5.1 CWESTIWN GAN A. DAVIES I CYNGHORYDD EMLYN DOLE – ARWEINYDD Y CYNGOR

Ers sawl mis, mae fy ffrindiau a minnau wedi bod yn cael trafferth cyrraedd yr ysgol ar ôl i'n gwasanaeth bws ysgol gael ei ddileu.

Rydym wedi bod yn dibynnu ar ein rhieni i'n gyrru i'r ysgol, gan nad yw'r llwybrau i'r ysgol yn addas.

Mae'r penderfyniad i ddileu'r gwasanaeth bws ysgol yn cael effaith fawr ar deuluoedd fy ffrindiau. Mae rhieni'n cyrraedd y gwaith yn hwyr, mae problemau wedi bod o ran y bws gwasanaeth ac mae'r tywydd wedi bod yn erchyll.

Rwy'n pryderu bod nifer y bobl sy'n cael eu gollwng gan gar yn niweidio ein hamgylchedd.

Mae pobl yn parhau i drosglwyddo'r baich, felly fy nghwestiwn yw pryd y byddwn yn cael ein bysiau ysgol yn ôl?

Ateb gan Cynghorydd Dole

Diolch ichi am eich llythyr ynghylch cludiant ysgol. Rwy'n deall eich pryderon, oherwydd eich bod wedi mwynhau'r cyfle i deithio i'r ysgol ar fws a ddarparwyd gan y gweithredwr bysiau lleol. Roedd y gweithredwr bysiau yn codi tâl ar ddisgyblion i deithio bob dydd, nid oedd y Cyngor Sir yn talu am y gwasanaeth.

Cyflwynodd Llywodraeth Genedlaethol y Deyrnas Unedig rai newidiadau'r llynedd a achosodd broblem lle nad oedd modd i'r gweithredwr bysiau ddarparu'r gwasanaeth mwyach. Nid oedd y gwasanaeth yn fforddiadwy bellach i’w ddarparu.

Mae'r Cyngor yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd sy'n byw dros dair milltir o'r ysgol, mae hyn yn unol â'r gofynion a nodir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru). Nid yw'r Cyngor yn derbyn arian i ddarparu cludiant i ddisgyblion sy'n byw o fewn tair milltir i ysgol.  Mae dau lwybr cerdded i'r ysgol sydd wedi cael eu hasesu fel llwybrau cerdded diogel i ddisgyblion gerdded neu feicio i'r ysgol. Mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal asesiad o'r llwybr cerdded yn unol â'r canllawiau a ddarperir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr Cymru ac mae wedi gwneud hynny. Mae'r llwybr yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy'n dynodi ei fod yn llwybr diogel ac ar gael.

  Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio adfer y rheolau a allai fod o gymorth i'r gweithredwr bysiau lleol. Yn anffodus, nid oes unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud i alluogi'r gweithredwr i ailsefydlu gwasanaethau. Rwy'n ymwybodol bod gwasanaeth bws cyhoeddus ar gael ar hyn o bryd sy'n rhoi opsiwn i ddisgyblion deithio i'r ysgol.

Rwyf hefyd yn falch o ddweud y bydd y Cyngor hefyd yn gwneud gwelliannau pellach i'r llwybr cerdded i'r ysgol eleni a fydd, gobeithio, yn helpu i annog disgyblion i fynd ar y daith i'r ysgol drwy ddulliau mwy cynaliadwy o deithio.

 

 

5.2 CWESTIWN GAN S. BERE I CYNGHORYDD EMLYN DOLE – ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae mannau gwyrdd trefol, megis Lôn Jackson yng nghanol tref Caerfyrddin, yn chwarae rôl gynyddol bwysig fel rhan o'n seilwaith trefol, yn enwedig oherwydd eu potensial i amsugno dŵr glaw fel rhan o systemau draenio trefol cynaliadwy a gallu eu planhigion a choed i weithredu fel math o aerdymheru naturiol yn ystod tywydd poeth neu gyfnodau sych. Mae awdurdodau lleol wedi hen gydnabod bod eu mannau gwyrdd yn cynnig amrywiaeth o fuddion y tu hwnt i'w gwerth hamdden, gan gynnwys gwasanaethau naturiol neu 'ecosystem' megis rheoli llifogydd, rheoleiddio ansawdd dŵr, amsugno sŵn, storio carbon, amrywiaeth rhywogaethau gwyllt, ac ati. Cyfeirir yn aml at fannau gwyrdd fel ysgyfaint tref neu ddinas ac mae hyn yn wir, felly yng ngoleuni hyn a hygrededd y Cyngor ei hun fel sefydliad gwyrdd a fydd y Cyng. Dole yn cychwyn adolygiad ar unwaith o'r penderfyniad i adfywio Lôn Jackson, er mwyn bodloni ei hun bod y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i gadw at ei hygrededd gwyrdd, gan sicrhau y manteisir i'r eithaf ar fuddion iechyd a llesiant canol ein trefi?”  

Ateb gan Cynghorydd Dole

Mae'r pwyntiau a godwyd gan Ms Bere yn berthnasol iawn yn y cyfnod presennol a bydd mannau cyhoeddus fel Lôn Jackson yn chwarae rhan bwysig o ran iechyd a lles pobl wrth i gyfyngiadau symud Covid-19 ddod i ben. Hoffwn roi gwybod i Ms Bere y bydd prosiect ailddatblygu Lôn Jackson yn cael ei symud yn ei flaen gan ystyried ymrwymiad y Cyngor i wella'i nodweddion gwyrdd. Wrth inni ddod allan o'r pandemig bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i allu'r cynllun diwygiedig i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran sicrhau ffyniant a chadernid economaidd, yn ogystal â diogelu ein diwylliant; ein hiaith Gymraeg; iechyd ein trigolion; yr amgylchedd a hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.

5.4 CWESTIWN GAN J. HEATH I CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL – AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“ Yn dilyn penderfyniad clodwiw'r Cyngor Sir i ddatgan argyfwng hinsawdd ar ddechrau 2019, yna ei benderfyniad i ofyn i Gronfa Bensiwn Dyfed ystyried symud ei buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil, ac yna ei benderfyniad ym mis Chwefror 2020 i alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i ddilyn ei arweiniad drwy newid eu targedau carbon sero net o 2050 i 2030, a wnaiff y Cynghorydd Campbell, sy'n arwain y  Cyngor ar yr Amgylchedd, ofyn am adolygiad ar unwaith o'r penderfyniad i adfywio ardal Lôn Jackson yn nhref Caerfyrddin, er mwyn bodloni ei hun nad yw'r cynigion ar gyfer Lôn Jackson yn groes i agenda gymeradwy'r Cyngor ar yr amgylchedd?”

 

 

Ateb gan Cynghorydd Campbell

Mae'r pwyntiau a godwyd gan Mr Heath yn berthnasol iawn yn y cyfnod presennol a bydd mannau cyhoeddus fel Lôn Jackson yn chwarae rhan bwysig o ran iechyd a lles pobl wrth i gyfyngiadau symud Covid-19 ddod i ben. Hoffwn roi gwybod i Mr Heath y bydd prosiect ailddatblygu Lôn Jackson yn cael ei symud yn ei flaen gan ystyried ymrwymiad y Cyngor i wella'i nodweddion gwyrdd. Wrth inni ddod allan o'r pandemig bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i allu'r cynllun diwygiedig i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran sicrhau ffyniant a chadernid economaidd, yn ogystal â diogelu ein diwylliant; ein hiaith Gymraeg; iechyd ein trigolion; yr amgylchedd a hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.