Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid

 Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid

2019 – 2020

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cynnwys

 

 

 

 

Tudalen

1.

Y Gwasanaeth

3 - 7

2.

Y Cyd-destun

7 - 11

3.

Adnoddau

11 - 14

4.

Adroddiad Perfformiad 2018/19

15 - 37

5.

Blaenoriaethau a Chynllun Gweithredol 2019/20

37 - 41

6.

Cynllunio'r Gweithlu

41 - 42

7.

Risgiau i Wasanaethau'r Dyfodol

42 - 43

8.

Cymeradwyo

43

 

Atodiad 1 - Proffil Staffio

44 - 45

 

Atodiad 3 - Geirfa                                                                                        

46 – 47

 


 

1.    Y Gwasanaeth

 

Mae Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cyfuno darpariaeth gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid statudol o dan un strwythur rheoli. Mae'r Gwasanaethau yn caniatáu i ddull cyfannol o gyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid gael ei ddatblygu ledled Sir Gaerfyrddin.

 

Gweledigaeth

 

Gwasanaeth sy’n darparu ystod gadarn o gefnogaeth o fynediad agored i gefnogaeth arbenigol, gan alluogi plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc (8-25 oed) i gael mynediad at beth maen nhw ei angen, pryd a ble y maen nhw ei angen fel y gallant wireddu eu llawn botensial personol, cymdeithasol ac addysgol.

 

Egwyddorion Craidd

Mae Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin:

 

·         yn darparu gwasanaethau blaengar a chreadigol;

·         yn cyfrannu at flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i leihau tlodi;

·         yn defnyddio dulliau adferol yn ei waith;

·         yn hyrwyddo cynhwysiad a chyfranogiad plant a phobl ifanc;

·         yn meddu ar weithlu medrus sy’n cael ei hyfforddi a’i gefnogi’n dda, sy’n gallu cynnig ystod o wasanaethau yn Gymraeg a Saesneg

·         yn cynnwys tîm o wirfoddolwyr medrus wedi’u hyfforddi (e.e. Panelwyr Gorchmynion Atgyfeirio; Biwro; Gwobr Dug Caeredin a darpariaeth gyffredinol);

·         yn ymgysylltu â theuluoedd a gofalwyr er mwyn cynnig gwell canlyniadau.

 

 

Staffio

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn crynhoi at ei gilydd y staff sy’n gyfrifol am ddarparu ystod o wasanaethau yn amrywio o wasanaethau a chefnogaeth gwaith ieuenctid i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a chymorth gweinyddol, rheoli perfformiad a chymorth busnes. Mae'r staff yn cynnwys 66 o staff (cyfwerth ag amser llawn, gan gynnwys 4 swydd wag); 27 o weithwyr sesiynol (gan gynnwys 1 swydd wag); Swyddog Heddlu ar secondiad (amser llawn); Swyddog Prawf ar secondiad (0.5 o wythnos) a mewnbwn nyrsio gan CAMHS.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid hefyd yn defnyddio gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi sy’n helpu i ddarparu agweddau allweddol ar y gwaith ac sy’n darparu lleoliadau myfyrwyr.

Mae darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn elfen gref o ddarpariaeth y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

 


 


Strwythur y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid

14 o Wirfoddolwyr1 Swyddog GwybodaethAr Secondiad: Swyddog Heddlu, Swyddog Prawf; mynediad at Nyrs CAMHS1 Swyddog Addysg9 o Ymarferwyr 2 Uwch-ymarferyddYr holl swyddogaethau Cyfiawnder Ieuenctid statudolRheolwr Cymorth Ieuenctid
 Davinia Davies
 Tîm Cyfiawnder IeuenctidTîm Cymorth Ieuenctid a Dargedwyd 8-18 oed4 aelod o staff Ymgysylltu ag Ysgolion - Cynnydd6 Gweithiwr Ieuenctid Cynnal Ysgolion8 Gweithiwr Ieuenctid Arweiniol mewn Ysgolion1 Uwch-ymarferyddRheolwr Cymorth Ieuenctid
 Louise Slade
 Gwaith atal, gwaith ieuenctid mewn ysgolion a cholegau; Tîm o Amgylch y Teulu 11 - 16 1 Swyddog Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (swydd wag)1 Cydlynydd Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu IeuenctidRheolwr Cymorth Ieuenctid
 Hefin Lloyd
 Allgymorth Cymunedol a Gwaith Ieuenctid Ôl-16 gan gynnwys TAF 16-25Tîm Cymorth Ieuenctid a Dargedwyd (16-25 oed)6 Gweithiwr Ieuenctid Arweiniol
 
 4 Gweithiwr Cymorth Ieuenctid2 Weithiwr Ieuenctid Cadw mewn Cysylltiad 
  
 
 26 aelod o Staff Clybiau Ieuenctid (1 swydd wag)20 o Wirfoddolwyr 2 Weithiwr Ieuenctid Cymorth Cyffredinol (1 swydd wag) 2 Weithiwr Ieuenctid Arweiniol Cyffredinol 1 Swyddog Datblygu Gwobr Dug Caeredin Clybiau Ieuenctid; gweithgareddau dargyfeiriol a chadarnhaol gan gynnwys Gwobr Dug CaeredinRheolwr Cymorth Ieuenctid
 Sian Morgan
 Sarah Powell
 Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant
 Laura Rogers
 Uwch-glerc
 Gill Adams
 Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid
 Swyddog Cyfranogiad x (0.5 awr yr wythnos)
 2 Weithiwr Cymorth Cyfranogiad (16 awr y mis)
 Tîm Cymorth CyffredinolStrwythur y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid 1 Gweithiwr Ieuenctid Arweiniol Iechyd (swydd wag)1 Swyddog Hyfforddi1 Gweithiwr Ieuenctid Arweiniol mewn Colegau3 Gweithiwr Atal (1 swydd wag)2 WeinyddwrAeron Rees
 Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant


Darparu Gwaith Ieuenctid a Chymorth Ieuenctid

Mae’r gofyniad statudol ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid yn cael ei gynnwys yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (a.123 (1)) sy’n mynnu fod awdurdodau lleol yn darparu, sicrhau y darperir neu’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid.  Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol pobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru yn seiliedig ar gysyniad hawl gyffredinol, sy’n golygu fod gan bob person ifanc yng Nghymru hawl sylfaenol i dderbyn ystod o wasanaethau ansawdd uchel sy’n eu galluogi i fanteisio’n effeithiol ar gyfleoedd ar gyfer dysgu, swyddi, iechyd da, dinasyddiaeth a chynhwysiad cymdeithasol.  Yn 2012, cafodd Grant Cymorth sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglen “Ymestyn Hawliau” Llywodraeth Cymru ei drawsnewid yn Grant Teuluoedd yn Gyntaf. Bwriedir defnyddio’r grant hwn i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc sy’n profi tlodi ac i gefnogi proses o bontio i waith, addysg a hyfforddiant.  Lansiodd Llywodraeth Cymru ac Addysg Cymru Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol ddiwygiedig ar ddiwedd Mehefin 2019. Mae'r strategaeth yn gosod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol:

 

Mae Cymru'n wlad lle:

Mae'r holl bobl ifanc yn ffynnu gyda mynediad i gyfleoedd a phrofiadau, yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n rhoi mwynhad ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol trwy ddulliau gwaith ieuenctid.

Mae gwaith ieuenctid yn seiliedig ar hawliau, wedi'i lywio gan bobl ifanc, ac wedi'i gynllunio a'i gefnogi ar y cyd gan weithlu medrus o staff gwirfoddol a phroffesiynol cyflogedig.

Deellir gwerth gwaith ieuenctid, gyda llinellau atebolrwydd clir.

 

5 Amcan:

Phobl ifanc yn ffynnu.

Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Caiff staff gwaith ieuenctid gwirfoddol a chyflogedig eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd i wella'u hymarfer.

Mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall.

Model cynaliadwy ar gyfer darparu gwaith ieuenctid.

 

 Bydd y strategaeth hon yn rhan annatod o'r broses o ddarparu gwaith ieuenctid a chynllunio busnes.

 

Darparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid

Sefydlwyd Timau Troseddu Ieuenctid (a elwir yn Sir Gaerfyrddin yn ‘Dîm Cyfiawnder Ieuenctid’) gan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 gyda’r bwriad datganedig o leihau’r risg fod pobl ifanc yn troseddu ac yn aildroseddu. Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn bartneriaeth statudol, amlddisgyblaethol a gaiff ei gydlynu gan yr Awdurdod Lleol. Cyflawnir y swyddogaethau llywodraethu yn lleol gan Fwrdd Rheoli sy’n cynnwys prif bartneriaid, ac yn genedlaethol gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Cymru a Lloegr, sy’n rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnwys staff o’r Gwasanaethau Plant, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd ac Addysg.

 

Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin - 5 Tîm

 

Tîm Cymorth Cyffredinol

Mae’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau mynediad agored gan gynnwys: gweithgareddau a rhaglenni antur awyr agored; clybiau ieuenctid sirol; cefnogi’r gwaith o ddarparu Gwobr Dug Caeredin; rhaglenni dysgu achrededig; cyflawni gweithgareddau i gefnogi diogelwch cymunedol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol; cydlynu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus staff; cynorthwyo pobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt; rhaglenni preswyl ar gyfer pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig a thramor.

 

Tîm Cymorth Ieuenctid a Dargedwyd (16-25 oed)

Darparu cymorth personol wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ifanc 16-25 oed a’u teuluoedd.  Mae’r holl ddyletswyddau a gyflawnir yn gydnaws â rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru; Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru a phrosiect Cam Nesa (Cronfa Gymdeithasol Ewrop). Mae'r tîm yn ymgysylltu â phobl ifanc ac oedolion ifanc y gall ystod eang o faterion effeithio arnynt sy'n gysylltiedig â thlodi teuluol, er enghraifft: digartrefedd; perygl o fynd yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac ati. Defnyddir nifer o strategaethau a dulliau gwaith ieuenctid i ddarparu cymorth ac ymyriadau yn seiliedig ar anghenion unigolion.

 

Cymorth Ieuenctid a Dargedwyd (8-18 oed)

Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y sbectrwm o angen isel i uchel. Cynllunnir ymyriadau er mwyn lleihau risgiau ymddieithrio rhag addysg ac atal pobl ifanc rhag troseddu. Mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr ieuenctid sy’n gweithio yn holl ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin a Choleg Sir Gâr. Cefnogir y gwaith hwn gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru er mwyn diwallu gofynion datblygu dulliau Tîm o Amgylch y Teulu, ac mae’n gysylltiedig â Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Mae Cynnydd (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) yn cyfrannu at gymorth addysgol ac ymgysylltu ar gyfer plant a phobl ifanc 11-16 oed mewn ysgolion sy’n wynebu’r risg fwyaf o ymddieithrio. Mae Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cyfrannu arian tuag at ddarparu rhaglenni ymyrryd i leihau troseddu ieuenctid, cefnogi diogelwch cymunedol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Tîm Cyfiawnder Ieuenctid

Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 10 - 17 oed. Mae staff yn darparu asesiadau holistaidd gan ddefnyddio offeryn asesu safonol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid – ASSETPlus sy’n helpu i gyfrannu at benderfyniadau a wneir ar nifer o Benderfyniadau y Tu Allan i’r Llys trwy'r Biwro, yn ogystal â darparu gwybodaeth i lysoedd at ddibenion dedfrydu.  Mae’r tîm yn gyfrifol am oruchwylio plant a phobl ifanc sy’n destun gorchmynion cymunedol statudol a dedfrydau o garchar. Mae gwaith cynllunio ailsefydlu ac ailintegreiddio yn hollbwysig er mwyn ailintegreiddio pobl ifanc yn llwyddiannus o’r carchar ac yn ôl yn y gymuned o dan amodau gofynion eu Trwydded. Gwnaed trefniadau â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i drosglwyddo achosion dynodedig i oruchwyliaeth oedolion fel rhan o broses gynllunio strwythuredig.

 

Mae Cyfiawnder Adferol wrth wraidd gwaith y tîm. Mae hyn yn cynnwys cyfryngu rhwng dioddefwr a throseddwr; hwyluso cyfarfodydd i annog gwell canlyniadau ar gyfer dioddefwyr troseddau; defnyddio dulliau adferol i ganiatáu ar gyfer gwneud iawn. Mae nifer o ffrydiau arian grant yn ategu’r adnoddau a gyfrennir gan bartneriaid statudol.  Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn monitro perfformiad yr holl Dimau Troseddu Ieuenctid yng Nghymru yn ôl saith dangosydd perfformiad:

 

·         cyfraddau aildroseddu;

·         y nifer sy'n dod i mewn i’r system am y tro cyntaf;

·         dedfrydau o garchar;

·         mynediad pobl ifanc at asesiadau a thriniaethau camddefnyddio sylweddau;

·         mynediad pobl ifanc at lety addas;

·         mynediad pobl ifanc at addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;

·         mynediad pobl ifanc at asesiadau a thriniaethau iechyd emosiynol a meddwl.

 

Y Tîm Cyfranogiad a Hawliau Plant

Mae'r tîm yn cynnig gwasanaeth i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 mlwydd oed sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin sy'n ymdrechu i wreiddio cyfranogiad ar draws y sir. Mae cynnwys plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau yn hawl sylfaenol i bob plentyn a pherson ifanc (Erthygl 12, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn), ac mae'r tîm yn cyflawni'r ymrwymiad hwn ar draws y Cyngor Sir trwy fod yn gyfrifol am:

 

·         fod yn arweinydd strategol ar gyfer cyfranogiad ar draws y Sir gan sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol;

·         cefnogi a chynnal gwaith Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin;

·         darparu amrywiaeth o weithgareddau a mentrau cyfranogiad a hawliau plant i blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu barn a'u safbwyntiau yn cael eu clywed a'u bod yn dylanwadu ar benderfyniadau, gwasanaethau a pholisi sy'n effeithio ar eu bywydau.

 

Gweinyddiaeth, Rheoli Perfformiad a Chymorth Busnes

Darperir cymorth gweinyddol gan Uwch-glerc a dau Swyddog Clercol. Arweinir gwaith rheoli perfformiad y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a chyflwyno data i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid gan Swyddog Gwybodaeth y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid. Mae’r Cydlynydd Gwasanaethau a’r Gweinyddwr Dyfarniadau o’r Tîm Systemau Addysg adrannol yn cyflawni nifer o swyddogaethau megis monitro a chydymffurfiaeth ag amodau arian grant; casglu data perfformiad; cynllunio a rheolaeth ariannol; rheoli prosiectau; gofynion adnoddau dynol; rheoli asedau a gweinyddu Cynllun Gwobr Dug Caeredin. 

 

2.    Cyd-destun

 

Lleol

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid, dan oruchwyliaeth y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant, yn rhan o Is-adran Gwasanaethau Addysg yr Adran Addysg a Phlant. Mae’r Gwasanaeth yn darparu dau faes cyflawni allweddol ar gyfer Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’n cyflawni swyddogaeth gydlynu wrth weithredu Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cyfrannu at ddarparu prosiectau Cynnydd a Cham Nesa (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) sy’n darparu ar gyfer ystod llawn a chyflenwol o weithgareddau ymgysylltu, dysgu a hyfforddiant er mwyn cynyddu cyrhaeddiad plant a phobl ifanc 11 – 19 oed sy’n wynebu’r risg o fynd yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) a lleihau nifer y bobl ifanc 16 – 25 oed sy’n wynebu'r risg o fynd yn NEET.

Sefydlwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ym mis Mai 2016, yn dilyn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r BGC yn gasgliad o gyrff cyhoeddus yn cynnwys 4 aelod statudol – y Cyngor Sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gwasanaeth Tân – yn cydweithio â phartneriaid ehangach i wella llesiant ein sir. 

Cynhaliodd BGC Sir Gaerfyrddin asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y sir, ac o’r herwydd, cyhoeddwyd Cynllun Llesiant, yn cyflwyno amcanion lleol y BGC a’r camau a gymerir i’w cyflawni. Mae'r BGC wedi cyflwyno nifer o grwpiau darparu amlasiantaeth i'w helpu i wella llesiant a rhoi'r Cynllun ar waith, ac mae'r grŵp 'Cymunedau Mwy Diogel' yn parhau i adrodd i'r BGC.  Mae aelodau'r Bartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel yn cynnwys partneriaid a chanddynt ddyletswydd statudol i gydweithio i leihau trosedd ac anhrefn, lleihau aildroseddu a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau – yr Heddlu, y Cyngor, y Gwasanaeth Prawf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Gwasanaeth Tân – a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnwys Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid . 

I gynyddu effeithiolrwydd cyfarfodydd sy'n gysylltiedig â diogelwch cymunedol a lleihau dyblygu, mae trefniant cyfarfodydd newydd wedi'i gyflwyno.  Bellach caiff cyfarfodydd Bwrdd CONTEST y Sir (gwrthderfysgaeth), y Bwrdd Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol a'r Bartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel eu cynnal yn olynol yn ystod sesiwn hanner diwrnod.  Y farn yw bod hyn wedi gwella'r cydweithio a'r cysylltedd rhwng y meysydd hyn.

Caiff blaenoriaethau’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid eu sianelu hefyd trwy Gynllun Busnes y Gwasanaeth Addysg; Cynllun Busnes yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant ac fe’u hadlewyrchir yn y canlyniadau lefel uchel sy’n rhan o Strategaeth Gymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin. Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd statudol i gynhyrchu Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid (Rhan 3; a40) Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Felly, caiff Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ei gymeradwyo gan y Bwrdd Rheoli Lleol; fe’i cyflwynir i Bwyllgor Craffu Addysg a Phlant yr Awdurdod Lleol ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fe’i cyflwynir yn ffurfiol i Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn ofyniad statudol. Fe’i hadroddir i Gymunedau Teg a Diogel a’i gyflwyno i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Arweinyddiaeth a Llywodraethu

Mae llywodraethiant lleol Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn gyfrifoldeb y Bwrdd Rheoli Lleol, lle y cynrychiolir yr holl bartneriaid statudol – Gwasanaethau Plant; Addysg; Heddlu; Y Gwasanaeth Prawf; Iechyd. Caiff y Bwrdd ei gryfhau ymhellach gan aelodaeth Cymunedau Teg a Diogel ac aelodaeth ar lefel uwch gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (CAMHS Arbenigol); Gwasanaethau Tai'r Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ac Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Bwrdd Rheoli Lleol yn cyflawni swyddogaethau allweddol gan gynnwys:

 

·         dwyn y gwasanaeth i gyfrif am ei arfer;

·         monitro a bodloni amodau a nodir mewn unrhyw grant a wnaed gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, e.e. cyflwyno data yn amserol, cydymffurfio â gwybodaeth lleoliad sefydliad diogel, cwblhau archwiliadau safonau cenedlaethol a gweithdrefnau ar gyfer adolygu digwyddiadau diogelu'r cyhoedd a diogelwch cymunedol;

·         cefnogi’r Tîm Troseddu Ieuenctid i oresgyn rhwystrau rhag gwaith amlasiantaeth effeithiol a gofalu fod asiantaethau partner yn gwneud cyfraniad effeithiol i gyflawni yn ôl canlyniadau cyfiawnder ieuenctid allweddol.

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Bwrdd Rheoli Lleol

 

 

Enw

Asiantaeth a gynrychiolir

Swydd yn yr Asiantaeth

Ethnigrwydd

Rhyw

Jake Morgan (Cadeirydd)

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyfarwyddwr Cymunedau a Dirprwy Brif Weithredwr

Gwyn

Gwryw

 Angela Lodwick (Is-gadeirydd)

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Pennaeth CAMHS Arbenigol a'r Gwasanaeth Therapïau Seicolegol

Gwyn

Benyw

Aeron Rees

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pennaeth Cwricwlwm a Dysgu

Gwyn

Gwryw

Stefan Smith

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pennaeth y Gwasanaethau Plant

Gwyn

Gwryw

 Jolene Mann

Heddlu Dyfed-Powys

Prif Arolygydd (yr Heddlu)

Gwyn

Benyw

Christine Harley

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Prif Weithredwr Cynorthwyol

Gwyn

Benyw

Kate Harrop

Cyngor Sir Caerfyrddin

Rheolwr Diogelwch Cymunedol

Gwyn

Benyw

Jane Lewis

Cyngor Sir Caerfyrddin

Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol

Gwyn

Benyw

Jonathan Morgan

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pennaeth Tai a Chymunedau Mwy Diogel

Gwyn

Gwryw

Jonathan Pritchard

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi

Ymgynghorydd Cyfreithiol

Gwyn

Gwryw

Y Cynghorydd Glynog Davies

Cyngor Sir Caerfyrddin

Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant

Gwyn

Gwryw

Wendy Williams

Gyrfa Cymru

Y Rheolwr Rhanbarthol

Gwyn

Benyw

Gill Adams

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid

Gwyn

Benyw

 

 

Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithredu'n bartner lleol i asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill sy'n cyfrannu at weinyddu cyfiawnder. Yn yr un modd, mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithredu gyda gwasanaethau eraill, rhai'n gyffredinol a rhai wedi'u targedu, sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

 

Mae Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cynrychioli’r gwasanaeth mewn cyfarfodydd partneriaeth, gan gynnwys y rhai a drefnir ar gyfer cyflawni Diogelwch Cymunedol, y ‘Ddyletswydd Atal’ (Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015) a Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol. Cynrychiolir y Gwasanaeth hefyd ar Fwrdd Rheoli Strategol Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA); y Bwrdd Cynllunio Ardal ac yn y fforwm Diogelu Plant rhanbarthol: Diogelu Plant a Phobl Ifanc - Uno’r Rhanbarth (CYSUR); Grŵp Gweithredol Lleol CYSUR; Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) yn ogystal ag mewn cyfarfodydd Rheoli Troseddwyr yn Integredig.

 

 

 

Rhanbarthol

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cysylltu â Gweithgor Rhanbarthol De Cymru a Chanolbarth Cymru y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid; a Chyd Grŵp Gweithredol (11-25) Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

Cynrychiolir y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ar y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol (Dyfed-Powys) sy’n cynnwys aelodau o’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu system cyfiawnder troseddol leol effeithlon ac effeithiol. Mae’r Bwrdd yn cydnabod pwysigrwydd atal plant a phobl ifanc rhag troseddu.

 

Mae comisiynu gwasanaethau triniaethau camddefnyddio sylweddau trwy'r Bwrdd Cynllunio Ardal wedi arwain at symud gwaith gwneud penderfyniadau i fforwm rhanbarthol, sy’n golygu fod arweinwyr gwasanaethau sirol yn cydweithio i sicrhau cynrychiolaeth ar lefel ranbarthol. Ceir protocolau gweithio da gyda’r darparydd triniaethau cyffredinol ar gyfer camddefnyddio sylweddau i bobl ifanc – Dewisiadau, yn ogystal â chyda gwasanaethau camddefnyddio alcohol a sylweddau i oedolion.

 

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gweithio gyda’r Timau Troseddu Ieuenctid eraill yn rhanbarth Dyfed-Powys i sicrhau bod gwaith atal troseddau ieuenctid yn gydnaws â blaenoriaethau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Llywodraeth Cymru.

 

Cenedlaethol

Mae Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn aelod o'r Grŵp Pen-swyddogion Ieuenctid cenedlaethol ac yn Gadeirydd ar Reolwyr Timau Troseddu Ieuenctid Cymru ar hyn o bryd.

 

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn darparu ei wasanaethau yn unol â’r brif ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau sy’n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn; 7 Nod Craidd Llywodraeth Cymru a Hawliau Plant yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid “Plant a Phobl Ifanc yn Gyntaf”, sef strategaeth ar y cyd i wella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd ynghlwm wrth neu sy’n wynebu’r risg o fod ynghlwm wrth y system cyfiawnder ieuenctid (Gorffennaf 2014). Oddi tan y strategaeth ceir Cynllun Cyflawni cenedlaethol blynyddol a gaiff ei fonitro gan Banel Ymgynghorol Cymru ar Gyfiawnder Ieuenctid.

Ar 17 Mai 2018, cyhoeddodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Gynllun Strategol ar gyfer 2018-2021. Yn y cynllun, nodwyd chwe blaenoriaeth strategol i gael sylw ar unwaith:

 

·         y gynrychiolaeth anghymesur o blant o rai cefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y system cyfiawnder ieuenctid

·         ymarfer gwasanaethau lleol

·         safonau cenedlaethol ar gyfer cyfiawnder ieuenctid

·         ailsefydlu a phontio rhwng gwasanaethau

·         diogelwch yn y ddalfa

·         ysgolion diogel.

 

Bydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau i gyflawni swyddogaethau statudol craidd, ond bydd ffocws hefyd ar faterion hollbwysig a materion sy'n dod i'r amlwg, megis gwrthderfysgaeth, arferion sy'n seiliedig ar drawma a thrais difrifol gan bobl ifanc. Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid a Chynllun Gweithredu i gyd-fynd ag ef. Mae'r Glasbrint yn nodi dyheadau allweddol ac egwyddorion arweiniol Cymru ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol; mae Cynllun Gweithredu'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu ymrwymiad cyffredin i archwilio'r argymhellion a wnaed gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru mewn perthynas ag:

Atal

Dargyfeirio cyn y Llys

Cymunedau

Ailsefydlu a Phontio

Y Ddalfa

Goruchwylio'r system

 

Bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd y Rhaglen Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru.

 

3.    Adnoddau

Ar gyfer 2019/20, mae cyllideb y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wedi dangos cynnydd cyffredinol o 16.4% o gymharu â 2018/19. Mae’r rhan fwyaf o ffynonellau ariannu’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn mynnu ffocws ar ddarparu ymyriadau wedi'u targedu o ran gwaith ieuenctid, gwaith atal a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Rhoddir adroddiad ffurfiol o'r grantiau naill ai bob chwarter neu bob hanner blwyddyn ac mae hyn yn gofyn am gasglu llawer o wybodaeth.

 

Mae'r cyllid sy'n benodol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid eleni yn dangos gostyngiad bach o 0.1%. Cafwyd gostyngiad o 1% yng nghyllid grant y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid; cafwyd cynnydd o £2,359 yn y cyllid craidd. Mae'r gostyngiad cyffredinol yn dod â rhai heriau yn ei sgil, wrth gwrs, gan fod costau staff yn codi o flwyddyn i flwyddyn.

 

Mae grant y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cyfrannu'n benodol at ddarparu 7 swydd sy’n gysylltiedig ag atal a lleihau troseddu yn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid. Cynyddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y cyfraniad at waith atal o £25,000 yn 2016/17 i £50,000 am y 3 blynedd nesaf; mae'r ymrwymiad hwn wedi helpu i gefnogi'r broses barhaus o gyflawni gwaith atal o fewn y gwasanaeth. Nid yw cyfraniad ariannol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o £5,000 wedi newid; mae cyfraniad Swyddog Prawf wedi’i secondio i’r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn ymrwymiad o 2.5 diwrnod yr wythnos. Mae grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc (sydd mewn Perygl o Droseddu) wedi parhau fel yr oedd yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nid yw'r arian hwn mwyach yn cael ei glustnodi'n uniongyrchol i Dimau Troseddu Ieuenctid; mae bellach yn rhan o Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ddyrannu i Awdurdodau Lleol o 2019/20.

 

Mae cynnydd cyffredinol o 26.3% wedi bod mewn cyllid sy'n gysylltiedig â Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad o'r newydd i waith ieuenctid yn 2019/20, ar ôl cynyddu Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru o £183,403 i £539,311. O fewn y cyllid hwn ceir pwyslais ar gyflawni'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn ogystal â chryfhau'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid mewn perthynas ag iechyd a lles emosiynol/meddyliol ac atal digartrefedd.

 

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru (2017/18) yn dangos fod cyllid craidd ‘Gwasanaeth Ieuenctid’ Sir Gaerfyrddin yng nghanol y tabl (12fed) o’i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill Cymru. Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid wedi'i dargedu yn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn elwa o gefnogaeth sylweddol gan Deuluoedd yn Gyntaf ac mae’n helpu cyflogi llawer iawn o staff Gwaith Ieuenctid. Mae'r gwasanaeth hefyd yn derbyn arian oddi wrth Cefnogi Pobl i ddarparu cymorth ieuenctid sy'n gysylltiedig â digartrefedd.  Mae'r prosiectau Cynnydd a Cam Nesa a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy'n ariannu nifer o staff sy'n gwneud gwaith cymorth ieuenctid, wedi dangos cynnydd bach ar gyfer 2019/20; mae'r swyddi hyn hefyd yn gofyn am arian cyfatebol yn erbyn y grŵp staffio gwaith ieuenctid ehangach. Mae’n ddiau fod cyllid grant, a ddyfernir yn bennaf ar sail flynyddol, yn golygu fod staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn teimlo mesur o ansicrwydd mewn perthynas â diogelwch eu swyddi. Mae cyllid a bennir o flwyddyn i flwyddyn hefyd yn peri heriau o safbwynt cynllunio ar gyfer nodau tymor hir a'u gosod.


 

Cymhariaeth Ariannu ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid – 2018/19 a 2019/20

CORFF CYLLIDO

CYLLIDEB DERFYNOL 2018/19

CYLLIDEB DERFYNOL 2019/20

SYLWADAU

Y Gwasanaeth Prawf

£5,000

£,5000

 

Grant Cyfiawnder Ieuenctid (Tîm Troseddu Ieuenctid)

£201,825

£199,924

Gostyngiad o 1% yn 2019/20

Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc

£201,168

£201,168

Mae'r cyllid hwn bellach yn rhan o'r Grant Plant a Chymunedau o 2019/20

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

£50,000

£50,000

 

Awdurdod Lleol – Cyllideb Graidd Cyfiawnder Ieuenctid

£424,182

£426,541

 

CYFANSWM

£882,175

£882,633

0.1% o ostyngiad mewn cyllid

 

Cymhariaeth Ariannu ar gyfer gweddill y gwasanaethau – 2018/19 a 2019/20

CORFF CYLLIDO

CYLLIDEB DERFYNOL 2018/19

CYLLIDEB DERFYNOL 2019/20

SYLWADAU

Awdurdod Lleol – Cyllideb Graidd Ieuenctid

£342,156

£354,533

 

Teuluoedd yn Gyntaf – Gwaith Ieuenctid Cymorth Ysgolion

£422,333

£422,333

Teuluoedd yn Gyntaf – Gwaith Ieuenctid Ôl-16

£188,531

£188,531

 

Cefnogi Pobl – Ôl-16

£51,782

£51,782

 

Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru

£183,403

£539,311

Cynnydd o 294% o 2018/19

Arian ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA)

£20,991

£20,991

 

Grant Cynnydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop

£116,169

£123,020

 

Grant Cam Nesa gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

£113,067

£116,920

CYFANSWM

£1,438,432

£1,817,421

 Cynnydd o 26.3% mewn cyllid

CYFANSWM CYFFREDINOL

£2,320,607

£2,700,054

Cynnydd cyffredinol o 16.4%

 

 

Cyllid Cyfiawnder Ieuenctid 2019/20*

 

ASIANTAETH

Costau cyflenwi

Taliadau mewn da

Cronfeydd dirprwyedig eraill

CYFANSWM

Cadarnhawyd 2019/20

Heddlu Dyfed-Powys

£0

£54,000

 (nodyn 1)

£0

£54,000 

Ydy

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

 £0

 

£27,449

   (nodyn 2)

£5,000

 

£32,449

 

Ydy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (nodyn 3)

£0

 

£45,280

 

£0

£45,280

 

Ydy

Cyngor Sir Caerfyrddin

 (Elfen Cyfiawnder Ieuenctid yn unig)

£426,541

£0

£0

£426,541

Ydy

Llywodraeth Cymru

Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc (sydd mewn perygl o droseddu)

 

£201,168

 

 

£0

 

 

 

£0

 

 

£201,168

 

 

Ydy

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

 (nodyn 4)

£50,000

£0

£0

£50,000

Ydy

Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Grant Cyfiawnder Ieuenctid

 

 

£199,924

 

 

£0

 

 

 

£0

 

 

 

 

£199,924

 

 

 

 

Ydy

 

CYFANSWM

£877633

£126,729

£5,000

£1,009362

 

 

 

Nodiadau:

 

*fe’i darperir yn unol â gofynion y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

1. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn secondio swyddog heddlu llawn amser i’r Gwasanaeth.

2. Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn secondio 0.5 o Swyddog Prawf i’r Gwasanaeth.

3. Mae gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid fynediad at nyrs, mewnbwn gan Ymgynghorydd Iechyd Meddwl (£10k) a mynediad at Therapi Ymddygiad Dialectig a Therapi Ymddygiad Gwybyddol.

4. Derbyniodd Timau Troseddu Ieuenctid Rhanbarthol arian gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn 2017/18


 

 

4.    Adroddiad Perfformiad

 

Yn ystod y flwyddyn, parhawyd i roi pwyslais ar gyfranogiad staff wrth lunio'r gwasanaethau a ddarperir. Cynhaliwyd Diwrnod Datblygu'r Gwasanaeth ym mis Mawrth 2019, a oedd yn gyfle i'r holl staff gyfarfod, rhwydweithio ac archwilio blaenoriaethau'r dyfodol. Rhoddodd staff hefyd gyflwyniadau ar brosiectau yr oeddent wedi bod yn gyfrifol am eu trefnu a'u cyflawni yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd cyfle hefyd i bobl ifanc gymryd rhan mewn ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r hyn y maent yn teimlo sydd angen i'r gwasanaeth roi blaenoriaeth iddo. Gofynnwyd i staff ymateb i ystod o gwestiynau a gynlluniwyd i lywio'r gwaith o gynllunio busnes ar gyfer y dyfodol. Mae Grŵp Rheoli'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wrthi'n coladu'r ymatebion a gafwyd gan y staff a gymerodd ran yn yr arolwg. Bydd y wybodaeth a ddaw i'r amlwg yn cael ei defnyddio i lywio'r broses o gynllunio busnes a phennu blaenoriaethau yn 2020/21. Gofynnwyd i'r staff hefyd, 'Yn eich barn chi, pa mor dda yr ydym yn gweithio gyda'n gilydd fel gwasanaeth?' ac roedd yr ymatebion a gasglwyd fel a ganlyn:  Ardderchog - 46%; Eithaf da - 53%; Gwael - 1%.

 

Mae nifer o Ddiwrnodau Datblygu Arferion wedi cael eu cynllunio drwy'r flwyddyn er mwyn hyrwyddo a chryfhau gwybodaeth a sgiliau. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant ar gamddefnyddio sylweddau ar draws y gwasanaeth, gan gynnwys canolbwyntio ar Linellau Cyffuriau a risgiau cysylltiedig; cyfraniad at hyfforddiant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol; a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae cymwysterau Gwaith Ieuenctid wedi cael eu hwyluso gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'u cyflwyno i staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn ehangach a staff partneriaid yn y sector gwirfoddol a'r trydydd sector.

 

Mae Grŵp Rheoli’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cwrdd bob deufis er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i ddatblygu a chadw cysylltiad â datblygiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.  Mae Rheolwyr Tîm ac Uwch-ymarferwyr hefyd yn cwrdd bob mis a chynhelir Cyfarfodydd Perfformiad y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid bob chwarter sy'n golygu bod modd monitro'n fanwl Brif Ddangosyddion Perfformiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid; gwaith atal a Phenderfyniadau y Tu Allan i'r Llys; data Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a pherfformiad Teuluoedd yn Gyntaf. Cynhelir cyfarfodydd tîm yn rheolaidd ac mae'r staff yn cael eu goruchwylio a'u harfarnu. Ceir tystiolaeth gadarn o waith amlasiantaethol yn y sir ynghyd â chydweithio rhanbarthol rhwng partneriaid Cyfiawnder Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid a rhanddeiliaid. Cyfarfu nifer o grwpiau Gorchwyl a Gorffen/gweithgorau a oedd yn cynnwys staff ar draws y gwasanaeth i gynllunio ar gyfer cyflwyno gwahanol ddarnau o waith; roedd y rhain yn cynnwys diweddaru gwefan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid (parhaus); cynllunio a pharatoi ar gyfer darparu gweithgareddau yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

 

Cynhyrchwyd 'Crynodeb o Gynllun y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Ifanc' ar ôl ymgynghori â Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

 

Yn ystod y flwyddyn, ymunodd Tîm Hawliau a Chyfranogiad Plant y Cyngor Sir â'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid. Dyma rai o'u cyflawniadau:

 

·         Hyfforddwyd 14 o bobl ifanc i fod yn Llysgenhadon Hawliau Plant.

·         Cymerodd 136 o bobl ifanc ran yn yr ymgynghoriad Iechyd a Llesiant a lywiodd Strategaeth Lesiant Sir Gaerfyrddin.

·         Cofrestrodd 25 o bobl ifanc ar Raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm gydag 11 yn ennill tystysgrifau 50 awr, 7 yn ennill tystysgrifau 100 awr ac 1 yn derbyn tystysgrif 200 awr

·         Cymerodd 17 o bobl ifanc ran mewn Gwersyll Preswyl Haf lle buont yn cymryd rhan mewn hyfforddiant cyfranogi a gweithdai.  

·         Enillodd Cadeirydd y Cyngor Ieuenctid Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Radio Sir Gâr. 

·         Gweithiodd y Cyngor Ieuenctid gyda Chynulliad Ieuenctid Sir Benfro a Chymru Ifanc i gynnwys 17 o bobl ifanc mewn Ymgynghoriad Brexit a oedd yn tynnu sylw at bryderon pobl ifanc yng Nghymru. Cafodd un aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin gyfle i gyflwyno'r adroddiad, a oedd yn manylu ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad, i'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol.

·         Cafodd aelodau o'r Cyngor Ieuenctid hyfforddiant i allu cymryd rhan yn y broses o recriwtio staff ar gyfer y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfranogiad a Hawliau Plant.

·         Bu dau aelod yn cynrychioli'r sir ar CADW, y Bwrdd Iau Diogelu Plant Rhanbarthol, a drefnwyd ac a hwyluswyd gan Tros Gynnal Plant. Bu'r aelodau yn bresennol mewn cyfarfodydd rheolaidd a gweithgareddau preswyl ac yn cyfrannu atynt, ac aethant i gyfarfod CYSUR i rannu eu safbwyntiau a'u barn â'r Bwrdd Oedolion.

 

Cynhaliwyd y Gwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid Cenedlaethol hefyd ym Mehefin 2019, gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn cael 3 enwebiad yn y rownd derfynol ar gyfer gwahanol gategorïau: Hyrwyddo Hawliau Pobl Ifanc - Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin; Gwneud Gwahaniaeth - Amber Treharne o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol - Sarah Powell o'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid. Ni wnaeth yr enwebeion ennill y wobr y tro hwn, ond roedd hyn yn gyflawniad a oedd yn destun balchder mawr gan bawb.

 

Y Camau a Gymerwyd o ran Cynllun Gweithredol y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid 2018/19

1.

Blaenoriaeth: Sicrhau bod y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn darparu gwasanaeth gwaith ieuenctid o ansawdd uchel sy'n ymatebol ac yn hygyrch ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.

 

 

Gweithgaredd

Gweithio tuag at gyflawni’r Marc Safon Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru drwy gynnal hunanasesiad yn erbyn safonau; gweithio'n unol â'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.

Cynnydd

Mae hunanasesiad yn erbyn y Safonau Arian, sef y Marc Safon Gwaith Ieuenctid, wedi'i gwblhau ac mae Cynllun Gweithredu wedi'i lunio i allu bodloni'r meini prawf perthnasol. Caiff y Marc Safon Gwaith Ieuenctid ei adolygu gan Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim; ar hyn o bryd mae'r holl asesiadau wedi eu gohirio hyd nes y ceir cyhoeddiad pellach. Fodd bynnag, bydd Cynllun Gweithredu Marc Safon y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn atgyfnerthu ac yn sefydlu prosesau allweddol o fewn y gwaith o gyflawni prosiectau a sicrhau ansawdd ar draws y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

 

Gweithgaredd

Cynnal ffocws cryf ar ddarpariaeth Clybiau Ieuenctid, gan gynnwys cysylltiadau â'r Urdd; Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr a chlybiau ieuenctid annibynnol eraill.

Cynnydd

Mae Clybiau Ieuenctid wedi parhau i fod yn gryf yn 2018-19 a sefydlwyd cysylltiadau newydd gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc tra bod y cysylltiadau presennol gyda'r Urdd a Dr Mz wedi parhau i fod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd, mae'r Urdd wedi'i gomisiynu i gynnal darpariaeth Gymraeg benodol yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Mae cefnogaeth yr Urdd wrth gynnal y ddarpariaeth hon yn amhrisiadwy ac yn rhywbeth y bydd y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn parhau ag ef am y flwyddyn sydd i ddod.

 

Mae cysylltiadau partneriaeth newydd gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc wedi bod yn llwyddiannus ac mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wedi cynnig gweithgareddau yn ystod gwyliau'r haf, ac wedi cefnogi clybiau hefyd wrth gynnal sesiynau CPR Sefydliad Prydeinig y Galon. Hyd yma, mae tri chlwb wedi derbyn y cynnig o hyfforddiant am ddim i aelodau a gwirfoddolwyr gyda mwy wedi archebu lle ar ôl Pasg 2019. Mae Aelodau a Gwirfoddolwyr yn derbyn tystysgrif cwblhau a chymhwysedd.  Cafodd aelodau'r Clwb Ieuenctid hefyd fudd o brofiadau preswyl yn ystod 2018-19. Cymerodd 9 o bobl ifanc o Glybiau Ieuenctid Streets, Tŷ-croes a Llandybie ran mewn profiad preswyl diwylliannol yn Ffrainc ym mis Awst 2018. Yn ogystal, cymerodd grŵp o bobl ifanc ran mewn ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd.

 

Cofnodwyd 7,436 o bresenoldebau yng Nghlybiau Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cyfateb i 959 o wahanol bobl ifanc. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda staff y Clwb Ieuenctid naill ai fel tîm cyfan neu ar sail 1-1 drwy gydol y flwyddyn ac mae dogfen gwricwlwm yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Ymgynghorwyd â mynychwyr y Clwb Ieuenctid er mwyn cael gwybod beth yr hoffent ei gael fel rhan o'u darpariaeth haf a gwyliau a'r gweithgareddau a ddarperir i ddiwallu anghenion y bobl ifanc o ganlyniad i hynny. Mae Clybiau Ieuenctid hefyd wedi cynnal gweithgareddau a phrosiectau achrededig i bobl ifanc gan gynnwys modiwl CPR Sefydliad Prydeinig y Galon a Gwobr John Muir.

 

Enghraifft o brosiect:

Cafodd prosiect Gwobr John Muir ei redeg mewn partneriaeth â Burns in the Community yng Nghydweli. Cynlluniodd, dyluniodd ac ymgymerodd y grŵp â'r gwaith eu hunain gyda chymorth staff arbenigol o Burns in the Community gan eu galluogi i adfer twll dŵr hynafol ar hen ffordd porthmyn, gwarchod ardal o goetir hynafol brodorol ac annog mwy o fioamrywiaeth drwy greu cynefinoedd gwahanol a darparu lloches a llety ar gyfer bywyd gwyllt. Creodd y grŵp hefyd lwybr cerdded trwy'r coetir i annog eraill i'w harchwilio a'i mwynhau.

 

Bu pobl ifanc hefyd yn mynd i Ŵyl Aml-chwaraeon Genedlaethol Cymru ar gyfer Gemau Stryd yn Stadiwm Principality Caerdydd, lle buont yn cymryd rhan mewn dros 40 o wahanol weithgareddau gyda phobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru. Mae gweithgareddau a darpariaeth wedi'u hwyluso ar gyfer pobl ifanc sy'n ymwneud â'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ar sail anghenion. Roedd darpariaeth yr haf wedi'i theilwra'n briodol drwy ymgynghori â'r grwpiau cyn ymgymryd â gweithgareddau a'u cynllunio. Cydnabyddir y gall y cyfleoedd a ddarperir drwy weithio'n integredig o fewn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid gael effaith gadarnhaol pan gânt eu defnyddio ar y cyd â chynllunio ymyrraeth cyfiawnder ieuenctid.

 

Gweithgaredd

Datblygu prosesau atgyfeirio sy’n galluogi plant a phobl ifanc i allu derbyn yr hyn sydd ei angen arnynt pan maent ei angen.

Cynnydd

Sefydlwyd proses atgyfeirio ar gyfer cymorth cyffredinol er mwyn i blant a phobl ifanc allu cael mynediad i'r hyn sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. Cynhelir cyfarfodydd dyrannu bob hanner tymor i drafod ceisiadau a chynigion prosiect o bob rhan o'r gwasanaeth, o adrannau a thimau eraill yn ogystal â mudiadau gwirfoddol allanol a sefydliadau'r trydydd sector.

 

Gweithgaredd

Darparu cyfleoedd i’r plant a'r bobl ifanc hynny all fod angen cefnogaeth, arweiniad ac anogaeth ychwanegol i gyflawni Gwobr Dug Caeredin.

Cynnydd

Cofnodwyd 2,296 o bresenoldebau yng Nghanolfan Gwobr Agored Dug Caeredin Llanelli, sy'n cyfateb i 603 o wahanol bobl ifanc. Mae'n bosibl na fyddai llawer o'r bobl ifanc hyn wedi gallu manteisio ar y wobr heb y cyfleuster hwn. Eleni, mae Canolfan Gwobr Agored ychwanegol wedi'i sefydlu mewn partneriaeth ag ysgol Heol Goffa, sy'n cefnogi cyn-ddisgyblion sydd am wneud y Wobr Aur.  Roedd llawer o'r bobl ifanc hyn hefyd wedi ymgymryd â'r Wobr Arian gyda chymorth staff Cyffredinol. Cafodd Ysgol Bro Dinefwr gymorth i redeg y Wobr Efydd gan staff y Tîm Cyffredinol a ddarparodd strwythur ar gyfer hyfforddiant ac alltaith o fewn yr ysgol. Casglodd dros 350 o bobl ifanc eu tystysgrifau dyfarniad ar lefelau Efydd, Arian ac Aur drwy gydol y flwyddyn gyda'r rheiny a dderbyniodd Wobr Aur yn cael eu gwahodd i Balas St James i dderbyn eu gwobr.

 

Gweithgaredd

Sicrhau bod gwasanaethau'n gynhwysol ac yn hygyrch i bobl ifanc ag anabledd / awtistiaeth

Cynnydd

Mae partneriaeth wedi'i ffurfio gyda'r Tîm Camau Bach er mwyn sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth yn gallu cael mynediad i ddarpariaeth gwaith ieuenctid mewn modd sydd fwyaf addas i'w hanghenion. Darparwyd gweithgareddau trwy ymgynghori â'r bobl ifanc a oedd yn mynychu'r cylch. Drwy gydol cyfnod yr haf (2018), bu pobl ifanc yn cwblhau Gwobr John Muir o ganlyniad i'w hymwneud â'r Tîm Cyffredinol, yn ogystal â modiwl CPR. Mae'r prosiectau sy'n mynd rhagddynt wedi arwain at ymweliadau â Big Pit, LC2, Amgueddfa Sain Ffagan, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r bobl ifanc ymgysylltu â'u cyfoedion mewn amgylchedd y teimlant eu bod yn ddiogel ynddo a chydag oedolion y gallant ymddiried ynddynt. Mae darpariaeth Dug Caeredin yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda'r bobl ifanc. Prynwyd adnoddau ymwybyddiaeth o anabledd o ganlyniad i gyllid grant Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae trwy Lywodraeth Cymru. Elwodd 128 o wahanol bobl ifanc ar yr adnoddau yn ystod chwarter 4 gan arwain at 160 o bresenoldebau. Mae'r Tîm Cyffredinol hefyd yn cefnogi'r Clwb Hwyl ac yn ei alluogi i weithio mewn partneriaeth ag ysgol Heol Goffa.   Mae'r prosiect yn helpu pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol ochr yn ochr â'u hymwybyddiaeth gymdeithasol. Cofnodwyd 104 o bresenoldebau ar y prosiect hwn a cheir cynllun i barhau â'r maes gwaith hwn.

 

Gweithgaredd

Darparu rhaglen gynhwysfawr yn ystod y tymor a thros y gwyliau ar gyfer plant a phobl ifanc trwy’r Tîm Cymorth Ieuenctid Cyffredinol

Cynnydd

Cymerodd 704 o wahanol bobl ifanc ran yn y ddarpariaeth wyliau ledled y Sir, a hwyluswyd gan y Tîm Cyffredinol ac a arweiniodd at 2,091 o bresenoldebau. Rhoddodd prosiectau a chyfleoedd Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid brofiadau i bobl ifanc sydd wedi sicrhau nad ydynt o dan anfantais oherwydd arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Datblygodd pobl ifanc sgiliau bywyd trosglwyddadwy drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol a grymusol sydd wedi'u hannog i fynegi eu hunain.

 

Cofnodwyd 7,175 o bresenoldebau trwy ymgysylltu â'r Tîm Cyffredinol, sy'n cyfateb i 2,016 o wahanol bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Cafodd nifer o brosiectau eu rhedeg mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill.  Roedd prosiectau penodol i Ddiwylliant Cymru yn cael eu rhedeg fel rhan o'r cwricwlwm yn ogystal â gweithgareddau a oedd yn cwmpasu llesiant ac iechyd emosiynol a meddyliol.  Roedd y prosiectau yn annog datblygiad gwytnwch, hunan-barch a hunanhyder trwy ddysgu drwy brofiadau a herio canfyddiadau o risg. Bu'n bosibl parhau â gwaith LGBTQ o ganlyniad i'r cyllid a sicrhawyd drwy'r grant Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gan Lywodraeth Cymru, er ei fod yn fach. Cymerodd 52 o wahanol bobl ifanc ran mewn cymorth a ddarperir naill ai drwy weithgareddau a chyfleoedd i gymdeithasu, gwrando ar siaradwr ysbrydoledig, cyfarfodydd neu weithgareddau. Arweiniodd y cymorth hwn at 96 o bresenoldebau mewn prosiectau/sesiynau. Mae hwn yn faes a nodwyd fel arfer da ac fel un sy'n arwain y sector yn ystod yr ymweliad Marc Safon Efydd yn 2018, ac mae'n faes sydd wedi'i glustnodi i'w ddatblygu yn y dyfodol.

 

Gweithgaredd

Cefnogi gwaith y Cyngor Ieuenctid, gan gynnwys ceisio cynrychiolaeth ehangach o bob rhan o Sir Gaerfyrddin

Cynnydd

Mae gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 27 o aelodau gweithredol sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Gynghorau Ysgolion Uwchradd, darpariaeth gyffredinol a Grwpiau Diddordeb Arbennig gan gynnwys LGBTQ, Lleiafrifoedd Ethnig, Plant sy'n Derbyn Gofal, a Chlybiau Ffermwyr Ifanc. Mae hefyd yn cynnwys pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), pobl ifanc sydd â phrofiad o iechyd meddwl a phobl ifanc sydd wedi dod i gysylltiad â'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid. Mae 74 o wahanol bobl ifanc wedi bod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin neu yng ngwaith y Cyngor Ieuenctid gyda 340 o gysylltiadau wedi bod yn ystod y 12 mis diwethaf. Cefnogwyd pobl ifanc i gynrychioli'r Cyngor Ieuenctid/Sir Gaerfyrddin ar gyrff cynrychiadol rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod barn a safbwyntiau pobl ifanc yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau ac o ddatblygu polisi yn rhanbarthol ac yn genedlaethol:

3 aelod etholedig o'r Senedd Ieuenctid

1 aelod etholedig o Senedd Ieuenctid y DU

1 cynrychiolydd o gyfarfod grŵp rheoli Cymru Ifanc

1 cynrychiolydd Llais Ieuenctid y DU

2 Aelod o Fwrdd Iau Diogelu Plant CADW

 

Bu aelodau'r Cyngor Ieuenctid yn hwyluso'r bleidlais genedlaethol 'Make Your Mark' a oedd yn annog 5,076 o bobl ifanc 11-18 oed ledled Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan a phleidleisio ar y materion pwysicaf sy'n effeithio ar eu bywydau.

 

2.

Blaenoriaeth: Cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd a llesiant priodol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gweithgaredd

 

Sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc yn cael eu hasesu’n briodol er mwyn adnabod eu hangen penodol nhw; cyfeirio plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc at wasanaethau addas.

 

Cynnydd

 

Mae pobl ifanc sy'n derbyn goruchwyliaeth statudol neu atal yn cael eu sgrinio a/neu eu hasesu (gan ddefnyddio ASSETPlus) i helpu i nodi amrywiaeth o anghenion. Caiff y sawl sy’n derbyn gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf eu hasesu trwy ddefnyddio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF). Mae prosesau asesu Cynnydd a Cham Nesa hefyd yn caniatáu ar gyfer nodi unrhyw anghenion sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiant. Cynhelir cyfarfodydd chwarterol â CAMHS ac Iechyd Da i adolygu atgyfeiriadau. Mae hyn yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw fylchau/dyblygu wrth ddarparu gwasanaethau. Mae rheolwyr tîm ac Uwch-ymarferwyr wedi bod â'r prif gyfrifoldeb dros feysydd gwaith allweddol sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiant, megis datblygu Llwybr Atgyfeirio Atal a Hunanladdiad ar gyfer pobl ifanc a sicrhau bod staff yn ymgysylltu yn unol â datblygiadau VAWDASV.

 

Adroddodd y Prosiect Teuluoedd yn Gyntaf o fewn y Tîm Cymorth Ieuenctid (8-18), o'r bobl ifanc yr ymgysylltwyd â hwy yn ystod 2018/19:

dywedodd 83.9% bod yna welliant yn eu llesiant emosiynol/meddyliol;

dywedodd 92.7% eu bod wedi gwella eu gwytnwch eu hunain;

cafodd 534 o blant a phobl ifanc gymorth i wneud mwy o ymarfer corff;

rhoddwyd gwybodaeth a chymorth i 97 o bobl ifanc mewn perthynas ag iechyd rhywiol.

 

Gweithgaredd

 

Cyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau CAMHS/Iechyd Meddwl Sylfaenol.

Cynnydd

 

Mae gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid fynediad at Ymarferydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a CAMHS arbenigol ac mae'r tîm yn gweithredu mewn modd amlasiantaeth er mwyn cyfeirio plant/pobl ifanc at yr opsiynau sydd fwyaf addas iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd y plentyn/person ifanc yn symud i ddarpariaeth oedolion; neu pan fydd pobl ifanc/teuluoedd yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad i wasanaethau am amrywiol resymau. Gall staff o fewn y tîm gynnig cymorth ymarferol, er enghraifft mynd gyda pherson ifanc i apwyntiadau meddyg teulu neu apwyntiadau ysbyty yn ôl yr angen.

 

Diffiniad o Brif Ddangosyddion Perfformiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid:  Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru y nodwyd bod ganddynt anghenion iechyd meddwl yn cael mynediad amserol i wasanaethau asesu a thriniaeth arbenigol priodol.

 

 

 

 

 

 

 

Haenau'r Ddarpariaeth

Yn seiliedig ar orchmynion statudol caeedig yn ystod Ebrill 2018 – Mawrth 2019, cafodd 23 o bobl ifanc eu sgrinio drwy asesiad ASSETPlus fel rhai yr oedd angen gwasanaeth iechyd meddwl arnynt. Roedd 4 o bobl ifanc eisoes yn derbyn gwasanaeth ac felly ni thybiwyd ei bod yn briodol eu hatgyfeirio am yr eilwaith.  Atgyfeiriwyd 6 o bobl ifanc i CAMHS gydag 1 person ifanc yn gwrthod asesiad.  Cafodd 5 o bobl ifanc eu hatgyfeirio a'u hasesu o fewn 28 diwrnod, roedd 3 yn derbyn gwasanaeth Haen 2, roedd 1 yn derbyn gwasanaeth Haen 3 ac roedd 1 yn derbyn gwasanaeth Haen 4.    Er bod 23 o bobl ifanc wedi'u sgrinio, roedd 9 o bobl ifanc wedi'u hatgyfeirio/yn cael eu gweld gan y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau, roedd 1 person ifanc nad oedd yn arddangos unrhyw arwyddion/symptomau neu faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl drwy gydol y gorchymyn ac roedd 3 o bobl ifanc na fyddent yn rhoi eu caniatâd i wneud atgyfeiriad.

 

 

C1

C2

C3

C4

Nifer y nodwyd drwy sgrinio bod angen asesiad iechyd meddwl arnynt

7

4

6

6

Nifer sy'n derbyn gwasanaeth iechyd meddwl ar hyn o bryd

0

2

1

1

Nifer a gyfeiriwyd i gael asesiad iechyd meddwl

3

1

2

0

Nifer a wrthododd wasanaeth iechyd meddwl

0

1

0

0

Nifer sy'n cychwyn asesiad iechyd meddwl

3

0

2

0

Nifer sy'n cychwyn asesiad iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad atgyfeirio

3

0

2

0

Nifer sy'n derbyn Haen 2

2

0

1

0

Nifer sy'n derbyn Haen 3

0

0

1

0

Nifer sy'n derbyn Haen 4

1

0

0

0

                         

Gweithgaredd

Darparu ymyriadau camddefnyddio sylweddau yn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid neu eu cyfeirio at ddarpariaeth briodol arall.

Cynnydd

Sefydlwyd gwasanaeth camddefnyddio sylweddau'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ym mis Ebrill 2008. Bob blwyddyn mae'r gwasanaeth yn cynhyrchu adroddiad a gyflwynir i'r Bwrdd Rheoli Lleol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnal archwiliadau ddwywaith y flwyddyn o achosion er mwyn sicrhau bod y gwaith o asesu, ymyrryd a rheoli achosion yn cael ei gynnal ar safon uchel.

 

Diffiniad o Brif Ddangosyddion Perfformiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid:  Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru y nodwyd bod ganddynt anghenion camddefnyddio sylweddau yn cael mynediad amserol at wasanaethau asesu a thriniaeth arbenigol priodol.

 

Cafodd 29 o bobl ifanc eu sgrinio drwy asesiad ASSETPlus fel rhai oedd angen asesiad camddefnyddio sylweddau arnynt; roedd 9 ohonynt yn derbyn gwasanaeth cyn i'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ymgysylltu â hwy. Atgyfeiriwyd 13 o bobl ifanc i'r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau gydag 11 o bobl ifanc yn cael eu nodi fel rhai yr oedd angen Gwasanaeth Haen 2 neu Haen 3 arnynt (gweler y tabl dros y dudalen).

 

Haenau ymyrraeth:

Haen 1

Ymyriad byr, gwybodaeth a chyngor (cyffredinol)

Haen 2

Ymyriad wedi'i dargedu

Haen 3

Ymyriad cymunedol/arbenigol

Haen 4

Triniaeth gyffuriau arbenigol i gleifion mewnol ac adsefydlu preswyl

 

 

C1

C2

C3

C4

Nifer y nodwyd drwy sgrinio bod angen asesiad Camddefnyddio Sylweddau arnynt

8

9

6

6

Nifer oedd yn derbyn gwasanaeth cyn dod i gysylltiad â'r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid

1

3

3

2

Nifer a gyfeiriwyd at Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau i gael asesiad

5

2

3

3

Nifer sy'n cychwyn asesiad camddefnyddio sylweddau

5

2

1

3

Nifer sy'n cychwyn asesiad camddefnyddio sylweddau o fewn 5 diwrnod o'r dyddiad atgyfeirio

5

2

1

3

Nifer y bobl ifanc y nodwyd bod angen triniaeth arnynt

5

2

1

3

Nifer sy'n derbyn Haen 2

4

2

1

3

Nifer sy'n derbyn Haen 3

1

0

0

0

 

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid hefyd yn cymhwyso'r un fframwaith perfformiad ar gyfer achosion anstatudol/atal ac ymyrraeth gynnar er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n brydlon i bawb y mae angen asesiad ac ymyrraeth arnynt:

 

*Gwasanaethau cyn y llys, gan gynnwys Achosion Atal, a atgyfeiriwyd i'r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau 2018/19

 

 

C1

 

C2

C3

C4

Cyfanswm

Nifer y plant/pobl ifanc

6

4

6

4

20

*Cafodd yr holl bobl ifanc uchod eu hasesu o fewn 5 diwrnod gwaith; ymhellach, cafodd pob ymyriad ei wneud o fewn 10 diwrnod gwaith.

 

Mae Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gweithio'n agos gydag Ymarferydd Diagnosis Deuol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) mewn perthynas â phlant a phobl ifanc lle ceir cysylltiad rhwng anawsterau emosiynol ac iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.  Yn ystod y cyfnod hwn, atgyfeiriwyd 4 person ifanc yn uniongyrchol o'r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau i'r Ymarferwr Diagnosis Deuol; fodd bynnag, roedd yna nifer o bobl ifanc a oedd eisoes yn gweithio gyda CAMHS cyn i'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ddod i gysylltiad â hwy.

 

Mae Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cyfarfod yn rheolaidd gyda chydweithwyr o Iechyd Da/y Tîm Iechyd Ieuenctid. Caiff pobl ifanc eu hatgyfeirio i'r tîm gan staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ar gyfer amrywiaeth o anghenion iechyd yn dilyn asesiad cynhwysfawr. Yn ystod 2018/19, gwnaed 15 o atgyfeiriadau gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd Iechyd Da hefyd yn gweithio gyda 2 blentyn/person ifanc arall cyn iddynt ddod i gysylltiad â'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ac yn ystod y cyfnod hwnnw. Cafodd y plant/pobl ifanc a atgyfeiriwyd ymyriad yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, iechyd emosiynol, perthnasoedd iach ac iechyd rhywiol. Cwblhaodd naw plentyn/person ifanc ffurflenni adborth ar ddiwedd eu hymyriad. Dywedodd 8 ohonynt fod y cymorth a gawsant yn 'ardderchog' a nododd pob un o'r 9 fod y wybodaeth yn ddefnyddiol a bod yr ymyriad hwn yn eu galluogi i wneud rhai newidiadau cadarnhaol i'w rhoi ar waith. Roedd y newidiadau hyn yn amrywio o leihau eu defnydd o sylweddau, rhoi'r gorau i ddefnyddio sylweddau penodol a gwneud defnydd o gyngor ynglŷn â lleihau niwed. Cafodd y sylwadau canlynol eu cynnwys ar eu ffurflenni adborth:

 

‘Mwynheais y sesiynau a doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw ddod i ben’

‘Dysgais lawer am y ffordd y mae alcohol yn effeithio ar y corff’

'Teimlaf yn drist fod yr ymyriad wedi dod i ben’

‘Dysgais lawer am risgiau defnyddio cyffuriau ac nid wyf yn defnyddio MDMA mwyach’.

 

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ymwybodol iawn o'r pryder cenedlaethol mewn perthynas â Throseddau Cyfundrefnol Difrifol a Llinellau Cyffuriau; cam-fanteisio troseddol; cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a chaethwasiaeth fodern.  Cyflwynwyd gwybodaeth i'r tîm staff cyfan yn Chwarter 2 er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r arwyddion a'r symptomau y gallai person ifanc fod yn rhan o weithgarwch Llinellau Cyffuriau a sut i'w gefnogi a'i ddiogelu yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Cymru Gyfan. 

 

Yn ystod y cyfnod hwn, casglodd Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ddata seiliedig ar 34 o atgyfeiriadau gan bobl ifanc i'r gwasanaeth, gan nodi'r rhai hynny yr aseswyd eu bod mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol (gyda SERAF yn ei le); y rheiny a oedd yn blant sy'n derbyn gofal a'r rheiny a atgyfeiriwyd yn ystod yr ymyriad i CAMHS, Iechyd Da a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i oedolion gan y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau.  Roedd dau achos hefyd yn rhan o'r Rhaglen Rheoli Achosion Uwch.

 

 

Mae'r wybodaeth hon yn nodi cydberthynas gref rhwng y bobl ifanc hynny a atgyfeiriwyd i Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ac sydd angen triniaeth, sydd hefyd mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio rhywiol (20%). Mae gan 29% anghenion emosiynol ac iechyd meddwl sy'n gofyn am ymyriad. Mae 23% yn blant sy’n derbyn gofal. Cafodd 2 o bobl ifanc eu cynnwys gan ddefnyddio'r Model Rheoli Achos Estynedig (ECM). Mae cysylltiadau gweithio da â chydweithwyr y Gwasanaethau Plant mewn perthynas â lleihau risgiau i'r garfan hon yn hanfodol, ac yn cynnwys mynychu cyfarfodydd Strategaeth MISPER a SERAF, Cynadleddau Amddiffyn Plant ac ati. Mae pobl ifanc sy'n gweithio gyda Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid hefyd wedi cael cynnig y cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen STAR (Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch), a ddatblygwyd gan Cymorth i Fenywod.  Mae pobl ifanc wedi elwa o'r rhaglen hon mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys ar sail 1:1 a hwyluswyd gan reolwr achos neu weithiwr camddefnyddio sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid, drwy ddarparwyr hyfforddiant a darparwyr llety â chymorth.

Trosglwyddwyd tri pherson ifanc yn llwyddiannus i wasanaethau camddefnyddio sylweddau oedolion. Mynychodd y bobl ifanc hyn nifer o benodiadau ar y cyd gyda Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r gweithiwr oedolion. Roedd hyn o gymorth i chwalu rhwystrau a lleddfu unrhyw bryderon o safbwynt cael mynediad i wasanaethau oedolion. Yn anffodus, gwrthododd 5 person ifanc arall, y nodwyd bod angen cymorth parhaus arnynt (ar ôl 18 oed), gael eu hatgyfeirio i wasanaethau oedolion. Mae gwaith wedi dechrau i gasglu'r rhesymau pam fod pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd trosglwyddo; caiff hyn ei arwain gan y Tîm Gofal Cymdeithasol ar gyfer Oedolion sy'n Camddefnyddio Sylweddau.  Mae Arbenigwr Camddefnyddio Sylweddau y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wedi datblygu holiadur yn ystod y cyfnod hwn er mwyn casglu barn y bobl ifanc sydd o fewn y cyfnod pontio hwn. Bydd gwybodaeth wedi'i choladu yn cael ei dosbarthu i asiantaethau allweddol.

 

Tlodi Misglwyf

Gweithgaredd

Darparu cynnyrch misglwyf am ddim i ferched a menywod ifanc ledled Sir Gaerfyrddin.

Cynnydd

 

Nododd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin fod Tlodi Misglwyf yn broblem sy'n wynebu merched a menywod ifanc yn y Sir, a chyda chymorth y Tîm Cyfranogiad, datblygodd brosiect #TlodiMisglwyfSirGâr a ddylanwadodd ar wariant grant yn y Sir mewn perthynas â cheisio lleihau effeithiau Tlodi Misglwyf. Creodd y prosiect flychau wedi'u llenwi â chynhyrchion misglwyf a ddosbarthwyd i bob tîm cymorth ieuenctid, ysgolion, prosiectau ieuenctid a chlybiau. Dosbarthwyd cyfanswm o 177,760 o gynhyrchion i ddarparu cynhyrchion iechyd misglwyf am ddim i ferched ifanc a menywod ifanc.

 

3.

Blaenoriaeth: Cefnogi proses datblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion a chefnogi cyrhaeddiad a phresenoldeb addysgol i blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cam Gweithredu

 

Diffiniad o Brif Ddangosyddion Perfformiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid: Cynyddu'r graddau y mae pobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn ymroi i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Cynnydd

 

Mae Swyddog Addysg y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wedi sefydlu systemau olrhain er mwyn gwirio a monitro cynnydd pobl ifanc. Ceir hefyd gyswllt da â'r Cydgysylltydd Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Cam Nesa, Cynnydd, ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant. Mae staff Cyfiawnder Ieuenctid wedi cael hyfforddiant Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ac yn cwblhau asesiadau gyda phobl ifanc o ran eu rhifedd a'u llythrennedd. Mae hyn yn helpu rheolwyr achos i asesu eu lefel academaidd yn gywir ac i gynnig darpariaeth addysgol yn y sir a fyddai'n diwallu eu hanghenion unigol orau. Bydd y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn parhau i geisio gwella perfformiad yn y maes heriol hwn.

 

Bu perfformiad cymysg yn gysylltiedig â'r Dangosodd Perfformiad Allweddol hwn. Er bod y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gwneud popeth posibl i geisio dileu rhwystrau i fynediad, mae adegau pan fydd person ifanc yn gwrthod/nid yw'n barod i dderbyn cynnig o addysg/hyfforddiant; gall ymddieithrio, neu efallai y bydd oedi cyn i berson ifanc ddechrau derbyn y ddarpariaeth. Yn ogystal, efallai nad oes darpariaeth addas ar gael ar adeg benodol. Mae systemau ar waith o fewn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r adran ehangach i ddod â staff ar draws gwasanaethau at ei gilydd i ddatrys problemau a rheoli risg. Ar adegau gall achosion symud drwy strwythurau uwch-reolwyr o fewn yr adran ehangach er mwyn ceisio datrys problemau parhaus. Yn ogystal, mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn ceisio defnyddio ei Brosiect Sgiliau Gwneud Iawn i bontio unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Mae hyn yn caniatáu i'r person ifanc gwblhau ei waith gwneud iawn, wrth hefyd ymroi'n gynhyrchiol i ddatblygu sgiliau ymarferol; gwella hyder a hunan-barch.  Roedd pob un o'r tablau isod yn dangos yr oriau Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth a gynigiwyd ac a fynychwyd ar ddechrau, yn ystod adolygiad ac ar ddiwedd gorchymyn statudol.

 

        

 

Dadansoddiad o berfformiad:

 

Pobl ifanc o Oedran Ysgol Statudol - 25 awr o hawl

·         Roedd 2 berson ifanc yn derbyn 25 awr yr wythnos

·         Cafodd oriau 2 berson ifanc eu lleihau oherwydd problemau ymddygiad a/neu eu bod yn dianc yn ystod gwersi'r prynhawn.

·         Darparwyd 10 awr i 1 person ifanc, ond nid oedd yn bresennol mewn unrhyw oriau tuag at ddiwedd yr ymyriad.

·         Gwaharddwyd 2 berson ifanc o'r ysgol ac yn ystod eu hymyriad dechreuasant dderbyn 5 awr yr wythnos o addysg yn y cartref.

·         Roedd yna 1 person ifanc nad oedd yn mynychu'r ysgol ond roedd yn derbyn 4 awr yr wythnos o addysg yn y cartref.

 

Pobl Ifanc Uwchlaw Oedran Ysgol Statudol - mae'n ofynnol iddynt fynychu 16 awr a mwy yr wythnos.

·         Roedd 17 o'r 27 o bobl ifanc yn derbyn cyfanswm o 271 awr ar ddechrau a 162 awr ar ddiwedd eu gorchymyn.

·         Roedd 10 person ifanc yn NEET (heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth). O'r 10 person ifanc hyn:

·         Dewisodd 5 person ifanc beidio â chymryd rhan mewn unrhyw addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth

·         Dechreuodd 1 person ifanc ar gwrs paratoi ar gyfer y Fyddin yn ystod y gorchymyn ond ymddieithriodd yn fuan ar ôl cychwyn.

·         Cafodd 1 person ifanc ei remandio i'r ddalfa un mis i mewn i'w orchymyn.

·         Roedd 1 person ifanc nad oedd yn cydymffurfio â'r gorchymyn, ac yn dilyn hynny cafodd amodau'r gorchymyn eu torri.

·         Gofynnwyd i 1 person ifanc adael cwrs Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth oherwydd ymddygiad ymosodol; yn dilyn hynny collodd gysylltiad gyda'r darparwr hyfforddiant.

·         Roedd 1 person ifanc yn ddi-waith oherwydd afiechyd.

·         Gorchymyn Cadw a Hyfforddi - ar ôl dedfrydu, rhyddhau ac ar ddiwedd y Drwydded.

·         Roedd 1 person ifanc yn derbyn 37 awr o Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth cyn mynd i'r ddalfa, yn ogystal ag ar gael ei ryddhau o'r carchar ac ar ddiwedd cyfnod y drwydded.

 

Ymgymerwyd â dadansoddiad o Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth yn ystod 2018, a oedd yn edrych ar y cyfnod rhwng Ebrill 18 – Medi 18. Lluniwyd adroddiad a'i gyflwyno i'r Bwrdd Rheoli yn ymwneud â 136 o blant a phobl ifanc, o'r cam atal drwodd i orchmynion statudol a'r ddalfa. Cytunwyd bod hwn yn ymarfer defnyddiol iawn y dylid ei ailadrodd gan ei fod yn caniatáu proffil manwl o statws Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth; rhesymau dros ymddieithrio neu ddiffyg darpariaeth Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth, yn ogystal ag amlygu rhai o'r rhwystrau yr oedd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a staff y Tîm Atal yn ceisio'u goresgyn wrth wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Gall materion megis ansicrwydd ynghylch llety neu addasrwydd trefniadau byw; problemau budd-daliadau a chamddefnyddio sylweddau fod yn rhwystr, ac felly mae angen i waith ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r mathau hyn o faterion er mwyn symud ymlaen i baratoi a chymell person ifanc i ystyried dewisiadau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth addas. Cydnabuwyd hefyd bod rhai pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu oherwydd problemau ymddygiad sy'n arwain at waharddiad; amserlenni llai; absenoliaeth. Mae'r dadansoddiad hefyd wedi darparu archwiliad achos defnyddiol o'r modd y cafodd achosion eu rheoli dros y cyfnod o 6 mis.

 

Gweithgaredd

Lleihau nifer y rhai sy'n gadael yr ysgol heb gymwysterau; Lleihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n wynebu risg o fynd yn NEET.

Cynnydd

Mae data Sir Gaerfyrddin yn dangos mai canran y rhai adawodd Flwyddyn 11 ac a aeth yn NEET oedd 1.8%, sy'n uwch nag 1.4% yn 2017, a hefyd mai canran y rhai a adawodd Flwyddyn 13 ac a aeth yn NEET oedd 4.09%, sy'n uwch na 3.02% yn 2017, sef 1.8% neu 32 o ddisgyblion Blwyddyn 11 a aeth yn NEET sy'n cyfateb i 96.1%, neu 1,743 o ddisgyblion yn aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Roedd nifer fach o ddisgyblion (38), naill ai heb ymateb i gysylltiad neu yr oedd yn hysbys eu bod wedi gadael Sir Gaerfyrddin. Y canlyniad oedd y 14eg gorau yng Nghymru ac roedd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 1.6%. Drwy gydol y flwyddyn, cefnogodd Cynnydd, sef y Tîm Ymgysylltu ag Ysgolion, 83 o bobl ifanc a oedd mewn mwyaf o berygl o ymddieithrio o addysg ar draws y sir. Mae'r cymorth yn cynnwys mentora, eiriolaeth, 1:1 a gwaith grŵp. Un o gryfderau penodol y flwyddyn hon oedd ffocws ar ddatblygu cynaliadwy megis ailgylchu, plannu blodau gwyllt, tyfu planhigion a gwella'r amgylchedd awyr agored yng Nghanolfan Ieuenctid y Bwlch trwy gynnal sesiwn codi sbwriel lwyddiannus iawn a chael disgyblion i gyfrannu at weithdy graffiti.

 

Gweithgaredd

Cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc sy’n NEET yn ôl at Addysg, Cyflogaeth, Hyfforddiant

Cynnydd

Fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF), cynhaliwyd Cyfarfodydd Proffil Asesu Bregusrwydd tymhorol ym mhob un o ysgolion uwchradd/canolfannau/darpariaeth amgen y sir. Mae'r broses hon yn helpu ysgolion i ddod o hyd i'r bobl ifanc hynny y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt er mwyn gwella eu presenoldeb mewn addysg, eu cyrhaeddiad a'u hymddygiad. Mae'r cyfarfod yn caniatáu i'r gwasanaeth perthnasol nodi llwybrau atgyfeirio a chyfeirio priodol fel sy'n briodol. Caiff cyfarfodydd llwytho achosion Cefnogaeth mewn Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant (SEET), dan arweiniad y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, eu cynnal yn fisol ac maent yn cynnwys ystod eang o asiantaethau wedi'u dwyn ynghyd i ganolbwyntio ar bobl ifanc 16-17 oed yn Haen 1 (nad ydynt yn hysbys i Gyrfa Cymru) a'r rheiny sydd yn Haen 2 (ddim yn barod/ddim yn gallu cael mynediad i addysg/cyflogaeth/hyfforddiant). Cynhaliwyd 10 cyfarfod SEET yn 2018/19.  

 

Enghraifft o brosiect NEET:

 

Sefydlwyd Prosiect Tanerdy gan Weithiwr Ieuenctid arweiniol o fewn y Tîm Cymorth Ieuenctid 16-25 ar ôl iddi nodi ardal yng Nghaerfyrddin y teimlid bod angen rhoi sylw iddi. Cafwyd cyswllt ag Uwch-reolwr Tir a Rheolwr Safle Cyngor Sir Caerfyrddin gyda golwg ar gael caniatâd a'r camau cynllunio. Ymgynghorwyd â phobl ifanc i ddatblygu'r prosiect a oedd yn cynnwys cynlluniau i glirio llwybrau, glanhau ac ailbeintio'r pontydd, a chreu taith gerdded Tylwyth Teg i aelodau'r cyhoedd ei mwynhau a'i harchwilio. Roedd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys cynnal a chadw a gwella'r safle, a chwblhawyd yr ail gam gan weithio mewn partneriaeth â Rathbone Training, a oedd yn cynnwys defnyddio cyfleusterau ystafell ddosbarth i ddatblygu syniadau dylunio. Cynlluniwyd arwyddion dwyieithog ar gyfer yr ardal. Cafodd y prosiect gymorth gan Brosiect Fusion a masnachwr adeiladu lleol ar ffurf rhoddion o ddeunyddiau celf a phren. Bydd cam 3 y prosiect yn dechrau yng ngwanwyn/haf 2019.

 

Cyfleoedd achrededig drwy ASDAN; Gwobr John Muir; mae Agored Cymru a SWEET wedi'u hymestyn i nifer gynyddol o sefydliadau partner lle nad yw pobl ifanc wedi gallu ennill achrediadau fel arall o bosib. Ehangwyd cwmpas y cwricwlwm i gynyddu nifer y rhaglenni sy'n canolbwyntio ar lesiant, hunan-barch a hunanhyder. Mae darpariaeth y rhaglenni hyn yn cael ei hatgyfnerthu drwy ddefnyddio system EVOLVE i roi gwybod am ymweliadau addysgol oddi ar y safle. Mae rhaglenni gweithgareddau strwythuredig wedi'u darparu drwy'r gwyliau ysgol er mwyn cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc er mwyn iddynt barhau i fod mewn cysylltiad â'r gwasanaeth a gallu cael cymorth pan fydd angen.

 

Mae sefydlogrwydd llety yn allweddol er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth, ac yn y cyfnod dan sylw cafodd 109 o bobl ifanc gymorth gydag anghenion tai. Bu'r Tîm Cymorth Ieuenctid (16-25) yn gweithio'n agos gyda Dewisiadau Tai Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gefnogi'r gwaith o gydleoli Gweithiwr Cadw mewn Cysylltiad yn Swyddfa Porth y Dwyrain, Llanelli. Mae hyn yn hyrwyddo cyswllt rhwng staff allweddol ac yn cefnogi gwasanaeth mwy ymatebol mewn perthynas ag anghenion llety a nodwyd. Bu staff yn gweithio gyda Choleg Sir Gâr i gynnal Rhaglen Rhagflas lwyddiannus am wythnos a oedd yn targedu pobl ifanc ym Mlwyddyn 11 nad oeddent wedi penderfynu ynghylch eu llwybr dilyniant. Roedd aelod o staff hefyd yn cymryd rhan ym Mhrosiect Pêl-droed Stryd Cymru sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc 16+ oed hyfforddi a chwarae yn y prosiect.

 

Cynhelir sesiynau galw heibio bob wythnos i bobl ifanc fynd iddynt yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli. Mae asiantaethau eraill hefyd yn mynd i'r sesiynau ac mae hyn yn dod â phobl ifanc i fwy o gysylltiad â gwasanaethau allweddol er mwyn gwella'r mynediad sydd ganddynt i gyflogaeth, hyfforddiant a dysgu. Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth ag Xcel Bowl yng Nghaerfyrddin gan alluogi pobl ifanc i gael mynediad i sesiwn bowlio 2 awr am ddim bob mis. Mae'r gweithgaredd hwn nid yn unig yn cynnig cyfle i fwynhau, mae ychydig hefyd yn caniatáu i bobl ifanc ymgysylltu â staff mewn amgylchedd cymdeithasol. Nododd prosiect Teuluoedd yn Gyntaf y Tîm Cymorth Ieuenctid (16-25) y perfformiad canlynol yn 2018/19:

 

Nifer y cynlluniau TAF y cyfrannwyd iddynt - 2; Cynlluniau TAF y bu gweithiwr allweddol yn gweithio arnynt - 8

Atgyfeiriadau Teuluoedd yn Gyntaf (Tîm ôl-16):

Atgyfeiriadau i'r gwasanaeth (Teuluoedd yn Gyntaf) - 139

Atgyfeiriadau a wnaed i wasanaethau eraill - 454

Nifer y bobl ifanc a fu mewn sesiynau galw heibio - 128

Nifer yr hamperi llesiant a ddosbarthwyd - 35

Nifer y bobl ifanc a ddaeth i mewn i Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth - 62

 

O dan Deuluoedd yn Gyntaf, roedd Gweithwyr Ieuenctid mewn Ysgolion wedi ymgysylltu â 616 o achosion newydd (10-18 oed) a chafodd 102 o deuluoedd eu cefnogi. Yn ogystal, cafodd 476 o bobl ifanc gymorth gyda chyfnodau pontio'r ysgol. Mae prosiectau arloesol wedi eu darparu megis: Prosiect pêl-rwyd Sêr y Byd a'r Prosiect Treftadaeth Nas Cerir.

 

 

Enghreifftiau o'r prosiect:

 

Y Prosiect Treftadaeth Nas Cerir

Mae'r prosiect hwn wedi bod ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bydd y cynlluniau ar gyfer trydedd flwyddyn yn dechrau dros y misoedd nesaf. Mae'r prosiect yn enghraifft wych o waith mewn partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid; Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin; y Prosiect Fusion, Ysgol Coedcae, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a Chyngor Tref Llanelli. Mae'r prosiect wedi helpu pobl ifanc i ddeall mwy am eu tref, ei gorffennol diwydiannol ac effaith y dirywiad economaidd. Defnyddiodd pobl ifanc amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys celf, ffotograffiaeth ac archaeoleg i ailddarganfod rhannau cuddiedig a rhannau 'nas cerir' o'r dref i'w helpu i ddeall ei gorffennol hanesyddol cyfoethog.

 

Prosiect Coed Nadolig

Yn ystod cyfnod yr hydref/gaeaf, bu staff cyfiawnder ieuenctid yn ymgysylltu â phobl ifanc ar raglen sgiliau gwneud iawn. Roedd hon wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc a oedd yn destun gorchmynion statudol, er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol wrth wneud gwaith gwneud iawn fel rhan o'u goruchwyliaeth. Roedd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn rhaglen waith yn gwneud coed Nadolig ac addurniadau gan ddefnyddio broc môr a darnau o bren. Yn dilyn hynny defnyddiwyd y coed a'r addurniadau gorffenedig hyn i godi arian at achos da.

 

Gweithgaredd

Cychwyn gwaith ymgysylltu gyda chefnogaeth Cam Nesa (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) i ddarparu gweithgarwch ychwanegol gyda phobl ifanc 16-25 oed sy’n NEET.

Cynnydd

233 o atgyfeiriadau Cam Nesa: 55 heb fod yn gymwys; cafodd 117 o atgyfeiriadau eu cefnogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; ceir 73 o atgyfeiriadau gweithredol yn weddill. Mae'r bobl ifanc/oedolion ifanc hynny sy'n dod i gysylltiad â'r rhaglen yn gallu manteisio ar amrywiaeth o ymyriadau cymorth ieuenctid sydd wedi'u cynllunio i wella eu canlyniadau addysg/cyflogaeth a hyfforddiant.

 

Gweithgaredd

Defnyddio grant Gwirvol i gyflwyno rhaglen ymgysylltu er mwyn cefnogi pobl ifanc 16-25 oed trwy gynnig cyfleoedd Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Cynnydd

Defnyddiwyd grant Gwirvol ar gyfer 23 o bobl ifanc ar draws gwahanol ardaloedd Llanelli a Rhydaman i gymryd rhan yn y gweithgareddau gwirfoddoli canlynol:

Cynllunio a gwneud cwrs cyfeiriannu ym Mharc y Mynydd Mawr sy'n addas i blant; adeiladu blychau adar ar gyfer Coedwig Troserch; mynychu cyrsiau Cymorth Cyntaf; gofal anifeiliaid yng Nghanolfan Achub Anifeiliaid Llys Nini; Diwrnod Gwasanaeth Tân (Defnyddwyr Ffordd Cyfrifol) yng Ngorsaf Dân Llanelli; gwirfoddoli yn y goedwig a glanhau traeth; arhosiad preswyl ar safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghwm Ivy, Penrhyn Gŵyr. Cafodd cyfanswm o 12 o bobl ifanc gyfle i wirfoddoli ym Mharc Gwledig Pen-bre, Many Tears a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhenrhyn Gŵyr a oedd yn cynnwys aros dros nos.

 

Gweithgaredd

Cefnogi Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i ymgynghori â phobl ifanc ac ymgyrchu am gwricwlwm i'n Paratoi ar Gyfer Bywyd

Cynnydd

Cefnogwyd Aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i gynllunio a chyflwyno Cynhadledd Ieuenctid Flynyddol a welodd fwy na 200 o bobl ifanc ac oedolion ar draws y Sir yn dod i roi eu safbwyntiau a'u barn ar gwricwlwm i'n Paratoi ar Gyfer Bywyd; cafodd Siarter Addysg 'Dysgu Go Iawn at Fywyd Go Iawn' ei chreu a oedd yn tynnu sylw at y sgiliau bywyd y mae pobl ifanc o'r farn y dylid eu dysgu mewn ysgolion. Cyflwynodd aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin eu canfyddiadau i benaethiaid uwchradd ac Uwch-reolwyr yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant gyda'r nod o ddylanwadu ar y broses o ddatblygu'r cwricwlwm lleol newydd. 

 

4.

Blaenoriaeth: Dod yn wasanaeth ‘Ymwybodol o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod’

 

 

Gweithgaredd

Caiff staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; sgrinio a ffactorau risg cysylltiedig

 

Cynnydd

Cynhaliwyd Diwrnod Datblygu Ymarfer yn ystod y flwyddyn lle cafodd pob aelod o staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid gyfle i ddilyn hyfforddiant ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Mae nifer o staff ar draws y gwasanaeth wedi derbyn hyfforddiant mewn ymarfer sy'n ymwybodol o drawma. Mae holl reolwyr achos a gweithwyr ataliol y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn gallu cyflawni gwaith Rheoli Achosion Uwch gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu/sydd wedi troseddu.

 

Parhaodd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid â'r treial Rheoli Achosion Uwch a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2017. Bydd y bobl ifanc y gweithiwyd gyda hwy o dan y gwaith Rheoli Achosion Uwch (ECM) yn derbyn ymyriadau pwrpasol gyda chefnogaeth seicolegol yn gysylltiedig â'u hanghenion penodol. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y gwaith hwn wedi arwain at ddull mwy therapiwtig yn y gwaith ehangach o reoli achosion, ac mae dealltwriaeth dda iawn ynghylch sut y gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod effeithio ar ganlyniadau pobl ifanc. Mae hyn yn helpu i hyrwyddo lefelau da o ymgysylltu â phobl ifanc yn seiliedig ar berthynas o ymddiriedaeth.

 

Yn ystod 2018, gofynnwyd i'r Pen-reolwr a'r arweinydd ECM fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru) mewn perthynas â gwaith y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wrth wella'r modd y rheolir achosion. Derbyniodd y Bwrdd Rheoli Lleol fewnbwn ar ECM fel rhan o'i raglen ddatblygu. Roedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Mr Dafydd Llywelyn, hefyd yn bresennol yn y sesiwn yn ogystal â Mr Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

5.

Blaenoriaeth: Dargyfeirio plant a phobl ifanc oddi wrth y system cyfiawnder troseddol

 

 

Gweithgaredd

Darparu trefniadau Biwro

Cynnydd

Mae trefniadau Biwro (a gyflwynwyd yn Sir Gaerfyrddin ym mis Mehefin 2014) wedi hen ennill eu plwyf ar draws Dyfed-Powys. Mae’r trefniant hwn yn gydnaws ag agenda ‘plentyn yn gyntaf, troseddwr yn ail’ Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi plant a phobl ifanc i fanteisio ar ymyriadau priodol i’w cefnogi i fyw bywydau cynhyrchiol yn rhydd o droseddu pellach. Gellir cyflwyno ymyriadau cyn mynd i’r llys e.e. darparu gwybodaeth lleihau niwed o ran camddefnyddio sylweddau; caiff rhai pobl ifanc eu cyfeirio at wasanaethau eraill, fel eu bod yn cael y cyngor, y cymorth a'r gefnogaeth briodol. Mae pobl ifanc eraill yn cymryd rhan mewn cymysgedd o ymyriadau ôl-Fiwro sydd wedi'u bwriadu i leihau'r risg o droseddu pellach. Yn rhanbarthol, mae'r Panel Craffu y Tu Allan i'r Llys yn ymgynnull i sicrhau bod prosesau dargyfeirio yn cael eu cymhwyso'n briodol.

 

 

 

              

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn ystod y cyfnod, gweinyddwyd 134 o ganlyniadau drwy'r Biwro i 122 o bobl ifanc. Roedd 16 o'r bobl ifanc hynny yn blant sy'n derbyn gofal ac roedd 12 person ifanc yn dod o'r 'tu allan i'r Sir’. Aeth 11 o bobl ifanc yn eu blaen i aildroseddu, ac aildroseddodd 1 person ifanc ddwywaith yn ystod y cyfnod. Defnyddiwyd canfyddiadau ac argymhellion Arolygiad Thematig Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ynghylch Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys (2018) yn Sir Gaerfyrddin i hunanwerthuso, dysgu ac arloesi. Yn deillio o hyn datblygwyd Cynllun Dargyfeirio Canabis yn dilyn archwiliad o droseddau canabis gerbron y Biwro yn ystod mis Mawrth i fis Medi 2018. Daethpwyd i gytundeb â'r Bwrdd Rheoli a'r Heddlu gyda golwg ar ei weithredu ym mis Mai 2019. Ers hynny, mae dau berson ifanc wedi cael canlyniad drwy'r llwybr hwn, sef merch 14 oed a gwryw 15 oed; cafodd y ddau ohonynt Ddatrysiad Cymunedol.

 

 


 

6.

Blaenoriaeth: Atal plant a phobl ifanc rhag troseddu ac aildroseddu

 

 

 

Y rheiny sy'n dod i mewn i’r system am y tro cyntaf

 

 

Mae nifer y bobl ifanc sy'n cael canlyniad sylweddol (Rhybudd Ieuenctid neu Uwch) wedi gostwng i 27 yn y cyfnod rhwng Ionawr 2018 a Rhagfyr 2018. Mae hyn yn gynnydd da.

 

Gweithgaredd

Defnyddio pecyn cymorth Offeryn Olrhain Atal; cynllunio strategaethau ymadael a chyfeirio pobl ifanc at wasanaethau atal/darpariaeth gwaith ieuenctid; derbyn atgyfeiriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol; derbyn atgyfeiriadau atal

Cynnydd

Mae swyddogaeth atal troseddu y tîm yn cael ei chefnogi ledled y rhanbarth gan gyllid Llywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae hyn yn caniatáu i staff ymgysylltu â phlant/pobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio i'n gwasanaeth lle mae risg ganfyddedig o droseddu. Mae'r gwaith hwn wedi cael ei gyflawni'n effeithiol dros nifer o flynyddoedd gan Dimau Troseddu Ieuenctid ac mae nifer y plant/pobl ifanc newydd sy'n mynd i mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol wedi parhau i fod yn isel. Mae cydweithio amlasiantaethol yn ganolog i'r gwaith.  Mae'r gwasanaeth wedi parhau i gyfrannu at Grwpiau Datrys Problemau amlasiantaeth - Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac wedi bod yn rhan o'r gwaith o ail-lunio'r prosesau yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Hefyd cafodd gwaith ei wneud i gryfhau’r rhyngwyneb rhwng Gweithwyr Ieuenctid mewn Ysgolion yn y sir a staff atal (troseddu) i sicrhau bod ymyriadau’n cael eu targedu’n fwy effeithiol ac effeithlon. 

 

Yn ystod Ebrill 2018 – Mawrth 2019, daeth 31 o bobl ifanc i ben gyda'u hymyriad atal. Mae'r graff isod yn dangos y mathau o ymyriadau a gyflwynwyd gan y gweithwyr atal.

 

 

Atgyfeiriadau Atal 2018-2019

·         Derbyniwyd 47 o atgyfeiriadau, dewisodd 10 beidio ag ymgysylltu â staff atal. Ni dderbyniwyd 37 o atgyfeiriadau oherwydd y rhesymau canlynol:

·         Roedd 1 person ifanc yn cael ei brosesu drwy'r Llys Ieuenctid ac felly'n anaddas.

·         Symudodd 3 pherson ifanc allan o'r sir.

·         Roedd 11 o bobl ifanc wedi ymwneud ag asiantaethau eraill a barnwyd bod atal yn amhriodol ar y pryd.

·         Atgyfeiriwyd 7 person ifanc ar gyfer Penderfyniad y Tu Allan i'r Llys.

·         Cyfeiriwyd 15 person ifanc at wasanaethau eraill.

 

Mae gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid berthynas gadarnhaol iawn ag Ynadon y Panel Ieuenctid, a chynhelir cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn er mwyn adolygu data thrafod datblygiadau newydd ym maes cyfiawnder ieuenctid ac wrth ddarparu ymyriadau. Cymerir gofal i sicrhau bod Ynadon y Panel Ieuenctid yn cael gwybodaeth am waith ymgysylltu a phenderfyniadau blaenorol/presennol o ran plant/pobl ifanc, gan gynnwys eu hanghenion unigol, cyn gwrandawiadau llys. Mae hyn yn helpu i wneud penderfyniadau allweddol.

Mae staff y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn sicrhau bod strategaethau ymadael ar waith ar gyfer y bobl ifanc sy'n cwblhau eu goruchwyliaeth statudol ac mae nifer o bobl ifanc yn cytuno i weithio ar ymyriadau gwirfoddol fel y gall unrhyw risgiau/anghenion a nodwyd barhau i gael sylw.

 

Defnyddir yr offeryn olrhain aildroseddu byw er mwyn gallu dadansoddi achosion yn gadarn. Cynhelir cyfarfodydd olrhain yn rheolaidd; ceir agenda sefydlog sy'n ymdrin â themâu y cytunwyd arnynt ac sy'n cael eu cylchdroi ym mhob cyfarfod e.e. oedran; angen; rhyw; math o drosedd; ethnigrwydd ac ati. Mae hyn yn rhan o ymgyrch i gadw lefelau'r bobl sy'n dod i mewn i'r system am y tro cyntaf yn isel, a hefyd i geisio atal pobl ifanc rhag dod i mewn i'r System Cyfiawnder Ieuenctid ac i leihau aildroseddu. Mae'r cyfarfod hwn hefyd yn darparu ar gyfer archwiliad o agweddau penodol ar gofnodion rheoli achosion e.e. asesiadau ASSETPlus; cofnodion cyswllt ac ati.   Yn ogystal, dyfeisiwyd matrics dyrannu achosion yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod rheolwyr ac uwch-ymarferwyr yn gallu dangos tystiolaeth o benderfyniadau y gellir eu hamddiffyn mewn perthynas â dyrannu achosion i'w goruchwylio yn briodol.

 

Data a dynnwyd o'r Offeryn Olrhain Troseddu Byw (Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid) - carfan Sir Gaerfyrddin: Ebrill 2017 – Mawrth 2018

 

Nifer y bobl ifanc yn y Garfan = 165; Nifer a aildroseddodd = 39

Nifer y troseddau pellach a gyflawnwyd = 75;

Pobl ifanc yn cyflawni 1 drosedd bellach = 23

Pobl ifanc yn cyflawni 5+ trosedd = 5; Nifer y troseddau = 26

Pobl ifanc yn aildroseddu o fewn un mis = 14; Nifer y troseddau = 32

 

                                               Aildroseddu, Troseddau ac Oedran y Bobl Ifanc

 

 

Nifer y Troseddau Pellach

 

 

Nifer y bobl ifanc yn y Garfan

CYFANSWM y troseddau pellach

CYFANSWM y bobl ifanc sy'n aildroseddu

Cyfradd aildroseddu yn ôl amlder

 

 

0

 

 

 

1

 

 

2

 

 

3

 

 

4

 

 

5 +

Cyfradd aildroseddu ddeuaidd

OED

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10 - 13

18

7

4

0.39

0

2

1

1

0

0

22.2%

14

22

29

11

1.32

0

4

2

2

0

3

50.0%    

15

54

13

7

0.54

0

5

1

0

0

1

29.2%

16

45

16

9

0.36

0

6

1

1

0

1

20.0%

17+

56

10

7

0.16

0

6

2

0

0

0

12.5%

Cyfanswm

165

75

39

0.45

0

23

7

4

0

5

23.6%

 

Yn ystod y flwyddyn, mabwysiadodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fethodoleg newydd ar gyfer mesur aildroseddu, gan symud o olrhain carfan o bobl ifanc dros gyfnod o flwyddyn, i olrhain carfan o bobl ifanc bob chwarter. Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi nodi bod y fethodoleg hon yn arwain at olrhain cyfran uwch o droseddwyr cyson dros bob chwarter ac felly bydd cyfraddau aildroseddu uwch yn cael eu cofnodi - er y credir y bydd mesurau hen a newydd yn dangos tueddiadau tebyg dros amser.

 

Wrth archwilio'r wybodaeth a gyflwynir dros y dudalen, gellir nodi bod cyfartaledd aildroseddu blynyddol Sir Gaerfyrddin, o'i bwysoli, wedi amrywio ers 2012-2013. Mae carfan lai o blant a phobl ifanc sydd wedi ymuno â'r system cyfiawnder ieuenctid ac sydd wedyn yn aildroseddu yn cyflwyno heriau wrth edrych ar y gyfradd ganrannol ar gyfer Gorffennaf 2016 i Fehefin 2017. Os oes un neu ddau berson ifanc yn y garfan yn cyflawni nifer uchel o ail-droseddau, caiff hyn effaith ddramatig ar gyfradd ganrannol y sir. Nid yw hyn yn gyffredin yn Sir Gaerfyrddin yn unig. Felly, rhoddir sylw mawr i ddefnyddio offer olrhain a dadansoddiadau achosion i sicrhau y caiff gwaith cadarn ei wneud gyda'r rheiny sydd mewn perygl o aildroseddu er mwyn lleihau'r risgiau.

 

 

Rhaglen Ddatblygu'r Bwrdd Rheoli

Yn ystod 2018-2019, mae staff a gweithwyr proffesiynol eraill wedi mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli i gynnig cyflwyniad ar feysydd gwaith penodol fel rhan o raglen ddatblygu. Mae hyn wedi cynnwys arddangos proses o lunio achos Rheoli Achosion Uwch; dadansoddiad o ddarpariaeth Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth mewn perthynas ag atal, ymyrraeth gynnar ac achosion statudol; cyflwyniad i'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ac Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Mae'r Bwrdd hefyd wedi cymryd rhan mewn proses hunanwerthuso yn erbyn Fframwaith Arolygu Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi. Cafodd Canllawiau'r Bwrdd Rheoli eu hadolygu a'u diweddaru, a gwahoddwyd Aelodau'r Bwrdd i arsylwi meysydd ymarfer allweddol er mwyn gwella gwybodaeth am y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a'i waith a dealltwriaeth ohono. Yn ystod y cyfnod, cafodd unrhyw bobl ifanc berthnasol a oedd yn dod o fewn maes gorchwyl Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rheoli a Throsglwyddo Plant gan yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol eu trafod fesul achos unigol ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd Rheoli Lleol.

Ymddygiad Rhywiol Niweidiol

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd dadansoddiad o achosion yn dyddio o 2013/14 i 2018/19. Cyflwynwyd hwn ar ffurf adroddiad i'r Bwrdd Rheoli i'w ystyried a'i drafod. Yn ystod y cyfnod, cafodd 26 o bobl ifanc ganlyniad ar gyfer 68 o droseddau rhywiol. Cyrhaeddodd nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n dod i sylw'r Tîm Troseddu Ieuenctid uchafbwynt yn 2014/15 (9 achos) ac ers hynny, mae'r niferoedd wedi gostwng i 1 achos yn 2018/19. Cafodd tri o bobl ifanc ganlyniad ansylweddol (Datrysiad Cymunedol), gyda 24 yn cael Rhybudd Ieuenctid drwodd i orchmynion statudol a wnaed yn y llys.  Ynghyd â'r Gwasanaethau Plant a CAMHS arbenigol, mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn parhau i ariannu'r Gwasanaeth Ymyrraeth Therapiwtig ar gyfer Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (TISSHB) o fewn Sir Gaerfyrddin. Cefnogir y ddarpariaeth TISSHB gan Dr Laura Davies, Seicolegydd Clinigol Arbenigol Iawn. Yr athroniaeth sy'n llywio'r TISSHB yw:

 

·         Sicrhau arfer gorau a gweithio'n ddiogel gyda'r grŵp cleientiaid hwn ar draws asiantaethau;

·         Darparu fforwm ar gyfer gweithio amlasiantaethol a rhannu cyfrifoldeb;

·         Hyrwyddo gwaith ar y cyd ar draws asiantaethau;

·         Cefnogi ymarferwyr ar draws asiantaethau i ddatblygu a chynnal sgiliau wrth weithio gydag Ymddygiad Rhywiol Niweidiol;

·         Sicrhau nad oes unrhyw ymarferwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain mewn achosion lle ceir Ymddygiad Rhywiol Niweidiol;

·         Sicrhau cydweithio ar gyfer asesiadau;

·         Darparu asesiadau ac ymyriadau prydlon i blant a phobl ifanc sy'n ymwneud ag Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a'u teuluoedd.

 

Anghymesuredd

Rhwng 1 Ebrill 2018 a Mawrth 2019, bu'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn goruchwylio 180 o bobl ifanc ar 184 o ymyriadau.  Roedd 97% (176) o'r bobl ifanc yn eu hystyried eu hunain fel 'Gwyn Prydeinig’; roedd 1 person ifanc yn ei ystyried ei hun fel Twrcaidd; roedd 2 yn eu hystyried eu hunain fel Asiaidd ac roedd 1 person ifanc yn ei ystyried ei hun fel person o hil gymysg. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wedi dod ar draws materion yn ymwneud ag anghymesuredd cynrychiolaeth plant o rai cefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder ieuenctid leol.  Mae archwiliadau achosion hefyd yn ystyried Plant sy'n Derbyn Gofal yn ogystal â'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd â nodweddion gwarchodedig eraill (Deddf Cydraddoldeb 2010). Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau yn y llys, mae'r staff yn nodi a yw plentyn yn 'derbyn gofal' ac yn preswylio mewn cartref gofal er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n ymwneud â dedfrydu yn ymwybodol o ganllawiau perthnasol Gwasanaeth Erlyn y Goron.

 

Cyfiawnder Adferol a Gwaith Gyda Dioddefwyr

Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau i gynnig cyfle i'r holl ddioddefwyr gymryd rhan mewn gwaith adferol. Cysylltir â phob dioddefwr y gellir ei adnabod ar y dechrau drwy alwad ffôn neu lythyr a chynigir ymweliad cartref i bob dioddefwr. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod llais y dioddefwr yn cael ei glywed ac yn derbyn ymateb. Mae Dulliau Adferol yn parhau i gael eu cyflwyno fel rhan o'r Biwro (y broses o wneud penderfyniadau y tu allan i'r llys), gyda llwyddiant arbennig mewn perthynas â gwaith uniongyrchol gydag adwerthwyr lleol. Mae gwaith yn parhau i wella'r defnydd o Ddulliau Adferol mewn Gorchmynion Statudol perthnasol. Mae Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Gaerfyrddin wrthi'n ail-lunio ei wasanaethau cymorth a rheoli ymddygiad ar gyfer holl ysgolion Sir Gaerfyrddin, gyda Dulliau Adferol yn rhan ganolog o'r strategaeth wedi'i hailfodelu. Mae staff Cyfiawnder Ieuenctid wedi bod o gymorth yn y datblygiadau hyn drwy ddarparu sesiynau briffio a mewnbwn hyfforddiant i arweinwyr ysgolion. Yn ystod y flwyddyn flaenorol, cafwyd hyfforddiant helaeth ar gyfer staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ac felly nid oedd angen ail-hyfforddi staff yn 2018/19.

 

 

Gwaith Gwneud Iawn - Ebrill 2018-2019

Roedd cyfanswm o 40 o bobl ifanc wedi cael oriau gwaith gwneud iawn. Yn ystod y flwyddyn dyrannwyd 790 awr; cyflawnwyd 653 awr (84%) a chollwyd 137 awr o ganlyniad i 13 person ifanc nad oedd yn bresennol. Roedd 4 person ifanc yn gyfrifol am golli mwy na 3 sesiwn; o ganlyniad cymerwyd camau gorfodi

Roedd y Prosiectau Gwneud Iawn yn cynnwys:

Ysgol leol - Peintio, Garddio a chynnal a chadw

Canolfan Ieuenctid y Bwlch - Peintio a chynnal a chadw cyffredinol

Apêl Teganau Nadolig a Hamper (a gynhelir o fis Hydref i fis Tachwedd)

Codi sbwriel

Parc lleol - darparu celfi parc

Prosiect Sgiliau Gwneud Iawn – Prosiect Coeden Nadolig

Prosiect Graffiti yng Nghanolfan Ieuenctid y Bwlch

Defnyddio'r Ddalfa

Dedfrydwyd 2 berson ifanc i'r ddalfa rhwng Ebrill 18 a Mawrth 19. Gwrywod 17 oed oedd y ddau. Roedd natur a difrifoldeb eu troseddau, yn ogystal â'r risgiau yr oedd hyn yn eu peri i'r cyhoedd, yn golygu bod dedfryd yn y ddalfa yn anochel o dan y canllawiau presennol ar ddedfrydu. Yn ystod y cyfnod, cafodd 2 berson ifanc eu remandio i'r ddalfa; aeth 1 person ifanc ymlaen i dderbyn dedfryd o garchar; mae'r person ifanc arall yn dal i fod yn y ddalfa yn aros am ganlyniad. Gwneir pob ymdrech i osgoi cadw pobl yn y ddalfa (remand) ble bynnag y bo modd. Fodd bynnag, ceir achlysuron pan fodlonir y trothwyon ar gyfer ystyried remandio rhywun i'r ddalfa.  Mae'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnig Pecynnau Cymorth Mechnïaeth pan fo'n briodol. Cynhaliwyd archwiliad o 18 achos remand gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ledled Cymru yn ystod y misoedd diwethaf. Caiff canlyniadau canfyddiadau'r archwiliad eu dadansoddi er mwyn penderfynu a oes angen rhoi sylw i unrhyw arfer ar adegau allweddol o fewn y broses gyfiawnder. Mae cynllunio dedfryd mewn modd sy'n cynnwys y person ifanc a'i rieni/gofalwyr er mwyn ei annog i beidio â throseddu yn hanfodol i waith y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid.

 

 

Ers Ebrill 2016, mae'r Bwrdd Rheoli Lleol wedi darparu trefniadau ar gyfer sefydlu Panel Ailintegreiddio ac Ailsefydlu Sir Gaerfyrddin fel y gellir goruchwylio’r maes gwaith hwn o safbwynt amlasiantaethol.  Daliwyd ati i ddefnyddio’r dull hwn a gwelwyd ei fod yn fecanwaith effeithiol yn y broses o gynllunio dedfrydau. Cafodd pob person ifanc a anfonwyd i'r ddalfa neu a remandiwyd i'r ddalfa eu hadolygu’n rheolaidd yn ystod eu dedfrydau mewn sefydliad diogel ac yn ystod y cyfnod trwydded. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael pob cyfle posibl i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risgiau y byddant yn troseddu. Mae gwaith i gryfhau ffactorau gwarchodol fel perthnasoedd teuluol, addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a llety hefyd yn cael sylw er mwyn sicrhau bod darpariaeth addas ar gael pan gaiff y person ifanc ei ryddhau/rhyddhau i’r gymuned. Byddai hynny’n cynnwys rhyddhau ar drwydded dros dro yn ôl y galw er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau ar gael iddynt yn hwylus yn y gymuned.

 

Addasrwydd y Llety

O'r 40 o orchmynion statudol caeedig, roedd 39 o bobl ifanc mewn llety addas ar ddechrau eu hymyriad gydag 1 person ifanc mewn llety yr ystyriwyd ei fod yn anaddas. Roedd 39 person ifanc mewn llety addas ar ddiwedd eu hymyriad ac roedd 1 person ifanc wedi'i remandio i'r ddalfa ac felly barnwyd bod hyn yn anaddas. Mae gan y gwasanaeth gysylltiadau da â chydweithwyr o'r Adran Dai ac â darparwyr llety. Ar hyn o bryd mae'r Adran Dai yn arwain dull amlasiantaeth i bennu'r ffordd orau o ddiwallu anghenion y boblogaeth 16-25 oed yn y sir. Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cymryd rhan yn y gwaith hwn.

 

7.

Blaenoriaeth: Defnyddio dulliau holistaidd wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd

 

 

Cam Gweithredu

Staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid i gael hyfforddiant rhianta wedi’i gomisiynu; cydweithio â phartneriaid i ddarparu rhaglenni rhianta.

Cynnydd

Ar draws y gwasanaeth, mae rhywfaint o waith rhianta/teulu sefydledig yn cael ei wneud (e.e. Rheoli Achosion Uwch; gwaith atal), a bu cynnydd yn y defnydd o ddulliau teulu cyfan mewn Gwaith Ieuenctid Mewn Ysgolion, ochr yn ochr â'r ffocws ar gydberthnasau iach a defnyddio'r rhaglen STAR. Mae tri aelod o'r Tîm Cymorth Ieuenctid (8-18) wedi cael hyfforddiant i ddarparu'r rhaglen beilot Camdriniaeth y Glasoed yn Erbyn Rhieni. Mae dau Weithiwr Ieuenctid mewn Ysgolion wedi'u hyfforddi i ddarparu'r ymyrraeth rhianta Take 3 gyda phedwar cwrs wedi'u hwyluso ar y cyd. Ym mis Mai 2018, cafodd y staff hyfforddiant pwrpasol gan elusen Gweithredu dros Blant ynghylch ymyriadau byr i'w defnyddio gyda rhieni / gofalwyr.

 

Cam Gweithredu

Mwy o waith i ddatblygu dulliau Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.

Cynnydd

Bydd y staff yn dilyn hyfforddiant gloywi ar Gynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn ystod 2019 – 2020. Bydd hyn yn caniatáu i bobl ifanc gymryd mwy o ran wrth ddefnyddio'u llais yn y broses o gynllunio ac adolygu ymyriadau.

 

5.     Blaenoriaethau a Chynllun Gweithredol 2019/20

Ers 2016, mae Cynllun Busnes sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid cyfan wedi'i gynhyrchu. Ystyriwyd bod hyn yn ffordd briodol o gynllunio a rheoli perfformiad ym mlynyddoedd cynnar integreiddio. Dylid nodi, ar hyn o bryd, bod nifer o achosion busnes yn cael eu hysgrifennu bob blwyddyn yn gysylltiedig â gwahanol haenau o gyllid y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yr adroddir yn eu herbyn naill ai bob chwarter neu bob hanner blwyddyn (e.e. Grant Strategaeth Ieuenctid; y Grant Plant a Chymunedau; Cyllid Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac ati). Felly, er mwyn symleiddio'r drefn adrodd ymhellach, y bwriad yw y bydd 2019/20 yn symud tuag at gynhyrchu Cynllun Strategol Cyfiawnder Ieuenctid yn unol â chanllawiau ymarfer y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Yn ystod 2019/20, bydd y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn parhau i weithio mewn modd integredig gyda gweledigaeth gyffredin, egwyddorion craidd a blaenoriaethau. Mae sicrhau bod y gwasanaeth yn ategu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn hanfodol i hyn oll; bod ymarfer diogelu yn sail i gyflwyno gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd; hefyd bod datblygu'r gweithlu yn digwydd yn unol â pholisi a chanllawiau cyfiawnder ieuenctid a gwaith ieuenctid. Bydd hunanasesiad yn erbyn Safonau Arolygu Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn parhau. Bydd Adroddiadau Arolygu Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi yn llywio ac yn llunio'r modd y caiff yr ymarfer ei gyflawni, yn ogystal ag argymhellion o adroddiadau thematig a gyhoeddwyd ac adroddiadau neu ymholiadau arolygu perthnasol eraill. Bydd Cynllun Gweithredu sy'n ymwneud â safonau'r Marc Safon Arian ar gyfer gwaith ieuenctid hefyd yn cael ei roi ar waith.

 

Blaenoriaethau Strategol Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2019/20

 

Yr Egwyddorion Cyffredinol:

·         Caiff plant eu trin â thegwch a pharch a chânt eu helpu i adeiladu ar eu cryfderau ac i wneud dewisiadau cadarnhaol a newidiadau yn eu bywydau.

·         Mae gan blant fynediad i wasanaethau sy'n gweithredu er eu budd pennaf, sy'n anwahaniaethol; sy'n eu hannog i gymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau sydd yn effeithio arnynt ac sy'n sicrhau eu bod yn cael defnyddio eu hawliau.

 

 

Blaenoriaeth

Nod

Meini Prawf Llwyddiant

 

Cynorthwyo plant i fyw bywydau cadarnhaol, di-drosedd ac iach drwy ddarparu gweithgaredd atal a dargedwyd

 

·         Cynnig cymorth cynnar i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd fel y bo'n briodol er mwyn eu hatal rhag gwaethygu i wasanaethau arbenigol trwy dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer gwaith atal a gwaith ymddygiad gwrthgymdeithasol

·         Defnyddio'r 'Offeryn Olrhain Atal' er mwyn pennu anghenion a risgiau pobl ifanc sy'n derbyn gwasanaethau atal troseddu

·         Sicrhau bod gwaith da mewn partneriaeth yn cael ei wneud i hyrwyddo'r canlyniadau mwyaf cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd

·         Sicrhau bod gwaith cynllunio da yn cael ei wneud ar gyfer strategaethau ymadael a chyfeirio pobl ifanc at wasanaethau eraill/darpariaeth gwaith ieuenctid

·         Sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol ar gyfer plant yn System Cyfiawnder Ieuenctid 2019 yn cael eu cymhwyso'n briodol

·         Y nifer sy'n dod i mewn i’r system am y tro cyntaf

·         Nifer yr atgyfeiriadau atal a dderbyniwyd;

·         Nifer y plant/pobl ifanc y gweithiwyd gyda hwy

·         Nifer yr atgyfeiriadau at waith atal/ieuenctid gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid

·         Nifer yr atgyfeiriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a dderbyniwyd

·         Nifer yr atgyfeiriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y gweithiwyd gyda hwy

·         Math o ymyriadau a gyflwynwyd

·         Nifer y cyfarfodydd Offeryn Olrhain Atal a gynhaliwyd

·         Archwiliad o ASSETPlus a chofnodion rheoli achosion gyda chamau y cytunwyd arnynt

 

Lleihau nifer y plant yn y system cyfiawnder ieuenctid trwy ddargyfeirio'n effeithiol

·         Sicrhau bod achosion o Wneud Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys yn cael eu cymhwyso'n gyson a'u bod yn effeithiol wrth ddargyfeirio pobl ifanc o'r llys ble bo'n briodol

·         Sicrhau bod gwaith da mewn partneriaeth yn cael ei wneud i hyrwyddo'r canlyniadau mwyaf cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd

·         Sicrhau bod gwaith cynllunio da yn cael ei wneud ar gyfer strategaethau ymadael a chyfeirio pobl ifanc at wasanaethau eraill/darpariaeth gwaith ieuenctid

·         Sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol ar gyfer plant yn System Cyfiawnder Ieuenctid 2019 yn cael eu cymhwyso'n briodol

 

·         Nifer y bobl ifanc a ddargyfeiriwyd o’r llys

·         Nifer y Datrysiadau Cymunedol a gyflwynwyd

·         Nifer y Rhybuddion Ieuenctid a gyflwynwyd

·         Nifer y bobl ifanc sy'n ymwneud â chynllun peilot y Biwro (canabis)

·         Dysgu oddi wrth y Panel Craffu ar Benderfyniadau y Tu Allan i'r Llys

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol gyda chamau y cytunwyd arnynt

·         Archwiliad o ASSETPlus a chofnodion rheoli achosion gyda chamau y cytunwyd arnynt

Lleihau aildroseddu a chreu amgylcheddau diogel lle caiff plant eu hamddiffyn rhag niwed a'u cynorthwyo i ffynnu

·         Defnyddio Offeryn Olrhain Aildroseddu er mwyn goruchwylio achosion yn dda.

·         Sicrhau bod yna ddealltwriaeth gyffredin o gynnal asesiadau o ansawdd da, cynllunio ac ymyrryd ar gyfer plant a phobl ifanc

·         Sicrhau bod prosesau diogelu'r cyhoedd, rheoli risg a rheoli bregusrwydd yn cael eu rheoli'n effeithiol gan reolwyr achos yn ogystal â thrwy oruchwyliaeth gan reolwyr (MAPPA; MARAC a Chanllawiau Diogelu'r Gymuned a Diogelu'r Cyhoedd (CSPPI))

·         Lleihau'r perygl i ddioddefwyr a chymunedau

·         Atal radicaleiddio

·         Sicrhau nad oes cynrychiolaeth anghymesur o blant o rai cefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y system cyfiawnder ieuenctid yn lleol

·         Sicrhau nad oes cynrychiolaeth anghymesur o Blant sy'n Derbyn Gofal/plant neu bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig o fewn y system cyfiawnder ieuenctid yn lleol

·         Darparu rhaglen gadarn o opsiynau sydd ar gael i'r llys i gefnogi penderfyniadau dedfrydu.

·         Sicrhau bod y broses o reoli achosion yn caniatáu i raglen gadarn fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol (e.e. dulliau Rheoli Achosion Uwch)

·         Sicrhau bod gwaith di-dâl a gwneud iawn yn darparu cyfleoedd i blant/gwneud iawn i ddioddefwyr a/neu wneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned ac annog plant/pobl ifanc i ystyried newid ymddygiad

·         Sicrhau bod gwaith da mewn partneriaeth yn cael ei wneud i hyrwyddo'r canlyniadau mwyaf cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd

·         Sicrhau bod gwaith cynllunio da yn cael ei wneud ar gyfer strategaethau ymadael a chyfeirio pobl ifanc at wasanaethau atal/darpariaeth gwaith ieuenctid

·         Sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol ar gyfer plant yn System Cyfiawnder Ieuenctid 2019 yn cael eu cymhwyso'n briodol

 

·         Cyfraddau aildroseddu

·         Nifer y cyfarfodydd Offeryn Olrhain Aildroseddu a gynhaliwyd

·         Archwiliad o ASSETPlus a chofnodion rheoli achosion gyda chamau y cytunwyd arnynt

·         Nifer yr achosion CSPPI a gyfeiriwyd at reolwyr i'w goruchwylio/penderfynu arnynt

·         Nifer yr Adolygiadau Rheoli Lleol

·         Nifer y Dioddefwyr y gweithiwyd gyda hwy

·         Adborth am foddhad Dioddefwyr

·         Nifer yr oriau o waith di-dâl a gwaith gwneud iawn a gwblhawyd

·         Prosiectau gwneud iawn a gyflawnwyd

·         Atgyfeiriadau atal a wnaed

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol gyda chamau y cytunwyd arnynt

·         Dadansoddiad o'r llwyth achosion i dynnu sylw at unrhyw bryderon ynghylch anghymesuredd

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol gyda chamau y cytunwyd arnynt

 

Cadw'r defnydd o'r ddalfa ar lefel isel a sicrhau bod y gwaith o ail-setlo ac ailintegreiddio yn cael ei gynllunio mewn modd sy'n cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant

·         Sicrhau bod hyder y Llysoedd yn cael ei gynnal a bod cyfiawnder yn cael ei weinyddu i ddioddefwyr a chymunedau trwy ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel

·         Sicrhau bod y defnydd o remandio i'r ddalfa yn cael ei osgoi hyd y gellir

·         Sicrhau bod y Panel Ail-integreiddio ac Ail-setlo yn cael ei ddefnyddio er mwyn pennu'r canlyniadau gorau i bobl ifanc a ddedfrydwyd i'r ddalfa

·         Dangos bod safbwynt y dioddefwr yn amlwg ac yn ddylanwadol lle bynnag y bo'n berthnasol, a'i fod yn cyfrannu at asesu, cynllunio, ymyrryd a goruchwylio plant a phobl ifanc

·         Sicrhau bod gwaith gwneud iawn yn rhoi cyfleoedd i blant/pobl ifanc wneud iawn i ddioddefwyr a/neu wneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned ac annog plant/pobl ifanc i ystyried newid ymddygiad

 

·         Sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol ar gyfer plant yn System Cyfiawnder Ieuenctid 2019 yn cael eu cymhwyso'n briodol.

 

·         Adborth a gasglwyd o ddedfrydau

·         Nifer y bobl ifanc a remandiwyd i'r ddalfa

·         Nifer y bobl ifanc a ddedfrydwyd i'r ddalfa

·         Nifer y paneli Ail-setlo ac Ail-integreiddio a gynhaliwyd

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol

·         Bwrdd Rheoli i archwilio achosion lle cedwir pobl ifanc yn nalfa'r heddlu yn groes i ganllawiau

·         Sicrhau nad oes unrhyw anghymesuredd o ran plant a phobl ifanc

Cynorthwyo plant i fyw bywydau cadarnhaol ac iach trwy ddefnyddio gwasanaethau asesu a thrin addas ar gyfer camddefnyddio sylweddau

·         Sgrinio ac asesu pob plentyn a pherson ifanc sy'n ymuno â'n gwasanaeth

·         Cyfeirio at Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid i gael asesiad/ymyriad pellach

·         Gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd a chamddefnyddio sylweddau eraill i sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn derbyn y gwasanaeth mwyaf priodol

·         Darparu ymyriadau pwrpasol yn unol â'r angen a aseswyd

·         Ymwybyddiaeth o Linellau Cyffuriau a materion cysylltiedig yn ymwneud â cham-fanteisio

·         Ymdrin â materion yn ymwneud â diagnosis deuol

·         Cyfeirio at unrhyw wasanaethau priodol eraill

·         Sicrhau bod trefniadau pontio ar waith rhwng gwasanaethau plant a phobl ifanc yn ogystal â'r gwasanaethau i oedolion   

·         Hyfforddi'r holl staff fel bod eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau yn eu harfogi i gynorthwyo wrth sgrinio ac asesu'n briodol

·         Sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol ar gyfer plant yn System Cyfiawnder Ieuenctid 2019 yn cael eu cymhwyso'n briodol.

 

 

·         Nifer a gafodd eu sgrinio a'u hasesu

·         Nifer y bobl ifanc a atgyfeiriwyd at wasanaeth

·         Haen ymyrraeth a gynigiwyd

·         Nifer yr achosion o Linellau Cyffuriau yn Sir Gaerfyrddin

·         Cyflwyno hyfforddiant i staff gan gynnwys Llinellau Cyffuriau yn ogystal â chamfanteisio cysylltiedig ar blant/pobl ifanc

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol

Cynorthwyo plant i gael mynediad i asesiadau a thriniaethau addas ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl

·         Cyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau CAMHS/Iechyd Meddwl Sylfaenol.

·         Ymdrin â materion yn ymwneud â diagnosis deuol

·         Cyfeirio plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc at wasanaethau addas eraill.

·         Sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i sgrinio plant a phobl ifanc yn briodol

·         Sicrhau bod yna waith yn digwydd mewn partneriaeth â CAMHS

 

·         Nifer y plant/pobl ifanc a gyfeiriwyd

·         Nifer y plant a'r bobl ifanc a atgyfeiriwyd i wasanaeth diagnosis deuol

·         Nifer y bobl ifanc y cynigwyd gwasanaeth diagnosis deuol iddynt

·         Cyflwyno hyfforddiant CAMHS i staff

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol

·         Presenoldeb yng nghyfarfodydd chwarterol CAMHS/Cyfiawnder Ieuenctid

·         Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Gwasanaeth Ymyrraeth Therapiwtig ar gyfer Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (TISSHB)

Canolfan ddiogel: Mae plant a phobl ifanc yn gallu cael llety addas

 

·         Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei sgrinio a'i asesu

·         Gweithio mewn partneriaeth er mwyn atal digartrefedd.

·         Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â thai i lunio'r ddarpariaeth gynllunio a dileu rhwystrau.

 

 

·         Nifer y plant/pobl ifanc mewn llety addas

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol

·         Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd allweddol

Cynorthwyo plant i gael mynediad i gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

·         Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu sgrinio a'u hasesu

·         Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cynnig eu hawl i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

·         Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â thai i lunio'r ddarpariaeth gynllunio a dileu rhwystrau

 

 

·         Nifer y bobl ifanc sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

·         Nifer y bobl ifanc sy'n derbyn cyfarwyddyd Gyrfa Cymru

·         Defnydd o'r Offeryn Olrhain Atal ac Aildroseddu

·         Hunanasesiad Safonau Cenedlaethol

·         Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd allweddol

 

 

6. Cynllunio'r Gweithlu

 

Mae Strategaeth Datblygu Gweithlu Cyfiawnder Ieuenctid y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid 2019-21 (Rhagfyr 2018) yn cyflwyno 4 nod ac amcan ar gyfer datblygu gweithlu uchel ei gymhelliad a’i sgiliau yn y sector cyfiawnder ieuenctid. Bydd y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn monitro datblygiadau a amlinellir yn y strategaeth er mwyn sicrhau bod y gweithlu cyfiawnder ieuenctid yn parhau’n fedrus, cymelledig ac effeithiol. Mae'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyfeirio at ddatblygu Cynllun Datblygu'r Gweithlu yn y dyfodol ar gyfer 'sector amrywiol ond unedig ar bob haen’. Er nad oes strategaeth datblygu gweithlu genedlaethol ar gyfer gweithwyr ieuenctid ar waith ar hyn o bryd, caiff anghenion hyfforddiant a datblygu yr holl staff eu hystyried yn llawn yng Nghynllun Hyfforddiant y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

Bydd staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd, ffurfiol ac arfarniadau blynyddol sy’n nodi eu hanghenion datblygu proffesiynol.  Ystyrir bod secondio staff yn fewnol i'r Cyngor ac yn allanol yn rhan o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Gellir derbyn hyfforddiant corfforaethol trwy’r Awdurdod Lleol, a cheir trefniant penodol gyda’r Gwasanaethau Plant er mwyn darparu hyfforddiant yn ymwneud yn benodol â phlant a phobl ifanc. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn mynnu bod staff yn cwblhau modiwlau e-ddysgu priodol a hyrwyddir trwy drefniadau Dysgu a Datblygu’r Awdurdod Lleol. Gall staff hefyd ddefnyddio Hwb Doeth y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (Hwb Adnoddau Cyfiawnder Ieuenctid) i gael mynediad at e-ddysgu penodol yn ymwneud â chyfiawnder ieuenctid.

 

Lle bo modd, bydd y gwasanaeth yn ystyried ceisiadau am secondiad gan staff er mwyn iddynt allu manteisio ar gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae staff y gwasanaeth hefyd wedi gwneud cyfraniad at gyfleoedd cenedlaethol i ddatblygu'r gweithlu e.e. Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod - Hyfforddi'r Hyfforddwr, Troseddau Casineb - Hyfforddi'r Hyfforddwr, Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn ogystal â bod yn rhan o ddatblygu hyfforddiant Rheolwr Gweithredol Timau Troseddu Ieuenctid ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae gan y gwasanaeth hefyd gynrychiolydd staff ar Banel Addasrwydd i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg.

 

Mae gan Reolwyr Tîm y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid gyfrifoldebau arweiniol dros feysydd gwaith penodol a disgwylir i bob rheolwr gydweithio i sicrhau bod y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn elwa o’u meysydd arweinyddiaeth. Bydd Diwrnodau Datblygu Arferion ar gyfer staff yn parhau i gael eu defnyddio i rannu sgiliau, canolbwyntio ar arferion sy'n dod i'r amlwg a chael hyfforddiant.

 

Bydd Cynllun Hyfforddiant y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn cael ei adolygu'n barhaus ac ychwanegir ato er mwyn iddo adlewyrchu blaenoriaethau'r gwasanaeth a rhoi trosolwg i'r rheolwyr o anghenion datblygiad proffesiynol y staff.

 

Mae gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau’n flaenoriaeth ar draws y Cyngor Sir a chaiff sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a llafar eu nodi mewn gwybodaeth a phrosesau recriwtio; mae yna nifer o staff sy'n derbyn cyrsiau Cymraeg sy’n gweddu i’w hanghenion unigol nhw.

 

Rhaid i Weithwyr Cymorth Ieuenctid a Gweithwyr Ieuenctid Cymwysedig gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Rhaid i weithwyr cymdeithasol gynnal eu cofrestriad proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth o gofnod hyfforddiant proffesiynol perthnasol.

 

Mae cyflawni ansawdd yn parhau i fod yn thema gref ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd y gwasanaeth yn gweithio yn unol â'r Safonau Cyfranogiad Pobl Ifanc a Phlant Cenedlaethol. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi gwaith yr Uwch-swyddog a'r Tîm Cyfranogiad a Hawliau Plant.

 

Bydd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a'r Bwrdd Rheoli yn parhau â phroses o hunanwerthuso yn erbyn 'Safonau ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Troseddu Ieuenctid' Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (Mawrth 2018). Bydd rhaglen ddatblygu'r Bwrdd Rheoli'n parhau, a fydd yn cynnwys archwiliadau sy'n gysylltiedig â'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid a'r Cynllun Gweithredu; Safonau Cenedlaethol (2019); arfer rheoli achosion.

 

Bydd aelodau'r Bwrdd Rheoli yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymarfer arsylwi i sicrhau eu bod yn derbyn gwybodaeth am ddatblygiadau a themâu allweddol sy'n gysylltiedig â chyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â dysgu o Adroddiadau Arolygu Thematig; yn ogystal ag ymgynghoriadau ac adroddiadau perthnasol eraill.

 

Ystyrir datblygiadau'r Gweithlu Cyfiawnder Ieuenctid gan reolwyr Timau Troseddu Ieuenctid Cymru ac mae hyn yn cynnwys llwybrau cymhwyso i gyfiawnder ieuenctid yn ogystal â'r posibilrwydd o gyflwyno Hyfforddiant Rheolwyr Gweithredol yng Nghymru, yn dilyn y rhan a chwaraeir gan staff o Dimau Troseddu Ieuenctid Cymru sy'n cyfrannu at ddatblygu'r rhaglen hyfforddi hon.

 

 

6.    Risgiau i wasanaethau'r dyfodol

 

Mae ymgynghori â staff ar draws y gwasanaeth yn dangos penderfyniad parhaus, ysgogiad ac uchelgais i ddod yn wasanaeth integredig o ansawdd uchel er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu canlyniadau da i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y flwyddyn nesaf yn un hollbwysig wrth inni barhau i atgyfnerthu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn ôl blaenoriaethau'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a bennwyd. Er y caiff pob tîm o fewn y gwasanaeth gyfrifoldeb am gyflawni eu rolau a’u swyddogaethau yn unol â nifer o fesuriadau perfformiad gwahanol, mae’n hollbwysig fod staff yn y timau hefyd yn cydweithio fel y gall plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc dderbyn lefel uchel o wasanaeth sy’n addas i’w hanghenion unigol nhw.

 

Er bod gwaith ieuenctid wedi cael hwb mawr yng nghyllid Llywodraeth Cymru eleni, mae elfennau eraill o'r cyllid wedi aros yn eu hunfan neu wedi'u lleihau (Grant Cyfiawnder Ieuenctid) ac mae hyn yn cyflwyno heriau o ran cwrdd â'r costau staffio presennol o dan nifer o ffrydiau ariannu. Gyda golwg ar hyn, bydd y gwasanaeth yn parhau i wneud ei orau i sicrhau ei fod yn effeithlon, yn effeithiol, yn greadigol ac yn ymatebol yn y prosesau cynllunio a darparu. Mae cynnal a/neu wella perfformiad a rheoli adnoddau dynol yn gofyn am reolaeth ofalus iawn i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal a bod staff yn cael eu cefnogi.

 

Mae'r prosiect Cynnydd a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop wedi'i ymestyn hyd at 2022, ac mae trefniadau ar waith hefyd i gynllunio ar gyfer yr estyniad posibl i arian Cam Nesa hyd at 2022. Mae hyn yn cynnig mesur o sefydlogrwydd i'r staff perthnasol ac yn golygu y bydd sylw agos yn parhau i gael ei roi i leihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o fewn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

 

O 1/4/19, mae Llywodraeth Cymru wedi cysoni grantiau amrywiol i fod yn ddau grant cyffredinol: y Grant Plant a Chymunedau a'r Grant Cynnal Tai. Mae'r Grant Plant a Chymunedau yn cynnwys haenau o gyllid sy'n hanfodol i ddarparu gwasanaethau gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid, sef y Grant Teuluoedd yn Gyntaf, a'r Grant Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc (sydd mewn perygl o droseddu).  Ar gyfer 2019/20, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo y bydd y lefelau ariannu yn aros yr un fath. Fodd bynnag, o safbwynt cyfiawnder ieuenctid, mae rheolwyr Timau Troseddu Ieuenctid ledled Cymru yn dymuno bod gwaith atal troseddu (sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998) yn parhau i gael ei gydnabod a'i ddiogelu o dan y trefniadau ariannu newydd o 2020/21 ymlaen. Mae'r cyllid hwn yn ariannu'r rhan fwyaf o'r gwaith atal/ymddygiad gwrthgymdeithasol, Biwro a Chyfiawnder Adferol yn Sir Gaerfyrddin, yn y rhanbarth a ledled Cymru. Mae'n bwysig cydnabod bod y rhan fwyaf o Dimau Troseddu Ieuenctid wedi gwneud y gwaith hwn ers blynyddoedd lawer, a bod staff yn meddu ar lefel ardderchog o sgiliau ac arbenigedd. Timau Troseddu Ieuenctid yw'r gwasanaeth hanfodol ar gyfer darparu pecynnau ymyrraeth penodol mewn ymateb i amrywiaeth o atgyfeiriadau gan yr Heddlu, Gwasanaethau Plant, ysgolion, seicolegwyr ac ymarferwyr cyffredinol ac ati. Yn aml gall y gwaith ymwneud â phlant a phobl ifanc ag amrywiaeth o gymhlethdodau ac mae'n cynnwys ymyriadau mewn ymateb i faterion megis ymddygiad rhywiol niweidiol ac arddangos trais ac ymddygiad ymosodol yn yr ysgol neu yn y cartref. Felly gallai unrhyw newidiadau i'r trefniant ariannu gael canlyniadau difrifol os bydd y cyllid cyfredol yn mynd yn llai neu'n cael ei gyfeirio i rywle arall. Felly gallai llwyddiant y Timau Troseddu Ieuenctid dros lawer iawn o flynyddoedd gael ei danseilio'n ddifrifol os nad ydynt yn cael eu diogelu'n ddigonol ar yr adeg hon o newid, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae Grŵp Alinio ar gyfer y grant hwn wedi'i sefydlu fel rhan o drefniadau arwain a llywodraethu.

 

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid hefyd yn derbyn swm o arian oddi wrth Cefnogi Pobl, sydd bellach yn dod o dan y Grant Digartrefedd Ieuenctid. Y bwriad yw ariannu swyddi 1.5 ac unwaith eto, gallai unrhyw fygythiad i'r arian hwn effeithio ar atal digartrefedd a/neu gymorth arfaethedig yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid a gynigir i bobl ifanc ac oedolion ifanc/rhieni ifanc sydd ag angen penodol am dai.

8: Cymeradwyo

Cymeradwywyd y cynllun busnes hwn gan Fwrdd Rheoli Lleol y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn ei gyfarfod ar .......................

 

 

 

 

Llofnodwyd --------------------------------------------

 

 

 

 

Jake Morgan

Cadeirydd Bwrdd Rheoli Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin

Atodiad 1:Proffiliau Staff - Y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid

 

 

Rheolwr Strategol (RhA)

Rheolwr Strategol (LlA)

Rheolwr Gweithredol (RhA)

Rheolwr Gweithredol (LlA)

Ymarferwyr
(RhA)

Ymarferwyr
(LlA)

Gweinyddwyr (RhA)

Gweinyddwyr (LlA)

Sesiynol

Myfyrwyr/
Hyfforddeion

Gwirfoddoli

Cyfanswm

Parhaol

 

1

 

1

4

8

2

2

 

 

 

18

Cyfnod penodol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Allanol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dros dro (gwirfoddolwyr)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

14

14

Gwag

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Secondiad - Gwasanaethau Plant

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Secondiad - Swyddog Prawf

 

 

 

 

1

 

 

 

 

 

 

 

1

Secondiad - Swyddog Heddlu

 

 

 

 

 

1

 

 

 

 

 

1

Secondiad - Iechyd

 

 

 

 

 

1

 

 

 

 

 

 

 

1

Secondiad - Addysg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Secondiad - Connexions

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Secondiad arall

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYFANSWM

 

1

 

1

6

9

2

2

 

 

14

35

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Anabl (ystyried ei hun felly)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Proffil Staff yn ôl Rôl; Rhyw; Hyfedredd yn y Gymraeg ac Ethnigrwydd

 

Rheolwyr Strategol

Rheolwyr Gweithredol

Ymarferwyr

Gweinyddol

Sesiynol

Myfyriwr

Gwirfoddoli

Cyfanswm

 

C

F

C

F

C

F

C

F

C

F

C

F

C

F

C

F

Gwyn Prydeinig

 

1

 

1

5

9

 

4

 

 

 

 

1

12

6

27

Gwyn Gwyddelig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyn Arall

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyn a Du Caribïaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyn a Du Affricanaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyn ac Asiaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cymysg Arall

 

 

 

 

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

 

Indiaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pacistanaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bangladeshaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Asiaidd Arall

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Caribïaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Affricanaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Du Arall

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

 

1

 

Tsieineaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Unrhyw grŵp ethnig arall

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ddim yn gwybod*

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYFANSWM

 

1

 

1

6

9

 

4

 

 

 

 

2

12

8

27

Siaradwyr Cymraeg

 

1

 

1

3

1

 

 

 

 

 

 

 

1

3

4

                                                          

 

Atodiad 2

Geirfa

Acronym / Term

Ystyr

 

APB

Bwrdd Cynllunio Ardal

ASB

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

ASBO

Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

ASDAN

Cymeradwyir cymwysterau ASDAN ar gyfer darpariaeth cyn ac ar ôl 16 oed gan yr awdurdodau rheoleiddio ar gyfer Lloegr (Ofqual), Cymru (Cymwysterau Cymru) a Gogledd Iwerddon

CAMHS

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

CSC

Cyngor Sir Caerfyrddin

CYSUR

Diogelu Plant a Phobl Ifanc - Uno’r Rhanbarth

Gyrfa Cymru

Corff Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd i bobl ifanc

Cymunedau yn Gyntaf

Rhaglen Llywodraeth Cymru i leihau tlodi yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru

CPN

Nyrs Seiciatrig Gymunedol

CSP

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

CYC

Cyngor Ieuenctid y Sir – grŵp cynrychioliadol ar gyfer pobl ifanc

CYPP

Partneriaeth Plant a Phobl ifanc – corff sy’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed

DPP

Datblygiad proffesiynol parhaus – sicrhau bod sgiliau a gwybodaeth staff yn gyfredol

AdAS

Adran Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg a Sgiliau (yn gyfrifol am bolisi addysg)

DTO ­

Gorchymyn Cadw a Hyfforddi

DofE

Gwobr Dug Caeredin

ECM

Model Rheoli Achosion Uwch

EOTAS

Addysgwyd heb fod mewn ysgol – plant a phobl ifanc oed statudol nad ydynt yn mynd i ysgolion gwladol prif ffrwd ond sy’n cael addysg a ddarperir gan yr awdurdod lleol (e.e. unedau atgyfeirio disgyblion, addysg yn y cartref, darpariaeth addysgol amgen)

EHE

Addysg Ddewisol yn y Cartref – plant a phobl ifanc a addysgir gartref gan eu rhieni yn dilyn penderfyniadau gan y rhieni i beidio addysgu eu plant mewn ysgolion gwladol

EPC

Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid – prif gyswllt yr Awdurdod Lleol ar gyfer cael mynediad at y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (gweler isod)

ERW

Partneriaeth gwella ysgolion ranbarthol ar gyfer y 6 Awdurdod Lleol yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru (Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin)

ESF

Cronfa Gymdeithasol Ewrop – cynllun ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol

Estyn

Corff arolygu sy’n goruchwylio cydymffurfiaeth â gofynion polisi a chyflawni Llywodraeth Cymru

ETE

Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth

Ymestyn Hawliau

Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth i bobl ifanc 11-25 oed

FACTS

Gwasanaeth Ymgynghorol Fforensig y Glasoed

Teuluoedd yn Gyntaf

Polisi a grant Llywodraeth Cymru i godi teuluoedd allan o dlodi

KPI

Dangosydd Perfformiad Allweddol

LCJB

Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol

LSCB

Bwrdd Lleol Diogelu Plant

MAPPA

MAPPA - Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd

MARAC

Cynhadledd amlasiantaethol ar gyfer asesu risg

NEET

Pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant – dosbarthiad ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed y mae’r llywodraeth yn barnu nad ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgarwch cynhyrchiol

OCN

Mae’r Rhwydwaith Coleg Agored yn darparu ar gyfer dyfarnu cymwysterau hyblyg

PBB

Cyllidebu Seiliedig ar Flaenoriaethau – y rhaglen barhaus o wneud toriadau i gyllideb gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin

PSR

 Adroddiad Cyn Dedfrydu

RJ

 Cyfiawnder Adferol

AAA

Anghenion Addysgol Arbennig

STAR

Rhaglen Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch

SWEET

Rhaglen dysgu a datblygu sgiliau yw SWEET sy'n cynnig cymhwyster arbenigol BTEC Lefel 1 neu 2 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol

VAP

Proffil Asesu Bregusrwydd/Bod yn Agored i Niwed – taenlen a ddefnyddir i adnabod pobl ifanc sy’n wynebu risg o fynd yn NEET yn seiliedig ar bresenoldeb, cyflawniad ac ymddygiad pobl ifanc

WAO

Swyddfa Archwilio Cymru

WDI

Dangosyddion Datganoledig Cymru

LlC

Llywodraeth Cymru

WLGA

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

YEPF

Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid – strategaeth lleihau NEET Llywodraeth Cymru

YJB

Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

YJMIS

YJMIS – Gwasanaeth Gwybodaeth Reoli Cyfiawnder Ieuenctid

YOPS

Y Gwasanaeth Troseddu ac Atal Troseddu Ieuenctid

YOT

Tîm Troseddu Ieuenctid

YMC

Rheolwyr Timau Troseddu Ieuenctid Cymru

YRO

Gorchymyn Ailsefydlu Ieuenctid

YSS

Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid