Mater - cyfarfodydd

MODERNISING EDUCATION PROGRAMME - PROPOSAL TO INCREASE THE CAPACITY OF GORSLAS COMMUNITY PRIMARY SCHOOL FROM 110 TO 210.

Cyfarfod: 14/05/2018 - Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant (eitem 5)

5 Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210. pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod ymarfer ymgynghori ffurfiol ynghylch y cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210 wedi cael ei gynnal o 6 Tachwedd, 2017 tan 17 Rhagfyr, 2017. Cyflwynwyd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori i'r Pwyllgor i'w hystyried ar 25 Ionawr.

 

Ar 26 Chwefror, 2018 rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ganiatâd i gyhoeddi Hysbysiad Statudol.  Cyhoeddwyd yr Hysbysiad ar 5 Mawrth, 2018 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor.  Yn dilyn diwedd y cyfnod hwn ar 1 Ebrill, 2018, nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a ddylai'r cynnig, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, gael ei weithredu ai peidio.

 

Nodwyd petai'r Cyngor Sir yn cytuno i weithredu'r cynnig, bydd nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gors-las yn cynyddu o 110 i 210 o 1 Medi, 2019 pryd y bwriedir i adeilad newydd yr ysgol gael ei ddefnyddio.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at ymholiad Estyn ynghylch yr effaith y bydd y cynnig yn ei chael ar ysgolion cyfagos a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor hyderus ydynt na fydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar yr ysgolion eraill yn yr ardal. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod nifer fawr o blant sy'n byw yng Ngors-las ac sy'n mynychu ysgolion eraill ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod nifer o ddatblygiadau tai yn cael eu hadeiladu hefyd yng Ngors-las ar hyn o bryd;

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pa mor hyderus y mae'r swyddogion fod y cynlluniau'n gadarn, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod y swyddogion yn hyderus iawn ynghylch cadernid y ffigurau. Mae lefel y galw yn arbennig o ddifrifol yn y pentref, ac mae dau ddosbarth symudol wedi'u gosod dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd y galw hwnnw'n cael ei ateb;

·       Gofynnwyd a oes posibilrwydd ehangu'r ysgol os ydyw'n llwyddiant a'i bod yn cyrraedd y ffigwr 210 yn gynt na'r disgwyl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio nad oes, yn ei farn ef, lawer o le i fuddsoddi rhagor yn y safle hwnnw. Wrth gamu ymlaen, bydd ysgol sydd â lle i 210 o ddisgyblion yn cael ei chreu yng Ngors-las a bydd adolygiad yn cael ei gynnal ar yr ysgolion cyfagos. Os bernir wedyn fod angen buddsoddi rhagor yn yr ardal honno yna bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r holl ysgolion yn yr ardal honno; 

·       Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad y bydd y Cyngor yn monitro effeithiau'r cynnig ar ysgolion cyfagos, ac os bydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ar ddarpariaeth, yna bydd camau priodol yn cael eu hystyried. Gofynnwyd i'r swyddogion am ragor o wybodaeth am hyn. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio y byddai hyn yn cynnwys adolygiad o ysgolion eraill yn yr ardal a'r opsiwn o leihau'r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol newydd petai angen gwneud hynny;

·       Gofynnwyd a oedd y swyddogion wedi edrych ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5