Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 18 RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 31 Hydref 2017.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £685k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,263k ar lefel adrannol. O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y byddai’r gyllideb wedi’i mantoli ar ddiwedd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1.

bod adroddiad monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn;

6.2

bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt.

 

 

7.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwariant y rhaglen gyfalaf yn erbyn cyllideb 2017/18 fel yr oedd ar 31 Hydref 2017. Byddai'r llithriant o £-4,095k yn ystod y flwyddyn yn cael ei gynnwys ym mlynyddoedd nesaf y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

8.

SEFYDLU CWMNI MASNACHU AWDURDOD LLEOL AR GYFER LLINELL GOFAL A ELWIR YN LLESIANT DELTA WELLBEING' pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r rhesymau dros sefydlu Cwmni Masnachu sy'n eiddo llwyr i'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llinell Gofal, a elwir yn ‘Llesiant Delta Wellbeing Cyf’, a pha mor ymarferol fyddai hynny. Byddai'r cwmni’n gallu cyrraedd marchnadoedd a ffrydiau incwm ehangach o lawer na gwasanaeth presennol Llinell Gofal. Byddai'r argymhelliad yn yr adroddiad yn amodol ar gael ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cytunwyd y dylai'r adroddiad gael ei ddiwygio cyn ei gyflwyno i'r Cyngor er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch sicrhau bod y cwmni arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion Teckal.

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1, gofynnodd y Cynghorydd D.M. Cundy a ellid manteisio ar y cyfle, wrth greu'r cwmni newydd hwn, i newid y ffordd yr ymdrinnir â Gofal Oedolion drwy roi strwythur gyrfaol i Weithwyr yn y Sector Gofal Cymdeithasol sy'n seiliedig ar gyfuniad o brofiad, addysg a hyfforddiant parhaus, arholiadau ac arbenigedd a geir drwy “brofiadau yn y swydd” er mwyn i bobl ifanc, a phobl fwy aeddfed, gael gyrfa ddilys, flaengar a gwerth chweil gyda chyflog da yn y Sector Gofal Oedolion, pa un a yw hynny yng nghartrefi gofal yr Awdurdod, ym maes gofal cartref neu'n yrfa sy’n gysylltiedig â darpariaeth y GIG lle mae cyfleoedd pellach?

 

Ymatebodd y Cynghorydd J. Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel a ganlyn:

 

Diolch i chi'r Cynghorydd Cundy, am eich cwestiwn. Yr ateb byr yw 'gellid', wrth gwrs.  Mae cymwysterau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu diwygio yng Nghymru yn dilyn adolygiad. Bydd hyd at 20 o gymwysterau newydd yn cymryd lle'r rhai presennol. Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2019 ymlaen, a bydd y tystysgrifau cyntaf yn cael eu cyflwyno yn 2020. Y corff dyfarnu yw consortiwm sy’n cynnwys City & Guilds a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a fydd yn cydweithio â Chymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG Cymru, athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr i gynllunio a darparu'r cymwysterau newydd hyn. Mae'r sector yn cynnwys nifer o wahanol yrfaoedd i ofalwyr, nid dim ond mewn cartrefi preswyl i oedolion, ond mewn ysbytai, ac ym meysydd gofal plant, gofal cartref, afiechyd meddwl ac anableddau corfforol. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu haddysgu i ddysgwyr 14 oed a h?n ledled Cymru o Lefel 1 i 5.  Byddant yn rhan o fframweithiau prentisiaethau hefyd. Mae datblygu a chefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol ac mae cryn dipyn o weithgarwch yn yr adran yn canolbwyntio ar hyn i'n galluogi i ymateb i her genedlaethol, sef bod llai o bobl na'r hyn sydd ei angen arnom yn mynd i'r maes gwaith hwn a bod mwy a mwy ohonynt yn dewis gadael wrth i gyflogau mewn swyddi sy'n cystadlu â’r swyddi hyn, ac sy'n gofyn llai o bosibl, megis manwerthu, gynyddu i'r un lefel.  Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud yn well na'r rhan fwyaf o awdurdodau o ran recriwtio a chadw'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG

FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I

DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN

ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH)

(AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL

PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I

YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD

ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

10.

TREFNIADAU TRIN A GWAREDU GWASTRAFF YN Y DYFODOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 9 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn crynhoi canfyddiadau'r achos busnes i greu Teckal* ar gyfer darparu trefniadau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol yn y Sir, ac yn manylu ar y camau nesaf ar gyfer sefydlu'r cwmni.

[Darn o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd yw *Teckal sy'n caniatáu i gynghorau ddarparu gwasanaethau drwy endidau a reolir yn allanol heb fod yn rhaid iddynt ddilyn y rheolau a'r gweithdrefnau ynghylch tendro cystadleuol].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 

 

10.1 cymeradwyo'r achos busnes ar gyfer sefydlu cwmni newydd sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal a hynny ar gyfer gwasanaethau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol (a reolir gan CWM ar hyn o bryd);

 

10.2 dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sefydlu trefniadau'r cwmni newydd a chwblhau'r strwythurau llywodraethu, gan sicrhau cyngor cyfreithiol, ariannol a thechnegol allanol priodol fel bo'r angen (drwy ymgynghori â'r Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ac Adnoddau);

 

10.3  dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ddatblygu cynllun busnes manwl ar gyfer Bwrdd Rhanddeiliaid arfaethedig y Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau