CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad diweddar fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Lanymddyfri yn 2021, a diolchodd i'r bobl leol oedd yn croesawu'r ?yl gan ddymuno'n dda iddynt gyda'r trefniadau;
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliadau diweddar â thri o drigolion y Sir ar achlysur eu penblwyddi yn 100 oed;
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliadau diweddar â:-
- Yr hen orsaf reilffordd yn Login a oedd wedi cael ei haddasu i fod yn atyniad bwyd ac ymwelwyr ac roedd amgueddfa o hen bethau oedd yn ymwneud â'r rheilffordd i'w hagor cyn bo hir. Roedd y pentref hefyd yn ymgyrchu i wneud hen linell y rheilffordd yn llwybr addas i gerddwyr a beicwyr;
- Agoriad rhan gyntaf Llwybr Beicio Dyffryn Tywi o Abergwili i Fronun yn Felin-wen;
- Agoriad Ysgol Gymraeg newydd Parc y Tywyn;
- Ysgol Griffith Jones lle trosglwyddwyd baton Gr?p Cefnogi Dementia Sanclêr a'r ardal i Gaerfyrddin a Llandeilo;
- Cystadleuaeth siarad cyhoeddus Clwb Rotari Llanelli;
- Gwobrau Dug Caeredin yn Nhre Ioan;
- Noson Gwobrau Chwaraeon Tref Caerfyrddin;
- Gwobrau Chwaraeon Actif 2018 Cyngor Sir Caerfyrddin yn Llanelli, lle enwyd Dewi Griffiths, y rhedwr o Llanfynydd, yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.
· Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â meibion a theulu'r ddiweddar Pam Edmunds, cyn-gynghorydd sir dros Ward Elli am flynyddoedd lawer
· Estynnwyd gair o longyfarchiadau i Iestyn Rees o Heol y Bryn, Pen-y-groes ar gael ei ddewis i gynrychioli Tîm Rygbi dan 20 Cymru
Hefyd, soniwyd wrth y Cyngor am Jack Morgan o Frynaman a oedd wedi chwarae dros y Tîm dan 20 yn erbyn Ffrainc a'r Eidal a, gobeithio, yn erbyn Lloegr yn y gêm nesaf.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad gan Mr Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor, ei fod yn bwriadu gadael ei swydd yn yr haf a byddai'r Cyngor yn cael cyfle i ffarwelio ag ef yn swyddogol ymhen ychydig fisoedd.