Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 18fed Rhagfyr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P.M. Hughes.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.D. Evans

·    12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol

·    13 – Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2017-18

Ei merch yn Athrawes.

P. Hughes Griffiths

·    12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol

·    13 – Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2017-18

Ei ferch yn Athrawes.

C.A. Campbell

·    12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol

·    13 – Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2017-18

Ei frawd yn Athro.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 27AIN TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 27ain Tachwedd, 2017 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Mae’r banciau, yn arbennig gyda’r cyhoeddiad diweddar i gau canghennau yn Llandeilo a Rhydaman, yn effeithio ar wead a llesiant y cymunedau hyn ac yn rhoi’r busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu yn ein cymunedau gwledig dan anfantais. Beth yr awgrymech chi y gallwn wneud i’w cael nhw i newid y penderfyniad a hefyd i atal rhagor o fanciau rhag cau?

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol y Cwestiwn â Rhybudd canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd E.G. Thomas i'r Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae cau Banciau, yn enwedig y cyhoeddiad diweddar y bydd canghennau'n cau yn Llandeilo a Rhydaman, yn cael effaith ar lesiant cymdeithasol y cymunedau hyn ac yn golygu bod y Mentrau Bach a Chanolig eu Maint sy'n gweithredu yn ein cymunedau gwledig o dan anfantais. Beth allwch chi ei awgrymu ein bod yn ei wneud i wyrdroi'r penderfyniad a hefyd i atal rhagor o fanciau rhag cau?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

Y consensws rwy'n credu yw, hyd nes bod llywodraeth San Steffan yn cryfhau'r côd bancio, y bydd yn parhau ar yr un trywydd a bydd hyn wedyn yn golygu y bydd yn anwybyddu anghenion gwledig ein cymunedau. Mae cau'r banciau hyn yn beth da i'w wneud o'u rhan nhw.

Mae Jonathan Edwards AS ac Adam Price AC wedi gofyn ar sawl achlysur am gyfarfod yngl?n â hyn ac maent wedi gofyn i Brif Weithredwr NatWest am gyfarfod i drafod y ffordd mae'r banciau'n anwybyddu anghenion y cymunedau gwledig hyn.

 

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc i Gymru, fel bod modd, drwy'r Banc hwnnw, i gefnogi ein cymunedau gwledig yma.  Deilliodd hynny wrth gwrs o ganlyniad i'r newyddion fod Barclays yn cau'r banc olaf yn Llandysul ar ddiwedd y flwyddyn hon, sy'n golygu na fydd gan Landysul yr un banc mwyach.

 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, yng nghyd-destun cau'r banc hwn: "Yma mae gennym sefyllfa lle mae'r banc olaf yn Llandysul yn cyhoeddi y bydd yn cau ei ddrysau, a bydd y Swyddfa Bost yng nghanol y dref yn cau cyn hir ac yn symud i archfarchnad y tu allan i Landysul.”

 

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, hefyd wedi sôn am y banciau sydd wedi cau a'r effaith ar drefi ac ardaloedd gwledig cyfagos.  Mae'n gwneud y pwynt fod y trethdalwyr yn dal i fod yn berchen ar nifer o'r banciau hyn ac mae'n gofyn, yn y cyd-destun hwnnw, am i amodau gael eu gosod i'w hachub a fydd yn sicrhau, drwy'r berchnogaeth honno, fod ffordd o sicrhau parhad y gwasanaeth i ardaloedd gwledig.

 

Elw yw diwedd y gân i'r banciau, ac o ystyried y math o elw maent yn ei gyhoeddi bob blwyddyn, mae'n gywilyddus eu bod mor barod i anwybyddu anghenion y bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaethau. Rwy'n si?r y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu yng nghyd-destun y Fforwm Gwledig dan arweiniad Cefin, ac fel rhan o'u gwaith allweddol yn y maes hwnnw maent yn dweud wrth gwrs mai'r duedd yw bod pawb yn symud i fancio ar-lein, ond pan nad oes band eang digonol yng nghefn gwlad Cymru, nid yw'r ddadl honno'n dal d?r. Felly rwy'n si?r bod hynny'n rhywbeth fydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r Fforwm Gwledig. 

 

Yn bersonol, yn fy ward i, rwyf wedi gweld  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.1

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2016-17 pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad am Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/17, a roddai drosolwg cynhwysfawr i'r Aelodau o'r cynnydd, yr hyn a gyflawnwyd, a chynlluniau'r dyfodol. Rhoddwyd diweddariadau manwl ar bob amcan cydraddoldeb yn Atodiad 1 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Nododd y Bwrdd fod Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn ddogfennau pwysig sy'n pennu sut y bydd cyrff cyhoeddus yn ystyried anghenion grwpiau â 'nodweddion gwarchodedig', fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Bwriad hyn oedd sicrhau bod yr holl unigolion yn cael eu trin yn gyfiawn ac yn deg mewn perthynas â darparu gwasanaethau a llunio strategaeth/polisi.   At hynny, roedd Deddf Cydraddoldeb 2010 bellach yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus newydd a gwmpasai'r holl nodweddion gwarchodedig. Yn unol â'r ddyletswydd gyffredinol, roedd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r tri nod canlynol:-

 

  • Dileu camwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf;
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
  • Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

 

Nod y ddyletswydd gyffredinol oedd sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai oedd yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallent gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas dda yn eu gweithgareddau pob dydd.

 

Rhoddodd y Bwrdd gydnabyddiaeth i'r cyflawniadau niferus a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf ac estynnwyd gwerthfawrogiad i swyddogion ac aelodau'r staff.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/17.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17 – GWEITHREDU O RAN Y GYMRAEG pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2016/17 ar yr Iaith Gymraeg sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y dangosyddion statudol a lleol sy'n mesur cydymffurfiaeth â'r Cynllun. Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rheoliadau Safonau'r Gymraeg ar 30 Medi, 2015, a oedd yn mynnu bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r rhan fwyaf o'r safonau erbyn 31 Mawrth, 2016.

 

Nodwyd gan y Bwrdd fod y Safonau yn golygu na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, a rhaid hefyd hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Roedd hyn yn unol â'r ddwy egwyddor sy'n ffurfio'r sail ar gyfer gwaith Comisiynydd y Gymraeg:

 

  • yng Nghymru, ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg

 

  • dylai pobl yng Nghymru fod yn gallu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.

 

At hynny, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wrth yr Aelodau, er bod yr adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch y Safonau unigol, cynigiwyd symleiddio'r adroddiad ar gyfer 2017-18 er mwyn adrodd ar y gr?p o Safonau yn hytrach na meysydd unigol.

 

Cafodd yr adroddiad cynhwysfawr ei ganmol a diolchwyd i'r swyddogion a'r staff oedd wedi bod wrthi'n ei lunio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2016-17 ar yr iaith Gymraeg.

 

 

8.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2006–2021 - ADRODDIAD ADOLYGU pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'r Bwrdd Gweithredol Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2006-2021 a oedd wedi'i lunio yn dilyn penderfyniad y Cyngor Sir ar 20 Medi 2017, lle rhoddwyd ystyriaeth i'r ail adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol a'i argymhellion.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd, yn unol â gofynion statudol, fod y Cyngor eisoes wedi paratoi a chyhoeddi dau Adroddiad Monitro Blynyddol hyd yn hyn, ac mai diben pob Adroddiad Monitro Blynyddol oedd asesu i ba raddau roedd strategaeth, polisïau a safleoedd datblygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni. Er mwyn sicrhau bod asesiadau cynhwysfawr a rheolaidd yn cael eu cynnal i sicrhau bod CDLl yn dal i fod yn gyfredol, roedd yn ofynnol i Gynghorau gynnal adolygiad llawn o'u CDLl mabwysiedig. 

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd fod yr Awdurdod wedi derbyn llythyr oddi wrth Lesley Griffiths AC a awgrymai fod y Cyngor yn ystyried paratoi CDLl ar sail ranbarthol yn y dyfodol.  Hysbyswyd yr Aelodau fod dadleuon dros beidio â pharatoi CDLl rhanbarthol wedi'u cynnwys ar dudalen 12 o'r adroddiad.

 

Dywedwyd yn ddi-flewyn ar dafod mai Cynllun Datblygu 'Lleol' oedd hwn ac y dylai aros yn lleol felly. Fodd bynnag, cydnabuwyd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi wrth gwrs i'r siroedd a ffiniai â Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfeiriwyd at sylw gan Lesley Griffiths AC yn ei llythyr ynghylch yr amser roedd y Cyngor wedi ei gymryd i lunio'r CDLl. Gwnaed sylw ei fod wedi cymryd cryn amser i Arolygwyr yn Llywodraeth Cymru gadarnhau'r cynllun, a oedd wedi ychwanegu at yr amser.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r pwyntiau ychwanegol a godwyd yn cael eu cynnwys mewn ymateb i'r llythyr gan Lesley Griffiths AC.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd D.M. Cundy mai'r CDLl oedd un o'r setiau pwysicaf o ddogfennau y mae'r Cyngor yn eu cynhyrchu, a hynny'n strategol, yn dactegol ac yn weithredol.  Hon yw'r brif ddogfen sy'n ategu'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor, a Chynghorau Cymuned ledled Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â'r rhyngweithio a'r cydweithio gyda siroedd eraill ledled Cymru.  Mae'r cynllun yn dylanwadu ar ofynion amrywiaeth eang o wasanaethau a'r holl randdeiliaid.  O achos natur dechnegol y CDLl, y farn oedd mai bach iawn oedd dealltwriaeth Aelodau'r Cyngor, yn enwedig Aelodau newydd, o'r CDLl a'r dogfennau eraill oedd yn gysylltiedig â'r CDLl.

 

Gan ystyried argymhellion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu ar 14 Rhagfyr 2017, gofynnodd y Cynghorydd Cundy a oedd y Bwrdd Gweithredol yn credu y byddai'n fuddiol rhoi cyflwyniad llawn ynghylch adroddiad adolygu y CDLl a'r fethodoleg ar ffurf seminar i'r Cyngor llawn? Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cytuno â'r sylwadau, ac atgoffodd yr Aelodau fod pob plaid wleidyddol, ym mis Hydref 2017, wedi cael cyfle i drafod y cynllun, ond, yn anffodus, nid oedd neb wedi achub ar y cyfle hwnnw. At hynny, mynegwyd y gallai gweithdy anffurfiol fod yn ddull mwy addas ar gyfer trafodaeth o'r fath a chynyddu rhyngweithio.  Fel ffordd ymlaen, er mwyn i'r holl Aelodau gael gwell dealltwriaeth o ddogfennau'r CDLl, cytunodd yr Aelodau o'r Bwrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN DIWYGIEDIG 2018 - 2033 CYTUNDEB CYFLENWI DRAFFT YNGHYD Â'R FETHODOLEG ASESU SAFLEOEDD DRAFFT pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033, Cytundeb Cyflawni Drafft a'r adroddiad Methodoleg Asesu Safleoedd drafft a oedd yn cynnwys Cytundeb Cyflawni a gynhwysai amserlen o'r cyfnodau allweddol ar gyfer paratoi'r CDLl diwygiedig a chynllun cynnwys cymunedau. Roedd yr amserlen yn cynnwys gwybodaeth am sut a phryd y mae rhanddeiliaid a'r gymuned yn gallu ymgysylltu a chyfrannu yn ystod y broses o baratoi'r Cynllun.

 

Anogodd y Dirprwy Arweinydd yr holl randdeiliaid, partïon â buddiant, a chymunedau i ystyried a chyfrannu at baratoi'r CDLl diwygiedig yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

9.1   cymeradwyo Cytundeb Cyflawni Drafft Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Caerfyrddinar gyfer ymgynghoriad ffurfiol o 6 wythnos;

 

9.2   cymeradwyo'r gwaith o ddechrau camau cychwynnol proses baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol cyn cytuno ar y Cytundeb Cyflawni terfynol;

 

9.3   cymeradwyo cynnwys y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ddrafft;

 

9.4   rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion barhau â thrafodaethau paratoi a gwneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella eglurder a chywirdeb y Cytundeb Cyflawni Drafft a mireinio defnyddioldeb y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ddrafft.

 

 

10.

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR - 2018-19 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch Sylfaen y Dreth Gyngor 2018-19.  Atgoffwyd y Bwrdd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Bwrdd Gweithredol, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004.

 

Roedd cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2018-19 wedi'i nodi yn Nhabl 1a ac wedi’i grynhoi yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2018-19 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad. 

 

Nododd y Bwrdd fod adroddiad y Sylfaen Dreth yn darparu cyfrifiadau ar gyfer yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â manylion ar gyfer pob ardal cyngor tref a chyngor  cymuned at ddibenion eu praesept, ac mai Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 oedd £72,153.24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1. bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;

 

12.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £72,153.24, fel y manylwyd arni yn Nhablau 1a ac 1b o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;

 

12.3.  bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 o'r adroddiad, yn cael eu cadarnhau.

 

 

 

11.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - RHAGLEN AMLINELLOL STRATEGOL (RHAS) – DIWEDDARIAD BAND B pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad am y Diweddariad ynghylch y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Rhaglen Amlinellol Strategol – Band B, a oedd yn cynnwys y Rhaglen o Brosiectau, Cynnydd Band A hyd yn hyn, cyflwyno Rhaglen o Brosiectau ar gyfer Band B, gwybodaeth am gyllid a Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod yr awdurdod yn cael yr holl gyllid Band B a oedd yn cyfateb i £129.5m er mwyn gwella ysgolion ar draws y sir.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod y paratoadau ar gyfer rhaglen genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cychwyn yn 2010 drwy wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol.

 

 

 

Ers 2010 roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo CDLl a ddiweddarwyd deirgwaith yn 2011, 2013 a 2015, a byddid yn parhau i fonitro'r cynllun bob dwy flynedd. Yn dilyn y broses gyflwyno gychwynnol, roedd 50% o Raglen Band A Sir Gaerfyrddin yn cael ei chyllido drwy grant gan Lywodraeth Cymru a 50% o adnoddau'r Cyngor ei hun.  Roedd y gwaith ar gyfer Band A i'w gwblhau erbyn 2019.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod rhai newidiadau wedi bod i'r ddogfen ers llunio'r adroddiad a chyfeiriodd at Adran 8, Cais am gyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bellach mae Cynlluniau Ardal Llandeilo a Rhydaman wedi'u disodli gan brosiectau Ysgol Gwenllian, Ysgol yr Hendy ac Ysgol Gymraeg Rhydaman.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant ymhellach fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2017 a chadarnhaodd fod newidiadau wedi bod ers hynny o ran y cynnig i Ysgolion Cynradd Llandeilo a Rhydaman. Cadarnhawyd y byddai'r ddau gynllun yn cyflwyno cyfnod sylfaen cyfrwng Cymraeg gydag opsiwn ym mlwyddyn 3 i ddewis ffrwd Gymraeg neu Saesneg, yn amodol ar ymgynghori.

 

Gwnaed cyfeiriad at Adran 9 yr adroddiad, a nodai brosiectau blaenoriaeth Band B. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynlluniau i ymgynghori â staff a llywodraethwyr ysgol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Moderneiddio y byddai ymgynghoriad anffurfiol gyda staff a llywodraethwyr ysgol (tebyg i'r un ar gyfer Band A) yn cychwyn ar ddechrau'r rhaglen, ac y byddai ymgynghoriad ffurfiol, ehangach yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses trefnu ysgolion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r rhaglen yn cael ei chynnal dros y 7 mlynedd nesaf ac wrth i amserlenni dynhau, byddai ymgynghori'n digwydd ag aelodau lleol a'r gymuned ar gyfnodau penodol yn ystod y rhaglen. 

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant drefnu gweithdy ar gyfer y Cynghorwyr i gyd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r cynlluniau a darparu cyfle i drafod. Cytunodd yr Aelodau o'r Bwrdd y byddai gweithdy'n fuddiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

11.1     bod yr adroddiad ar Ddiweddariad y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Rhaglen Amlinellol Strategol – Band B yn cael ei dderbyn;

11.2       bod yr argymhellion a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ar 27 Tachwedd yn cael eu nodi;

11.3         yn amodol ar gynnwys y newidiadau, bod Rhaglen Amlinellol Strategol ddiweddaraf y Rhaglen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON 2017/18 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr C. Campbell, L.D. Evans, a P. Hughes Griffiths wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant y Siambr.]

 

Cafodd y Bwrdd Gweithredol Bolisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2017/18, a oedd wedi ei ddiwygio i adleisio'r newidiadau deddfwriaethol oedd wedi cael eu cyflwyno gan Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2017.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau gan y Dirprwy Arweinydd fod Gr?p Adnoddau Dynol Consortiwm Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), yn dilyn ymgynghoriad, wedi diweddaru'r Polisi Cyflogau cyfredol fyddai'n cael ei gynnig i'r holl ysgolion ar draws y rhanbarth. Yn ogystal, roedd cymdeithasau athrawon wedi cytuno ar y Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol ar gyfer 2017/18, yn rhanbarthol ac yn lleol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a chymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2017/18.

 

 

 

13.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON DIGYSWLLT 2017/18 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr C. Campbell, L.D. Evans a P. Hughes Griffiths wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ac nid oeddent yn bresennol tra oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r eitem hon.]

 

Cafodd y Bwrdd Gweithredol Bolisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2017/18, a oedd wedi cael ei ddiweddaru i adleisio newidiadau deddfwriaethol a oedd wedi cael eu cyflwyno gan Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2017.

 

Nododd yr Aelodau fod Gr?p Adnoddau Dynol Consortiwm ERW, yn dilyn ymgynghoriad, wedi diweddaru'r Polisi Cyflogau cyfredol fyddai'n cael ei gynnig i'r holl ysgolion ar draws y rhanbarth. Yn ogystal, roedd cymdeithasau athrawon wedi cytuno ar y Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol ar gyfer 2017/18, yn rhanbarthol ac yn lleol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a chymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2017/18.

 

 

14.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2018/19-2022/23 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn bwrw golwg gychwynnol ar y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd o 2018/19 i 2022/23, a fyddai'n sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill.  Nodwyd y byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau i'w ystyried ym mis Chwefror, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad hwn yn dilyn cymeradwyo'r rhaglen gyfalaf ym mis Chwefror 2017 a bod y cynigion yn yr adroddiad hwn wedi datblygu'r rhaglen am flwyddyn ychwanegol a bod addasiadau'n ofynnol yn sgil newidiadau o ran cyllid a gofynion gwasanaethau.

 

Roedd y prif feysydd newid wedi’u hamlinellu yn Adran 4 Cyllid o'r adroddiad, a oedd yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol ym Mharc Gwledig Pen-bre ac mewn Cynnal a Chadw Priffyrdd a Phontydd.

 

Yn ogystal, roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg hefyd wedi newid ar gyfer blynyddoedd 2018/19 i 2022/23, ac roedd cyllidebau wedi cael eu hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi cael eu cyflwyno yn cynnwys Ysgolion Cydweli, Pen-bre, Pump-hewl a Heol Goffa. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B a fyddai'n para tan 2024, yr oedd gwerth y cynllun i Sir Gaerfyrddin yn £129.5m. Rhagwelwyd y byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu cyllido drwy Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Nododd yr Aelodau fod y rhaglen gyfredol yn cynnig gwariant cyfalaf o ryw £199m dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd y cynigion cyllido cyfredol yn cynnwys cyllid allanol o £56m. At hynny, ar hyn o bryd roedd gan y rhaglen ddiffyg cyllid o £1.6m ym mlwyddyn 4.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol y dylai adran Goblygiadau Ariannol yr adroddiad ddarllen fel a ganlyn 'Rhagwelir bod gan y rhaglen gyfalaf ddiffyg cyllid o £1.6m’.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo, at ddibenion ymgynghori, y rhaglen gyfalaf arfaethedig.

 

 

16.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

17.

HARBWR PORTH TYWYN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 16 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar y cynnig partneriaeth prydles tymor hir ar gyfer Harbwr Porth Tywyn.

 

Nododd yr Aelodau fod cyfle ar gael am bartneriaeth bosibl, a ddylai roi sylw i'r heriau parhaus o ran cynaliadwyedd rheoli a chynnal a chadw sy'n gysylltiedig â'r Harbwr.

 

Hefyd byddai'r cynnig hwn yn datblygu'r Harbwr ymhellach fel rhan o'r prif gynllun adfywio ar gyfer yr ardal. Roedd y darparwr yn ceisio prydles tymor hir â budd ariannol i'r Awdurdod, yn ogystal â chreu swyddi ychwanegol a denu buddsoddiad gwerth bron i hanner miliwn o bunnoedd i'r cyfleuster.

 

Cynigiwyd argymhelliad ychwanegol, a chytunwyd arno, sef bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, a'r Cyfarwyddwr Cymunedau i negodi telerau'r brydles derfynol gyda’r darparwr, gan ymgynghori â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

17.1 cefnogi a chymeradwyo'r cynnig ar gyfer partneriaeth prydles tymor hir Harbwr Porth Tywyn;

 

17.2 dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, a'r Cyfarwyddwr Cymunedau, i negodi telerau'r brydles derfynol gyda'r darparwr gan ymgynghori â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

 

18.

Y NEUADD SIROL, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 16 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am drefniadau prydles arfaethedig y Neuadd Sirol, Caerfyrddin.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r cynnig o ran y sector preifat yn arwain at fuddion sylweddol i'r dref o safbwynt adfywio ac yn sicrhau hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd y Neuadd Sirol yn y tymor hir.

 

Roedd yr Aelodau'n sylweddoli bod costau sylweddol ynghlwm wrth redeg a chynnal a chadw'r Adeilad Rhestredig Gradd II ac y byddai cael sefydliadau sector preifat fel deiliaid y prif adeilad yn rhyddhau'r Cyngor o'r holl atebolrwydd ariannol, ac, ar yr un pryd, yn creu incwm ac yn ychwanegu at fywiogrwydd y Clos Mawr a nifer yr ymwelwyr.

 

Hefyd byddai'r buddsoddiad yn yr eiddo oedd yn cael ei gynnig gan y sawl o'r sector preifat oedd â diddordeb yn sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy ar gyfer y Neuadd Sirol ac yn cynnig darpariaeth genedlaethol o ansawdd a fydd yn bywiogi'r Clos, yn ogystal â chaniatáu i bobl y sir barhau i allu mwynhau'r adeilad a'i dreftadaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo telerau'r brydles gyda'r sawl o'r sector preifat oedd â diddordeb ar hyn o bryd a rhoi awdurdod i'r swyddogion fwrw ymlaen â’r trefniadau mewn perthynas â hynny.

 

 

19.

PRYNU TIR YN NANTGLAS, CROSSHANDS

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 16 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch prynu tir yn Nantglas, Cross Hands.

 

Nododd yr Aelodau y byddai prynu'r tir yn cefnogi nodau datblygu strategol y Cyngor yn ardal Cross Hands ac yn hwyluso datblygu ac ehangu yn y dyfodol naill ai yn Nantglas neu mewn safleoedd strategol eraill.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo prynu'r tir yn Nantglas, Cross Hands fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad.