Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

 

Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

 

Mehefin 2019


 

Mynegai

                                                                                                                                               

 

Rhagair

1.    Cefndir

2.    Dull

3.    Canfyddiadau ac Argymhellion

4.    Casgliadau a’r Camau Nesaf

5.    Atodiadau:

a.      Amcangyfrif o gostau gweithredu’r argymhellion

 

b.      Cylch Gorchwyl Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

c.       Rhanddeiliaid, partneriaid a phartïon â buddiant sydd wedi cyflwyno gwybodaeth ac awgrymiadau i’r Grŵp Gorchwyl

d.      Ymgynghoriad Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin – Adroddiad Cryno

e.      Adroddiad Cynhadledd Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin – 7 Medi 2018

 

 

 

 

 

 

 


Rhagair gan y Cadeirydd

                                                                                                                                                 

Mae’n bleser mawr gennyf, fel Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig, gyflwyno’r adroddiad hwn i’m cyd-aelodau etholedig a’r cyhoedd ehangach. Mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i’r awdurdod gan mai dyma’r tro cyntaf erioed y datblygwyd strategaeth bellgyrhaeddol i adfywio ein cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar i aelodau’r Grŵp Gorchwyl am eu hymrwymiad a’u mewnbwn a hoffwn hefyd ddiolch o waelod calon i’r swyddogion sydd wedi darparu cyngor a chymorth arbenigol o’r cychwyn. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’r holl swyddogion, rhanddeiliaid, partneriaid a phartïon â buddiant sydd wedi mynychu cyfarfodydd y Grŵp Gorchwyl i gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth i ni eu hystyried ac i’r rhai a gyflwynodd eu safbwyntiau a’u sylwadau yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Mae eich cyfraniadau wedi rhoi digonedd i ni ei ystyried ac wedi llunio ein canfyddiadau a’n hargymhellion.

I’r rheini ohonom ni sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, rydym yn cymryd yn ganiataol yr agweddau lawer ar ei harddwch naturiol eithriadol, ei gymunedau gwydn a chlos, ei draddodiad amaethyddol maith a neilltuol, yr hanes a threftadaeth gyfoethog sy’n ein hwynebu ym mhob man, a’r diwylliant unigryw sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg, sydd wedi cydblethu â bywyd cymunedol yn y rhan hon o Gymru ers canrifoedd. A cheir y bobl sy’n byw yma, wrth gwrs – bob amser yn groesawgar, yn hael â’u cefnogaeth i’w gilydd, ac yn aruthrol o ymrwymedig i wneud eu cymunedau yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Mae’r adroddiad hwn wedi ceisio crynhoi’r nodweddion hynny ac adeiladu arnynt fel y gall cenedlaethau’r dyfodol werthfawrogi eu cyfoeth a’u gwerth. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi pwyslais ar greu swyddi a chyfleoedd busnes wrth wraidd y strategaeth adfywio hon fel y gallwn gadw ein pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ac annog y rhai sydd wedi gadael y sir i ddatblygu eu doniau mewn mannau eraill i ddychwelyd a’n helpu i dyfu ein heconomi. Wrth gwrs, mae angen cartrefi i fyw ynddynt ar deuluoedd ifanc, sy’n aml yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai leol, ac mae ein hargymhellion ynghylch cynllunio yn cynnwys llu o fentrau a fydd yn caniatáu i’n pobl ifanc fyw a gweithio’n lleol. Bydd y datblygiadau hyn hefyd yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg gan mai newidiadau demograffig yw un o’r rhesymau allweddol am ei dirywiad graddol.

Mae angen i ni hefyd gynyddu dyheadau proffesiynol ac ysbrydoli entrepreneuriaid i gynnig syniadau fel y gallwn sefydlu busnesau mewn cymunedau gwledig a gwneud defnydd arloesol o adeiladau amaethyddol gwag neu segur i greu canolfannau economaidd bywiog. Bydd addysg a sgiliau, a llythrennedd digidol yn arbennig, yn chwarae rhan ganolog yn ein huchelgais ar gyfer y sir. Fodd bynnag, gellir cyflawni hyn dim ond os gallwn wella darpariaeth band eang ar draws holl rannau Sir Gaerfyrddin wledig fel nad yw cysylltedd digidol yn dod yn rhwystr i ddatblygu gwledig. Mae gwella’r seilwaith o ran cysylltu cymunedau â gwasanaethau a phlatfformau digidol wrth wraidd y strategaeth.

Elfen allweddol arall o adfywio gwledig yw datblygiad ein trefi cefn gwlad, sy’n drefi marchnad yn draddodiadol, a’n nod yw lansio ‘Menter Deg Tref Wledig’ a fyddai’n sicrhau bod ein canolfannau cymdeithasol a busnes traddodiadol yn gynaliadwy o safbwynt economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at

weithio gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein trefi gwledig a’r pentrefi cyfagos i ddatblygu cynlluniau unigol ar gyfer adnewyddu. Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau angori allweddol i annog mwy o gaffael lleol o nwyddau a gwasanaethau fel y gallwn greu economi sylfaenol gadarn a chryfhau punt Sir Gâr.

Rydym hefyd yn cydnabod bod gennym sector amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd amrywiol y mae angen i ni ei gefnogi a’i dyfu trwy ystyried ffyrdd o glystyru busnesau â chynhyrchion o ansawdd uchel a datblygu brand Sir Gâr at ddibenion marchnata. Mae ein hymrwymiad i ddiogelu ein hamgylchedd a lleihau allyriadau carbon a’r defnydd o blastigau eisoes yn bolisi i’r Cyngor ond mae angen i ni weithio gyda phartneriaid ac asiantaethau eraill i sicrhau ein bod i gyd yn rhannu’r nodau cyffredin hyn.

Mae ein hymrwymiad fel awdurdod i adfywio ein cymunedau gwledig yn wirioneddol ac yn gyflawnadwy; fodd bynnag, mae’n bodoli mewn amgylchedd o ansicrwydd mawr oherwydd yr ystyriaethau parhaus ynghylch Brexit a’r terfyn posibl ar daliadau fferm sylfaenol. Mae’n gwbl eglur mai amaethyddiaeth a’i sector busnes cysylltiedig yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig ac y bydd unrhyw newidiadau mawr i farchnad allforio sydd eisoes yn gystadleuol a chymorthdaliadau sylfaenol o bosibl yn cael effaith drychinebus ar hyfywedd y diwydiant yn y dyfodol a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig.

Ni allwn ni fel awdurdod lleol ddylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd, yn Llundain ac ym Mrwsel, ond rydym yn annog ein cynrychiolwyr yn gryf i wneud beth bynnag y gallant i ddiogelu dyfodol Sir Gaerfyrddin wledig a Chymru wledig. Mae hyn yn hanfodol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw, gweithio a threulio eu hamser hamdden mewn cymunedau lle gellir cynnal traddodiadau a werthfawrogir, ond sydd hefyd yn ddigon gwydn i addasu i dirwedd gymdeithasol ac economaidd sy’n newid yn barhaus. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio crynhoi’r cydbwysedd hollbwysig hwnnw rhwng cadwraeth a chynnydd.

 

Y Cynghorydd Cefin Campbell

Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig

Cadeirydd Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

1.  Cefndir

                                                                                                                                               

Cafwyd ystyriaeth ar ddechrau myfyrdodau’r Grŵp Gorchwyl o sut y dylem ddiffinio ‘gwledig’ yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin. Gan fod Strategaeth Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin wedi cael ei chyhoeddi fel y fframwaith ar gyfer darparu Cynllun Datblygu Gwledig 2014–2020, cytunwyd y byddai’n fuddiol defnyddio’r diffiniad hwnnw fel y sail ar gyfer unrhyw ddadansoddiad a thystiolaeth ystadegol ond na fyddai torbwynt pendant o ran ffiniau yn rhan o ystyriaethau ac argymhellion y Grŵp Gorchwyl gan fod cymunedau gwledig yn tueddu i fod â chylchoedd eang o ddylanwad a chysylltedd sy’n aml uwchlaw ffiniau daearyddol.

Ystyrir felly bod y wardiau a nodir yn y tabl isod yn wardiau gwledig Sir Gaerfyrddin.

WARDIAU SYDD WEDI EU CYNNWYS YN Y CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG

1)

Abergwili

14)

Cydweli

27)

Llangyndeyrn

2)

Gogledd Tref Caerfyrddin

15)

Talacharn

28)

Llan-non

3)

De Tref Caerfyrddin

16)

Llanboidy

29)

Llansteffan

4)

Gorllewin Tref Caerfyrddin

17)

Llanddarog

30)

Llanybydder

5)

Cenarth

18)

Llandeilo

31)

Maenordeilo a Salem

6)

Cil-y-cwm

19)

Llanymddyfri

32)

Pen-bre

7)

Cynwyl Elfed

20)

Llandybïe

33)

Pontyberem

8)

Cynwyl Gaeo

21)

Llanegwad

34)

Cwarter Bach

9)

Y Garnant

22)

Llanfihangel Aberbythych

35)

Sanclêr

10)

Glanaman

23)

Llanfihangel-ar-arth

36)

Llanismel

11)

Y Glyn

24)

Llangadog

37)

Tre-lech a’r Betws

12)

Gors-las

25)

Llangeler

38)

Trimsaran

13)

Yr Hendy

26)

Llangynnwr

39)

Hendy-gwyn ar Daf

 

Mae’n rhaid nodi hefyd y cafwyd gafael ar y rhan fwyaf o’r dystiolaeth isod o adolygiad canol tymor o’r Strategaeth Datblygu Lleol a gynhaliwyd gan Wavehill: social and economic research, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019.

Roedd 186,500 o bobl yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyfan yn 2017, sy’n cynrychioli 6% o boblogaeth Cymru. Cynyddodd y boblogaeth yn Sir Gaerfyrddin 2.9% yn y degawd hyd at 2017, sy’n llai na’r cynnydd o 4% a welwyd ledled Cymru yn ystod yr un cyfnod.[1]

Wrth ystyried wardiau gwledig Sir Gaerfyrddin (a nodir uchod), nodir bod 112,921 o bobl yn byw yn Sir Gaerfyrddin wledig, sy’n cynrychioli 61% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r ganran o holl drigolion Cymru yr ystyrir eu bod yn byw mewn ardaloedd gwledig, sef 33%.

Mae Ffigur 1 isod yn dangos bod gan Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd boblogaeth fwy o bobl dros 65 oed (23.3%) o’i chymharu â chyfartaledd Cymru (20.6%). O ganlyniad, mae’r gymhareb dibyniaeth henoed, sef nifer y bobl dros 65 mlwydd oed o bob 1,000 o bobl rhwng16 a 64 mlwydd oed, yn uwch yn Sir Gaerfyrddin (339) nag yng Nghymru (289). Mesuriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw’r gymhareb dibyniaeth henoed ac fe’i defnyddir i ddeall y cydbwysedd yn y boblogaeth ac anghenion y ddemograffeg, h.y. po uchaf yw nifer y bobl 65 oed a hŷn fesul 1,000 yn y boblogaeth oedran gweithio (16 to 64), y mwyaf yw’r anghenion.

 

Ffigur 1: Demograffeg Oedran Poblogaeth yn Sir Gaerfyrddin a Chymru, 2017

Ffynhonnell: Amcangyfrifon Poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae Ffigur 1 hefyd yn dangos bod cyfran y bobl ifanc (16–24) yn is yn Sir Gaerfyrddin (9.4%) nag yng Nghymru (11.3%).

Hefyd, 42.3 yw’r oedran cyfartalog (cymedrig) yn Sir Gaerfyrddin, sydd bron i ddwy flynedd yn uwch na ledled Cymru gyfan, sef 40.6.

Gellir esbonio’r twf mewn poblogaeth a ddisgrifir uchod yn rhannol trwy batrymau mudo mewnol rhwng awdurdodau lleol yn y DU. Mae Ffigur 2 drosodd yn dangos y bu mwy o bobl yn ymfudo i Sir Gaerfyrddin o awdurdodau lleol eraill na wnaeth allfudo yn y pum mlynedd rhwng 2012 a 2016. Roedd cyfanswm mudiad mewnol net o bron i 2,000 o drigolion newydd i mewn i Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfnod. Mae’n ymddangos bod cyfraddau mudo mewnol i mewn i’r sir yn cynyddu gyda net o 630 yn 2016 o’i gymharu â net o 250 yn 2012.

 


 

Ffigur 2: Mudo mewnol net i mewn i Sir Gaerfyrddin, 2012–2016

Ffynhonnell: Data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (yn seiliedig ar gyfuniad o sawl set ddata weinyddol)

Caiff y data mudo mewnol net hyn eu dadansoddi fesul categori oedran yn Ffigur 3 isod. Mae’r allosodiad hwn yn datgelu tueddiad cyffredinol tebyg dros y pum mlynedd pan fu colled fudo net yn y categori oedran 15–19, wedi ei dilyn, yn y mwyafrif o flynyddoedd, gan fân gynnydd yn y grŵp oedran 20–24.

 

Ffigur 3: Mudo mewnol net i mewn i Sir Gaerfyrddin fesul categori oedran, 2012–2016

Ffynhonnell: Data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (yn seiliedig ar gyfuniad o sawl set ddata weinyddol)

 

Yn ôl Cyfrifiad 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg o holl siroedd Cymru, gyda 78,048 yn gallu siarad Cymraeg, sef 43.9% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, wrth ystyried wardiau gwledig Sir Gaerfyrddin, roedd canran y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu i 50.2% o’r boblogaeth.

Ceir tueddiad ychydig yn uwch o bobl â salwch hirdymor a chyfyngus yn Sir Gaerfyrddin, sy’n debygol o gael ei esbonio gan ddemograffeg hŷn y sir o’i chymharu’n genedlaethol. Yng Nghyfrifiad 2011, roedd gan chwarter (25%) y trigolion broblem iechyd hirdymor neu anabledd lle mae eu gweithgareddau beunyddiol wedi eu cyfyngu i ryw raddau. Mae hyn 2% yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru (23%).

Mae’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth yn cyhoeddi nifer o ystadegau ar gyflwr y farchnad lafur, gan gynnwys:

·           Cyflogaeth: Canran y bobl oedran gweithio sydd mewn cyflogaeth

·           Diweithdra: Canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a hŷn sy’n ddi-waith

·           Anweithgarwch economaidd: Pobl nad ydynt mewn cyflogaeth nac yn ddi-waith (mae’r grŵp hwn yn cynnwys y rhai sydd mewn cyflogaeth, wedi ymddeol neu’n gofalu am eu teulu)

 

Mae’r data yn awgrymu bod gan Sir Gaerfyrddin gyfradd gyflogaeth debyg i gyfartaledd Cymru, ychydig yn is na’r DU, ym mhob blwyddyn ers 2004, ond mae wedi cynyddu yn y tair blynedd diwethaf i’r un lefelau â’r DU erbyn 2017, sef ychydig yn llai na 75%. O’i chyfuno â’r diweithdra is a amlygir isod, yr effaith yw bod mwy o bobl yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, sydd o fudd i’r economi ac i gymunedau.

Ffigur 4: Cyfradd gyflogaeth – 16–64 oed yn Sir Gaerfyrddin wedi ei meincnodi yn erbyn Cymru a’r DU, 2004–2017

Ffynhonnell: Arolwg blynyddol o’r boblogaeth

Yn olaf, mae’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth hefyd yn dangos gostyngiad sylweddol i nifer y bobl sy’n economaidd anweithgar yn Sir Gaerfyrddin – i lawr o 30.9% yn 2004 i 21.6% yn 2017. Tra bod y gyfradd anweithgarwch economaidd yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru a’r DU yn 2004, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos ei bod yn cyd-fynd â chyfartaledd y DU bellach ac yn is na chyfartaledd Cymru.

Ffigur 5: % sy’n economaidd anweithgar – 16-64 oed yn Sir Gaerfyrddin wedi ei meincnodi yn erbyn Cymru a’r DU, 2004–2017

Ffynhonnell: Yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth

Mae cyfran fwy o bobl yn Sir Gaerfyrddin yn hunangyflogedig. Yn y flwyddyn ddiweddaraf (2017), canfu’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth fod 12% o’r rhai 16–64 oed yn Sir Gaerfyrddin yn hunangyflogedig o’i gymharu â 10.6% yn y DU a 9.6% yng Nghymru.

Mae chwarter (25.3%) pawb sydd mewn cyflogaeth yn gweithio oriau maith o 45 neu fwy yr wythnos ac mae hyn yn uwch na’r gyfran sy’n gweithio’r un oriau maith yn y DU (23.7%) ac yng Nghymru (21.5%). Fodd bynnag, ceir mwy o bobl yn Sir Gaerfyrddin hefyd sy’n gweithio llai na 35 awr yr wythnos (33.4%) o’i gymharu â 32.4% yng Nghymru a 30.8% yn y DU. Hefyd, mae data BRES yn dangos bod rhyw fymryn yn fwy o weithwyr rhan-amser yn Sir Gaerfyrddin fel cyfran o’r holl weithlu (36% yn 2016 o’i gymharu â 35% yng Nghymru).

Mae gwybodaeth am alwedigaethau hefyd ar gael o’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth ac mae defnyddio cyfartaledd symudol tair blynedd yn datgelu unwaith eto fod llai o bobl yn Sir Gaerfyrddin mewn galwedigaethau proffesiynol o gymharu â chyfartaledd Cymru (16.1% yn erbyn 18%). Mae gweithwyr proffesiynol cyswllt a galwedigaethau technegol yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin hefyd – 9.7% o’i gymharu â 13.1% yng Nghymru. Crefftau medrus (14.7% yn erbyn 11.6%) a gwasanaethau hamdden (11.5% yn erbyn 9.5%) yw’r galwedigaethau lle mae gan Sir Gaerfyrddin gyfran uwch. Er eu bod yn bwysig i’r economi, mae’r meysydd lle mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd is yn tueddu i fod yn alwedigaethau mwy cynhyrchiol na’r meysydd lle mae ganddynt gyfran uwch.

Gellir cyfrifo dwysedd swyddi hefyd i ddangos patrymau cymudo a’r gyflogaeth sydd ar gael mewn ardal. Yn Sir Gaerfyrddin, 0.7 oedd y gymhareb swyddi fesul preswylydd o oedran gweithio yn 2014 ac mae wedi tyfu i 0.76 erbyn hyn, yr un fath â lefel Cymru ond yn isel o’i chymharu â 0.85 yn y DU. Er bod llai o swyddi ar gael na thrigolion o oedran gweithio, sy’n dynodi allgymudo neu gyfraddau is o weithgarwch economaidd, mae’r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos marchnad swyddi sy’n cryfhau gyda chynnydd mewn cyfleoedd cyflogaeth gwirioneddol sy’n uwch na thwf y boblogaeth.

O ran enillion, mae data gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), a gynhelir ym mis Ebrill bob blwyddyn i ddarganfod gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion ac oriau a weithiwyd ar gyfer cyflogeion, yn dangos ar gyfartaledd fod trigolion yn Sir Gaerfyrddin (£26,190) yn ennill ychydig yn llai na chyfartaledd Cymru (£27,039). Yn 2018, roedd enillion cyfartalog trigolion yn union yr un faint yng Nghymru wledig, sef £26,191, ond mae pob daearyddiaeth yn llawer is na lefelau’r DU (£29,574). Ym mhob un o’r ddeng mlynedd diwethaf (2008–17) mae ASHE yn dangos bod canolrif cyflog yn Sir Gaerfyrddin tua 80–90% o gyfartaledd y DU.

Mae enillion yn y gweithle yn Sir Gaerfyrddin yn is na’r enillion seiliedig ar drigolion, sy’n dynodi bod trigolion yn cymudo allan ar gyfer cyflogaeth sy’n talu mwy mewn ardaloedd eraill, ac mae Abertawe yn gymydog pwysig. Mae enillion yn y gweithle hefyd yn is yn Sir Gaerfyrddin nag yng Nghymru (£25,500 yn erbyn £26,346) ond ychydig yn uwch nag yn ardaloedd Cymru wledig (£24,870). Mae enillion yn y gweithle wedi cynyddu 6.6% yn y pum mlynedd diwethaf, sy’n is na’r 7.7% yng Nghymru ac 8.7% yn y DU, sy’n awgrymu nad yw’r gyflogaeth gynyddol a’r nifer fwy o swyddi sy’n cael eu creu yn troi’n gyflogau uwch, o bosibl oherwydd bod y cyflenwad parod o lafur yn cadw cyflogau yn isel.

Mae incwm gwario gros aelwydydd yn cynnwys rhai alldaliadau safonol a gellir ei ddefnyddio i ddangos lefel o gost byw mewn ardal benodol gan fod treth a chyfraniadau cymdeithasol yn cael eu diystyru. Y cyfanswm yw’r swm o arian sydd gan yr holl unigolion yn y sector aelwydydd ar gael i’w wario neu ei gynilo ar ôl i fesurau dosbarthu incwm (er enghraifft, trethi, cyfraniadau cymdeithasol a budd-daliadau) gael eu gweithredu ac mae cymariaethau fesul pen yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn is na chyfartaledd Cymru gyda swm o £15,659.

Ffigur 6: Incwm gwario gros aelwydydd fesul pen (£) yn Sir Gaerfyrddin wedi ei feincnodi yn erbyn Cymru a’r DU, 2000–2016

Ffynhonnell: Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Fodd bynnag, mae’r siart hefyd yn dangos bod y bwlch wedi lleihau’n sylweddol ers dechrau’r mileniwm hwn. Yn 2001, roedd incwm gwario gros aelwydydd fesul pen yn Sir Gaerfyrddin yn 88% o gyfartaledd Cymru ac yn 76% o gyfartaledd y DU, tra ei fod i fyny i 99% o gyfartaledd Cymru ac 81% o gyfartaledd y DU yn 2016. Mae hwn yn ddangosydd cadarnhaol arall ar gyfer llwyddiant economaidd yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhywbeth i’w fonitro fel un metrig o ffyniant cyfartalog trigolion.

Mae gwerth ychwanegol gros yn asesu’r allbwn economaidd a gynhyrchir gan ranbarth o bob busnes a sefydliad. Cynhyrchodd Sir Gaerfyrddin gyfanswm gwerth £2.95 biliwn o werth ychwanegol gros yn 2017, sy’n 4.8% o’r holl werth ychwanegol gros a gynhyrchwyd yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 28.7% dros y degawd diwethaf, yn debyg i lefel y twf yng Nghymru (28.1%) yn ystod yr un cyfnod. Gwerth ychwanegol gros fesul pen yw’r mesuriad gorau i gymharu perfformiad economaidd rhanbarthau o wahanol feintiau. Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu bod gwerth ychwanegol gros fesul pen wedi bod yn gyson is yn Sir Gaerfyrddin nag yng Nghymru a’r DU dros y ddau ddegawd diwethaf. Yn y data diweddaraf yn 2015, cofnododd Sir Gaerfyrddin werth ychwanegol gros fesul pen o £15,159 o’i gymharu â £18,535 yng Nghymru a £25,878 ledled y DU.

Mae gwerth ychwanegol gros fesul diwydiant yn cynnig dynodiad pellach o’r meysydd cymharol o allbwn a phwyslais economaidd. Yn 2017, roedd allbwn yn Sir Gaerfyrddin wedi ei rannu ymhlith Iechyd, a gyfrannodd 14.1% at werth ychwanegol gros, a Manwerthu ac Eiddo Tirol, a oedd yn ysgogi 12.7% a 12.5% arall yn eu trefn, tra oedd sectorau cynhyrchiant uchel a gwerth uchel fel Gweithgareddau Ariannol ac Yswiriant a Gwybodaeth a Chyfathrebu yn cyfrannu 2% yn unig at werth ychwanegol gros. Rhennir goruchafiaeth sectorau â chyflogau is a chynhyrchiant is o’u cymharu â meysydd gwerth uchel ar draws Gymru wledig ond mae’n dal yn ffactor cyfyngol.

Ffigur 7: Gwerth Ychwanegol Gros Sir Gaerfyrddin fesul Diwydiant

Yn ôl y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau sy’n cael ei pharatoi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 7,720 o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin yn 2017, yn cynrychioli 7.5% o’r holl

fusnesau yng Nghymru. Mae’r data hefyd yn dangos cymuned fusnes fwy yn Sir Gaerfyrddin nag yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, gyda 38 o fusnesau fesul mil o bobl yng Nghyfrifiad 2011 o’i gymharu â 29 fesul mil yng Nghymru.

Roedd mwy o fusnesau yn cael eu creu ym mhob un o’r pedair blynedd rhwng 2013 a 2016 na busnesau a ddiddymwyd (h.y. cread busnes net), yn dilyn colled net o ran busnesau yn y tair blynedd flaenorol. Mae hyn yn dangos amgylchedd busnes sy’n gwella yn Sir Gaerfyrddin.

Ffigur 8: Genedigaethau a marwolaethau busnesau yn Sir Gaerfyrddin, 2010–2016

Ffynhonnell: Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn llai na busnesau ledled Cymru a’r DU yn nodweddiadol. Yn Sir Gaerfyrddin, microfentrau (0 i 9 o gyflogeion) yw 91.4% o’r holl stoc busnes, sydd tua 2% yn uwch na’r ffigur cyfatebol yng Nghymru a’r DU. Ceir llai o fusnesau bach (10 i 29) a chanolig (50 to 249) yn Sir Gaerfyrddin yn gymesur.

Mae Ffigur 9 drosodd yn dangos cyfran y rhai mewn cyflogaeth sy’n gweithio ym mhob sector ac yn datgelu bod cyfansoddiad sectorol busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn gyffredinol debyg i Gymru yn ei chyfanrwydd. Mae'r sectorau iechyd a manwerthu yn arbennig o bwysig i Sir Gaerfyrddin, ac yn gyfrifol am fwy na 30% o’r holl gyflogaeth gyda’i gilydd. Fel cymhariaeth, mae’r ddau sector hyn yn gyfrifol am 25% o gyflogaeth yng Nghymru. Er bod amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn un o’r sectorau llai o ran cyfanswm cyflogaeth, mae’r gyfran sy’n gweithio yn y sector yn Sir Gaerfyrddin bron i ddwbl y cyfartaledd cenedlaethol (2.9% yn erbyn 1.5%).


 

Ffigur 9: Dadansoddiad o sectorau busnes yn Sir Gaerfyrddin wedi ei feincnodi yn erbyn Cymru, 2016

Ffynhonnell: BRES


 

2.  Dull

                                                                                                                                               

2.1  Yn dilyn etholiadau llywodraeth leol yn 2017, cyfarwyddodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, sefydlu Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin gyda’r nod o:

‘ystyried y materion sy'n effeithio ar gymunedau gwledig ar draws Sir Gâr ac adnabod camau gweithredu y gall y Cyngor, mewn partneriaeth â sefydliadau a chyrff sector cyhoeddus, eu cymryd i ymdrin â'r materion er mwyn cefnogi adfywio gwledig at y dyfodol’

2.2  Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl trawsbleidiol, wedi ei gadeirio gan y Cynghorydd Cefin Campbell, Aelod Gweithredol o’r Bwrdd dros Gymunedau a Materion Gwledig, ym mis Medi 2017 ac mae wedi cynnal asesiad manwl a thrylwyr o faterion gwledig yn ystod y 21 mis y mae wedi ymgynnull. Mae’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp Gorchwyl wedi ei gynnwys yn yr Atodiadau. Roedd aelodau’r Grŵp Gorchwyl fel a ganlyn:

·         Tri chynrychiolydd Grŵp Plaid Cymru: y Cynghorwyr Gareth Thomas, Jean Lewis a Ken Howell

·         Tri chynrychiolydd y Grŵp Annibynnol: y Cynghorwyr Irfon Jones, Joseph Davies a Sue Allen (a ddisodlwyd gan Andrew James ym mis Mawrth 2018)

·         Tri chynrychiolydd Grŵp Llafur: y Cynghorwyr Dot Jones, Shirley Matthews a Colin Evans

2.3  Yn ystod y 21 mis, mae’r Grŵp Gorchwyl wedi cyfarfod 22 o weithiau ac mae nifer o wahanol randdeiliaid, partneriaid a phartïon â buddiant wedi cyflwyno gwybodaeth a syniadau i’r Grŵp Gorchwyl. Mae rhestr lawn o gyfranwyr wedi ei chynnwys yn yr Atodiadau.

2.4  Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd 2017, lansiodd y Grŵp Gorchwyl ymgynghoriad cyhoeddus i ddarganfod safbwyntiau trigolion a rhanddeiliaid Sir Gaerfyrddin ar y materion sy’n bwysig i sicrhau ffyniant ein cymunedau gwledig yn y dyfodol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Ebrill 2018 a derbyniwyd cyfanswm o 335 o ymatebion arolwg ac un ymateb ysgrifenedig sefydliadol. Y prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad oedd pryderon yn ymwneud ag:

                    Argaeledd band eang

                    Cyfleoedd cyflogaeth

                    Argaeledd a mynediad at wasanaethau cyhoeddus

                    Mynediad at drafnidiaeth

                    Dyfodol ffermio

Mae crynodeb llawn o’r canfyddiadau o’r ymgynghoriad wedi ei gynnwys yn yr Atodiadau.

2.5  Ar 7 Medi 2018, cynhaliodd y Grŵp Gorchwyl Gynhadledd Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin yng Nghanolfan Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Roedd dros 160 o randdeiliaid yn bresennol i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau er mwyn llywio ystyriaethau’r Grŵp Gorchwyl ar gyfer yr adroddiad terfynol ac argymhellion hyn. Roedd hefyd yn gyfle i glywed gan academyddion ac arweinwyr cymunedol a busnes profiadol am eu dealltwriaeth a’u dull. Mae crynodeb o ystyriaethau’r gynhadledd wedi ei gynnwys yn yr Atodiadau.

3.  Canfyddiadau ac Argymhellion

                                                                                                                                               

Mae’r Grŵp Gorchwyl wedi nodi nifer o feysydd allweddol sy’n dylanwadu ar y materion sy’n wynebu cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Nodir y rhain ar y tudalennau canlynol gyda chrynodeb o’r pwyntiau trafod allweddol a thystiolaeth a godwyd yn rhan o ystyriaethau’r Grŵp Gorchwyl, ynghyd ag argymhellion allweddol i’w gweithredu. Mae’r meysydd allweddol hyn yn canolbwyntio ar y canlynol:


·         Datblygu Economaidd

·         Cynllunio a Thai

·         Addysg a Sgiliau

·         Band Eang a Sgiliau Digidol

·         Twristiaeth

·         Trafnidiaeth a Phriffyrdd

·         Amaethyddiaeth a Bwyd

·         Cydnerthedd Cymunedol, Mynediad at Wasanaethau a’r Trydydd Sector

·         Ynni Adnewyddadwy

·         Yr Amgylchedd a Gwastraff

·         Y Ffordd Ymlaen


Yn ogystal â’r meysydd allweddol hyn, mae nifer o themâu wedi dod i’r amlwg sy’n gweithredu fel egwyddorion cyffredin ar gyfer yr holl adroddiad a’r argymhellion fel materion sy’n ganolog i’r uchelgais i gynorthwyo a datblygu ymhellach cydnerthedd a ffyniant cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin. Dylid ystyried y rhain fel egwyddorion cyffredin ar draws holl argymhellion y Grŵp Gorchwyl.

1.      Punt Sir Gaerfyrddin: pwysigrwydd cefnogi gwariant uniongyrchol yn yr economi leol, pa un a yw hwnnw’n wariant cyhoeddus, preifat neu bersonol. Gall yr effaith y gall hyd yn oed lefelau bach o wario ei chael ar yr economi leol fod yn sylweddol ac mae angen ymdrech gydunol i ailystyried y ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn caffael ac yn gwario ei gyllid er mwyn cynorthwyo buddsoddiad mewn busnesau a sefydliadau lleol yn well. Mae hyn hefyd yn berthnasol o safbwynt gwariant personol ac mae angen ymgyrch i hybu’r effaith o ran sut y bydd cadw gwariant yn yr economi leol yn y byrdymor yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol tymor hwy o ran cydnerthedd cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau gwledig.

2.      Adfywio economaidd: mae hyn yn ganolog i gynaliadwyedd gwledig ond mae angen iddo fod yn adfywio perthnasol â phwyslais ar ddatblygu sectorau craidd ac unigryw addas i Sir Gaerfyrddin. Bydd galluogi twf economaidd addas yn arwain wedyn at gynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol trefi gwledig y sir a chymunedau bwydo cyfagos.

3.      Tai yn unol ag angen lleol: mae angen sicrhau bod tai priodol ar gael ar gyfer angen lleol, sy’n cynnwys argaeledd tai fforddiadwy. Er mwyn gwneud ein cymunedau gwledig yn gynaliadwy, mae angen i ni alluogi pobl iau ac oedran gweithio i fyw yno. Mae’r farchnad dai bresennol yn gyrru pobl allan o’u cymunedau cynhenid ac yn eu hatal rhag dychwelyd adref. Mae angen symudiad mewn polisi cynllunio lleol o ddatblygiadau tai mwy yn ein prif drefi i ddull sy’n caniatáu cymysgedd a chyfran addas o ddatblygu yn ein trefi a’n cymunedau gwledig i roi sylw i alw ac angen lleol am dai.    

4.      Seilwaith: codwyd seilwaith band eang a thrafnidiaeth y sir fel materion allweddol sy’n atal datblygiad ac yn cynyddu arwahanrwydd ar hyn o bryd. Codwyd y materion hyn ers nifer o flynyddoedd ac nid oes ateb cyflym wrth fynd i’r afael â nhw. Fodd bynnag, mae angen bod yn arloesol ac ymateb i broblemau lleol gydag atebion lleol yn hytrach na cheisio mynd i’r afael â’r problemau gydag un ymateb cyffredinol ar gyfer pawb. Mae cyllid bob amser yn mynd i fod yn broblem o ran y materion hyn ac ni fydd y Cyngor ar ei ben ei hun mewn sefyllfa i’w datrys, felly mae angen i gymunedau, grwpiau, sefydliadau a busnesau weithio gyda’i gilydd i ddatblygu amrywiaeth o atebion i ddiwallu anghenion lleol.

5.      Bywyd cymunedol: mae Sir Gaerfyrddin yn ffodus mewn sawl ffordd fod ganddi rwydwaith a phwyslais cymunedol cryf o hyd drwy ei hysgolion lleol, ei grwpiau cymunedol, ei chymdeithasau, ei chlybiau chwaraeon a’i gweithgareddau. Fodd bynnag, bydd hyn yn amlwg dim ond i’r rhai sy’n gallu ac yn barod i ymgysylltu â’u cymunedau lleol ac mae llawer yn cael eu gadael ar wahân ac yn agored i niwed gyda fawr ddim cymorth neu fynediad at rwydweithiau cymunedol o’r fath. Mae natur cymunedau gwledig yn esblygu a chyda gostyngiad i’r ddarpariaeth o wasanaethau oherwydd cyfyngiadau cyllidebol, mae angen mwy o gydnabyddiaeth a chymorth o ran y swyddogaeth ffurfiol ac anffurfiol y gall rhwydweithiau a mentrau cymunedol ei chyflawni i gefnogi cymunedau gwledig.

6.      Y Gymraeg: mae 50.2% o’r boblogaeth yn wardiau gwledig Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd y sir gyfan o 43.9%. Mae cymunedau gwledig yn chwarae rhan ganolog felly yn hyfywedd yr iaith yn y dyfodol a bydd cynnal eu cydnerthedd a’u twf yn galluogi’r Gymraeg i ddatblygu a ffynnu unwaith eto.

7.      Amaethyddiaeth: disgrifiwyd y sector gan lawer fel asgwrn cefn cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin o safbwynt economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Er bod cyfanswm lefelau cyflogaeth uniongyrchol yn y sector yn gymharol isel, sef 2.9%, o’i gymharu â 19.1% yn y sector iechyd a 15.8% yn y sector manwerthu, mae’r effaith ehangach y mae’r sector yn ei chael ar gymunedau gwledig yn bellgyrhaeddol ac yn anfesuradwy o ran gwerth. Mae’r ansicrwydd ynghylch goblygiadau posibl Brexit i’r sector amaethyddol yn peri pryder. Mae’r sector yn debygol o wynebu cyfnod sylweddol o newid dros y blynyddoedd nesaf a allai ddylanwadu ar siâp a natur ffermio a rheolaeth ein tir am byth.


 

3.1          Datblygu Economaidd

3.1.1        Ers nifer o flynyddoedd, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi nodi bod adfywio economaidd wrth wraidd cynnal datblygu Sir Gaerfyrddin ymhellach fel sir. Hyd yn hyn, prif drefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli fu prif bwyslais y gwaith adfywio hwn ochr yn ochr â rhaglenni a phrosiectau eraill penodol ar draws y sir gyfan. Hefyd, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhaglen arwyddocaol i’r holl sir, gan gynnwys ardaloedd gwledig, a fydd yn dylanwadu ac yn gwneud cynnydd tuag at fynd i’r afael â nifer o faterion allweddol a nodir yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, seilwaith band eang, sgiliau a thai. Mae’r rhain i gyd yn ymyriadau pwysig y mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau eu bod o fudd i Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd.

3.1.2        Yn ystod trafodaethau’r Grŵp Gorchwyl a sylwadau gan randdeiliaid, cyfeiriwyd at swyddogaeth allweddol trefi llai’r sir neu’r trefi marchnad traddodiadol sawl gwaith, yn enwedig o ran eu cysylltiadau â’r pentrefi a’r pentrefannau llai sydd o’u cwmpas. Mae dirywiad gwasanaethau fel banciau, swyddfeydd y post a chyfleusterau gwasanaeth eraill yn y trefi hyn wedi cael effaith sylweddol ac mae’n rhaid i lawer o bobl deithio i’r trefi mwy erbyn hyn i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Fodd bynnag, mae’r trefi hyn yn dal i fod mewn sefyllfa dda i weithredu fel astell ganolog ar gyfer datblygu gwledig gyda’r potensial i fusnesau a gwasanaethau glystyru er mwyn mynd i’r afael â materion economaidd a chymdeithasol i sicrhau cynaliadwyedd ein cymunedau gwledig yn y dyfodol.

3.1.3        O edrych ar ddatblygu economaidd-gymdeithasol, mae angen dealltwriaeth eglur o’r rhyng-ddibyniaethau rhwng y pentrefannau, y pentrefi, y trefi marchnad, y prif drefi, y sir a’r rhanbarth ehangach. Yn eu hymateb ymgynghori i’r Grŵp Gorchwyl, cyfeiriodd Cymdeithas yr Iaith at y rhyng-ddibyniaethau hyn fel ‘cylchoedd consentrig’, cysyniad yr ydym yn credu y dylid ei ddatblygu trwy ddull amlasiantaeth ac aml-randdeiliad yn seiliedig ar le. Ni all hwn fod yn un dull ar gyfer pawb gan y bydd gan bob cymuned ei hanghenion ei hun ond mae’r Cyngor mewn sefyllfa dda i weithredu fel hwylusydd i sefydlu a bwrw ymlaen â’r dull hwn.

3.1.4        Un rhan arwyddocaol o’r dull seiliedig ar le hwn fydd mwy o bwyslais ar feithrin y sectorau y gellid eu hystyried fel sylfeini ein heconomi leol – gofal, bwyd, tai, ynni, adeiladu ac ati. Yn Sir Gaerfyrddin, dylid hefyd ystyried y sectorau amaethyddol a thrafnidiaeth gyda’u rhwydwaith busnes cysylltiedig yn rhan o’n heconomïau sylfaenol hefyd. Dyma’r mathau o wasanaethau yr ydym ni fel dinasyddion yn dibynnu arnynt yn feunyddiol. Mae pedwar o bob deg swydd yng Nghymru yn y sectorau hyn. Dylai’r Cyngor, ynghyd â phartneriaid sector cyhoeddus eraill, ddatblygu ei ddull, ei ymgysylltiad a’i gymorth o ran y sectorau hyn ymhellach trwy’r lens ehangach yr economi sylfaenol. Dylai’r Cyngor sicrhau hefyd ei fod yn cefnogi egwyddorion datblygu o fewn model yr economi gylchol, sydd â’r nod o gadw adnoddau mewn defnydd am gyhyd â phosibl, echdynnu’r gwerth mwyaf posibl ohonynt pan fyddant yn cael eu defnyddio, ac yna adfer ac atgynhyrchu cynhyrchion a deunyddiau ar ddiwedd pob oes gwasanaeth. Yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd ar gyfer twf, bydd economi fwy cylchol yn: lleihau gwastraff; yn ysgogi mwy o gynhyrchiant adnoddau; yn darparu economi fwy cystadleuol i Sir Gaerfyrddin; yn lleoli Sir Gaerfyrddin i fynd i’r afael yn well â phroblemau diogelwch/prinder adnoddau a fydd yn codi yn y dyfodol; ac yn helpu i leihau effeithiau

 

amgylcheddol ein cynhyrchiant a’n defnydd yn Sir Gaerfyrddin.

3.1.5        Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfran uwch o ficrofentrau (rhwng 0 a 9 o gyflogeion), sy’n gyfrifol am 91.4% o’r holl stoc busnes yn y sir (o’i gymharu ag 89.2% ledled Cymru). Mae hyn yn arbennig o wir yn ardaloedd gwledig y sir. Yn y dyfodol, bydd cymorth i’r sector hwn, drwy’r Cyngor ac asiantaethau eraill, yn hanfodol. Un o’r materion allweddol a amlygwyd gan y Grŵp Gorchwyl oedd yr angen am safleoedd deori busnesau ac unedau busnesau canolig eu maint ar gyfer cynnydd. Hefyd, mae llawer o’r farn fod y gost o ddatblygu mewn ardaloedd gwledig o’i chymharu â gwerth masnachol y datblygiad yn y pen draw yn anghymesur, ac fe’i gwaethygir gan ffactorau pellenigrwydd a galw, felly mae angen cymorth a sicrwydd ychwanegol ar gwmnïau i angori eu buddsoddiad yn ardaloedd mwy gwledig y sir. Mae Cronfa Menter Wledig y Cyngor, sy’n darparu cymorth i fentrau ac unig fasnachwyr i ddatblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, wedi bod yn aruthrol o boblogaidd a llwyddiannus, ac mae angen i’r dull hwn barhau a datblygu ymhellach. Ers ei sefydlu yn 2017, mae’r gronfa hyd yma wedi cynorthwyo 16 o brosiectau gwerth £3.9 miliwn ac wedi cynorthwyo cread 130 o swyddi ac wedi darparu 70,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol.

3.1.6        Cydnabyddir yr angen i ddarparu cymorth i fusnesau newydd a sefydledig yn y sir yn llawn a cheir nifer o asiantaethau y mae’r Grŵp Gorchwyl wedi clywed ganddynt sy’n darparu’r cymorth hwn. Mae nifer y gwahanol asiantaethau sy’n gweithio yn y maes hwn wedi codi cwestiynau ynghylch pa un a yw’r capasiti cymorth yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac a oes digon o glystyru a chyfeirio rhwng asiantaethau i sicrhau y cynigir y cymorth mwyaf priodol i fusnesau ond hefyd i sicrhau nad yw ymdrechion yn cael eu hailadrodd. 

3.1.7        Nodwyd cefnogi entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc fel ffactor allweddol hefyd. Wrth i lawer o’n pobl ifanc adael y sir i fanteisio ar gyfleoedd addysg a chyflogaeth, mae angen i ni feithrin a chefnogi’r rhai sy’n dymuno aros yn y sir i ddatblygu a chodi eu dyheadau. Mae’n rhaid i ni weithio hefyd i wella’r cynnig ar gyfer y bobl hynny, sydd wedi mynd ar drywydd eu dewisiadau addysg mewn mannau eraill ac yn dymuno dychwelyd i’r sir i fyw a gweithio. Fel y pwysleisiodd David Hieatt yn y Gynhadledd Materion Gwledig, ni ddylem ofni’r ffaith fod ein pobl ifanc yn symud i ffwrdd ond mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddod â’r trysor yn ôl.

3.1.8        Mae gan y Cyngor ystâd wledig sylweddol hefyd gyda chyfanswm o 25 o ffermydd wedi eu lleoli ar draws y sir yn ogystal â thir ac asedau eraill. Gan weithio gyda phartneriaid sector cyhoeddus eraill, trwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, mae angen adolygu’r asedau hyn yn llawn i sicrhau bod yr ystâd yn cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r Grŵp Gorchwyl yn annog y Cyngor i gadw perchnogaeth o’r ystâd hon yn y dyfodol, gan gynnwys yr hawliau pysgota cysylltiedig.

3.1.9        Mae gan y Cyngor hanes cryf o fanteisio ar gyllid sydd ar gael trwy ffynonellau allanol i gynorthwyo datblygu gwledig, a’i ddefnyddio’n llawn. Mae’r rhaglen LEADER bresennol, a ariennir trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, mewn sefyllfa dda i gefnogi datblygu gwledig a bydd rhaglen Arfor hefyd yn cynorthwyo datblygiad busnes sy’n canolbwyntio’n benodol ar y Gymraeg.

 

 

Argymhellion

1

Bod y Cyngor yn gweithio gyda’r cymunedau a’r rhanddeiliaid lleol yn neg o’i drefi gwledig (a’u cymunedau cyfagos) i ddatblygu cynlluniau unigol a fydd â’r nod o ddarparu gweledigaeth strategol hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer y trefi hynny. Dyma’r ddeg tref arfaethedig:

                    i.            Llanymddyfri

                  ii.            Sanclêr

                iii.            Hendy-gwyn ar Daf

                 iv.            Castellnewydd Emlyn

                   v.            Talacharn

                 vi.            Cwmaman (Dyffryn Aman)

               vii.            Llanybydder

             viii.            Cydweli (Gwendraeth)

                 ix.            Llandeilo

                   x.            Cross Hands

Er y bydd pob cynllun yn berthnasol i anghenion y dref unigol, disgwylir y bydd cynigion yn cael eu llunio gan nodau strategol Strategaeth Trawsnewidiadau’r Cyngor, sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

·         Tyfu busnesau presennol

·         Sicrhau bod cymaint â phosibl o swyddi yn cael eu creu

·         Cynorthwyo datblygiad economi wybodaeth

·         Datblygu natur unigryw yr ardal

·         Nodi swyddogaeth y ddarpariaeth gwasanaeth a’r modelau darparu gwasanaeth yn y gymuned yn y presennol a’r dyfodol

·         Ynni cynaliadwy

·         Darparu gwasanaethau

 

Hefyd, bydd angen i’r rhaglen gyffredinol ystyried ffyrdd y gallai’r Cyngor ddatblygu:

a.      cyfleoedd (yn seiliedig ar alw) i ddatblygu canolfannau cymorth busnes mewn lleoliadau canol tref, a fyddai’n gweithredu fel cyfleuster deori ar gyfer busnesau newydd â llety swyddfa sefydlog neu hyblyg ar gyfer nifer o ficrofusnesau

b.      cyfleoedd i ddatblygu canolfannau gwasanaeth cyhoeddus mewn lleoliadau canol tref, a fyddai’n gweithredu fel pwynt cyswllt lleol ar gyfer nifer o wasanaethau sector cyhoeddus

c.       cyfleoedd i dimau datblygu economaidd a thai y Cyngor gydweithio i gynorthwyo gwaith adfywio canol trefi

2

Bod y Cyngor yn parhau i weithredu cyfleoedd ariannu presennol ar gyfer datblygu gwledig a nodi cyfleoedd ariannu sectorau cyhoeddus a phreifat allanol i gynorthwyo â dyheadau twf economaidd y ddeg dref wledig a busnesau gwledig y sir.

3

Bod y Cyngor yn sicrhau pwyslais ar ddatblygiad pellach sector yr economi sylfaenol yn Sir Gaerfyrddin, gan gefnogi egwyddorion yr economi gylchol.

4

Bod y Cyngor yn gweithio i alluogi’r ailddefnydd o adeiladau gwag neu segur ar dir amaethyddol ac mewn trefi a phentrefi gwledig, i ddatblygu deorydd busnes neu lety masnachol mewn ardaloedd gwledig.

5

Bod y Cyngor yn cynnal ei ystâd wledig ond yn adolygu ei ddefnydd a’i bolisi yn y dyfodol, gan weithio hefyd gyda phartneriaid sector cyhoeddus eraill i nodi cyfleoedd datblygu trwy eu hystâd wledig.

6

Bod y Cyngor yn parhau i wneud cyllid grant ar gael i gefnogi dyheadau twf entrepreneuriaid a busnesau gwledig y sir, gan archwilio ymarferoldeb sefydlu cronfa fenthyciadau leol i’r sector preifat.

7

Bod y Cyngor yn gweithio gydag asiantaethau a gwasanaethau cymorth busnes eraill (e.e. Busnes Cymru, Busnes mewn Ffocws, Cyswllt Ffermio ac ati) i ganiatáu mwy o glystyru cymorth a chyfeirio at fusnesau lleol.

 


 

3.2          Cynllunio a Thai

3.2.1        Codwyd y rhan y mae cynllunio yn ei chwarae o ran cefnogi cynaliadwyedd ein cymunedau gwledig yn y dyfodol dro ar ôl tro yn rhan o drafodaethau’r Grŵp Gorchwyl. Wrth gwrs, ceir cydnabyddiaeth o’r angen am ystyriaeth sensitif o nifer o ffactorau wrth ystyried datblygiad mewn ardaloedd gwledig ond mae’r Grŵp Gorchwyl yn teimlo nad yw polisi cynllunio cyfredol Llywodraeth Cymru yn cynnig digon o hyblygrwydd i ganiatáu datblygiad, yn seiliedig ar angen lleol, yn ein cymunedau mwyaf gwledig. Mae’r diffyg twf hwn yn golygu bod cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl o ran datblygiad wrth i gyfleoedd ar gyfer tai, busnes ac arallgyfeirio gael eu targedu fwy at y prif ganolfannau poblogaeth. Teimlir hefyd fod hyn yn cyfrannu at lif cyson o bobl iau o oedran gweithio allan o’r cymunedau gwledig i chwilio am dai a chyflogaeth addas, sy’n effeithio wedyn ar gydnerthedd y cymunedau hynny.

3.2.2        Yn benodol, mae angen adolygu polisi cynllunio cenedlaethol o ran cymunedau gwledig cynaliadwy (TAN 6) hefyd i gymryd i ystyriaeth newidiadau economaidd-gymdeithasol y mae cymunedau gwledig wedi eu hwynebu yn y deng mlynedd diwethaf ers datblygu’r TAN, ond yn enwedig o ganlyniad i oblygiadau tebygol Brexit ar y sector amaethyddol. Mae’r sector amaethyddol yn wynebu cyfnod ansicr iawn gan fod llawer o oblygiadau posibl Brexit yn dal i fod yn anhysbys. Fodd bynnag, mae angen adolygu polisi cynllunio er mwyn caniatáu dull mwy hyblyg o ddatblygu, yn seiliedig ar angen lleol a chyfleoedd mewn ardaloedd gwledig, fel y gall pobl sy’n gweithio yn y sector amaethyddol a’r gymuned ehangach arallgyfeirio ac addasu fel sy’n briodol.

3.2.3        Teimlir hefyd, yn dilyn y gydnabyddiaeth yn Neddf Cynllunio 2015 y dylai effaith datblygu ar y Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol, fod angen diwygio TAN 20 i adlewyrchu’r ddeddfwriaeth newydd. Teimlir hefyd y dylai’r TAN gyflwyno dull penodol ar gyfer asesu effaith Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) ar y Gymraeg yn ogystal â gwneud darpariaeth ar gyfer asesu effaith datblygiad pob safle ar y cam cais cynllunio, gan mai dim ond ar y cam hwn y mae gennych chi’r manylion angenrheidiol i gynnal asesiad llawn a chadarn.

3.2.4        Mae’r Cyngor wrthi’n diwygio ei Gynllun Datblygu Lleol ac mae’r Grŵp Gorchwyl yn teimlo bod angen unioni’r cydbwysedd presennol i ganiatáu datblygiad priodol ac addas yn ein trefi a’n cymunedau gwledig. Mae angen bwrw ymlaen â’r datblygiad hwn yn seiliedig ar angen lleol yn hytrach na thargedau a rheoliadau cenedlaethol. Wrth gwrs, dylai fod ystyriaeth a dealltwriaeth drylwyr o’r effaith y gallai unrhyw ddatblygiad preswyl neu fusnes ei chael ar natur a chyfansoddiad cymunedau gwledig, yn enwedig o ran ei effaith gadarnhaol neu negyddol bosibl ar y Gymraeg, a dylai maint datblygiad hefyd fod yn gymharol â’r gymuned bresennol, ond mae angen galluogi datblygu cynaliadwy yn ein cymunedau lleol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein cymunedau gwledig yn y dyfodol.

3.2.5        Mae argaeledd tai fforddiadwy hefyd yn broblem sylweddol mewn cymunedau gwledig. Yn Sir Gaerfyrddin, caiff tai fforddiadwy eu dynodi yn seiliedig ar incwm canolrifol cymunedau penodol (fel y penderfynir gan ddull Paycheck CACI, sy’n darparu amcangyfrifon incwm aelwydydd gros). Er enghraifft, byddai tŷ tair ystafell wely nodweddiadol yn cael ei ddosbarthu’n fforddiadwy os cost y tŷ yw tair gwaith yr

incwm canolrifol ar gyfer yr ardal honno yn ogystal â blaendal o 5%. Mae prisiau gwerthu’r cartrefi hyn yn cael eu cyfyngu ar yr adeg werthu gychwynnol ac i feddianwyr dilynol. £26,190 yw enillion cyfartalog trigolion Sir Gaerfyrddin (yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) a £207,635 yw pris tŷ cyfartalog mewn wardiau gwledig fel Llangeler a £206,150 yng Nghil-y-cwm (ym mis Chwefror 2019), ac felly mae argaeledd a lleoliad tai addas ar draws y sir yn allweddol. Mae’r Grŵp Gorchwyl yn croesawu dull y Cyngor, a’r cynnydd y mae wedi ei wneud hyd yn hyn trwy ‘Gynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016–2020 Sir Gaerfyrddin’, i gyflawni ei ymrwymiad i sefydlu 1,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn y sir, a darparwyd 700 eisoes naill ai drwy brynu tai addas drwy’r farchnad breifat neu gynorthwyo’r gwaith o adeiladu cartrefi newydd. Mae angen cyflawni’r ymrwymiad hwn yn llawn a’i ddatblygu ymhellach trwy waith Cartrefi Croeso, a sefydlwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel cwmni hyd braich i fynd i’r afael ag angen tai lleol trwy ddatblygu cartrefi newydd i’w gwerthu a’u rhentu. Bydd gan y cwmni bwyslais cryf ar gynyddu’r ddarpariaeth o gartrefi addas ar draws y sir ac yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Mae hefyd yn bwysig fod y Cyngor yn ceisio datblygu ei gyflenwad o dai cyngor ymhellach ac mae’r Grŵp Gorchwyl wedi ei galonogi’n fawr fod cynigion yn cael eu datblygu i adeiladu hyd at 900 o dai cyngor newydd i gael eu lleoli ar draws y sir yn unol ag angen lleol.

3.2.6        Tua 950 yw nifer yr ail gartrefi sydd mewn perchnogaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae hon yn nifer sylweddol ynddi ei hun ond mae’n sylweddol is na chyfraddau yn Sir Benfro (3,000), Ceredigion (2,000) a Gwynedd (4,800). Er bod cynghorau eraill wedi cyflwyno mesurau i gynyddu cyfraddau treth gyngor ar ail gartrefi, ceir bwlch mewn deddfwriaeth genedlaethol ar hyn o bryd sy’n golygu y gall perchnogion ail gartrefi newid o’r dreth gyngor i dreth fusnes. Er bod y Cyngor yn ymwybodol o effaith negyddol bosibl ail gartrefi ar hyfywedd cymunedau gwledig, mae angen datrys y problemau deddfwriaethol cyn i’r Cyngor ystyried ei safbwynt ar gyfraddau treth gyngor ar gyfer ail gartrefi yn y dyfodol.

Argymhellion

8

I lobïo Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio cenedlaethol, ac yn benodol:

a.      TAN 6 i alluogi dull mwy hyblyg o ddatblygu mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig mewn ardaloedd y tu allan i aneddiadau a nodwyd, a

b.      TAN 20 o ran sicrhau bod effaith unrhyw ddatblygiad ar y Gymraeg yn ofynnol fel ystyriaeth berthnasol, fel y nodir yn Neddf Cynllunio 2015, a bod ei statws mewn deddfwriaeth yn cael ei adlewyrchu yn y TAN.

9

I lobïo Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio (yn rhan o TAN 6) o ran adeiladu ail annedd ar ffermydd sefydledig gan nad yw’r gofynion cyfredol yn ymwneud â dangos incwm o’r fferm i ganiatáu datblygiad yn ddilys mwyach. O gofio natur newidiol amaethyddiaeth yn y presennol a’r dyfodol a goblygiadau posibl Brexit, bydd yn rhaid i incwm o’r fferm gael ei ategu gan incwm o ffynonellau eraill, h.y. aelodau teulu estynedig yn cymryd cyflogaeth y tu allan i leoliad y fferm. Felly, mae angen ystyried cyfanswm incwm yr aelwyd, fel uned deuluol, yn hytrach nag incwm y fferm yn unig.

10

Bod y Cyngor yn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn:

a.      caniatáu datblygiad preswyl a busnes o faint priodol mewn ardaloedd cymunedau llai yn ôl yr angen

b.      caniatáu cymysgedd priodol o ddeiliadaethau mewn datblygiadau preswyl, yn seiliedig ar angen tai lleol

c.       caniatáu’r dyraniad priodol o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig

d.      caniatáu datblygiad twristiaeth a busnes mewn ardaloedd gwledig i gynorthwyo cefnogi datblygiad ac arallgyfeirio yn y dyfodol

11

Bod y Cyngor yn diwygio ei bolisi cynllunio i ganiatáu cyfeiriad at ffermdy newydd / wedi ei ailddatblygu neu annedd sy’n gysylltiedig ag eiddo amaethyddol fel y gellir ei leoli ar bellter rhesymol y tu allan i’r buarth gweithredol er mwyn sicrhau y gellir rhoi sylw dyledus i:

a.      Ystyriaethau iechyd a diogelwch;

b.      Bioddiogelwch; ac

c.       Lleihau’r perygl o filheintiau (clefydau y gellir eu trosglwyddo rhwng pobl ac anifeiliaid, e.e. TB).

12

Bod y Cyngor yn ymchwilio i ymarferoldeb caniatáu sefydlu/creu tyddynnau newydd mewn ardaloedd gwledig, y tu allan i aneddiadau a nodwyd, yn seiliedig ar angen lleol a’r cyfraniad cadarnhaol posibl at gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol y gymuned leol.

13

Bod y Cyngor yn parhau i gefnogi a datblygu ymhellach ei gynllun uchelgeisiol, sef Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy Sir Gaerfyrddin, ar ôl 2020 i sicrhau parhad argaeledd cynyddol tai fforddiadwy yn y sir ac i sicrhau bod y cynigion ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd yn adlewyrchu anghenion tai lleol mewn ardaloedd gwledig.

 


 

3.3 Addysg a Sgiliau

3.3.1    Bydd addysg a sgiliau yn chwarae rhan ganolog o ran cynorthwyo datblygu gwledig a chodwyd y materion allweddol hyn nifer o weithiau yn ystod ystyriaethau’r Grŵp Gorchwyl. Er mwyn cynorthwyo datblygiad economaidd yn yr ardal, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu darparu’r sgiliau a’r hyfforddiant priodol i bobl o bob oedran sy’n byw ac yn gweithio yn y sir. Yn rhan o’r dystiolaeth a dderbyniwyd gan gynrychiolwyr o’r sector busnes, nodwyd bod angen gwneud mwy o annog a chynorthwyo entrepreneuriaeth ymhlith ein pobl iau a’i bod hefyd yn bwysig codi dyheadau proffesiynol. Nid yw cadw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau gwledig ac felly mae angen i ni ddatblygu sgiliau i herio a meddwl yn arloesol am atebion, darpariaethau a ffyrdd o weithio yn y dyfodol.

3.3.2    Mae hwn yn un o amcanion craidd menter Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o’r sector preifat, addysg uwch a phellach, ysgolion a’r trydydd sector i ddatblygu atebion addysg a hyfforddiant wedi eu teilwra sy’n mynd i’r afael ag anghenion busnes a phroffesiynol lleol. Yn ogystal â’r ysgolion lleol, bydd angen i Goleg Sir Gâr (gan gynnwys campws Gelli Aur), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, darparwyr addysg eraill ac asiantaethau fel Gyrfa Cymru chwarae rhan ysgogol i symud y prosiect hwn yn ei flaen.

3.3.3    Derbynnir yn eang hefyd fod ysgolion cymunedol gwledig yn wynebu dyfodol anodd. O fis Chwefror 2019, mae gan Sir Gaerfyrddin gyfanswm o un ysgol feithrin a 95 o ysgolion cynradd ledled y sir. Mae 67 o’r ysgolion hynny yn Sir Gaerfyrddin wledig (yn seiliedig ar ddiffiniad Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gaerfyrddin o wledig). Ceir niferoedd disgyblion amrywiol yn yr ysgolion hynny yn yr ardaloedd gwledig:

·         17 o ysgolion â llai na 50 o ddisgyblion

·         18 o ysgolion â rhwng 51 a 100 o ddisgyblion

·         14 o ysgolion â rhwng 101 a 200 o ddisgyblion

·         11 o ysgolion â rhwng 201 a 300 o ddisgyblion

·         7 o ysgolion â thros 301 o ddisgyblion

3.3.4    Mae ysgolion gwledig yn chwarae rhan sylweddol ym mywyd a chyfansoddiad y cymunedau y maent wedi eu lleoli ynddynt. Mae mwyafrif ysgolion gwledig y sir yn rhai cyfrwng Cymraeg ac mae mynediad at ysgolion sy’n agos at y gymuned lle maent yn byw hefyd yn ffactor i deuluoedd â phlant o oedran ysgol. Gan gydnabod y swyddogaeth arwyddocaol hon, mae’n rhaid cydnabod bod y Cyngor yn wynebu sefyllfa o gyllidebau sy’n lleihau’n barhaus a disgwyliadau cynyddol o ran darpariaeth y cwricwlwm. Fodd bynnag, dylai’r Cyngor barhau i fod yn gwbl gefnogol o wneud popeth yn ei allu i ddatblygu cydnerthedd a chynaliadwyedd ei ysgolion gwledig yn y dyfodol, a bydd yn gweithio yn unol â chyfres Llywodraeth Cymru o weithdrefnau a gofynion yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy’n gweithio ar sail tybiaeth yn erbyn cau.

3.3.5    Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’r Cyngor wedi gweithio gyda nifer o ysgolion llai i gyflwyno model ffederasiwn sy’n galluogi ysgolion i weithio gyda’i gilydd. Hyd yn hyn, ceir cyfanswm o 30 o ysgolion ffederasiwn yn Sir Gaerfyrddin ac

 

mae deg o ysgolion wedi eu ffedereiddio yn Sir Gaerfyrddin wledig:

·         2 ffederasiwn o 2 ysgol

·         2 ffederasiwn o 3 ysgol

Ystyrir bod datblygu a ffurfioli’r model ffederasiwn ymhellach yn ffordd briodol ymlaen wrth fynd i’r afael ag anghenion ysgolion a chymunedau gwledig.

3.3.6    Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017–2020 y Cyngor yn datgan ei weledigaeth fel galluogi Sir Gaerfyrddin ddwyieithog a fyddai’n golygu bod yr holl bobl ifanc, o bob rhan o gymdeithas, yn cael y cyfle i fod yn ddwyieithog pan fyddant yn gadael y system addysg, yn falch o’u hunaniaeth ac yn gallu dathlu’r ddwy iaith. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Cyngor yn cynorthwyo pob ysgol i symud ymlaen gyda chontinwwm cyfrwng Cymraeg o ran darpariaeth. Bydd hyn yn sicrhau twf sylweddol i addysg a hyfforddiant cyfrwng Gymraeg i gynyddu nifer y bobl o bob oedran sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac sy’n meddu ar y gallu i ddefnyddio eu hieithoedd yn hyderus gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Bydd darparu’r cynnydd hwn hefyd yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

3.3.7    Codwyd argaeledd a mynediad at ofal plant cofrestredig mewn ardaloedd gwledig hefyd, yn enwedig gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal ‘Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant’ bob pum mlynedd er mwyn mapio’r ddarpariaeth a nodi unrhyw fylchau ac mae’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos nad oes digon o ofal dydd llawn, gwarchodwyr plant na gofal y tu allan i’r ysgol mewn rhai ardaloedd, er bod nifer y darparwyr a lleoedd gofal plant wedi cynyddu ers yr asesiad diwethaf yn 2013. Ar ôl cyflwyniad diweddar Llywodraeth Cymru o 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio, rhagwelir y gallai hyn arwain at gynnydd i’r ddarpariaeth neu i ddarparwyr. Gallai hwn fod yn gyfle datblygu busnes neu fenter gymdeithasol bwysig mewn ardaloedd gwledig. Cydnabyddir hefyd y bydd mynediad at ofal iechyd a’r ddarpariaeth o ofal cofleidiol o gwmpas oriau ysgol yn ffactorau a fydd yn effeithio ar benderfyniadau rhieni sy’n gweithio o ran eu dewis o ysgolion yn y dyfodol ac, o ganlyniad, mae angen i ysgolion gwledig fod mewn sefyllfa i ddarparu pecyn cynhwysfawr ar gyfer disgyblion a rhieni.

3.3.8    Gallai’r bwlch hwn yn y ddarpariaeth yn y sector gofal plant fod yn gyfle da i’r Cyngor weithio gyda Choleg Sir Gâr (ac unrhyw bartneriaid perthnasol eraill) i ddatblygu model canolfan sgiliau i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sector, a sectorau seiliedig ar waith a galwedigaethol eraill. Bydd gwaith drwy’r Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn cynorthwyo’r gwaith o nodi’r bwlch sgiliau ar draws sectorau eraill a gallai fod yn elfen graidd o waith y sir i gefnogi sectorau’r economi sylfaenol fel y nodir yn adran Datblygu Economaidd yr adroddiad hwn (para. 3.1.4).

Argymhellion

14

Bod y Cyngor yn ystyried argymhellion ‘Adolygiad o’r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae’ Grŵp Gorchwyl a

Gorffen y Pwyllgor Craffu ar Addysg a Gwasanaethau Plant, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2019 ac sy’n cynnwys argymhellion yn canolbwyntio ar y canlynol:

a.      Y gofal plant sydd ar gael ac sy’n cael ei ddarparu ar draws y sir ond yn yr ardaloedd gwledig yn arbennig

b.      Cynorthwyo’r sector gofal plant i gynyddu’r gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ac sy’n cael ei ddarparu ar draws y sir

c.       Y ddarpariaeth clybiau ar ôl yr ysgol a gofal cofleidiol sydd ar gael drwy ysgolion

d.      Adolygu polisi derbyniadau’r Cyngor ar gyfer addysg amser llawn i blant pedair mlwydd oed

e.      Sicrhau bod yr holl rieni a gofalwyr yn derbyn gwybodaeth am fudd addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithrwydd

f.        Cynorthwyo ysgolion a phartneriaid lleol i ddatblygu model a fyddai’n galluogi defnydd cymunedol o gyfleusterau chwarae ysgolion y tu allan i oriau ysgol

Byddai’r argymhellion yn cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth a mynediad at ofal plant a chyfleoedd chwarae mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â chefnogi’r egwyddor o adeiladu cydnerthedd a chynaliadwyedd ysgolion gwledig yn y dyfodol.

15

Bod y Cyngor yn parhau i fod yn gwbl gefnogol i wneud popeth yn ei allu i adeiladu cydnerthedd a chynaliadwyedd ei ysgolion gwledig yn y dyfodol, ac yn gweithio yn unol â chyfres Llywodraeth Cymru o weithdrefnau a gofynion yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy’n gweithio ar sail tybiaeth yn erbyn cau.

16

Bod y Cyngor yn parhau â’r cynnydd sy’n cael ei wneud o ran symud pob ysgol gynradd ac uwchradd ar hyd y continwwm o ran cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

17

Bod y Cyngor, trwy Brosiect Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, yn ceisio cynyddu mewnbwn gyrfaoedd ar oedran iau mewn ysgolion i ysbrydoli a chodi dyheadau o ran cyfleoedd cyflogaeth ac entrepreneuriaeth lleol.

18

Bod y Cyngor yn gweithio gyda Choleg Sir Gâr i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu model canolfan arloesedd, technoleg a sgiliau gwledig ar draws y sir a fyddai’n gweithio i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau mewn sectorau penodol, gan ganolbwyntio ar sgiliau seiliedig ar waith / galwedigaethol.

19

Bod y Cyngor yn datblygu cyfres o gyfleoedd lleoliadau / profiad gwaith gyda busnesau lleol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth leol o opsiynau gyrfaoedd.

20

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu system olrhain ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael Sir Gaerfyrddin ar gyfer cyfleoedd addysg a chyflogaeth gyda’r nod o’u cyfeirio at gyfleoedd cyflogaeth i’w caniatáu i ddychwelyd i Sir Gaerfyrddin.

21

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i wneud gwaith mapio pellach ar oblygiadau posibl Brexit i sectorau gweithlu penodol ar draws y sir.


 

3.4 Band Eang a Sgiliau Digidol

3.4.1    Codwyd mynediad at fand eang yn gyson fel rhwystr i ddatblygu gwledig gan y mwyafrif o randdeiliaid a ddarparodd dystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl a chan drigolion drwy’r ymgynghoriad. Mae darparu a rheoli busnes yn dod yn fwy dibynnol ar gysylltedd band eang erbyn hyn, ac mae cyflymder a dibynadwyedd y cysylltedd hwnnw yn hanfodol bwysig hefyd. Mae’n ofynnol cyflawni mwy a mwy o swyddogaethau busnes fferm fel datganiadau, ffurflenni, cofrestriadau a swyddogaethau eraill cysylltiedig â busnes, fel TAW, ar-lein erbyn hyn. Hefyd, wrth i fanciau gau mewn trefi gwledig, ceir dibyniaeth gynyddol ar fynediad at fancio ar-lein.

3.4.2    Yn ogystal â’r effaith economaidd, gall diffyg mynediad at fand eang hefyd gael effaith gymdeithasol a chymunedol a gall gyfrannu at gynyddu arwahanrwydd cymdeithasol a chysylltedd cymunedol. Gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan annatod o gyfathrebu bywyd cymunedol erbyn hyn, gall diffyg mynediad at y we gael effaith niweidiol.

3.4.3    Nododd ffigurau a ddarparwyd gan Openreach yn rhan o’u tystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl ym mis Mai 2018 fod gan 86% o aelwydydd Sir Gaerfyrddin fynediad at fand eang cyflym iawn ar ôl cyflwyno rhaglen Cyflymu Llywodraeth Cymru, ond dim ond 40% o’r aelwydydd hynny oedd yn manteisio arno. Mae angen deall yn well felly pam mae cyfraddau manteisio mor isel o’u cymharu â’r argaeledd. Nodwyd hefyd na fyddai’r rhaglen Cyflymu yn gallu mynd i’r afael â phroblemau mynediad i adeiladau mewn ardaloedd gwledig mwy anghysbell ac y byddai angen ystyried atebion darparu eraill, fel:

·         Di-wifr sefydlog (o bwynt i bwynt)

·         Seilwaith 4G neu 5G gwell

·         Ffibr llawn

·         Tenantiaeth angori awdurdod lleol (gan ddefnyddio rhwydwaith ffibr presennol trwy ysgol ac ati)

·         Hunan-gloddio (wedi ei arwain gan y gymuned leol)

·         Dull strwythur o ymdrin â’r Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol (grwpiau clwstwr i weithio fel rhwydweithiau i rannu’r costau o sefydlu cysylltedd)

3.4.4    Gwnaed y Grŵp Gorchwyl yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wrthi’n cyflwyno rhaglen Cyflymu Band Eang 2, a fyddai’n dilyn ymlaen o’r rhaglen gychwynnol a ddarparwyd gan Openreach ac yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau cysylltedd i’r aelwydydd a’r cymunedau nad oeddent wedi elwa o’r rhaglen gyntaf. Fodd bynnag, prin yw’r wybodaeth sydd ar gael hyd yn hyn am y dull darparu ar gyfer yr ail raglen hon a’r amserlenni ar gyfer ei darparu.

3.4.5    Gwnaed sawl cyfeiriad yn ystod trafodaethau at brosiect llwyddiannus Superfast Cornwall, sydd wedi bod yn gweithio ers 2011 ar gysylltu cymaint o drigolion, busnesau a lleoliadau cymunedol â phosibl â band eang cyflym iawn. Yn rhan o’r gwerthusiad o’r rhaglen, nodwyd eu bod yn derbyn £4 mewn gwerth ychwanegol gros am bob £1 sy’n cael ei gwario ar fand eang. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio

seilwaith band eang a darparu cynllun manteisio ac ysgogi galw rhagorol. Daeth y gwerth ychwanegol gros uwch o greu diwydiannau newydd, symleiddio a gwasanaeth cyhoeddus cost is yn ogystal â chadw pobl yn y sir drwy’r flwyddyn gyfan, yn hytrach nag yn ystod misoedd yr haf yn unig.

3.4.6    Bydd prosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn canolbwyntio ar wella mynediad a chysylltedd, trwy amrywiaeth o atebion, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yn seiliedig ar ystadegau argaeledd band eang cyflym iawn Sir Gaerfyrddin a nodwyd gan Openreach (para. 3.4.3), mae’n ymddangos bod angen cynyddu ymwybyddiaeth o argaeledd a chynorthwyo pobl i fanteisio arno yn ogystal â datblygu atebion arloesol i fynd i’r afael â’r diffyg darpariaeth i’r 14% o aelwydydd Sir Gaerfyrddin nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd.

3.4.7    Mae’n rhaid nodi hefyd mai nad argaeledd band eang yw’r unig rwystr i gysylltedd, a chodwyd sgiliau a llythrenedd digidol nifer o weithiau fel problem sylweddol, yn enwedig ymhlith y grwpiau oed hŷn. Yn eu tystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl, nododd Canolfan Cydweithredol Cymru nad yw 18% o oedolion Sir Gaerfyrddin yn ddefnyddwyr rheolaidd o’r rhyngrwyd, ac er bod nifer o brosiectau yn cael eu darparu, fel Arwyr Digidol a Chwmnïau, mae angen gwneud mwy i sicrhau nad yw pobl yn cael eu hynysu’n ddigidol.

Argymhellion

22

Bod y Cyngor yn gweithio ar frys gydag asiantaethau a thrwy brosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i wella seilwaith a chysylltedd band eang, gan ganolbwyntio ar ardaloedd o gysylltedd gwael neu ddim cysylltedd, yn enwedig trwy’r rhaglen 10 Tref Wledig. Pan fo’n bosibl, dylai’r Cyngor ddatblygu a gweithredu ei atebion arloesol ei hun i ddiwallu angen lleol hefyd.

23

Bod y Cyngor yn gwella prosesau hyrwyddo grantiau a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fusnesau ac eiddo preifat ar hyn o bryd i gynorthwyo eu cysylltedd digidol.

24

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r broses o hyrwyddo cyfleoedd presennol i ddatblygu sgiliau digidol a cheisio cyflwyno cymorth ychwanegol yn ôl y gofyn.

 


 

3.5 Twristiaeth

3.5.1    Nodwyd bod twristiaeth yn ddiwydiant twf sylweddol i Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd, a bu cynnydd o 8% i ffigurau twristiaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn 2017–18, wrth i’r sector gyfrannu £434 miliwn at yr economi leol, ac oddeutu 6,000 o swyddi yn flynyddol. Nid yw hybu twristiaeth yn wasanaeth statudol i’r Cyngor ond, o ystyried y cyfraniad economaidd sylweddol y mae’r sector yn ei wneud, ac y mae ganddo’r potensial pellach i’w wneud, mae’r Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan i farchnadoedd mewnol Cymru a’r DU, yn ogystal ag yn rhyngwladol trwy ymgyrchoedd Croeso Cymru.

3.5.2    Mae’r cynnydd hwn i niferoedd yn gyfraniad cadarnhaol at y sector sy’n tyfu yn Sir Gaerfyrddin ond cydnabyddir hefyd y gellid gwneud mwy i ddatblygu a hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan ynddi ei hun. Ceir cyfle sylweddol i fanteisio ar yr ymwelwyr sy’n mynd heibio ar eu ffordd i ardaloedd arfordirol Sir Benfro a Cheredigion, ond hefyd ar y farchnad ranbarthol fewnol, trwy ddatblygu cynnig arfordirol a chefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn ogystal â datblygu asedau naturiol cyfoethog y sir o ran gweithgareddau awyr agored posibl a’r cynnig pob tywydd yn y sir.

3.5.3    Yn ystod trafodaethau yng Nghynhadledd Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2018, teimlwyd bod nifer o gyfleoedd y gellid bwrw ymlaen â nhw i ddatblygu’r sector twristiaeth ymhellach yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys:

·         Gwella cydweithrediad ar draws y sector cyfan

·         Gwella’r broses o hyrwyddo digwyddiadau presennol

·         Gweithio ar gael ymwelwyr sy’n mynd heibio i aros

·         Datblygu’r cynnig awyr agored

·         Datblygu synnwyr o le – yr hyn sy’n unigryw i Sir Gaerfyrddin

3.5.3    Mae Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddinyn bartner allweddol o ran cynorthwyo datblygiad y sector yn y sir. Fel sefydliad sy’n seiliedig ar aelodau, sydd â’r nod o gynorthwyo busnesau o bob math a maint sy’n gysylltiedig ag economi ymwelwyr y sir, mae ganddynt tua 250 o aelodau ar hyn o bryd ac yn gweithio ar y sail eu bod wedi eu harwain gan y diwydiant, ar ran y diwydiant. Bydd cydweithrediad rhwng asiantaethau fel y Gymdeithas, y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn allweddol o ran datblygu ymhellach y cynnig unigryw y mae Sir Gaerfyrddin yn ei wneud a chynorthwyo’r gwaith o hybu’r cyfleoedd twristiaeth cynyddol ar draws y sir.

3.5.4    Bydd cynorthwyo datblygiad ac arallgyfeirio i’r sector twristiaeth yn allweddol i gynaliadwyedd cymunedau gwledig ac, yn arbennig, galluogi incwm ychwanegol i ffermydd o ganlyniad i oblygiadau posibl Brexit. O ganlyniad, mae angen mwy o hyblygrwydd mewn polisi cynllunio lleol er mwyn galluogi a hwyluso datblygu priodol mewn aneddiadau mwy gwledig (fel y nodir yn Argymhelliad 10d yn yr adran Cynllunio a Thai).

 

 

Argymhellion

25

Bod y Cyngor yn adeiladu ar drefniadau presennol i weithio gyda phob partner â buddiant yn y sector twristiaeth i greu a hyrwyddo cynnig cyrchfan Sir Gaerfyrddin.

26

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phob partner â buddiant yn y sector twristiaeth a chymunedau lleol i ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo rhaglen o ddigwyddiadau/gwyliau lleol ar draws y sir drwy’r flwyddyn.

27

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid a’r sector preifat i nodi cyfleoedd i roi sylw i’r bwlch presennol o ran darpariaeth awyr agored a phob tywydd yn y sir.


 

3.6 Trafnidiaeth a Phriffyrdd

3.6.1    Cyfeiriwyd at rwydwaith trafnidiaeth y sir nifer o weithiau yn ystod ystyriaethau’r Grŵp Gorchwyl, ac roedd yn fater allweddol a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda llawer yn dweud bod y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y sir yn rhwystr i gael mynediad at wasanaethau. Mae nifer o heriau i’w hystyried wrth ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys galw, natur wledig a sail y boblogaeth. Mae’n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth hefyd fod 90% o aelwydydd mewn ardaloedd gwledig yn berchen ar gar. O fis Tachwedd 2018, roedd gan Sir Gaerfyrddin 67 o wahanol wasanaethau trafnidiaeth a dim ond deg ohonynt oedd yn gweithredu ar sail fasnachol; roedd 39 yn derbyn cymhorthdal llawn a 18 yn derbyn cymhorthdal rhannol. Felly, mae 85% o wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn cymorthdaliadau i ryw raddau, a £3.63 yw’r cymhorthdal cyfartalog fesul taith gan deithiwr unigol yn Sir Gaerfyrddin. Oherwydd y dwysedd poblogaeth isel, aneddiadau gwasgaredig, topograffi, amser, pellter a lefelau perchnogaeth ceir a chostau dilynol, mae fwy neu lai’n amhosibl rhedeg gwasanaeth cwbl fasnachol mewn ardal wledig.

3.6.2    Mae’r Cyngor wedi cydnabod bod hyn yn broblem ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi sefydlu’r model Bwcabus hynod lwyddiannus mewn rhannau o’r sir. Mae’r model hwn o gysylltu teithwyr â gwasanaethau bws prif linell i deithio wedi cael croeso da gan ddefnyddwyr ac wedi bod yn gymharol effeithlon o ran cost oherwydd agwedd ymatebol i alw y ddarpariaeth. Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth hon yn ddibynnol ar gyllid grant i’w chynnal ac er yr hoffai’r Cyngor ymestyn y ddarpariaeth i rannau eraill o’r sir, mae’r sefyllfa ariannu bresennol yn golygu na fydd hyn yn bosibl heb gyllid ychwanegol o ffynonellau newydd.

3.6.3    Hefyd, clywodd y Grŵp Gorchwyl am gynllun ‘Ceir Cefn Gwlad’ presennol y Cyngor, sy’n gynllun rhannu ceir cymunedol lle gall gwirfoddolwyr gynnig lifftiau i drigolion Sir Gaerfyrddin na fyddent yn gallu cyflawni teithiau lleol hanfodol fel arall. Teimlwyd y dylid gwneud mwy o hyrwyddo’r gwasanaeth hanfodol bwysig hwn i drigolion Sir Gaerfyrddin sydd angen y cymorth.

3.6.4    Awgrymwyd trafnidiaeth gymunedol gan nifer o randdeiliaid fel ffordd ymlaen bosibl o ran cynyddu’r ddarpariaeth drafnidiaeth, a chyfeiriwyd at y gwaith a wnaed gan Dolen Teifi fel enghraifft o arfer da. Crëwyd Dolen Teifi gan wirfoddolwyr gyda’r nod o ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy i’r bobl sy’n byw ar hyd Dyffryn Teifi o Gastellnewydd Emlyn i Landysul a Llanybydder. Dylid ystyried cyfleoedd i ddatblygu’r model hwn ymhellach ar draws rhannau eraill o’r sir, ynghyd â chynlluniau cronfa geir cymunedol posibl, fel atebion posibl i’r problemau trafnidiaeth sylweddol y mae rhai o’n cymunedau mwyaf anghysbell yn eu hwynebu.

3.6.5    Yn rhan o hyn, mae angen rhoi ystyriaeth i gynyddu seilwaith gwefru trydanol y sir. Oherwydd datblygiadau i dechnoleg a’r ymgyrch i leihau allyriadau carbon, mae perchnogaeth a defnydd o geir trydanol yn debygol o gynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf a dylai Sir Gaerfyrddin fuddsoddi yn ei seilwaith nawr er mwyn bod mewn sefyllfa dda i fodloni’r galw yn y dyfodol. Mae nifer o brosiectau ar y gweill neu’n cael eu datblygu yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys gosod 26 o bwyntiau gwefru

pen dwbl mewn lleoliadau ar draws y sir. Teimlir bod y rhaglen 10 Tref Wledig yn cynnig cyfle da i sicrhau dull cydlynol o ddatblygu’r ddarpariaeth yn strategol ar draws y sir, gan sicrhau mynediad cyson at bwyntiau gwefru mewn lleoliadau allweddol. Trwy ddatblygu’r seilwaith hwn a chefnogi datblygiad y cynnig trafnidiaeth gymunedol, dylai fod effaith ar allyriadau carbon y sir hefyd.

3.6.6   Bu buddsoddiad a chynnydd sylweddol i weithgarwch beicio yn Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi cael nifer o fanteision o ran effeithiau economaidd, iechyd, amgylcheddol a chymdeithasol. Byddai datblygu rhwydwaith o lwybrau beicio oddi ar y ffordd ar draws y sir, yn seiliedig ar brosiect Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, yn hwb sylweddol i seilwaith lleol a hefyd yn atyniad i dwristiaid beicio yn Sir Gaerfyrddin. Dylid ystyried datblygu ymhellach llinellau rheilffordd sy’n segur erbyn hyn ar draws y sir fel cyfle datblygu allweddol ar gyfer y dyfodol.

3.6.7    Ceir dros 3,500 cilomedr o briffyrdd yn Sir Gaerfyrddin ac mae’r costau cynnal a chadw yn sylweddol. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw prif lwybrau’r A40, yr A48 a’r A483 ac fe’u cynhelir trwy asiantaethau allanol fel yr Asiantaeth Cefnffyrdd. Yn anffodus, oherwydd toriadau i gyllidebau a wynebir gan y Cyngor, mae’r gwasanaeth Priffyrdd yn benodol wedi gweld gostyngiad o tua 40% i wariant yn y gwasanaeth ers 2012–13. Mae’r Cyngor yn chwilio’n rhagweithiol am unrhyw ffynonellau o gyllid sydd ar gael, ond mae archwiliad diweddar o gyflwr yr holl ffyrdd A, B, C a diddosbarth yn y sir yn amcangyfrif bod angen buddsoddiad o o leiaf £15 miliwn ar gyfer trwsio’r ffyrdd o’r brys mwyaf. O’r trwsio brys sydd wedi eu hadnabod, mae angen £9 miliwn ar gyfer ffyrdd C a £4 miliwn ar gyfer y ffyrdd diddosbarth – y mathau o ffyrdd mwyaf tebygol o ddarparu cysylltiadau gwledig. Mae’r Cyngor eisoes wedi sicrhau cyllid grant ychwanegol gwerth £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn adnewyddu’r ffyrdd a bydd hwn yn cael ei dargedu’n benodol tuag at wella ffyrdd A a B. Mae hon yn amlwg yn her sylweddol i’r Cyngor fynd i’r afael â hi ond mae’r Grŵp Gorchwyl yn annog y Cyngor i edrych ar bob ffynhonnell cyllido posib fel bod cyflwr ffyrdd yn ein hardaloedd gwledig yn cael ei wella a’i gynnal.

Argymhellion

28

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd trafnidiaeth gymunedol ledled y sir, a ddylai ystyried pob modd trafnidiaeth ymarferol i fynd i’r afael ag anghenion lleol.

29

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried buddsoddiad pellach yn y rhwydwaith pwyntiau gwefru trydanol ar draws y sir gyda phwyslais ar ddatblygu’r seilwaith yn rhan o’r fenter 10 Tref Wledig.

30

Bod y Cyngor yn adeiladu ar ddull Llwybr Beicio Dyffryn Tywi trwy ymchwilio i ymarferoldeb datblygu llwybrau beicio ychwanegol ar linellau rheilffordd segur ledled y sir.

31

Bod y Cyngor yn gwella’r broses o hyrwyddo ei gynllun Ceir Cefn Gwlad.

32

I lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid tymor hwy ar gyfer model llwyddiannus Bwcabus.

33

Bod y Cyngor yn archwilio’r holl opsiynau posibl i gefnogi ei raglen cynnal a chadw i sicrhau bod cyflwr ffyrdd gwledig yn cael ei wella.

 


 

3.7 Amaethyddiaeth a Bwyd

3.7.1    Mae’r ansicrwydd parhaus ynghylch trefniadau cytundeb terfynol Brexit yn ei gwneud yn anodd iawn, os nad yn amhosibl, i’r sector a’r diwydiant amaethyddol gynllunio’n briodol neu wneud unrhyw benderfyniadau o ran polisi a dull yn y dyfodol. Fodd bynnag, cydnabyddir yn eang os bydd Brexit yn digwydd y bydd y sector amaethyddol yn wynebu cyfnod sylweddol o newid, ac mae’r Athro Janet Dwyer, yn Goblygiadau Brexit i Amaethyddiaeth, Ardaloedd Gwledig a’r Defnydd o Dir yng Nghymru, yn nodi tri goblygiad allweddol o’r broses Brexit a fydd yn cael effaith ar bolisi’r DU a Chymru o ran amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig:

a.      Masnach – bydd rhaid i’r DU benderfynu ar ei pherthynas fasnachu yn y dyfodol gyda’r UE a chyda gwledydd trydydd parti y tu allan i’r UE.

b.      Polisi/cyllid yn y dyfodol ar gyfer amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig – bydd y DU a’i gweinyddiaethau datganoledig yn penderfynu faint y gellir ei fforddio ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli amgylcheddol a datblygu gwledig ar ôl i’r DU adael fframwaith y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

c.       Natur model llywodraethu ehangach y DU ar ôl Brexit a’r sefyllfa economaidd gyffredinol, a fydd yn arwain at newid mewn ardaloedd gwledig – mae datganoli presennol o ran materion amaethyddol a gwledig yn ddibynnol ar fframwaith UE cyffredin yn cynnwys adnoddau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, Cronfeydd Strwythurol yr UE, a darpariaethau deddfwriaeth yr UE ar yr amgylchedd, diogelwch bwyd a lles defnyddwyr. Beth allai ddisodli hyn?

3.7.2    Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynnig ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir newydd a fyddai’n disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru. Amlinellodd y cynnig ddau gynllun mawr a hyblyg a fyddai’n disodli’r cynlluniau a ariennir gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar hyn o bryd (Cynllun y Taliad Sylfaenol, Glastir, a rhannau eraill o’r Rhaglen Datblygu Gwledig). Dyma fyddai’r ddau gynllun newydd a gynigiwyd:

·         Cynllun Cydnerthedd Economaidd – buddsoddiad ar gyfer gweithgareddau economaidd, a chynhyrchu bwyd a phren yn arbennig

·         Cynllun Nwyddau Cyhoeddus – cymorth uniongyrchol ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus, ac ar gyfer yr amgylchedd yn arbennig

Ar ôl ystyried y cynigion, a gwrando ar safbwyntiau’r undebau ffermio, ymatebodd y Cyngor i’r ymgynghoriad i gyfleu ei bryderon y teimlwyd bod y dull a awgrymwyd yn fygythiad sylweddol i amrywiaeth y sector amaethyddol sydd gennym yng Nghymru ac y gallai gael effaith anghymesur ar weithrediadau amaethyddol ar raddfa lai a ffermydd teuluol traddodiadol, sy’n rhan hanfodol o sector amaethyddol a chymunedau gwledig Cymru. Rydym yn aros am y cynigion terfynol pan fydd y sefyllfa derfynol o ran Brexit yn fwy eglur.

3.7.3    Er gwaethaf y pryderon sylweddol, ceir elfen o obaith yn sector amaethyddol Sir

Gaerfyrddin ar gyfer y dyfodol. Mae gan Sir Gaerfyrddin gydbwysedd da o fathau o ffermydd yn y sir a’r prif sector yw llaeth ond gyda chymysgedd o ddefaid, gwartheg eidion, a sector dofednod sy’n tyfu. Gallai’r amrywiaeth hon fod o fudd i’r sector amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin o’i chymharu ag ardaloedd eraill sy’n fwy dibynnol ar fathau penodol o ffermydd. Bydd addasiad a goroesiad busnesau yn y dyfodol yn ddibynnol ar yr amrywiaeth hon a’r amodau lleol i alluogi a chynorthwyo’r arallgyfeirio hwnnw.

3.7.4    Fel y nodwyd, mae’r sector llaeth yn darparu sylfaen gadarn i’r diwydiant amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin gyda thros 470 o gynhyrchwyr llaeth yn y sir, sy’n 28% o holl gynhyrchwyr Cymru. Un o’r prif rwystredigaethau a nodwyd gan nifer o randdeiliaid a ddarparodd dystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl oedd y ffaith fod mwyafrif llethol y llaeth a gynhyrchir yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gludo allan o’r sir, ac o Gymru yn wir, i gael ei brosesu. Daeth astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o ymarferoldeb sefydlu capasiti prosesu llaeth ychwanegol yn ne-orllewin Cymru ym mis Tachwedd 2015 i’r casgliad fod cyfleuster prosesu newydd yn annhebygol o fod yn fforddiadwy yn y byrdymor oherwydd y costau cyfalaf uchel ac felly ni fyddai’n fasnachol hyfyw. Gyda hyn mewn golwg, byddai’r Grŵp Gorchwyl yn argymell ymchwilio i’r ymarferoldeb o ddatblygu micro/macro gyfleuster prosesu llaeth a allai weithio yn unol â model cydweithredol ac adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn bodoli ar gyfer prosesu caws lleol trwy ddatblygu marchnadoedd eraill fel llaeth/hufen hylif, iogwrt a hufen iâ ymhellach.

3.7.5    Yn ogystal â’r sector llaeth, mae gan Sir Gaerfyrddin sector cynhyrchu bwyd bywiog hefyd gyda nifer o gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol yn darparu ar gyfer marchnadoedd lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir cyfle i ddatblygu’r sector hwn ymhellach trwy ddod â’r cynhyrchwyr bwyd unigol ynghyd i ddatblygu rhwydwaith a brand ar gyfer bwydydd o Sir Gaerfyrddin. Gellid alinio hwn yn agos â rhaglen Bwyd a Diod i Gymru Llywodraeth Cymru. Oherwydd goblygiadau posibl Brexit, bydd angen i’r sector amaethyddol ystyried a datblygu ffynonellau incwm ychwanegol trwy arallgyfeirio ac mae’r sector bwyd yn barod ar gyfer datblygiad pellach yn Sir Gaerfyrddin gyda’r cymorth a’r camau hwyluso priodol.

3.7.6    Yn rhan o ymweliad y Grŵp Gorchwyl â Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, awgrymwyd bod angen cynyddol am unedau busnes a chynhyrchu bwyd canolig eu maint er mwyn ategu’r unedau deori bach sydd ar gael yn Horeb a galluogi twf busnes. Dylid ystyried galw a chyfleoedd lleol ar gyfer datblygu unedau priodol ledled Sir Gaerfyrddin ymhellach.

3.7.7    Hefyd, mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid sector cyhoeddus eraill trwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i adolygu ei drefniadau caffael bwyd cyfredol gyda nod tymor hwy o gaffael mwy o nwyddau a gynhyrchir yn lleol pan fo’n bosibl. Mae hyn yn rhan o raglen ehangach y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio rhoi sylw iddi trwy ddatblygu cyfleoedd ymhellach i’r sectorau sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol hynny yr ydym ni i gyd yn eu

defnyddio bob dydd fel gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr – yr ystyrir bod pob un ohonynt yn enghreifftiau o’r economi sylfaenol. Bydd hwn yn ddatblygiad allweddol i’r economi wledig, yn arbennig wrth i ni geisio atgyfnerthu a datblygu ymhellach y diwydiannau lleol yr ydym yn dibynnu arnynt yn feunyddiol.

3.7.8    Yn rhan o’u tystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl, nododd Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru) mai 61 yw oedran cyfartalog ffermwyr erbyn hyn a cheir pryder yn y sector ynghylch y diffyg cyfleoedd i bobl ifanc a ffermwyr ifanc ymuno â’r diwydiant. Oherwydd prisiau tir a chostau sefydlu, mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar unrhyw ddechreuwr newydd sy’n dod i mewn i’r diwydiant er mwyn sefydlu ei hunan. Mae cynllunio olyniaeth yn allweddol felly, ac mae Cyswllt Ffermio yn cynnig amrywiaeth o gymorth a dulliau i hwyluso hyn. Hefyd, mae Cyswllt Ffermio yn rhedeg y rhaglen Mentro / Venture, sy’n ceisio nodi a chynorthwyo mentrau ffermio ar y cyd yng Nghymru. Mae hwn yn ddull y mae angen ei ddatblygu ymhellach ledled Cymru ac yn Sir Gaerfyrddin yn arbennig.

3.7.9    Mae’r sector amaethyddol yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Sir Gaerfyrddin gydag NFU Cymru yn cyfeirio at adroddiad o 2017 gan Development Economics sy’n nodi bod ffermio yn darparu £7.40 yn ôl i’r economi am bob £1 a fuddsoddir mewn cymorth i ffermydd, trwy brynu nwyddau fel porthiant anifeiliaid, milfeddygon, peiriannau, contractwyr lleol, bwyd ac ati. Yn ogystal â’r cyfraniad economaidd, mae’r sector yn chwarae rhan bwysig o ran siâp cymunedau gwledig. Mae ffermio yn darparu’r asgwrn cefn i lawer o gymunedau gwledig, ac mae llawer ohonynt yn gymunedau Cymraeg eu hiaith yn bennaf a cheir pryder os bydd y sector amaethyddol yn cael ei effeithio’n andwyol gan Brexit, fel y mae rhai’n ofni, y gallai hyn gael effaith niweidiol dros ben ar gydnerthedd a chynaliadwyedd llawer o gymunedau gwledig yn y dyfodol, nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ledled Cymru a’r DU.

Argymhellion

34

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i ymarferoldeb datblygu cyfleusterau prosesu llaeth a arweinir gan fentrau cydweithredol yn Sir Gaerfyrddin ar sail micro/macro ac yn cytuno ar ffordd ymlaen pan fydd y canfyddiadau yn hysbys.

35

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i ymarferoldeb datblygu brand Sir Gaerfyrddin ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn lleol.

36

Bod y Cyngor yn ymgysylltu’n llawn â rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, sy’n ceisio datblygu cyfleoedd ar gyfer caffaeliad sector cyhoeddus o fwyd a gynhyrchir ac a gyflenwir yn lleol yn ogystal â ffyrdd y gall y sector cyhoeddus gynorthwyo cynhyrchwyr bwyd lleol i sefydlu, datblygu a thyfu eu busnesau. Os ystyrir bod y dull hwn yn llwyddiannus ac yn briodol, gellid ei ymestyn i alluogi nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus eraill i gael eu caffael yn lleol, a fydd yn cefnogi punt Sir Gaerfyrddin wedyn. 

37

Bod y Cyngor yn ystyried galw a chyfleoedd ar gyfer datblygu busnesau ac unedau cynhyrchu cysylltiedig â bwyd canolig eu maint.

38

Bod y Cyngor yn gweithio gydag asiantaethau eraill ac yn eu cynorthwyo, yn enwedig trwy raglen Mentro / Venture Cyswllt Ffermio, i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo a datblygu cyfleoedd ar gyfer mentrau o fath ffermio ar y cyd.

39

I lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw raglenni ariannu ar ôl Brexit a sefydlir i ddisodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin:

a.      Yn parchu amrywiaeth y sector amaethyddol yn llawn, gan adlewyrchu’r cyfraniad economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y mae’r sector yn ei wneud at gymunedau gwledig yn eu cyfanrwydd

b.      Yn peidio â chael effaith negyddol anghymesur ar weithrediadau amaethyddol ar raddfa lai a ffermydd teuluol traddodiadol

c.       Yn ymateb i’r angen am dwf economaidd ac yn cael eu halinio yn agosach i gynlluniau datblygu economaidd a sgiliau ehangach Llywodraeth Cymru

Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei chynlluniau i ddiddymu taliadau uniongyrchol yn y dyfodol, a allai ansefydlogi’r diwydiant yng Nghymru gan ei fod yn neilltuo Cymru o ddull gwledydd eraill a fyddai’n gystadleuwyr uniongyrchol yn y diwydiant. 

40

Pan fydd y sefyllfa Brexit yn hysbys, bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried cyfleoedd i ehangu marchnad fewnol Sir Gaerfyrddin / Cymru / y DU ar gyfer cynnyrch cig eidion, cig oen, dofednod a phorc.

 


 

3.8 Cydnerthedd Cymunedol, Mynediad at Wasanaethau a’r Trydydd Sector

3.8.1    Mae Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod â rhwydwaith cymunedol, cymdeithasol a thrydydd sector bywiog, er bod yn rhaid cydnabod bod y cymunedau hyn yn esblygu’n barhaus gydag anghenion newidiol. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o’r swyddogaeth a’r cyfraniad pwysig y mae sefydliadau cymunedol, sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn bennaf, yn eu gwneud at gydnerthedd a hanfod cymunedau lleol.

3.8.2    Yn y blynyddoedd diwethaf, bu colled fudo net yn y grŵp oedran 15–29 yn Sir Gaerfyrddin a chynnydd mewnfudo yn y grŵp oedran 30–65+ oed. Ar gyfartaledd dros y pum mlynedd ddiwethaf, bu colled fudo net o 340 o bobl yn y grŵp oedran 15–29 yn Sir Gaerfyrddin a chynnydd mewnfudo net o gyfartaledd o 598 o bobl yn y grŵp oedran 30–65+ yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn yn cefnogi’r duedd gydnabyddedig yn Sir Gaerfyrddin o boblogaeth sy’n heneiddio ond mae ganddo hefyd oblygiadau posibl o safbwynt cydnerthedd a chydlyniad cymunedol y mae angen eu hystyried. Mae pwysigrwydd ein rhwydweithiau cymunedol a’n strwythurau cymorth yn allweddol felly i gefnogi anghenion poblogaeth yn y dyfodol. Mae’n rhaid cydnabod hydeimledd diwylliannol ac ieithyddol hefyd, gyda 50.2% o’r boblogaeth yn y wardiau gwledig yn siarad Cymraeg, sy’n uwch na’r cyfartaledd ledled y sir gyfan o 43.9%. Mae datblygiadau fel y pecyn ‘Croeso i Sir Gâr’ yn bwysig i sicrhau bod pwysigrwydd y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gyfleu i bobl sy’n symud i’r sir cyn gynted a phosibl fel y gellir eu hannog i ddysgu’r iaith.

3.8.3    Un o’r sefydliadau cymunedol yr amlygwyd gan nifer o randdeiliaid ei fod yn allweddol i fywyd cymunedol oedd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Sir Gâr. Gyda 23 o glybiau gweithredol ar draws Sir Gaerfyrddin a thros 800 o aelodau rhwng 10 a 26 oed a channoedd o arweinwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr gwirfoddol, mae CFfI yn chwarae rhan sylweddol o ran creu synnwyr o falchder a pherthyn cymunedol, wrth i bob clwb gyfrannu’n sylweddol at fywiogrwydd ei gymuned leol. Mae gan y sefydliad swyddogaeth allweddol hefyd o ran mynd i’r afael â diboblogaeth pobl ifanc gan fod y berthynas glos sy’n cael ei chreu rhwng aelodau a’u cymunedau yn cael ei nodi’n barhaus fel ffactor yn nymuniad pobl ifanc i aros yn y sir neu ddychwelyd adref. Mae strwythur y sefydliad hefyd yn chwarae rhan sylweddol o ran datblygu sgiliau a phrofiadau ei aelodau i ddod yn arweinwyr cymunedol y dyfodol, rhywbeth y mae wir ei angen os yw ein cymunedau gwledig am barhau i ffynnu. Mae’r Grŵp Gorchwyl yn teimlo y gallai’r Cyngor wneud mwy o waith ochr yn ochr â’r CFfI i gefnogi ac ymgysylltu eu haelodau fel hyrwyddwyr neu gysylltwyr cymunedol yn y dyfodol.

3.8.4    Wrth i wasanaethau sector cyhoeddus wynebu newid parhaus dros y blynyddoedd i ddod, mae’r rhan y gall y trydydd sector ei chwarae hefyd yn debygol o gynyddu o safbwynt darparu gwasanaethau. Nododd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr a Chanolfan Cydweithredol Cymru gyfleoedd yn eu cyflwyniadau i’r Grŵp Gorchwyl ar gyfer datblygu’r sector ymhellach trwy fenter gymdeithasol a mentrau cydweithredol, yn enwedig i gynorthwyo entrepreneuriaeth mewn ystyr busnes a

chynhwysiant cymdeithasol mewn ystyr cymunedol. Mae’r Cyngor eisoes yn ystyried hyn mewn rhai gwasanaethau ond mae angen mwy o bwyslais ac ysgogiad o ran bwrw ymlaen â hyn. Gellid defnyddio’r dull hwn hefyd ar gyfer mentrau a gwasanaethau cymunedol pellach, y gellid eu hystyried yn sectorau’r economi sylfaenol, fel cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol, tafarndai a siopau cymunedol gwledig, gwasanaethau hamdden ac ati. Dylai hon fod yn ystyriaeth allweddol i’r fenter 10 Tref Wledig.

3.8.5    Myfyriodd nifer o randdeiliaid ar eu pryderon cynyddol o ran materion cymdeithasol a chymunedol yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd, y mae’n ymddangos eu bod yn cael eu gwaethygu o fyw mewn ardaloedd gwledig. Cydnabuwyd hyn ar draws pob rhan o’r gymuned ond mae’n ymddangos ei bod yn broblem arbennig yn y sector amaethyddol oherwydd y patrymau gweithio, gydag oriau maith a gweithio ar eich pen eich hun fel rheol. Mae rhwydweithiau cymunedol yn hanfodol wrth ymateb i’r materion traws-sirol hyn ond, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, oherwydd y diffyg trafnidiaeth a mynediad at wasanaethau, gall rhith-rwydweithiau fod yn ateb hefyd. Roedd y Grŵp Gorchwyl yn falch o glywed am brosiect sy’n cael ei ddatblygu gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru sy’n ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn rhan o fodel gofal a chymorth ymatebol sy’n canolbwyntio ar unigolion trwy ryngweithio rhagweithiol gydag unigolion. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar fodel llwyddiannus a roddwyd ar waith yn Bilbao, Sbaen, lle defnyddir y cyfryngau cymdeithasol i ddatblygu rhwydweithiau cymunedol cryf ar-lein a all ddatblygu wedyn i fod yn rhwydweithiau cryf yn y gymuned.

3.8.6    Nodwyd hefyd y cydnabuwyd bod trosedd wledig yn bryder cynyddol yn yr ardal wrth i Heddlu Dyfed–Powys gyhoeddi ei Strategaeth Plismona Gwledig gyntaf yn 2017. Mae’r prif broblemau yn ymwneud â Sir Gaerfyrddin wedi tueddu i ganolbwyntio ar ladrad defaid, beiciau cwad, gatiau, trelars ac offer fferm eraill. Ychydig dros £97,000 oedd gwerth eitemau a gafodd eu dwyn o Sir Gaerfyrddin wledig yn 2017–18. Mae angen i’r Cyngor weithio gyda’r heddlu a’u cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl i ymateb i’r problemau hyn fel bod cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin yn rhagweithiol ac wedi eu paratoi’n dda i leihau hap-drosedd o’r fath.

Argymhellion

41

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r dull a’r defnydd o fentrau cymdeithasol fel model posibl ar gyfer darparu prosiectau a gwasanaethau a arweinir gan y gymuned ledled y sir.

42

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu dull mwy cydgysylltiedig o nodi, cynorthwyo a datblygu gwirfoddolwyr ledled y sir.

43

Bod y Cyngor yn gweithio gyda Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr i sicrhau perthynas waith a strwythur cymorth agosach yn y dyfodol.

44

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i ymateb i broblemau yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

45

Bod y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu Dyfed–Powys i fynd i’r afael â phroblemau trosedd wledig sy’n effeithio ar y sir ac i fonitro unrhyw dueddiadau o ran materion cydlyniant cymunedol.

46

Bod y Cyngor yn ailystyried y model cyflawni ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau hamdden mewn ardaloedd gwledig gyda’r nod o greu darpariaeth gynaliadwy a hygyrch o wasanaethau yn y dyfodol. Dylid cysylltu hyn â’r rhaglen Deg Tref Wledig.


 

3.9 Ynni Adnewyddadwy

3.9.1    Mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa dda i ddatblygu ei hallbwn ynni adnewyddadwy gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiadau ynni dŵr, haul a gwynt ar draws y sir. Bydd angen ymdrech gyfunol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol i ganiatáu i hyn ddigwydd ac mae angen dull mwy hyblyg er mwyn sicrhau newid. Er y cydnabyddir rhai o’r heriau y gallai hyn eu creu, ceir angen cydnabyddedig hefyd, wedi ei gefnogi gan y sylw cenedlaethol a lleol, i’r angen i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, i newid y dull cyfredol, ac i fod yn fwy ymgyrraeddol o ran datblygiad a darpariaeth leol.

3.9.2    Gwnaeth y Cyngor ymrwymiad ym mis Chwefror 2019 i fod yn awdurdod di-garbon net erbyn 2030, ac mae cynllun gweithredu i gyflawni’r ymrwymiad hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae gan y Cyngor bortffolio eiddo a thir sylweddol ac mae eisoes wedi cyflwyno rhai cynlluniau o ran cynhyrchu ynni haul a gwynt. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy ac mae adolygiad o’r opsiynau posibl ar gyfer darparu ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd rhan o’r broses hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy a hefyd i gymryd camau i wrthbwyso’r allyriadau carbon nad yw’n gallu eu hatal. Bydd y Cyngor yn ceisio gweithio gyda chyrff sector cyhoeddus eraill, drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i ymateb i’r her hon a sicrhau ei fod yn cyflawni ei ymrwymiad.

3.9.3        Mae angen hefyd cynyddu a chynorthwyo datblygiad cynlluniau ynni cymunedol yn y sir. Yn ogystal â darparu atebion ynni clyfar a glân, ceir modd o sicrhau bod elw yn cael ei gadw ac yn cael ei ailfuddsoddi yn yr ardal leol ac yn arbed arian i’r gymuned leol. Rhoddodd Ynni Sir Gâr dystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl, gan amlinellu rhai o’r prosiectau y mae eisoes yn eu darparu yn y sir a bod potensial a diddordeb i ddarparu llawer mwy.

 

Argymhellion

47

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i wella’r broses o hyrwyddo cyfleoedd i gynyddu datblygiad a defnydd o ynni adnewyddadwy yn y sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol.

48

Bod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi datblygiad cynlluniau ynni cymunedol.

49

Bod y Cyngor yn ceisio cynyddu’r defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy i gyflenwi safleoedd y Cyngor.


 

3.10 Yr Amgylchedd a Gwastraff

3.10.1  Mae Sir Gaerfyrddin yn ardal sy’n adnabyddus am ei harddwch naturiol eithriadol, o’i thraethau a’i morlin, i’w chymoedd amaethyddol ac ôl-ddiwydiannol a’i choedwigoedd a’i chopâu, mae amgylchedd naturiol y sir yn un o’i hasedau mwyaf.

3.10.2  Fodd bynnag, cydnabyddir bod yr amgylchedd hwn yn newid a chyhoeddwyd argyfwng hinsawdd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2019 wrth iddo ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu ar gyfer y Cyngor ac mae’r Grŵp Gorchwyl yn cefnogi’r dull hwn yn llawn ac yn annog y Cyngor i weithio gyda phartneriaid eraill i weithredu ar y cyd.

3.10.3  Derbyniodd y Grŵp Gorchwyl dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid ar y pryder cynyddol yn ymwneud â digwyddiadau llygredd dŵr yn Sir Gaerfyrddin, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru nodi bod 81 o ddigwyddiadau llygredd dŵr a gadarnhawyd yn Sir Gaerfyrddin yn ystod 2018. Dyma ddadansoddiad o ffynhonnell y llygredd:

Safle

Nifer

Ymchwiliadau yn parhau i gadarnhau’r ffynhonnell

2

Amaethyddiaeth

35

Domestig a phreswyl

8

Gweithgynhyrchu

4

Arall

1

Ni nodwyd y safle (methu â nodi’r ffynhonnell)

16

Y sector gwasanaethu (e.e. garejis, bwytai, cwmnïau trydan ac ati)

3

Trafnidiaeth

3

Y diwydiant dŵr

9

 

3.10.4  Er y cydnabyddir nifer o wahanol ffynonellau’r digwyddiadau hyn, mae’n rhaid cydnabod y niferoedd uchel o ddigwyddiadau yn y sector amaethyddol. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod hefyd fod cyfanswm o 475 o ffermydd llaeth yn Sir Gaerfyrddin (ym mis Ebrill 2018), sy’n 28% o sector llaeth Cymru gyfan, ac er bod nifer y digwyddiadau amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin yn uchel, yn bennaf oherwydd lleiafrif bach o lyfrwyr, mae’r mwyafrif llethol o ffermwyr yn ymwybodol iawn o’u cyfrifoldeb o ran diogelu ein hamgylchedd a byddai’n annheg felly pardduo’r sector llaeth cyfan ar sail hyn. Cydnabyddir bod Cyswllt Ffermio a Chyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cymorth, cyngor a chyfarwyddyd i ffermwyr gymryd camau i atal llygredd ac mae angen neilltuo adnoddau priodol ar gyfer hyn. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i gefnogi mentrau fel ‘Taclo’r Tywi’, a fydd yn ymgysylltu â’r holl bartïon â buddiant i lunio cynllun ymarferol ar gyfer rheoli afon Tywi yn y dyfodol, a byddai’n annog y dull hwn i ddatrys unrhyw brobemau mewn afonydd eraill ledled y sir yn ôl yr angen. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod cyfran fawr o ffynonellau’r digwyddiadau o sefyllfaoedd ac eithrio amaethyddiaeth, ac mae angen canolbwyntio’r un lefel o ymyrraeth ar y meysydd hyn i fynd i’r afael â digwyddiadau llygredd yn y dyfodol a’u hosgoi.

3.10.5  Er gwaethaf y camau hyn, ceir angen eglur i dargedu ymyriadau yn Sir Gaerfyrddin i fynd i’r afael â holl achosion llygredd dŵr a byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ariannu a chefnogi camau uniongyrchol yn Sir Gaerfyrddin, gan weithio gyda sefydliadau lleol i fynd i’r afael â’r materion a wynebir ar hyn o bryd. Mae rhai awgrymiadau a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl yn cynnwys cyllid i gynorthwyo gwaith calchu tir, buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu lagynau a phyllau slyri, a mesurau i atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i’r pyllau ac ati. Gallai rhoi sylw uniongyrchol i’r problemau yn Sir Gaerfyrddin gynnig model ar gyfer darparu yn y dyfodol a allai atal gorfodi mwy o reoliadau ar y sector.   

3.10.6  Mae’r Grŵp Gorchwyl yn gefnogol iawn i’r Prosiect Slyri gwerth £10 miliwn y mae Coleg Sir Gâr yn ei ddatblygu gyda phartneriaid, sy’n gweithio i ddatblygu system ddihysbyddu a phuro i reoli slyri ar ffermydd. Gallai hwn fod yn ddatblygiad arwyddocaol i’r sector o ran mynd i’r afael â’r mater hwn yn y dyfodol.  

3.10.7  Derbyniodd y Grŵp Gorchwyl wybodaeth hefyd am y rheoliadau Parthau Perygl Nitradau (NVZ) arfaethedig y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno, a fyddai’n cyfyngu’r cyfnod sydd ar gael ar gyfer gwasgaru slyri i amserlen benodol yn ystod y flwyddyn. Er ein bod yn cydnabod yr angen i gymryd camau i fynd i’r afael â’r mater, mae’r Grŵp Gorchwyl yn teimlo y dylai pwyslais cychwynnol unrhyw ymyrraeth uniongyrchol fod ar y troseddwyr hysbys ac ailadroddus o ran camreoli slyri, yn hytrach na gorfodi cosbau ar bob ffermwr. Ceir pryder y gallai’r diffyg hyblygrwydd yn y rheoliadau arfaethedig i hwyluso cyfnodau o dywydd sy’n addas ar gyfer gwasgaru slyri y tu allan i’r cyfnod amser sefydlog arwain at fwy o lygredd os caiff gwaith gwasgaru ei ddwysáu yn ystod y cyfnod sefydlog pan allai’r tywydd fod yn anffafriol ar gyfer gwasgaru.

3.10.8  Caiff ansawdd aer yn Sir Gaerfyrddin ei fonitro’n barhaus ac, yn ôl Adroddiad ar Gynnydd Ansawdd Aer 2018 ar gyfer y sir, nitrogen deuocsid (NO2) yw’r prif lygrydd ansawdd aer sy’n berthnasol i Sir Gaerfyrddin a thraffig ffyrdd yw’r brif ffynhonnell o allyriadau NO2 yn y sir. Ceir dwy Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, un yn Llandeilo ac yn yng Nghaerfyrddin. Mae’r Cyngor wedi paratoi cynlluniau gweithredu manwl i reoli a gweithio tuag at fynd i’r afael â’r problemau mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau. Mae hyn yn rhywbeth y byddai’r Panel Cynghori, os bydd cytundeb y dylid ei sefydlu, yn awyddus i’w ystyried yn fwy manwl yn y dyfodol.

3.10.9  Roedd pryder sylweddol gan nifer o randdeiliaid hefyd ynghylch effaith tipio anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig. Mae glendid ac ymddangosiad ardal yn cyfrannu’n fawr at falchder cymunedol a synnwyr o le a gall gael effaith o ran rhagolygon twristiaeth. Fodd bynnag, roedd pryderon penodol ynghylch tipio anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig oherwydd y gallant gael eu hystyried yn fan dympio hawdd a’i fod yn arbennig o annheg o ran tirfeddianwyr preifat yn gorfod talu’r gost o gael gwared ar unrhyw wastraff a ddympiwyd yn anghyfreithlon ar eu tir. Teimlwyd bod angen gwneud rhagor o waith gyda chymunedau ac asiantaethau gorfodi i fynd i’r afael â’r mater hwn yn y dyfodol.

 

Argymhellion

50

I lobïo Llywodraeth Cymru i ariannu a chefnogi gweithredu uniongyrchol yn Sir Gaerfyrddin, gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a sefydliadau lleol i fynd i’r afael â’r problemau llygredd dŵr a wynebir ar hyn o bryd.

51

I lobïo Llywodraeth Cymru i ailystyried cyflwyno’r rheoliadau Parthau Perygl Nitradau (NVZ) arfaethedig (sydd â’r nod o wella ansawdd dŵr trwy gyfyngu’r cyfnod sydd ar gael ar gyfer gwasgaru slyri) a chanolbwyntio camau uniongyrchol ar droseddwyr camreoli slyri ailadroddus yn hytrach na gorfodi cosbau ar bob ffermwr.

52

Bod y Cyngor yn gweithio gyda chymunedau lleol i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a phroblemau rheoli gwastraff mewn ardaloedd gwledig, ac yn monitro effaith newidiadau a gyflwynwyd yn ddiweddar yng nghanolfannau ailgylchu a safleoedd tirlenwi’r Cyngor o ran lefelau tipio anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig.


 

3.11     Y Ffordd Ymlaen

3.11.1    Croesawyd yr adroddiad ‘Cymru Wledig: Amser i Ymateb i’r Her 2025’, a gyhoeddwyd gan Eluned Morgan AC, yn fawr iawn gan y Grŵp Gorchwyl, ond mae’r diffyg cynnydd o ran datblygu’r awgrymiadau a wnaed ymhellach yn siomedig. Mae’r Grŵp Gorchwyl yn cefnogi’n llwyr yr alwad am ddatblygu cynllun penodol ar gyfer Cymru wledig ac, yn absenoldeb ymgyrch genedlaethol ar hyn, mae’r Grŵp Gorchwyl o’r farn y dylai’r Cyngor arwain y gwaith hwn yn Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, o gofio bod y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig ledled Cymru yn wynebu heriau tebyg, ceir cyfle eglur i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r datblygiad hwn yn genedlaethol i sicrhau dull mwy strategol.

3.11.2    Ar y sail honno, dylai’r Cyngor hwyluso parhad y drafodaeth gyda phartïon â buddiant a rhanddeiliaid y mae gwaith y Grŵp Gorchwyl hwn wedi dechrau ei datblygu. Nododd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol yng nghynhadledd materion gwledig Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2018 y fantais o ddod â chynrychiolwyr o wahanol gefndiroedd ynghyd, ond pob un ohonynt â diddordeb yn natblygiad Sir Gaerfyrddin wledig. Dylai’r math hwn o ymgysylltu a chydweithredu barhau wrth i gynllun gweithredu i ddarparu argymhellion yr adroddiad hwn gael ei baratoi ond hefyd i barhau’r sgwrs a datblygu atebion posibl eraill ar gyfer yr heriau a wynebir gan gymunedau gwledig.

3.11.3    Mae’r Grŵp Gorchwyl hefyd yn teimlo bod angen gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion gwledig ar lefel genedlaethol, yn enwedig yn Llywodraeth Cymru. Nododd nifer o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i’r Grŵp Gorchwyl synnwyr o rwystredigaeth gyda’r drefn ‘un dull i bawb’ a ddisgwylir yn rhy aml trwy bolisïau a chanllawiau cenedlaethol. Prin iawn yw’r gydnabyddiaeth o heriau, pwysau a logisteg cynllunio a darparu gwasanaethau mewn cymunedau gwledig. Os yw ein cymunedau gwledig yn mynd i oroesi a ffynnu, mae angen i’r dull hwn newid ac mae’r Grŵp Gorchwyl o’r farn y byddai cael pwyslais cenedlaethol penodol trwy gynllun gwledig neu gytundeb gwledig yn ffordd dda o fynd i’r afael â hyn. Ceir cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygu gwledig, ond mae angen i’r holl randdeiliaid weithio gyda’i gilydd i ymateb i’r heriau y mae Sir Gaerfyrddin wledig a Chymru wledig yn eu hwynebu.

Argymhellion

53

I lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn rhoi pwyslais ac adnoddau digonol i anghenion penodol cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin, gan adeiladu ar y dull a sefydlwyd trwy ‘Cymru Wledig: Amser i Ymateb i’r Her 2025’ a gweithio’n rhanbarthol pan fo’n briodol trwy gytundeb gwledig posibl.

54

Bod y Cyngor yn hwyluso trafodaeth barhaus gyda phartïon â buddiant a rhanddeiliaid i sicrhau darpariaeth a datblygiad pellach strategaeth materion gwledig y Cyngor, gan weithio mewn ffordd amlasiantaeth ac amlsector.

55

I lobïo Llywodraeth Cymru ac asiantaethau cenedlaethol eraill i wella dealltwriaeth o’r heriau, y pwysau a’r logisteg o gynllunio a darparu gwasanaethau mewn cymuned wledig ac ailystyried ei diffiniad o amddifadedd i adlewyrchu’n well materion yn ymwneud â natur wledig.

4             Casgliadau a’r Camau Nesaf

                                                                                                                                               

4.1.1  Cyflwynwyd y canfyddiadau a’r argymhellion hyn gan y Grŵp Gorchwyl yn dilyn ystyriaeth o amrywiaeth eang o faterion sy’n wynebu cymunedau gwledig. Ni fydd llawer o’r argymhellion a gyflwynir yn gofyn am gyllid ychwanegol i’w darparu gan eu bod yn awgrymu gwahanol ddull neu ffordd newydd o wneud pethau. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd hyn yn gofyn am gapasiti a chymorth swyddogion i’w weithredu. Pan fo’n briodol, amlinellwyd dynodiad o’r costau tebygol o weithredu’r argymhellion hynny a fydd angen buddsoddiad cyllid yn Atodiad A. Gyda llawer o’r argymhellion, ni fydd y costau gweithredu manwl yn hysbys tan i’r argymhelliad gael ei ddatblygu ymhellach. Yn yr achosion hynny, bydd angen paratoi ac ailgyflwyno achos busnes manwl ar gyfer ystyriaeth y Bwrdd Gweithredol yn ddiweddarach.

4.1.2  Ar ôl i’r adroddiad a’r argymhellion gael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor, dylid paratoi a monitro cynllun gweithredu i sicrhau cynnydd o ran gweithredu’r argymhellion a gymeradwywyd dros y flwyddyn nesaf. Bwriedir i’r argymhellion a gymeradwywyd gael eu hymsefydlu yng nghynlluniau busnes corfforaethol ac adrannol y Cyngor i’w gweithredu.

4.1.3  Er mwyn monitro cynnydd o ran darparu’r argymhellion a gymeradwywyd, awgrymir bod y Grŵp Gorchwyl yn cael ei gynnal ar ffurf Panel Cynghori i Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gwledig. Yn ogystal â monitro cynnydd, dylai’r Panel Cynghori hefyd ystyried ac adolygu goblygiadau posibl Brexit i gymunedau gwledig ar ôl iddynt ddod yn fwy eglur ac ystyried unrhyw faterion eraill sy’n dylanwadu ar gymunedau gwledig wrth iddynt godi.



[1] Amcangyfrifon Poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2018