Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith a'r Swyddog Monitro
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, sef yr Awdurdod Cofrestru, ystyried a phenderfynu ar y cais dyddiedig 4 Mawrth 2017 am gofrestru tir ym Maespiode, Llandybie yn Faes Tref neu Bentref dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
PENDERFYNIAD A WNAED
Bod y cais yn cael ei wrthod ar sail gyfreithiol ac na ddylai unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef gael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o Feysydd Tref neu Bentref a gynhelir dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
Nid yw’r Ymgeisydd, Mr. Melvyn Thomas, wedi gwneud ei achos dros gofrestru dan adran 15(2) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 oherwydd ystyrir bod y defnydd o’r tir “trwy hawl”, h.y. gyda chaniatâd y Cyngor, yn hytrach na “fel hawl”, yn unol â chynsail y Goruchaf Lys yn achos R (ar gais Barkas) yn erbyn Cyngor Sir Gogledd Swydd Efrog ac Un Arall 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 15/04/2019
Effective from: 26/04/2019
Dogfennau Cefnogol: