Mater - cyfarfodydd

NOTICE OF MOTION SUBMITTED BY COUNCILLOR ALED VAUGHAN OWEN

Cyfarfod: 20/02/2019 - Cyngor Sir (eitem 7)

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN

“Mae cydsyniad byd-eang bod newid yn yr hinsawdd yn peri risg sylweddol i'n hiechyd, ein heconomi, ein hamgylchedd ac yn peryglu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dengys tystiolaeth wyddonol yn glir nad oes gennym fwy na 12 mlynedd i atal trychineb hinsawdd, a hyd yn oed yn lleol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.  Mae dinasoedd, Awdurdodau Lleol a chymunedau ledled Cymru a'r DU yn teimlo'n rhwystredig gyda llywodraethau sy'n amharod i gymryd y camau brys sydd eu hangen er mwyn ymdrin â'r materion hyn.

 

Mae dyfodol dynoliaeth yn dibynnu ar arweinwyr mentrus a dewr heddiw i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn diogelu'r amgylchedd, ein dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod.

 

Cynigwn felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn

1.     Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.     Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030

3.     Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod di-garbon net o fewn 12 mis

4.     Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.     Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.     Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod di-garbon net”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

 

“Mae cydsyniad byd-eang bod newid yn yr hinsawdd yn peri risg sylweddol i'n hiechyd, ein heconomi, ein hamgylchedd ac yn peryglu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dengys tystiolaeth wyddonol yn glir nad oes gennym fwy na 12 mlynedd i atal trychineb o ran yr hinsawdd, a hyd yn oed yn lleol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae dinasoedd, Awdurdodau Lleol a chymunedau ledled Cymru a'r DU yn teimlo'n rhwystredig gyda llywodraethau sy'n amharod i gymryd y camau brys sydd eu hangen er mwyn ymdrin â'r materion hyn.

 

Mae dyfodol dynoliaeth yn dibynnu ar arweinwyr mentrus a dewr heddiw i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn diogelu'r amgylchedd, ein dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod.

 

Cynigwn felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn

 

1.     Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.     Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030

3.     Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod di-garbon net o fewn 12 mis

4.     Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.     Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.     Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod di-garbon net.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.