Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Prif Weithredwr
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Ystyried a phenderfynu (ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin fel Awdurdod Cofrestru) ar sail ei rinweddau cyfreithiol, y cais am gofrestru tir a elwir Caeau Hamdden neu Gaeau Chwarae Llanerch, fel Maes Pentref neu Faes Tref o dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, dyddiedig 1af Mawrth 2017 ac a wnaed gan Ms Sharon Burdess.
Gwrthod y cais a pheidio ag ychwanegu unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, at y gofrestr statudol o Feysydd Tref neu Bentref a gynhelir dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
Nid yw'r Ymgeisydd, Ms Sharon Burdess, wedi gwneud ei hachos dros gofrestru dan adran 15(2) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn bennaf oherwydd ystyrir bod y defnydd o'r safle gan bobl leol 'trwy hawl' neu 'gyda chaniatâd', yn hytrach nag 'fel hawl'. Nid oes unrhyw reswm, cyfreithiol neu fel arall, i anghytuno â chasgliad ac argymhellion Arolygydd yr Ymchwiliad.
Dyddiad cyhoeddi: 30/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 30/07/2018
Effective from: 07/08/2018
Dogfennau Cefnogol: