Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

Dydd Gwener, 11 Mai 2018

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd S.L. Davies (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

S.M. Allen (In place of H.B. Shepardson), D.M. Cundy, C.A. Davies, W.R.A. Davies, W.T. Evans (In place of H.L. Davies), S.J.G. Gilasbey, B.W. Jones, H.I. Jones, B.A.L. Roberts, G.B. Thomas and A.Vaughan Owen

 

Hefyd yn bresennol:

Y Cynghorwyr L.D. Evans, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Tai

P. Hughes-Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:

I. Jones, Pennaeth Hamdden

H. Morgan, Rhelowr Datblygu Economaidd

L. Quelch, Y Pennaeth Cynllunio

S. Walters, Rheolwr Datblygu Economaidd

J. Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel Dros Dro

J. Willis, Rheolwr Gwasanaethau Tai (Cyngor a Dewisiadau)

R James, Performance Planning & Business Oficer

R. Evans, Rheolwr Asiantaeth Gwella Cartrefi

I.R. Llewelyn, Rheolwr Blaen-gynllunio

B Lovering, Swyddog Blaen-gynllunio

K. Thomas, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 10.00  - 11.55 am

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Davies, S. Matthews a H. Shepardson

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Vaughan-Owen

9 – Y Fersiwn Ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol – Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul – Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Roedd wedi ennill contract gydag Innogy U.K. yn ddiweddar

 

</AI2>

<AI3>

3.            DECLARATION OF PROHIBITED PARTY WHIPS

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

</AI3>

<AI4>

4.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

 

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

</AI4>

<AI5>

5.            FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adrannau o'r fersiwn ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23 a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl. Nodwyd y byddai'r Strategaeth Newydd yn cymryd lle'r un bresennol a gyhoeddwyd yn 2015 a byddai'n cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

–  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

–  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol

2009;

–  yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol(Cymru) 2015 – nid oedd angen i'r rhain newid bob blwyddyn, nac ychwaith gael eu cyflawni o fewn blwyddyn, ac yr oedd nodi amcanion oedd yn parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon;

–  prosiectau allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a

Rhaglenni ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn "Symud Ymlaen

yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf".

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at Gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r Cyngor yn gallu cynnig cymorth ariannol i fudiadau gwirfoddol/grwpiau cymunedol a fyddai efallai'n dymuno cymryd cyfrifoldeb dros ased lle nad oedd diddordeb wedi cael ei fynegi erbyn y dyddiad cau, sef 31 Mawrth 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod yr Is-adran Eiddo yn cydlynu'r gwaith hwn, ac er ei fod ar ddeall bod y Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol a'r cymhellion ariannol oedd yn gysylltiedig â hynny wedi dod i ben, petai unrhyw sefydliadau'n mynegi diddordeb mewn ysgwyddo cyfrifoldeb dros un o'r asedau hynny, byddai'r Cyngor yn gweithio gyda nhw mewn rôl alluogi ac yn eu cyfeirio at unrhyw gymorth grant a allai fod ar gael. Byddai'r cymorth hwnnw hefyd yn cael ei roi i unrhyw sefydliad a oedd wedi/yn y broses o gymryd cyfrifoldeb dros ased.

 

·         Cyfeiriwyd at weithredu gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor o ran yr amcan llesiant o Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Cymru, a gofynnwyd am wybodaeth ynghylch nifer y staff rheng flaen yn y llyfrgelloedd oedd yn gallu siarad Cymraeg.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gellid gwneud trefniadau er mwyn iddo gael gwybodaeth ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg ymysg staff yr awdurdod.

·         Cyfeiriwyd at hyrwyddo'r Gymraeg mewn busnesau, yn enwedig y rheiny sy'n dechrau yn y Sir, a gofynnwyd a oedd unrhyw fesurau y gallai'r Cyngor eu cymryd i hyrwyddo rhagor o ddefnydd o'r Gymraeg, drwy Ganllawiau Cynllunio Arbennig o bosibl.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr awdurdod yn ceisio hyrwyddo'r Gymraeg lle bynnag y bo'n bosibl yn rhan o'r broses gynllunio, er enghraifft darparu arwyddion dwyieithog, a hynny drwy ddefnyddio dull oedd ar ffurf rhoi arweiniad ar hyn o bryd. Rhoddir ystyriaeth hefyd i'r posibilrwydd o ddefnyddio Canllawiau Cynllunio Atodol yn rhan o adolygiad y Cynllun Datblygu Lleol fel modd o hyrwyddo'r iaith. Yr oedd Cyngor Sir Gwynedd hefyd yn edrych ar y posibilrwydd hwnnw ac yr oedd yr awdurdod yn cydgysylltu â'r awdurdod hwnnw i'r perwyl hwnnw.

·         Cyfeiriwyd at iechyd meddwl yng Nghymru a'i effaith ar oedolion a phlant. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai dolen i sefydliadau priodol sy'n delio â'r broblem honno yn cael ei chynnwys yn y ddogfen.

·         Cyfeiriwyd at ordewdra ymysg plant, ac mae 30.7% o blant 4-5 oed yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cofnodi'n rhai sydd dros bwysau neu'n ordew. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y ffigurau dan sylw wedi cael eu llunio ar sail genedlaethol gan GIG Cymru ac y gellid rhoi ystyriaeth i ddarparu dolen i gyrchu'r ffigurau yn y ddogfen. Cadarnhawyd hefyd, er bod gan Sir Gaerfyrddin un o'r cyfraddau uchaf o ran gordewdra ymysg plant yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny sy'n cael eu hystyried dros bwysau, fod yr awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Awdurdod Iechyd mewn ymdrech i leihau'r lefelau hynny.

·         Mewn ymateb i sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden yr anawsterau a wynebir wrth annog plant i gadw diddordeb mewn gweithgareddau chwaraeon yn ystod eu harddegau. Er ei bod yn anodd, yr oedd gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â sefydliadau allanol megis Chwaraeon Cymru a'r ysgolion mewn ymgais i wyrdroi'r duedd honno.

·         Dywedodd y swyddogion, yn seiliedig ar sylwadau aelodau, y byddai nifer o'r 'Camau Gweithredu a Mesurau' yn y Strategaeth yn cael eu cryfhau cyn eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol.  

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y fersiwn ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23 yn cael ei chymeradwyo

 

</AI5>

<AI6>

6.            STRATEGAETH DIGARTREFEDD

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch datblygiad Strategaeth Ddigartrefedd a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Tai Cymru (2014) a oedd wedi gosod cyfrifoldebau newydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r dull a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod hyd yn hyn a'r 5 maes allweddol canlynol i fynd i'r afael â nhw cyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol erbyn y dyddiad cau ym mis Rhagfyr 2018:-

 

Ø  Adolygiad o'r data a'r wybodaeth;

Ø  Ymgysylltu â rhanddeiliaid;

Ø  Datblygiad y Strategaeth a Datganiad o Egwyddorion;

Ø  Datblygu'r cynlluniau gweithredu lleol;

Ø  Ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ynghylch y Strategaeth Ddrafft a'r Cynllun Gweithredu.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod nifer yr unigolion o'r tu allan i Sir Gaerfyrddin sy'n cyflwyno'u hunain yn ddigartref i'r awdurdod yn weddol fach, a bod y rhan fwyaf o'r unigolion sy'n cyflwyno'u hunain yn dod o'r Sir.

·         Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn nifer yr unigolion oedd yn cael eu diffinio'n ddigartref yn Sir Gaerfyrddin o fwy na 500 yn 2013 i 135 yn 2016. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai (Cyngor a Dewisiadau) mai'r rheswm dros hynny oedd newid yn y dull a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod lle yr oedd wedi buddsoddi mwy yn y gwasanaeth ac yr oedd yn fwy rhagweithiol gan roi pwyslais ar atal. Ar gyfer 2017, yr oedd tua 1300 o unigolion mewn perygl o fod yn ddigartref. O'r rheiny, dim ond 160 ohonynt yr oedd cyfrifoldeb ar yr awdurdod i'w hailgartrefu, ac yr oedd 128 wedi cael eu hailgartrefu.

·         Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cartrefu dynion sengl a digartref, er nad oedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd i gartrefu'r unigolion hynny, oni bai eu bod yn agored i niwed, fod yr awdurdod yn ceisio darparu cymorth lle bynnag bo hynny'n bosibl gyda chymorth ei bartneriaid tai cymdeithasol. Un o'r heriau a fyddai'n wynebu'r strategaeth newydd fyddai'r modd y byddai'n mynd i'r afael ag unigolion sengl nad oeddent yn meddu ar angen sy'n flaenoriaeth.

·         Cadarnhawyd y gallai unigolion oedd yn wynebu digartrefedd gysylltu â'r awdurdod 24 awr y dydd drwy ei wasanaeth llinell gofal.

·         O ran unigolion a allai gael eu hystyried yn ddigartref yn fwriadol, yr oedd pob achos yn cael ei drin yn unigol ac yr oedd cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu fesul achos.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL i'r Bwrdd Gweithredol y dylid:-

 

6.1

Cymeradwyo'r dull a'r cynllun ymgynghori

6.2

Cadarnhau bwriad y Cyngor i ddatblygu cyfleoedd i weithio ar sail ranbarthol.

 

 

</AI6>

<AI7>

7.            NEWID I'R POLISI ADNEWYDDU TAI Y SECTOR PREIFAT

 

Ystyriodd y Pwyllgor newid i Bolisi Adnewyddu Tai y Sector Preifat, oedd yn adlewyrchu'r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i'w Gynlluniau Benthyciadau Gwella Cartref a Throi Tai'n Gartrefi. Fel rhan o'r cynnig hwnnw byddai'r Awdurdod yn cael £1.25 miliwn i gefnogi pob math o gymorth ariannol i berchnogion tai er mwyn cynnal eu cartrefi.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Cadarnhawyd y byddai'r polisi newydd yn caniatáu i landlordiaid wneud cais am gyllid o hyd at £250,000 fesul cais ar gyfer hyd at 10 eiddo (£25,000 fesul eiddo), sef cynnydd o uchafswm o £150,000 fesul cais ar gyfer 6 eiddo (£25,000 fesul eiddo) ers y dyfarniad blaenorol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Grŵp Gorchwyl a Gorffen blaenorol y Pwyllgor ar eiddo gwag, cadarnhawyd y gellid cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol a fyddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed yn dilyn hyn, a allai gynnwys nifer yr eiddo a ddefnyddir unwaith eto ac unrhyw weithgareddau gorfodi.

·         Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ddiffyg hyd yn hyn o ran ad-dalu'r benthyciad, ac yr oedd yr holl fenthyciadau wedi’u gwarantu yn erbyn yr eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod meini prawf diwygiedig Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi a chynllun Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru yn cael eu mabwysiadu, a bod Polisi Adnewyddu Tai y Sector Preifat yr Awdurdod yn cael ei newid i adlewyrchu'r newidiadau hynny.

 

</AI7>

<AI8>

8.            CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG 2018 - 2033 CYTUNDEB CYFLAWNI DRAFFT

 

Cafodd y Pwyllgor Gytundeb Cyflawni Drafft i'w ystyried a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau paratoi'n ffurfiol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (newydd) yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar 23 Mawrth.  Nodwyd, ar yr amod bod y Cyngor yn cadarnhau'r Cytundeb Drafft, y byddai angen ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru er mwyn ei gymeradwyo.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Cadarnhawyd y byddai'r gwahoddiadau am fynegiannau o ddiddordeb mewn perthynas â Safleoedd Ymgeisio yn cael eu hail-lansio yr wythnos ganlynol a byddai aelodau lleol yn cael manylion cyswllt adrannol perthnasol ar gyfer eu wardiau.

·         Cyfeiriwyd at yr arfer o fancio tir, ac a ellid tynnu caniatâd cynllunio presennol yn ôl, yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, os nad oedd tirfeddianwyr wedi dangos dymuniad i greu datblygiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, yn rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, y byddai'n rhaid i ddarpar ddatblygwyr sy'n dymuno cael tir wedi'i gynnwys yn y cynllun ddangos bod modd cyflawni eu datblygiad, ac na fyddai mynegi dymuniad i ddatblygu bellach yn ddigon. Os na fyddai hynny'n digwydd, yr oedd posibilrwydd na fyddai tir oedd wedi cael ei  ddyrannu mewn Cynlluniau Lleol blaenorol yn cael ei gynnwys fel dyraniad yn y Cynllun newydd. Hynny yw, o ran safleoedd a ddyrannwyd ar hyn o bryd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol newydd, nid oes modd eu hail-gynnwys yn awtomatig nac ychwaith gwarantu eu bod yn cael eu cynnwys.

 

·         Cyfeiriwyd at ganiatâd cynllunio a gyhoeddwyd o dan y Cynllun presennol, ac at geisiadau oedd yn dod i law i'w hadnewyddu. Cadarnhawyd y byddai'r rheiny'n cael eu hystyried yn unol â pholisïau cynllunio presennol. Fodd bynnag, wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen, efallai y bydd posibilrwydd na fydd caniatâd yn cael ei adnewyddu, neu efallai y bydd yn cael ei roi am gyfnod tipyn byrrach yn unig, er enghraifft am un flwyddyn. Gallai ymgeisydd apelio yn erbyn peidio â chynnwys darn o dir yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr hyn a wnelo cynghorau tref a chymuned â chynlluniau lleoedd, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod tipyn o ddryswch ynghylch y cynlluniau yn gyffredinol, er bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal â'r 3 Chyngor Cymuned, ac yr oedd angen gwell lefel o ddealltwriaeth ynghylch hyn. Bydd y Tîm Blaen-gynllunio yn helpu lle bo modd, ond cyfeiriwyd at lefel yr adnoddau oedd ar gael ac y byddai angen canolbwyntio'r adnoddau'n bennaf ar ddarparu'r Cynllun Datblygu Lleol newydd. Yr oedd rôl ar gael i gyrff eraill megis Cymorth Cynllunio Cymru o ran cynorthwyo Cynghorau Tref a Chymuned hefyd.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL i'r Bwrdd Gweithredol fod:

 

8.1

Y sylwadau a ddaeth i law a'r argymhellion mewn perthynas â Chytundeb Cyflawni Drafft yn cael eu nodi

8.2

Y newidiadau i'r amserlen yn cael eu nodi

8.3

Y Cytundeb Cyflawni (yn cynnwys argymhellion yr adroddiad) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru gytuno arno yn cael ei nodi

8.4

Yr estyniad i'r cyfnod ymgynghori ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisio i 29 Awst, 2018 yn cael ei nodi.

 

</AI8>

<AI9>

9.            CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT - YNNI GWYNT AC YNNI'R HAUL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Vaughan-Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Cafodd y Pwyllgor Fersiwn Ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul i'w hystyried, a baratowyd i gefnogi ac i ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin. Petaent yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor, byddai'r canllawiau wedyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o chwe wythnos cyn eu mabwysiadu'n ffurfiol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pam nad oedd Trydan Dŵr wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio ei fod o fewn maes gorchwyl Cyfoeth Naturiol Cymru a'i fod eisoes yn cael sylw yn y Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, petai amgylchiadau yn y dyfodol yn golygu bod angen Canllawiau Cynllunio Atodol penodol, gellid ystyried hynny ar adeg briodol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effaith tyrbinau gwynt sydd eisoes yn bodoli, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio er bod effeithiolrwydd polisïau'r cynllun yn cael ei fonitro, nad oedd hyn yn cynnwys effaith tyrbinau unigol. Fodd bynnag gallai edrych ar y mater hwnnw, ond nid yn rhan o'r broses Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL i'r Bwrdd Gweithredol y dylid:

 

9.1

Cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol a nodir yn yr adroddiad yn destun ymgynghori cyhoeddus am chwe wythnos

9.2

Nodi cyhoeddi'r Canllawiau o ran Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt ar Amwynder Gweledol a Thirwedd a'r Astudiaethau Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd fel dogfennau ategol i'r Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig sydd ar ddod.

 

 

</AI9>

<AI10>

10.         BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AR GYFER 2018/19

 

The Committee, in accordance with Article 6.2 of the Council’s constitution considered its Forward Work Programme for 2018/19.

Ystyriodd y Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2018/19.

 

Cyfeiriwyd at yr adroddiad arfaethedig am Adfywio Rhydaman a Chaerfyrddin a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Tachwedd. Mynegwyd y farn y byddai'n fanteisiol petai'r cyflwyniad yn gallu cael ei wneud i holl aelodau'r Cyngor drwy gyfrwng seminar a chynnwys y cyflwyniad diweddar a gafodd y Pwyllgor am adfywio Canol Tref Llanelli.

 

Cyfeiriwyd at y trefniadau ar gyfer cyflwyno'r Strategaeth a Ffefrir i'r Cynllun Datblygu Lleol i'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf a nodwyd y byddai'r strategaeth bellach yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor tua diwedd 2018, yn dilyn y mater o ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 28 Mawrth.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am y gwaith rhagarweiniol a wnaed hyd yn hyn yn Rhydaman o ran y Grŵp Gorchwyl a Gorffen awgrymedig ar eglwysi/capeli mawr gwag, neuaddau sy'n anharddu canol trefi ac eiddo masnachol lle nodwyd nad oedd materion sylweddol wedi codi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2018/19 yn cael ei chymeradwyo yn amodol ar:

 

·         Beidio â chymryd camau pellach o ran y Grŵp Gorchwyl a Gorffen awgrymedig ar eiddo gwag

·         Dyddiad cyflwyno diwygiedig y Strategaeth a Ffefrir i'r Cynllun Datblygu Lleol o fis Gorffennaf i ddiwedd 2018 yn cael ei nodi

·         Seminar yn cael ei drefnu ar gyfer holl aelodau'r Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gan y grwpiau gorchwyl a gafodd eu creu ar gyfer Rhydaman a Llanelli, a hefyd i roi adborth am adfywio Caerfyrddin 

 

</AI10>

<AI11>

11.         EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL

 

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 25 Mehefin 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 25 Mehefin, 2018.

 

</AI11>

<AI12>

12.         EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

</AI12>

<AI13>

13.         LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 29AIN MAWRTH, 2018

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 29 Mawrth, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>