NODI FOD Y GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD TINA HIGGINS YN LLE'R CYNGHORYDD SHAHANA NAJMI AR GYFER FFORWM Y GYMRAEG MEWN ADDYSG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r enwebiad a gafwyd gan y Gr?p Llafur bod y Cynghorydd Tina Higgins yn cymryd lle'r Cynghorydd Shahana Najmi ar Fforwm y Gymraeg mewn Addysg.

 

15.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fusnes brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau