Manylion y penderfyniad

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

 

3.1   PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37160

Adeilad amaethyddol i storio peiriannau fferm, biniau bwyd ar gyfer da byw a storio cynnyrch, Pwll Llallau, Cwmfelin-boeth, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0RU

 

(NODER: Gadawodd y Cynghorydd S. M. Allen, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y cais)

 

3.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal yn ymwneud â pherchenogaeth tir ac er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:

 

W/38125

Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE

 

Y RHESWM: Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y trefniadau o ran mynd i mewn ac allan o'r safle yn sgil pryderon am ddiogelwch priffyrdd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2019

Dyddiad y penderfyniad: 02/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/05/2019 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau