Manylion y penderfyniad

W/35450 - PROPOSED RESIDENTIAL DEVELOPMENT INCLUDING 42 NO. DWELLINGS AT LAND ADJACENT TO LAUGHARNE PRIMARY SCHOOL, LAUGHARNE, SA33 4SQ

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 16 Tachwedd 2017), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y pryderon oedd wedi'u lleisio ynghylch y cynnydd mewn traffig a fyddai'n digwydd yn sgil y datblygiad arfaethedig, er diogelwch cerddwyr, yn enwedig y plant sy'n cerdded i'r ysgol ac o'r ysgol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at hanes cynllunio'r safle mewn perthynas â chymeradwyo cais cynllunio W/09082 yn 2008, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu manteision i'r gymuned, y ffaith fod y gymeradwyaeth honno wedi dod i ben yn 2013, a phenderfyniad Arolygydd Llywodraeth Cymru i gynnwys y safle yn ei hadolygiad rhwymol ynghylch yr CDLl, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2014 heb unrhyw ofynion neu amodau penodol y bydd y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt o dan W/09082 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ganiatâd cynllunio newydd. O ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai angen ystyried y cais yn unol â deddfwriaeth gynllunio statudol bresennol, gan gynnwys Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010, a osodai gyfyngiadau ar y defnydd o Rwymedigaethau Cynllunio Adran 106, ac felly ni ellid cynnwys y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol yn y cais newydd.  Fodd bynnag, pe byddai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais, byddai dal angen i'r ymgeisydd gychwyn ar Gytundeb Adran 106 a fyddai'n cynnwys cyfraniad o £26k at addysg gynradd ac uwchradd yn nalgylch y safle, a gwelliannau i'r priffyrdd gan gynnwys darparu llwybr troed ar hyd rhan flaen y safle hyd at bentref Broadway.

 

I grynhoi, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar fod yr ymgeisydd yn cychwyn ar Gytundeb Adran 106.

 

Cyflwynwyd sylwadau ar y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol fel rhan o gais cynllunio W/09082 ac yn benodol, ar y problemau o ran trosglwyddo perchnogaeth tir. Dadleuwyd y dylai'r datblygwr gynnwys y manteision hynny fel rhan o unrhyw gais cynllunio newydd a gymeradwyir ar gyfer y tir. Cyflwynwyd sylwadau ychwanegol ar y mynedfeydd ar wahân ar gyfer yr elfennau tai fforddiadwy a'r tai preifat o'r datblygiad arfaethedig, a chysylltu'r elfennau hynny â'i gilydd er mwyn osgoi eu gwahanu.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau, rhoddwyd gwybod gan asiant y Datblygwr bod y cais wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth ac na chyflwynwyd dim gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion statudol, yn amodol ar amodau priodol, a'i fod hefyd yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. O ran y gymeradwyaeth flaenorol, a'r cytundeb Adran 106, roedd y rheiny wedi dod i ben a byddai angen ystyried unrhyw gymeradwyaeth newydd a'r cytundeb Adran 106, yn unol â deddfwriaeth gyfredol yn ogystal â sicrhau eu bod yn berthnasol, yn angenrheidiol, yn rhesymol a'u bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol. O ran safle'r elfen Tai Fforddiadwy, roedd hynny wedi'i benderfynu mewn ymgynghoriad â darparwr tai cymdeithasol arfaethedig er mwyn lleoli'r datblygiad wrth ochr ei ystâd, Cwrt Woodford, am resymau rheoli. Gofynnodd am i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais, fel yr argymhellir gan y Pennaeth Cynllunio, gan fod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio presennol.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-gyfreithiwr at y caniatâd cynllunio blaenorol a chadarnhaodd, pan ddaeth i ben yn 2013, fod y Cytundeb Adran 106 hefyd wedi dod i ben. O ganlyniad, byddai angen i unrhyw gais newydd am ddatblygu'r safle gael ei ystyried yng nghyd-destun polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol presennol yn ogystal ag adroddiad sylwadau Arolygydd Llywodraeth Cymru.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cynllunio a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

O ystyried y sylwadau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai'r broses o ystyried y cais gael ei gohirio er mwyn galluogi'r Pennaeth Cynllunio i gael trafodaethau pellach â'r ymgeisydd ynghylch pa fanteision a fyddai'n cael eu darparu i'r gymuned, gan ystyried polisi SP16 y Cynllun Datblygu Unedol, a hefyd sôn am y pryderon a godwyd ynghylch y mynedfeydd ar wahân i'r safle a bod y diffyg cyswllt rhwng y ddwy elfen yn cael effaith negyddol ar breswylwyr, yn enwedig y plant sy'n gorfod cerdded ar hyd y briffordd gyhoeddus i Ysgol Talacharn.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r broses o ystyried cais cynllunio W/35450 i alluogi'r Pennaeth Cynllunio i drafod ymhellach â'r ymgeisydd y materion a godwyd uchod.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2018 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau