Mater - cyfarfodydd

QUESTION BY MISS S. SYLVAN TO COUNCILLOR ........, EXECUTIVE BOARD MEMBER FOR ...........

Cyfarfod: 20/02/2019 - Cyngor Sir (eitem 6)

CWESTIWN GAN MISS C. SYLVAN I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae’s Cyngor yn ei roi ar waith a sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae'r Cyngor yn ei roi ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i Coral Sylvan am godi'r cwestiwn hwn gyda ni. Cyn ateb, rwyf am ddiolch iddi nid yn unig am y cwestiwn, ond am ddod atom y bore yma, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n torri tir newydd yn hanes Cyngor Sir Caerfyrddin. Nid wy'n meddwl ein bod wedi cael rhywun mor ifanc ag un ar ddeg oed yn dod yma o'r blaen i ofyn cwestiwn i ni, sy'n cynnig her i ni, ac sy'n gofyn inni ystyried y dyfodol yng nghyd-destun ei chenhedlaeth. Synnwn i ddim petai'n Arweinydd ar y Cyngor hwn rhyw ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn wych cael eich croesawu yma'n ffurfiol i'r Siambr a chael ymateb i gwestiwn y mae angen i ni fel cynghorwyr, fel cyngor sir, ac fel awdurdodau lleol ledled Cymru roi sylw iddo.

 

Rydym wedi clywed ers blynyddoedd nad yw'n edrych yn debyg fod gan bobl ifanc unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na'r byd o'u cwmpas.  Wel, mae arwyddion bod pethau'n newid. Fel y canodd rhywun roeddwn yn ei fwynhau nôl yn y 70au, Bob Dylan, mae'r amserau'n newid. Maent yn newid o ran y bobl ifanc sy'n barod i sefyll yn gadarn a gofyn y cwestiynau iawn a pherthnasol, ac mae clywed bod diddordeb ganddynt mewn gwleidyddiaeth a'r byd o'n cwmpas yn galondid mawr.

 

Rwy'n eistedd gyferbyn â'r Cyfarwyddwr Addysg ac rwy'n si?r na fyddwch chi'n cytuno â mi fan hyn, ond gwnaed cryn argraff arnaf i ddydd Gwener diwethaf pryd yr aeth disgyblion ar draws y DU "ar streic" fel rhan o ymgyrch fyd-eang i weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Wyddoch chi beth, roeddwn i'n gyrru adref ar yr A48 nos Wener ddiwethaf a bu bron imi achosi damwain gan fy mod yn gwrando ar y newyddion am y streic a'i heffaith, ac ar bobl yn siarad am y peth. Dyfynnwyd siaradwr o Adran Addysg Llywodraeth y DU, a ddywedodd (a dyma pam bu bron imi gael damwain) mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid caniatáu absenoldeb yn ystod y tymor ysgol, a meddyliais i fi fy hun, ar ôl cael rheolaeth ar y llyw, beth am ddyfodol y blaned, pa mor eithriadol yw hynny? Mae'n rhaid bod hwnnw'n fater go eithriadol i ni i gyd.  

 

Cerddodd disgyblion o bob rhan o'r wlad mas o'u hysgolion er mwyn galw ar y llywodraeth i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i gymryd camau gweithredol i ymdrin â'r broblem honno. Cynhaliwyd protestiadau mewn mwy na 60 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, a bu i oddeutu 15,000 o fyfyrwyr gymryd rhan. Roeddent yn cario placardiau, ac roedd rhai ohonynt yn darllen: "Nid oes Planed B." Mae mor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6