Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G. Davies

10 - Newid enw Cyngor Cymuned Tre-lech ac enw Saesneg Cyngor Cymuned Cwarter Bach;

Aelod o Gyngor Cymuned Cwarter Bach.

 

3.

COFNODION - 26 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2018, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH DIGIDOL TECHNOLEGOL 2018-2021 pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018-2021 arfaethedig sy'n cyflwyno blaenoriaethau a dyheadau'r Awdurdod o ran technoleg ddigidol yn ystod y 3 blynedd nesaf. Pwrpas y strategaeth oedd nodi'r technolegau a'r mentrau allweddol a fyddai'n hwyluso ac yn ategu gweledigaeth Strategaeth Trawsnewid Digidol bresennol a chyffredinol y sefydliad a'r modd y caiff ei rhoi ar waith. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio technolegau presennol a datblygol priodol i hwyluso ac ategu'r gwaith o drawsnewid a gwella gwasanaethau a gwneud arbedion effeithlonrwydd.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy at Gynllun Adennill Cyfrifiadur (a'r Cwmwl) yn dilyn Argyfwng, a holodd pa wasanaethau fyddai'n cael eu heffeithio mewn sefyllfa "toriad trydan" parhaus, oddeutu faint o bobl fyddai dan anfantais a sut y gallai'r Awdurdod ddarparu gwasanaeth.

 

Sicrhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Dirprwy Arweinydd - y Cynghorydd Cundy fod gan Is-adran TGCh yr Awdurdod gynllun adennill cadarn yn dilyn argyfwng a threfnir profion yn flynyddol. Roedd gan y Canolfannau Data yn Neuadd y Sir a 3 Heol Spilman eneraduron p?er wrth gefn ar y safleoedd a oedd yn gallu rhoi p?er i'r ganolfan ddata os collir y cyflenwad trydan. Cafodd y prawf diwethaf ei gynnal ar 1 Medi 2017, ac roedd yn llwyddiannus. Byddai'r cyfnod y gallai gwasanaethau gael eu cynnal pe byddid yn colli cyflenwad trydan yn ymestyn y tu hwnt i 24 awr, cyhyd â bod digon o danwydd i'w ychwanegu at y generaduron, ac yn sicr dyna oedd y sefyllfa. Roedd gan y Canolfannau Data hefyd unedau cyflenwad p?er di-dor, a fyddai'n sicrhau bod y newid o'r prif gyflenwad p?er i'r generadur yn hwylus ac nad oedd unrhyw systemau na gwasanaethau hanfodol yn cael eu colli. Mae'r cyflenwadau p?er di-dor yn cael eu profi am yn ail flwyddyn gan y gwasanaethau TGCh a bydd y prawf nesaf yn cael ei gynnal ar 1 Mehefin 2018. Rhoddwyd sicrwydd hefyd i'r Cynghorydd Cundy, pan oedd yr Awdurdod yn gweithio gyda'r Cwmwl, fod gan Ganolfan Data Microsoft yng Nghaerdydd gyflenwadau p?er cydnerth, cyflenwad p?er di-dor a generaduron a bod gan bob un ohonynt gyflenwad wrth gefn i sicrhau bod p?er, pe byddai un yn methu. Awgrymodd y Cynghorydd Stephens ei bod yn annhebygol iawn y byddai Microsoft yn colli cyflenwad trydan oherwydd y materion yr oedd wedi cyfeirio atynt. Hefyd, wrth ddefnyddio technoleg ystwyth yn fwy, gallai staff gynnal gwasanaeth arferol ac ni fyddai unrhyw un dan anfantais yn sgil sefyllfa "toriad trydan" parhaus. Roedd yn gobeithio felly, bod y Cynghorydd Cundy wedi cael sicrwydd bod gan yr Awdurdod drefn ar bopeth.     

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnwys Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018-2021. 

 

7.

STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION 2018-2021 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Strategaeth gyntaf oll ar gyfer Ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, sy'n nodi gweledigaeth yr Awdurdod, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd o ran blaenoriaethau allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion.

Roedd defnydd yr ysgolion o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr a oedd yn hyderus yn ddigidol, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadigol. Roedd y Strategaeth Ddigidol dair blynedd hon ar gyfer Ysgolion yn nodi bwriad yr Awdurdod o ran y ddarpariaeth TGCh mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau bod gan ysgolion y dechnoleg briodol i gyflawni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnwys y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018-2021. 

 

8.

POLISI AR DDEFNYDD CYFRIFIADURON I'R CYHOEDD pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol bolisi arfaethedig i reoli sut y mae'r Cyngor yn darparu ei gyfrifiaduron sydd â mynediad i'r rhyngrwyd i aelodau'r cyhoedd. Nododd y polisi fod yn rhaid derbyn y telerau a'r amodau a dangos prawf adnabod cyn cael caniatâd i ddefnyddio cyfrifiadur cyhoeddus. Roedd hyn er mwyn sicrhau y gellid olrhain pwy yw'r defnyddiwr pe byddai'r Heddlu yn cyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth neu petai'r Telerau a'r Amodau yn cael eu torri.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r polisi defnydd ar gyfer cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus.

 

9.

Y FERSIWN DRAFFT O'R CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - YNNI GWYNT AC YNNI'R HAUL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul, a baratowyd i gefnogi ac ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, er mwyn caniatáu iddo fynd i ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol, a fyddai'n adlewyrchu'r ymrwymiad a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Soniodd yr aelodau fod angen sicrhau bod y cymunedau yn cael budd o fanteisio ar adnoddau naturiol ar gyfer ynni yn y sir, o bosibl drwy sefydlu cwmnïau hyd braich.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR 

 

9.1  gymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol a nodwyd yn yr adroddiad yn destun ymgynghori cyhoeddus ffurfiol am 6 wythnos;

 

9.2 cymeradwyo cyhoeddi'r Canllawiau o ran Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt ar Amwynder Gweledol a Thirwedd a'r Astudiaethau Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd fel dogfennau ategol i'r Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig sydd ar ddod;

 

9.3 rhoi awdurdod i'r Pennaeth Cynllunio gywiro gwallau argraffu, gwallau cartograffig neu wallau gramadegol a gwneud diwygiadau er mwyn gwella'r cywirdeb a gwneud yr ystyr yn gliriach.

 

10.

NEWID ENW CYNGOR CYMUNED TRE-LECH AC ENW SAESNEG CYNGOR CYMUNED CWARTER BACH pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd G. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar geisiadau gan glercod Cyngor Cymuned Cwarter Bach a Chyngor Cymuned Tre-lech i newid eu henwau i Gyngor Cymuned Cwarter Bach (yn y Saesneg) a Chyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws. Os cymeradwyir newid enwau y Cynghorau Cymuned, mae angen rhoi rhybudd o'r newid hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Arolwg Ordnans ac i Gofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr. Mae'n rhaid hefyd cyhoeddi'r newid hwn ym mhob ardal gymunedol berthnasol. Nodwyd na fyddai newid enw'r Cyngor Cymuned yn effeithio ar hawliau neu rwymedigaethau'r Gymuned nac yn gwneud unrhyw achosion cyfreithiol y gellid dechrau neu barhau â nhw yn ddiffygiol, fel pe na bai newid enw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGORgymeradwyo newid enw Saesneg y Cyngor Cymuned o 'Quarter Bach' i 'Cwarter Bach' a newid enw Cyngor Cymuned Tre-lech i Gyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws.

 

11.

CWMAMMAN AFC pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar gais gan Glwb Pêl-droed Cwmaman yn gofyn am gymorth ariannol ar gyfer y diffyg o ryw £43k, o ran prosiect i uwchraddio ei faes yr amcangyfrifir y bydd yn costio £136,228. Roedd y gymuned leol yn cefnogi'r gwelliannau i'r maes a'r cyfleusterau yn debyg i aelodau lleol y cyngor, aelodau'r cynulliad a'r aelod seneddol. Cafodd y prosiect hefyd ei gefnogi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a oedd wedi rhoi cyfraniad ariannol i'r Clwb gwerth £41,250.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo rhoi hyd at £45k o gymorth ariannol i Glwb Pêl-droed Cwmaman.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau