Cyngor Sir

 

Dydd Mercher, 10 Hydref 2018

 

 

YN BRESENNOL: Cynghorydd  J.M. Charles (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:-

 S.M. Allen

L.R. Bowen

K.V. Broom

C.A. Campbell

J.M. Charles

D.M. Cundy

S.A. Curry

C.A. Davies

W.R.A. Davies

T.A.J. Davies

G. Davies

H.L. Davies

I.W. Davies

J.A. Davies

S.L. Davies

K.Davies

E. Dole

J.S. Edmunds

P.M. Edwards

D.C. Evans

L.D. Evans

R.E. Evans

W.T. Evans

S.J.G. Gilasbey

A.D. Harries

T.M. Higgins

J.K. Howell

P. Hughes-Griffiths

A. James

J.D. James

R. James

D.M. Jenkins

J.P. Jenkins

G.H. John

B.W. Jones

D. Jones

G.R. Jones

H.I. Jones

A. Lenny

K. Lloyd

K. Madge

S. Matthews

A.S.J. McPherson

E. Morgan

A.G. Morgan

B.D.J. Phillips

J.S. Phillips

D. Price

J.G. Prosser

B.A.L. Roberts

E.M.J.G. Schiavone

H.B. Shepardson

A.D.T. Speake

L.M. Stephens

B. Thomas

D. Thomas

E.G. Thomas

G.B. Thomas

G. Thomas

J. Tremlett

A.Vaughan Owen

D.T. Williams

D.E. Williams

J.E. Williams

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:-

M. James, Prif Weithredwr

J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedau

C. Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

W. Walters, Cyarfwyddwr Adfywio a Pholisi

P.R. Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

L.R. Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

S. Pilliner, Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth

A. Morgan, Pennaeth Gwasanaethau Addysg

L. Quelch, Y Pennaeth Cynllunio

R James, Swyddog Cynllunio Perfformiad a Busnes

S. Sauro, Rhelowr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau

K. Thomas, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr, Neuadd y Sir - 10.00 am - 12.00 pm

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, H.A.L. Evans, A. Fox, C.J. Harris, P.M. Hughes, C. Jones, T.J. Jones, M.J.A. Lewis, S. Najmi a D. Nicholas.

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.D.T. Speake

8.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18

Tudalen 33 – Plant sy'n Derbyn Gofal – yn trafod â swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

K. Madge

8.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol

B.A.L. Roberts

8.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2017/18

Ei mab-yng-nghyfraith yn weithiwr cymdeithasol

 

 

</AI2>

<AI3>

3.            CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

 

·         Croesawyd y Cynghorydd Karen Davies gan y Cadeirydd i'w chyfarfod cyntaf o'r Cyngor yn dilyn cael ei hethol yn yr is-etholiad ar gyfer Ward Saron

·         Dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Cynghorydd Hazel Evans a oedd wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar

 

·         Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch:

 

Ø  Y Cynghorwyr L. Evans a G. Thomas, ynghyd ag aelodau o deuluoedd cynghorwyr eraill, ar gwblhau Hanner Marathon Caerdydd;

Ø  Dewi Griffiths o Lanfynydd ar orffen Hanner Marathon Caerdydd yn yr amser cyflymaf gan Gymro;

Ø  Adam Price A.C. o Lanegwad ar gael ei ethol yn Arweinydd Cenedlaethol newydd Plaid Cymru

 

·         Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, gan gynnwys:

 

Ø  Dadorchuddio ffenestr wydr liw yn Ysgol Llansteffan;

Ø  Dathlu 20 mlynedd Band Cymunedol Nantgaredig;

Ø  The Friends of Loud Applause Rising Stars;

Ø  Cystadlaethau Chwyrlïo Baton Cymru yng Nghydweli;

Ø  Dathlu 150 mlynedd Capel Saron Llanarthne;

Ø  Digwyddiad gan y Ffermwyr Ifanc i ddynodi ymddeoliad trefnydd y sir, Eirios Thomas.

·         Soniodd y Cadeirydd mai 10 Hydref oedd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd bob blwyddyn, ac mai'r amcan cyffredinol oedd codi materion iechyd meddwl o gwmpas y byd ac ysgogi ymdrechion i gefnogi iechyd meddwl.

·         Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y drasiedi ddiweddar yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, gan ganmol staff y Cyngor am y cymorth roeddent wedi ei roi i bawb yr oedd hynny wedi effeithio arnynt. Roedd y Cyngor hefyd yn cydweithio'n agos â'r Heddlu yn ei ymchwiliadau.

 

</AI3>

<AI4>

4.            LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 12FED MEDI, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi ei gynnal ar 12 Mawrth, 2018 yn gywir, yn amodol ar newid datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd T.A.J. Davies yng nghofnod 2 i enw'r Cynghorydd B.D.J. Philips.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

</AI5>

<AI6>

6.            CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

 

</AI6>

<AI7>

6.1.       CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS YR AMGYLCHEDD

 

Dywedodd y Cadeirydd, gan nad oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, sef y Cynghorydd Hazel Evans, yn bresennol yn y cyfarfod, byddai'r  Cynghorydd Higgins yn cael ymateb ysgrifenedig i'w chwestiwn.

 

</AI7>

<AI8>

6.2.       CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BETSAN JONES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

 

“Flwyddyn yn ôl cafodd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrwyo. Derbyniodd staff o'r sefydliadau hyn dystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

 

Cafodd chwech o'r gwobrau eu hennill gan ysgolion Sir Gaerfyrddin – mwy nag unrhyw gyngor sir unigol arall, sef: 

 

Ysgol Bryngwyn, Ysgol Heol Goffa, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Gynradd y Bynea, Ysgol Gynradd Parcyrhun ac Ysgol Gynradd Saron.

 

A oes disgwyl y bydd ysgolion o'r sir hon yn cael eu cydnabod yn y seremoni eleni?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Betsan Jones am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn amserol iawn oherwydd bydd Estyn yn cynnal ei seremoni ar gyfer 2017/18 i gydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant ddydd Gwener hyn. Fel y dywedoch Bethan, roedd y llynedd yn flwyddyn wych i ni gan fod chwe ysgol yn Sir Gâr wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled, a hefyd sylwch, am safon uchel yr arweinyddiaeth. Mae hwn yn rhywbeth sy'n ddisgwyliedig gennym mewn ysgolion bellach, ac mae angen gweledigaeth glir arnom hefyd, yn ogystal ag ymrwymiad i wella. Dyna beth sy'n mynd i godi'r safonau yn ein hysgolion, a dyna pam y cafodd yr ysgolion hyn eu cydnabod. Dyma'r hyn sydd ei angen ym mhob ysgol er mwyn i ni wella safonau addysg ac ennill rhagoriaeth yn dilyn arolygiad. Cafodd 34 o ysgolion eu cydnabod ac roedd chwech ohonynt o Sir Gaerfyrddin, ac mae hynny'n dipyn o glod inni fel sir. Rydym yn siarad am ragoriaeth fan hyn, felly beth yw'r rhagoriaeth hon? Bydd Estyn yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill a gafodd ragoriaeth mewn tri maes arolygu penodol. Dyna'r hyn sy'n rhoi'r statws rhagoriaeth hwn iddynt. Maent wedi cael rhagoriaeth mewn tri maes arolygu neu fwy yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18, a phleser gennyf yw dweud y bydd gan Sir Gaerfyrddin bedwar cynrychiolydd yn y digwyddiad ddydd Gwener, sef pedair ysgol unwaith eto. Ni fyddai'n briodol i mi gyhoeddi heddiw pwy yw'r ysgolion hynny sy'n mynd i gael cydnabyddiaeth, ond mae'r Cyfarwyddwr Addysg a minnau wedi eu llongyfarch ar eu llwyddiant, ac mae'r ffaith bod pedair ysgol yn cael eu cydnabod yn genedlaethol unwaith eto yn golygu ein bod yn cynnal y safonau uchel wrth gwrs.  Nid mater bach yw sicrhau rhagoriaeth, ac mae'n briodol ein bod yn parchu ein penaethiaid, sy'n gweithio'n hynod o galed, a'u staff am y gwaith gwych maent yn ei wneud yn eu hysgolion. Maent yn gwneud ymrwymiad i blant a phobl ifanc ac maent yn sicrhau bod cyfleoedd rhagorol i'r rheiny sy'n derbyn addysg. Hoffwn hefyd ddiolch i lywodraethwyr ysgolion a rhieni, ac mae llawer ohonoch yma yn llywodraethwyr eich hunain, ac yn rhieni yn ogystal o bosibl. Felly diolch i chi am eich cefnogaeth. Gaf i hefyd ddiolch i staff y Cyngor, yn enwedig rhai'r Adran Addysg, am eu cefnogaeth ddiflino i'n hysgolion. Rwyf am gyfeirio at ein Tîm Gwella Ysgolion sy'n gweithio fel rhan o ranbarth ERW. Maent yn mynd i'n hysgolion i herio, ond hefyd i gefnogi ac i sicrhau bod y gorau ar gael i bob dysgwr. Trwy gydweithrediad y penaethiaid a'ch cydweithrediad chi a phob llywodraethwr arall, byddwn yn sicrhau bod pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ysgol ragorol. Dyna'r hyn hoffwn ei weld - pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn un rhagorol - ac mae'r gwobrau hyn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Diolch yn fawr iawn.     

 

 

</AI8>

<AI9>

6.3.       CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DORIAN WILLIAMS I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS TAI

 

“Bu i'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a sefydlwyd gan y weinyddiaeth hon yn 2016 bennu targed clir ac uchelgeisiol iawn o ddarparu mwy na 1,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Williams am eich cwestiwn. Mae'n gwestiwn perthnasol iawn, ac mae'n rhoi cyfle i mi dynnu sylw at y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud (ac a fydd yn dal i gael ei wneud) i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y sir.

 

Yn ôl yn 2016 pennwyd targed uchelgeisiol gan y weinyddiaeth hon i ddarparu mwy na 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021. Erbyn hyn mae dwy flynedd ers cychwyn y rhaglen, ac, yn ogystal â bod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed, rwyf yn falch iawn o allu dweud ein bod yn hyderus y bydd nifer y tai newydd yn sylweddol uwch na'r hyn fwriadwyd gennym i ddechrau. Rwyf yn hyderus y gallwn ddarparu mwy o ddewis drwy gynyddu nifer yr opsiynau ar gyfer rhentu cartrefi a chartrefi sydd ar werth ar draws y sir. Hyd yma, rydym wedi darparu bron 550 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y sir, gan wneud hynny drwy brynu tai yn y sector preifat, ailddechrau defnyddio eiddo gwag, a rheoli cartrefi rhent preifat ychwanegol ar gyfer landlordiaid, cartrefi newydd drwy weithio gyda chymdeithasau tai a chartrefi fforddiadwy fel rhan o ddatblygiadau mwy. Dros y tair blynedd nesaf, ein bwriad yw darparu 700 yn rhagor o dai drwy ddefnyddio'r dulliau hyn. Rwyf yn siŵr eich bod wedi sylwi nad yw'r ffigurau hyn yn cynnwys ein cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd, ond gallaf eich sicrhau bod y datblygiadau hyn yn mynd rhagddynt. Bydd yr adeiladwyr yn gweithio ar safle Garreglwyd ym Mhen-bre dros yr wythnosau/misoedd nesaf a bydd datblygiad Dylan, yn y Bryn yn dilyn cyn Nadolig. Bydd y datblygiadau hyn yn darparu bron 50 o dai cyngor newydd i'w rhentu. Rwyf yn siŵr bod rhai ohonoch chi, fel Aelodau, wedi clywed yn ddiweddar am y bwriad i lacio rheolau'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae hyn yn golygu y byddwn o bosibl yn gallu cael benthyg mwy o arian i adeiladu mwy o dai cyngor. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn datblygu rhaglen uchelgeisiol i sicrhau ein bod yn gallu manteisio ar hyn, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi manylion y rhaglen honno i chi yn y Cyngor. Bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi creu cwmni tai newydd, sef Cartrefi Croeso. Bydd pum cant o dai yn cael eu darparu dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'r cwmni eisoes wedi paratoi cynlluniau mewn saith lleoliad gan gynnwys datblygiadau mewn ardaloedd gwledig. Bydd y cwmni yn darparu ystod o opsiynau, a fydd yn addas i anghenion yr ardal. Un enghraifft yw tai mewn ardaloedd gwledig a fydd yn fforddiadwy i'w prynu, er mwyn helpu pobl leol i aros yn eu hardaloedd lleol. Mae'n amlwg felly ein bod yn cymryd camau breision er mwyn diwallu'r anghenion o ran tai fforddiadwy ar draws y sir. Mae cynlluniau hefyd i gefnogi ein bwriad i adfywio canol tref Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin. Hefyd datblygiadau gwledig ac ardaloedd megis Heol yr Orsaf yn Llanelli lle mae angen newid tenantiaeth. Bydd yr holl bethau hyn yn cael effaith sylweddol. Nid yn unig y byddant yn helpu pobl i fyw mewn tai fforddiadwy, y mae mawr eu hangen, ond byddant yn cael effaith ehangach ar iechyd a llesiant pobl ac yn creu swyddi. Rydym wedi buddsoddi £25m yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym am fuddsoddi llawer mwy yn y blynyddoedd i ddod. Er bod yr hyn rydym wedi ei wneud mewn cyfnod byr wedi bod yn llwyddiant mawr, mae'n amlwg nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i fod yn arloesol ac rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynifer o gartrefi â phosibl, a hynny yn yr ardaloedd lle mae eu hangen drwy sicrhau bod yr hyn a ddarperir yn iawn ar gyfer yr ardal. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r holl staff o'r gwahanol adrannau yn y Cyngor sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod wedi cyrraedd y man hwn. Diolch i chi i gyd. Mae ein cynllun tai fforddiadwy fel llyfr i mi. Mae'n llyfr sy'n llawn storïau cyffrous. Roeddem wedi dylunio clawr y llyfr hwn ddwy flynedd yn ôl. Roedd y clawr yn eithaf lliwgar gyda llawer o dai. Mae'n llyfr sy'n cynnwys stori gyffrous. Rwyf ond wedi adrodd i chi benodau cyntaf y llyfr hwnnw, ac mae llawer mwy o benodau i ddod yn y stori hon, ac rwyf yn edrych ymlaen at adrodd pennod arall i chi yn y dyfodol agos. Diolch”.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Williams y cwestiwn atodol canlynol:-     

 

“Mae gennyf gwestiwn yn seiliedig ar y ffigurau a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb. Wrth deithio drwy Sir Gaerfyrddin rydym yn gallu gweld cynifer o dai gwag, y mae rhai ohonynt wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac mewn cyflwr gwael. Felly a allaf ofyn, ac rwyf yn cyfeirio at y ffigur a grybwyllwyd, o blith y 550 o dai fforddiadwy sy'n cael eu defnyddio unwaith yn rhagor bellach, faint ohonynt oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans – Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

Gallaf gyhoeddi hynny heddiw, ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi hyn. Cyn fy mod yn gwneud hynny, a allaf ddweud wrthych faint o eiddo gwag sy'n cael eu hailddefnyddio. Mae'r broses o ddechrau defnyddio eiddo gwag unwaith eto yn dipyn o waith ynddo'i hun. Y ffordd hawsaf yw prynu tai a'u gwneud yn fforddiadwy a phrynu tai sy'n addas ar gyfer yr ardal. Fodd bynnag, gall y broses o ddelio ag eiddo gwag fod yn hir gan fod llawer o bethau yn gysylltiedig â'r broses megis materion cyfreithiol ac ati. Ond y newyddion da yw bod gennym swyddogion rhagorol yn yr adran hon, ac yn 2018/19 dechreuwyd ailddefnyddio 184 eiddo gwag a'r llynedd y ffigur oedd 174. Gallwn gymharu hynny â 2010, pan oedd y ffigur yn 59. Felly mae'r adran a'r gwaith yn gweithio'n dda iawn, a byddwn yn parhau i wneud hynny ac i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod tŷ gwag mewn pentref neu stryd yn ddolur llygad ac nad yw'n dda i'r amgylchedd ychwaith. Felly rydym yn adeiladu tai newydd, ond yn sicrhau hefyd fod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor, a gall y Cyngor helpu pobl i wneud hynny. Felly os ydych yn gwybod am bobl sydd ag eiddo gwag, ewch atynt a'u hannog i gysylltu â'r Cyngor. Mae'n bosibl cael benthyciad ariannol i ailddechrau eu defnyddio. Diolch i chi.  

 

 

</AI9>

<AI10>

7.            YSTRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

 

</AI10>

<AI11>

7.1.       CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:

 

“Rydym yn galw ar y Cyngor i hyrwyddo'r ymgyrch i drechu tlodi misglwyf yn Sir Gaerfyrddin”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

</AI11>

<AI12>

7.2.       CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Edward Thomas:

 

“Mae Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) yn gorff rhynglywodraethol sy'n ceisio ennyn cefnogaeth wleidyddol a chefnogaeth arweinwyr cymdeithasol i'r angen i gofio'r Holocost, ac am addysg ac ymchwil yr Holocost.  Sefydlwyd yr IHRA gan Göran Persson, cyn-Brif Weinidog Sweden, yn 1998. Ei nod oedd sefydlu sefydliad rhyngwladol a fyddai'n ehangu addysg yr Holocost ledled y byd a chynnal fforwm rhyngwladol o lywodraethau oedd â diddordeb mewn trafod addysg yr Holocost.  Roedd cynrychiolwyr o 46 o lywodraethau yn bresennol yn y Fforwm a gynhaliwyd yn Ionawr 2000.

 

Lluniwyd Datganiad Fforwm Rhyngwladol Stockholm ar yr Holocost yn sgil trafodaethau'r Fforwm ac mae'n sylfaen i Gynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost.  Mae'n ceisio cydnabod maint effaith yr Holocost ac yn cynnwys addewidion i gryfhau'r ymdrechion i hyrwyddo cofio, addysg ac ymchwil.

 

Cefnogir diffiniad yr IHRA gan brif gyrff cynrychiadol y Gymuned Iddewig, gan gynnwys Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain, y Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig a'r Gyngres Iddewig Ewropeaidd ynghyd â nifer o awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig.

 

Cynigiaf felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin:

 

1                  yn mabwysiadu Datganiad Stockholm ar Wrth-Semitiaeth:

 

“Gwrth-Semitiaeth yw canfyddiad penodol o Iddewon, y gellid ei fynegi'n gasineb tuag at Iddewon. Mae amlygiadau corfforol a rhethregol gwrth-Semitiaeth yn cael eu cyfeirio at unigolion sy'n Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo, at sefydliadau'r gymuned Iddewig a chyfleusterau crefyddol.” ac

 

2            yn addo cryfhau'r ymdrechion i hyrwyddo cofio'r Holocost drwy addysg ac ymchwil”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

(SYLWER: Ar ddiwedd yr eitem hon, safodd y Cyngor am funud o dawelwch er cof am y bachgen fu farw mor drasig yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd, Llanelli)

 

</AI12>

<AI13>

8.            YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

 

</AI13>

<AI14>

8.1.       ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2017/18

 

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, B.A.L. Roberts ac A.D.T. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18, ac wedi argymell ei gymeradwyo. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol  y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18”

 

</AI14>

<AI15>

8.2.       ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2018 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, er bod yr Adroddiad Drafft cychwynnol wedi cael ei ystyried drwy ei broses wleidyddol drwy gyfrwng y Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgorau Craffu ym mis Mehefin/Gorffennaf 2018, nid oedd yn cynnwys data ar Ganlyniadau Cymru Gyfan na rhai o ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol, nad oeddent ar gael tan fis Medi 2018. Roedd y wybodaeth honno wedi dod i law erbyn hyn ac wedi cael ei chynnwys yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor ar gyfer ei ystyriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18”.

 

 

</AI15>

<AI16>

8.3.       ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2017/18 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2018 (gweler Cofnod 8) wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2018

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“bod y Cyngor yn cael ac yn derbyn cynnwys y trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2018;

 

Bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol”.

 

</AI16>

<AI17>

9.            DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 24AIN MEDI, 2018

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Medi 2018.

                                                

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>