Cyngor Sir

 

Dydd Mawrth, 3ydd Mawrth, 2020

 

 

YN BRESENNOL: Cynghorydd  K. Madge (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:-

 F. Akhtar

S.M. Allen

L.R. Bowen

K.V. Broom

C.A. Campbell

J.M. Charles

D.M. Cundy

S.A. Curry

W.R.A. Davies

T.A.J. Davies

G. Davies

H.L. Davies

I.W. Davies

J.A. Davies

K.Davies

S.L. Davies

E. Dole

J.S. Edmunds

P.M. Edwards

L.D. Evans

R.E. Evans

W.T. Evans

A.L. Fox

S.J.G. Gilasbey

P. Hughes-Griffiths

T.M. Higgins

J.K. Howell

P.M. Hughes

J.D. James

R. James

D.M. Jenkins

G.H. John

C. Jones

B.W. Jones

D. Jones

G.R. Jones

H.I. Jones

A. Lenny

M.J.A. Lewis

K. Madge

S. Matthews

A.S.J. McPherson

E. Morgan

A.G. Morgan

S. Najmi

D. Nicholas

B.D.J. Phillips

D. Price

J.G. Prosser

B.A.L. Roberts

E.M.J.G. Schiavone

H.B. Shepardson

A.D.T. Speake

B. Thomas

D. Thomas

E.G. Thomas

G.B. Thomas

G. Thomas

J. Tremlett

A.Vaughan Owen

D.T. Williams

J.E. Williams

D.E. Williams

 

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:-

W. Walters, Prif Weithredwr

C. Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedau

G. Morgans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Phlant

R. Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

R. Hemingway, Pennaeth Gwasanaethau Ariannol

L.R. Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

P.R. Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

L Morris, Uwch Swyddog Y Wasg

A Clarke, Partner Busnes Arweiniol (AD)

M.S. Davies, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr, Neuadd Y Sir - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP. - 10.00 yb - 1.00 yp

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorwyr C.A. Davies, D.C. Evans, H.A.L. Evans, A.D. Harries, C.J. Harris, A. James, J. P. Jenkins, K. Lloyd, J.S Phillips, L.M. Stephens.

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.R. Bowen

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei fam a'i wraig yn gweithio i'r Awdurdod

K. Broom

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Landlord preifat

C.A. Campbell

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei frawd a'i chwaer-yng-nghyfraith yn athrawon

Arwel Davies

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei chwaer-yng-nghyfraith yn Bennaeth Gwasanaeth

I.W. Davies

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Landlord preifat

J.A. Davies

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei fab yn athro

E. Dole

 

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei fam a'i ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor

J.S Edmunds

 

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Landlord preifat

J.S Edmunds

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei ferch yn gweithio ym maes Addysg

L.D. Evans

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei merch yn athrawes

R. Evans

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei ferch gweithio yn y gwasanaeth llyfrgelloedd

S.J.G. Gilasbey

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio ym maes Addysg

T.M. Higgins

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei chwaer-yng-nghyfraith a'i nyth yn gweithio i'r gwasanaeth llyfrgell

P. Hughes-Griffiths

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei ferch yn athrawes

R. James

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei bartner yn gweithio i'r gwasanaeth llyfrgell

G. John

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei ferch yn gweithio ym maes Tai

A C Jones

 

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Landlord preifat

B.W. Jones

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei mab yn athro yn Sir Gaerfyrddin

G.R. Jones

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

K. Madge

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol

A.G. Morgan

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Tenant yn Llynnoedd Delta yn Llanelli

D. Nicholas

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau cynllunio

D. Price

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Landlord preifat

G.B. Thomas

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei chwaer yn athrawes

G.B. Thomas

9 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21

Landlord preifat

A Vaughan Owen

12 – Datganiad Polisi Tâl 2020/21

Ei wraig yn athrawes

 

</AI2>

<AI3>

3.            CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Mrs Mary Keir, preswylydd yng nghartref gofal Awel Tywi yn Ffair-fach, a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 108 oed heddiw;

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu ymweliad gan ei Huchelder Y Dywysoges Frenhinol â ffatri Corgi Hosiery yn Rhydaman;

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn drist o glywed am farwolaeth Kevin James o Adran Briffyrdd yr Awdurdod.  Roedd Kevin wedi mynychu llawer o Bwyllgorau Cynllunio a byddai colled fawr ar ei ôl. Mynegodd y Cadeirydd, ar ran yr aelodau etholedig a'r staff, ei gydymdeimlad â theulu Kevin;

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Is-gadeirydd wedi mynychu sawl digwyddiad ar ran y Cyngor yn ystod y mis diwethaf, a bod rhai ohonynt wedi'u nodi ar ei flog ar wefan y Cyngor;

·         Roedd y Cynghorydd Arwel Davies, wedi llongyfarch Menna Evans, o Lansadwrn, ar ddod y ferch gyflymaf i redeg hyd Seland Newydd, o Cape Reinga i Bluff [1280 milltir] sydd yn record byd Guinness newydd. Roedd Menna wedi cwblhau'r cyfan mewn 36 diwrnod ac roedd hefyd wedi codi arian ar gyfer yr elusen Mind;

·         Rhoddodd yr Arweinydd ddatganiad byr ar y sefyllfa o ran y Coronafeirws gan ddweud bod Cymru'n gwbl barod a bod profion yn cael eu cynnig.

 

 

</AI3>

<AI4>

4.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

</AI5>

<AI6>

6.            RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY:

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:-

“Newid yn yr Hinsawdd - mater o frys: Mae tystiolaeth wyddonol gadarn yn priodoli tymheredd cynhesach a newidiadau i lwybrau stormydd ar draws Gogledd yr Iwerydd i'r newid yn yr hinsawdd. O ganlyniad, mae Sir Gaerfyrddin a rhannau eraill o Gymru a'r DU wedi dioddef llifogydd difrifol am yr ail dro mewn 16 mis. Mae'n amserol ac yn eironig bod y llifogydd diweddar wedi digwydd ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin bleidleisio i weithredu ei bolisi radical i fod yn awdurdod carbon sero-net erbyn 2030 – yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Mae'r cyngor hwn yn nodi, gyda siom, fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gosod 2050 fel dyddiad targed i fod yn garbon sero-net. Rydym yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ddilyn arweiniad yr awdurdod hwn a chydnabod yr angen i weithredu gyda mwy o frys drwy bennu dyddiad targed cynt.”

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig. 

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

 

</AI6>

<AI7>

7.            STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 - 2022/23

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried y Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 tan 2022/23 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor.

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ddweud bod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar gynigion y gyllideb, ac argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor o ran y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 i 2022/23. Ychwanegodd nad oedd setliad terfynol Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi tan y diwrnod ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol gyfarfod i ystyried y gyllideb derfynol, ac roedd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn dal heb gael ei thrafod yn y Senedd. Roedd y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i'r setliad yn newidiadau i grantiau penodol yn unig, ac felly roedd y cyllid craidd yn aros yr un fath â'r manylion a roddwyd yn yr adroddiad, gyda chynnydd o 4.3% ar sail Cymru gyfan, gyda Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn 4.4%. Mae hyn yn adlewyrchu i ryw raddau gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o'r lefel ddigynsail o bwysau chwyddiant a'r pwysau anorfod sy'n wynebu awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn newid y ffaith bod angen arbedion o hyd er gwaethaf y cynnydd yn y cyllid a groesawyd.

Dywedodd yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau a thybiaethau wedi darparu arian ychwanegol o'i gymharu â'r gyllideb amodol y cytunodd y Bwrdd Gweithredo arni ar 6 Ionawr 2020. Roedd hyn yn golygu yr edrychwyd eto ar rai o'r cynigion yn yr amlinelliad o'r gyllideb wreiddiol a rhoddwyd ystyriaeth i opsiynau pellach.

Dywedodd fod cyllid awdurdodau lleol yn parhau i fod yn heriol a'i fod yn parhau i fod yn anodd cynllunio am fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi darparu ffigurau ar lefel awdurdod am flwyddyn yn unig. Roedd Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan, i bob pwrpas, wedi'i symud ymlaen, a disgwylir y bydd adolygiad mwy cyflawn, aml-flwyddyn yn cael ei gynnal yn 2020.

Dywedodd fod y Cyfarwyddwr wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn y strategaeth a oedd yn rhan o'r drefn arferol, wrth i ragor o wybodaeth a gwybodaeth fwy clir fod ar gael.   Roedd y cyfanswm dilysu cyfredol yn ychwanegu tua £11.8m i'r gyllideb heb gynnwys costau pensiynau athrawon. Roedd tâl yn parhau i fod y dilysiad mwyaf sylweddol eleni, ond tynnodd yr adroddiad sylw at y lefel uchel o ansicrwydd o ystyried y bwlch rhwng y ddwy ochr sy'n rhan o drafodaethau ar hyn o bryd. Yn absenoldeb unrhyw eglurder pellach, roedd y gyllideb yn caniatáu ar gyfer cynnydd o 2.75%. Nid oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniadau cyflog cenedlaethol. Roedd dyfarniad Medi 2019 wedi'i bennu ar 2.75% a rhagdybiwyd y lefel hon ar gyfer y dyfodol, er y cydnabuwyd hefyd ei bod yn risg allweddol i'r gyllideb.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynigion ar gyfer y gyllideb a ymgynghorwyd arnynt ym mis Ionawr 2020 wedi tybio y byddai cyflogau a chwyddiant yn cael eu dilysu'n llawn i ysgolion, felly, gan fod gwybodaeth wedi'i diweddaru o ran hynny, ychwanegwyd £311,000 pellach, gan gymryd y cynnydd cyffredinol mewn cyllidebau dirprwyedig ysgolion i £10.1 miliwn. Ystyriwyd bod hyn yn dangos cefnogaeth sylweddol i ysgolion, a oedd yn fwy na'r hyn a roddwyd i adrannau eraill ac yn rhoi'r un pŵer gwario i ysgolion â'r flwyddyn gyfredol.

Er gwaethaf y pwysau ychwanegol o ganlyniad i'r amserlen gyllidebol gywasgedig, barnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y broses ymgynghori eleni yn llwyddiant mawr gyda mwy na 2,000 o ymatebion. Roedd wedi bod yn eang ac yn amrywiol gan ddefnyddio gwahanol ddulliau i gael barn y bobl am y gyllideb: Seminarau i'r Aelodau; Pwyllgorau Craffu; Fforwm Cyllideb Ysgolion; Arolygon ar-lein; cyfarfodydd cynghorau tref a chymuned; cyfarfodydd undebau llafur; sesiwn Golwg Sir Gâr Roedd arfarniad llawn o'r ymateb i'r ymgynghoriad yn yr adroddiad.

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, o ystyried y setliad mwy cadarnhaol, roedd £560,000 ar gael i wneud rhai addasiadau hanfodol i strategaeth y gyllideb. Argymhellodd, felly, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y dylid gwneud yr addasiadau canlynol i strategaeth y gyllideb, a oedd yn ystyried y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth o'r cynigion nad oedd yn cael eu cefnogi:

Yn y lle cyntaf, tynnu'n ôl y cynigion canlynol:

·  cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Hendy-gwyn ar Daf. Cafodd y cynnig hwn y sgôr mynegai mwyaf negyddol yn ogystal â mwy na 500 o sylwadau gan y cyhoedd;

·  cau toiledau cyhoeddus gan mai hwn oedd â'r ail sgôr mynegai mwyaf negyddol;

·  y gostyngiad i gyllidebau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, gan gydnabod yr ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â phryderon aelodau

·  y cynnydd arfaethedig i daliadau mynwentydd.

Cadarnhawyd hefyd, yn dilyn trafodaethau â swyddogion mewn perthynas â gwasanaethau hamdden a oedd wedi cynnig yn wreiddiol i gynyddu taliadau y byddai'r incwm ychwanegol sy'n ofynnol yn cael ei fodloni drwy gynyddu defnydd, gan ddisodli'r angen i gynyddu taliadau.

 

Yn ail, bod y cynigion canlynol yn cael eu gohirio:

·           Gohirio'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyllidebau ADY i flwyddyn 3 hyd nes bod y trefniadau newydd o dan y Ddeddf ADY (Cymru) wedi'u sefydlu'n well;

·           Bod y ffi weinyddol arfaethedig ar gyfer hunangyllidwyr lleoliadau preswyl yn cael ei gohirio tan flwyddyn 3 y cynllun.

Cynigiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd, i gydnabod y pwysau ar wasanaethau a wynebir gan adrannau:

·  bod  £128,000 o'r grant ychwanegol ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cael ei gymhwyso i wasanaethau cymdeithasol;

·  darparu £140,000 tuag at gyllidebau priffyrdd i wella mwy o ffyrdd a gwella capasiti;

·  dirprwyo £140,000 i'r Cyfarwyddwr Addysg i flaenoriaethu yn unol â gofynion yr adran, gan gydnabod bod nifer o feysydd dan bwysau na fu'n bosibl eu hariannu yn y gyllideb ddrafft.

 

Roedd o'r farn y byddai mabwysiadu'r cynigion hyn yn caniatáu i'r Cyngor Sir gyflwyno cyllideb deg a chytbwys, a oedd yn ymateb i'r prif bryderon yr adroddwyd yn ôl yn sgil yr ymgynghoriad. Yna cynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol, yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a amlinellir uchod, o ran Strategaeth Cyllideb 2020/21 a'r cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor a chymeradwyo'r cynllun ariannol tymor canolig fel sylfaen ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol. Eiliwyd y cynnig.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:-

 

“Y caiff yr arian hwnnw ei ryddhau o'r cronfeydd wrth gefn i ariannu gwasanaethau bysiau ar gyfer y plant ysgol hynny y mae eu gwasanaethau bws wedi cael eu tynnu'n ôl oherwydd rheoliadau hyd ddiwedd tymor yr haf 2020 - amcangyfrifir y bydd y gost yn £150k.”

 

Roedd y cynigydd wedi amlinellu'r rhesymau dros y gwelliant hwn.

 

Yn dilyn dadl, pan dderbyniwyd cyngor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am y goblygiadau cyllidebol a'r risgiau a' chyngor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith ar y risgiau cyfreithiol mewn perthynas â’r gwelliant arfaethedig

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig Terfynol

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH fabwysiadu'r Cynnig a bod yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol yn cael eu mabwysiadu:-

 

7.1 bod Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2020/21, yn cael ei chymeradwyo yn amodol ar y gwelliannau canlynol:-

 

       2020/21

7.1.1 bod y gostyngiad £50k yn y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn cael ei dynnu'n ôl, gan gydnabod yr ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â phryderon aelodau;

7.1.2 peidio â gweithredu'r cynnydd arfaethedig mewn taliadau mynwentydd [£2k];

7.1.3 bod yr effeithlonrwydd arfaethedig ar gyllidebau ADY yn cael ei ohirio tan flwyddyn 3 nes bod y trefniadau newydd o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) wedi'u sefydlu'n well;

7.1.4 bod y balans o £128k o'r grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol ychwanegol yn cael ei gymhwyso i Wasanaethau Cymdeithasol;

7.1.5 bod £140k yn cael ei ddarparu tuag at gyllidebau priffyrdd i wella mwy o ffyrdd a gwella capasiti;

7.1.6 bod £140k yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Addysg i  flaenoriaethu yn unol â gofynion yr adran, gan gydnabod bod            nifer o feysydd dan bwysau nad oedd yn bosibl eu hariannu             yn y gyllideb ddrafft;

7.1.7 o ran gwasanaethau hamdden, bydd yr incwm ychwanegol yn cael ei godi drwy gynyddu defnydd yn hytrach na chynyddu'r taliadau yn 2021/22 a 2022/23;

 

2021/22 a 2022/23

7.1.8 i ddileu'r cynnig i gau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Hendy-gwyn ar Daf.  Cafodd y cynnig hwn y sgôr mynegai mwyaf negyddol yn ogystal â mwy na 500 o sylwadau gan y cyhoedd;

7.1.9 i ddileu'r cynnig i gau'r toiledau cyhoeddus gan mai dyma oedd â'r ail sgôr mynegai mwyaf negyddol;

7.1.10 bod y ffi weinyddol arfaethedig ar gyfer lleoliadau preswyl i hunan-arianwyr yn cael ei gohirio tan flwyddyn 3 y cynllun;

7.2 bod Treth Gyngor Band D yn 2020/21 yn cael ei gosod ar £1,316.55 (cynnydd o 4.89% ar gyfer 2020/2021);

7.3 bod y cyllid rheolaidd o £560k sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio'n llawn i gefnogi'r diwygiadau a gynigir yn 7.1.1 i 7.1.6 uchod;

7.4 bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

 

</AI7>

<AI8>

8.            RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2020/21 - 2024/25

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2020/2021 i 2024/2025 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriadau a gyflawnwyd a setliad Llywodraeth Cymru.  Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, a oedd yn rhagweld gwariant amcangyfrifedig o bron i £255m dros y pum mlynedd 2020/2021 i 2024/2025, yn manteisio ar y cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael o ffynonellau allanol. Ystyriwyd y byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin. Roedd y cyllid gan y Cyngor Sir ar gyfer y rhaglen hon tua £126m ar hyn o bryd a byddai £129m pellach yn dod oddi wrth gyrff cyllid grant allanol. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagamcanion o ran y cyllid cyfalaf y tu hwnt i 2020/21, ac felly roedd y rhaglen wedi'i seilio ar fenthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai llawer o'r buddsoddiadau, megis rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, priffyrdd, adfywio a thai, yn gyfarwydd, ond bu'n bosibl unwaith eto i ychwanegu buddsoddiad i gynlluniau yr ystyrid eu bod yn bwysig ar gyfer y Sir. Yn y Gwasanaethau Cymunedol, roedd y rhaglen gyfalaf wedi gwneud buddsoddiad yn y gwasanaethau hamdden a diwylliannol. Y mwyaf sylweddol o'r rhain oedd buddsoddiad o £1.9m o arian newydd i Oriel Myrddin, gyda £650k i'w fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin i gwblhau'r uwchgynllun a chymorth parhaus ar gyfer tai yn y sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Byddai Adran yr Amgylchedd yn parhau i gael cymorth parhaus ar gyfer gwella priffyrdd, cynnal a chadw pontydd, a chynlluniau diogelwch ffyrdd yn 2024/25. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2020/21 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Cyngor y bu'n bosibl gwneud ymrwymiadau ychwanegol ar draws ystadau'r Cyngor gyda darpariaeth o £2.5m ar gyfer gwaith hanfodol i Neuadd y Sir, £500k ar gyfer gwaith yn Nhŷ Elwyn a £3.5m tuag at gynnal a chadw ar draws yr ystâd yn 2024/25. Byddai arian newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer mentrau di-garbon ar draws yr ystâd. Yn ogystal, byddai £2.7m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw adeiladau ysgolion. Roedd £4m wedi'i gynnwys ar gyfer ailddatblygu Neuadd Farchnad Llandeilo a £847k ar gyfer y buddsoddiad parhaus yn Ystâd Ddiwydiannol Glanaman. Roedd £500k wedi'i ddyrannu hefyd tuag at y camau gweithredu gofynnol yn dilyn yr argyfwng hinsawdd a gafodd ei ddatgan yn 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod cymorth hefyd yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiect y strategaeth drawsnewid yn Adfywio ar gyfer 2024/25 oedd â'r potensial o ddenu cyllid allanol sylweddol fel arian cyfatebol i gyllideb y Cyngor. Tynnwyd sylw'r Cyngor at y manylion cynhwysfawr a nodir yn Atodiad B yr adroddiad ynghyd â'r rhestr o flaenoriaethau wrth gefn. Byddai swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen bresennol yn cael ei chyllido'n llawn am 5 mlynedd. Roedd Atodiad C yr adroddiad yn cynnwys Strategaeth Gyfalaf 2020/21 y Cyngor, a oedd yn ofynnol gan Gôd Cyllid Cyfalaf Prudential ac yn manylu ar y cyd-destun tymor hir o ran y penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi.

 

I gloi, roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau yn credu bod y rhaglen gyfalaf yn gynhwysfawr, yn gyffrous ac yn uchelgeisiol, gyda'r Awdurdod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ac felly yn hyrwyddo argymhellion y Bwrdd Gweithredol.

Eiliwyd y Cynnig.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:-

 

“Bod yr Awdurdod yn buddsoddi mewn sefydlu cwmni bysiau sy'n defnyddio ynni glân megis pŵer trydan erbyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd 2020 drwy ddefnyddio £3m o'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn.”

 

Dywedwyd wrth y Cyngor nad oedd y ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i lywodraeth leol redeg cwmnïau trafnidiaeth er bod Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) Drafft fod cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru a allai o bosibl fynd i'r afael â'r mater hwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151, pe bai bwriad defnyddio £3m at y diben a nodir, yna byddai angen i'r Cyngor nodi beth fyddai'n cael ei ddileu o'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig i'w ariannu gan fod yr holl gronfeydd cyfalaf wrth gefn wedi'u dyrannu dros y rhaglen 5 mlynedd. Eglurwyd hefyd pe bai'r £3m yn cael ei ariannu drwy fenthyca ychwanegol, byddai'n effeithio ar y gyllideb refeniw y cytunwyd arni eisoes [cyfeirir ati yng nghofnod 7].

 

[Ar yr adeg hon gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 20 munud i alluogi cynigydd ac eilydd y gwelliant i geisio cyngor pellach gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151.]

 

Ar ôl i’r cyfarfod ailgynnull dywedodd cynigydd y gwelliant ei fod, gyda chydsyniad ei eilydd, yn dymuno tynnu'r gwelliant yn ôl yn dilyn eglurhad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/Swyddog Adran 151 a chan wybod bod Llywodraeth Cymru yn y broses o ystyried y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) Drafft. Gofynnwyd, fodd bynnag, fod trafodaethau trawsbleidiol yn cael eu rhoi ar waith i ystyried yr opsiynau a'r goblygiadau o ran cost ar gyfer sefydlu cwmni trafnidiaeth gan ragweld y byddai'r Bil uchod yn cael ei gymeradwyo. Awgrymodd y Prif Weithredwr, mewn ymateb i sylwadau'n ymwneud â chwmpas gweithredol cwmni trafnidiaeth o'r fath, y gellid ystyried y mater o fewn cylch gwaith Bargen Ddinesig Bae Abertawe yng nghyd-destun sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Derbyniodd yr Aelodau hyn fel ffordd ymlaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

8.1 bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r cyllid, fel y'u nodwyd

yn Atodiad B yr adroddiad, gyda chyllideb 2020/21 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2021/22 tan 2024/25 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

8.2 bod y rhaglen yn cael ei hadolygu os na fydd cyllid allanol a ragwelir  

      neu gyllid y Cyngor Sir yn dod i law;

8.3 bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei

      chymeradwyo.

 

</AI8>

<AI9>

9.            CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2020/21 - 2021/22 A LEFELAU RHENTI TAI 2022/23 - REFENIW A CHYFALAF

 

(NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, J. Edmunds, A.C. Jones, A.G. Morgan, D. Price, G.B. Thomas wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror 2020 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £230m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid a gwariwyd £49m pellach ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £49m ymhellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Ychwanegodd y byddai £42m yn cael ei ddarparu dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r rhaglen tai fforddiadwy a byddai hyn yn gweld cynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Roedd y polisi wedi dod i ben yn 2018/19 a mabwysiadwyd polisi dros dro ar gyfer 2019/20 am flwyddyn.  Roedd Llywodraeth Cymru bellach wedi datblygu polisi newydd i'w roi ar waith yn 2020/21. Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI+1% yn unig. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%. Byddai'r polisi newydd yn gymwys am 5 mlynedd o 2020/21 ac roedd yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, cyfleusterau amwynder, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni. Roedd hefyd yn nodi bod angen datgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a fyddai'n fuddsoddiad mawr i awdurdodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

9.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:-

a)    Bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)   Eiddo lle mae rhent yn is na’r rhent targed, bydd y rhent yn cynyddu 2.53% yn ogystal a dilyniant uchafswm o £1;

c)    Bydd y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed

d)   Gan gynyddu rhent tai ar gyfartaledd o 2.7% neu £2.36.

9.2

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed.

9.3

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos.

9.4

Rhoi'r polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny.

9.5

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti.

9.6

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/2021 (cyllidebau dangosol yw rhai 2021/22 a 2022/23), fel y nodwyd yn Atodiad B.

9.7

Bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2020/21, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod o 2021/22 i 2022/23, fel y'u nodwyd yn Atodiad A, yn cael eu cymeradwyo.

 

</AI9>

<AI10>

10.         SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2020–23

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2020-2023, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·         egluro'r weledigaeth a'r manylion ynglŷn â chynnal a gwella Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a beth y mae hyn yn ei olygu i'r tenantiaid;

·         Nodi’r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu;

·         Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy + dros y tair blynedd ariannol nesaf;

·         Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, sy’n cyfateb i £6.1m.

 

Dywedodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at gartrefi carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd.  Gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, roedd yr Awdurdod wedi bod yn gweithio ar ôl-osod amrywiaeth o dechnolegau carbon isel gan gynnwys cyflenwadau ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau'r galw am ynni. Dywedodd fod bron i £49m wedi'i neilltuo i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer tenantiaid presennol dros y 3 blynedd nesaf er mwyn galluogi tenantiaid i elwa ar gartrefi sy'n gyfeillgar i garbon ac yn rhatach i'w rhedeg.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod ar fin cyflawni ei addewid i ddarparu 1,000 yn fwy o dai fforddiadwy o ganlyniad i brynu tai ar y farchnad, ail-ddefnyddio eiddo gwag unwaith yn rhagor a thrwy adeiladu cartrefi newydd.  Ychwanegodd, er bod llawer wedi'i gyflawni, cydnabuwyd bod mwy i'w wneud o hyd ond bod yr Awdurdod yn barod i wynebu'r heriau. Roedd y cynllun a gyhoeddwyd yn manylu ar fwriad yr Awdurdod i ddatblygu rhaglen adeiladu newydd ar gyfer Cartrefi Croeso i sicrhau tai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Roedd gwaith i adeiladu cartrefi cyngor newydd yn Dylan eisoes wedi dechrau gyda bron i £52m ar gael i'w wario dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu mwy o dai Cyngor a byddai hyn yn gyson â'r rhaglen ehangach i fuddsoddi mewn tai. Byddai hyn yn galluogi'r Awdurdod i ganolbwyntio ar y datblygiad arfaethedig yn ward Tyisha, y Pentref Llesiant, canol trefi a threfi gwledig.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod yn ymwybodol bod cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi rhoi her i denantiaid o ran rheoli eu cyllidebau misol, ond roedd  y cynllun gweithredu a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod wedi lleihau'r effaith cymaint â phosibl iddynt. I gloi, mynegodd y farn, er bod hwn yn gyfnod cyffrous, ei fod hefyd yn gyfnod o ansicrwydd i denantiaid. Fodd bynnag, roedd yr Awdurdod wedi gallu cadw'r codiad rhent ar gyfer 2020/21 ar gyfartaledd o 2.7% ac ni ddylid dibrisio'r cyflawniad hwn.  Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddai angen i'r Awdurdod sicrhau eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch blaenoriaethau ariannol y dyfodol o ran cynnal y safonau presennol, cyflwyno safonau newydd i gefnogi'r agenda datgarboneiddio ac adeiladu cartrefi fforddiadwy i'r rhai mewn angen. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

10.1

bod gweledigaeth  Cartrefi Sir Gaerfyrddin a Mwy, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ac ariannol dros y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau;

10.2

cadarnhau cyflwyno Cynllun Busnes 2020/23 i Lywodraeth Cymru;

10.3 

nodi'r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu.

 

</AI10>

<AI11>

11.         POLISI RHEOLI’R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2020 - 2021

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wrth y Cyngor fod yn rhaid i'r Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

11.1 bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

11.2 bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

</AI11>

<AI12>

12.         DATGANIAD POLISI TALIADAU 2020/21

[SYLWER:

1.    Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, C.A. Campbell, Arwel Davies, J.A. Davies, E. Dole, J.S Edmunds, L.D. Evans, R. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, P. Hughes-Griffiths, R. James, G. John, B.W. Jones, G.R. Jones, K. Madge, D. Nicholas, G.B. Thomas ac A. Vaughan-Owen wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon;

2.    Roedd pob swyddog a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried, ac eithrio'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn deillio o'r adroddiad), y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a arhosodd yn y cyfarfod i gymryd cofnodion, a'r Swyddog Gweddarlledu].

Atgoffwyd y Cyngor bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer eu holl weithwyr y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo fanylu ar bolisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.

 

Heblaw am y cytundeb diweddar ar dalu Lwfans Cynnal a Chadw dros y Gaeaf (a ymgorfforwyd yn y Polisi Cyflogau) ni chafwyd unrhyw newidiadau sylweddol i'r polisïau na'r rheoliadau eleni, ac oherwydd nad oedd undebau llafur a chyflogwyr wedi gorffen y trafodaethau o ran cyflogau, roedd y Polisi Tâl yn cynnwys graddfeydd cyflog 2019-2020 a fyddai'n cael eu diweddaru ar ôl cael hysbysiad am gytundeb.  Yna, byddai'r graddfeydd cyflog newydd yn cael eu hymgorffori yn y Polisi Tâl. Nodwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi rhoi mewnbwn o ran llunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol, i'w cymeradwyo gan y Cyngor Sir. Yn benodol, roedd y Panel wedi bod yn awyddus i barhau i gefnogi'r rhai sy'n ennill y cyflogau isaf drwy sicrhau bod y "Cyflog Byw Gwirioneddol", fel y'i pennwyd gan Living Wage Foundation, yn cael ei dalu o 1 Ebrill 2020. Roedd y gyfradd newydd fesul awr yn £9.30 felly byddai Tâl Atodol Cyflog Byw yn daladwy i rai gweithwyr o 1 Ebrill hyd nes y ceir canlyniad y trafodaethau Cyflogau Cenedlaethol.  Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw oedi o ran codiad cyflog i'r rhai sy'n derbyn tâl is. Byddai'r gost i'r Cyngor oddeutu £4k. 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Datganiad Polisi Tâl am 2020/21 yn cael ei gymeradwyo yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

</AI12>

<AI13>

13.         AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG

 

Bu'r Cyngor yn ystyried ei gynrychiolaeth ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dilyn cyngor gan y Dirprwy Weinidog dros Lywodraeth Leol a Thai y byddai'r gostyngiad yn y gynrychiolaeth o'r 2 aelod presennol i 1 aelod yn dod i rym o 1 Ebrill 2020 yn unol â 'r cynnig i leihau cyfanswm yr aelodaeth o 24 i 18 aelod.

 

Cynrychiolwyr presennol y Cyngor oedd y cynghorwyr Andrew James (80% o'i ward o fewn ardal y Parc) a Kevin Madge (50% o'r ward o fewn ardal y Parc) ac oherwydd hyn argymhellwyd newid cynrychiolaeth y Cyngor yn unol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru a bod y Cynghorydd Andrew James yn cael ei benodi fel unig gynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ystyriwyd y dylid annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei phenderfyniad mewn perthynas â chynrychiolaeth Sir Gaerfyrddin, yn enwedig gan fod 17% o ehangdir y Parc o fewn y Sir.

 

PENDERFYNWYD y dylid diwygio cynrychiolaeth y Cyngor ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru a bod y Cynghorydd Andrew James yn cael ei benodi fel unig gynrychiolydd y Cyngor.

 

</AI13>

<AI14>

14.         BWRDD GWEITHREDOL - 3 CHWEFROR 2020

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2020.

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>