Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

Dydd Gwener, 16 Chwefror 2018

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd S.L. Davies (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

C.A. Davies, W.R.A. Davies, J.K. Howell, B.W. Jones, H.I. Jones, M.J.A. Lewis (In place of H.L. Davies), B.A.L. Roberts, H.B. Shepardson, G.B. Thomas and A.Vaughan Owen

 

Hefyd yn bresennol:

Y Cynghorwyr P. Hughes-Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:

I. Jones, Pennaeth Hamdden

L. Quelch, Y Pennaeth Cynllunio

S. Walters, Rheolwr Datblygu Economaidd

J. Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel Dros Dro

A. Thomas, Gyfrifydd Grwp

R. Elms, Civil Contingency Manager

K. Thomas, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

P Emlyn, Member Support Officer

 

Chamber, County Hall, Carmarthen - County Hall - 10.00  - 11.15 am

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Cundy, H. Davies a S. Matthews.

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

 

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

</AI2>

<AI3>

3.            DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

</AI3>

<AI4>

4.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

 

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CYNLLUN BUSNES FFORWM LLEOL CYMRU GYDNERTH

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar weithrediad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a roddai drosolwg ar ei weithrediad, drwy'r broses cynllunio busnes, ynghyd â dealltwriaeth o Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 a goblygiadau hynny ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yn cynnwys esboniad o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys a rôl y cyngor ynddo, a hefyd yn ystyried y risgiau a'r bygythiadau a allai effeithio ar ardal Dyfed-Powys a sut oedd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn anelu at liniaru'r rheini.

 

Amlinellodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil gefndir y Ddeddf Argyfyngau Sifil a dywedodd ei bod yn diffinio argyfwng mewn tair ffordd:-

-       Digwyddiad sy'n bygwth niwed difrifol i Les Dynol rhywle yn y DU.

-       Digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i'r Amgylchedd rhywle yn y DU.

-       Rhyfel neu Derfysgaeth sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch y DU.

O ganlyniad i'r Ddeddf honno, rhaid i'r asiantaethau ymatebol ffurfio Fforymau wedi eu seilio ar ffiniau Heddluoedd. Yn Sir Gaerfyrddin, roedd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys wedi cael ei sefydlu a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr lefel uwch o bob un o'r awdurdodau ymatebol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Dywedwyd bod Sir Gaerfyrddin yn sir amaethyddol, a gofynnwyd pa fesurau oedd ar waith i ddiogelu cynhyrchu a dosbarthu bwyd mewn argyfwng.

Dywedodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil fod dwy ran i'r Ddeddf Argyfyngau Sifil.  Roedd Rhan 1 yn canolbwyntio ar drefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil, gan sefydlu fframwaith statudol o rolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol. Roedd Rhan 2 yn canolbwyntio ar bwerau argyfwng, gan sefydlu fframwaith modern ar gyfer defnyddio mesurau deddfwriaethol arbennig a allai fod yn angenrheidiol i ymdrin ag effeithiau'r argyfyngau mwyaf difrifol. Byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno i ddiogelu materion megis darparu bwyd a seilwaith.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar ymgysylltu â chymunedau lleol fel rhan o'r broses, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hynny'n profi i fod yn anodd, er bod ymdrechion wedi cael eu gwneud o'r blaen i'r perwyl hwnnw. Fel rheol, dim ond pan fyddai argyfwng yn codi y gwelid cymunedau'n ymgysylltu, a byddai'r diddordeb hwnnw'n pylu ar ôl y digwyddiad, wrth i faterion dilynol gael eu hunioni.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar argyfyngau rhagataliol megis terfysgaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor y rhoddwyd gwybod i Fforymau Lleol Cymru Gydnerth am risgiau posibl yn eu hardaloedd ac y cynhelid digwyddiadau hyfforddiant a edrychai ar sefyllfaoedd gwahanol ac a baratoai ymatebion ôl-ddigwyddiad iddynt.

·         Mewn perthynas â strwythur rheolaeth y Fforymau a'u lleoliad, roedd tri strwythur rheolaeth nodedig sef Strategol (Aur), Tactegol (Arian) a Gweithredol (Efydd).Roedd y Rheolaeth Aur ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin. Roedd canolfannau Rheolaeth Arian (Technegol) wedi'u lleoli mewn gorsaf heddlu ym mhob ardal awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol ganolfannau arian hefyd, ac roedd un Sir Gaerfyrddin ym Mharc Myrddin. Roedd canolfannau efydd yn weithredol, ac, oherwydd eu natur, wedi'u lleoli yn safle unrhyw ddigwyddiad.

·         Cyfeiriwyd at Glwy'r Traed a'r Genau yn y Sir yn 2001 a mynegwyd safbwyntiau a oedd yn ffafrio ymdrin â digwyddiadau o'r fath ar lefel leol, yn hytrach na'r sefyllfa yn 2001 pryd yr oedd Llywodraeth Leol yn gyfrifol. Cadarnhaodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil, er bod gan yr Awdurdod gynlluniau ar waith i ymdrin â digwyddiadau o'r fath (a oedd o fewn maes gorchwyl Is-adran Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor), mai gan Lywodraeth Cymru yr oedd y cyfrifoldeb goruchwyliol.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y gallai drefnu bod swyddogion yn rhoi manylion i aelodau ynghylch sut y byddai'r awdurdod yn ymateb i achos o glwy'r traed a'r genau a sut oedd yr ymateb hwnnw'n gysylltiedig ag asiantaethau cenedlaethol eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

 

 

</AI5>

<AI6>

6.            ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2017. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £407k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £4,167k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £162k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·         O ran y tanwariant arfaethedig o £50k ar Ddigartrefedd, dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod nifer o resymau dros y sefyllfa honno. Yn gyntaf, roedd trefniadau atal rhagweithiol yr Adran wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth o gymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd ynghynt, lle roedd diffyg o £0.5m o ran y gyllideb. Yn ail, roedd grant o £35k gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparu tai i bobl ddigartref wedi golygu nad oedd yn rhaid i'r Awdurdod wario ar y cynllun bond. O ganlyniad i'r cyllid hwnnw, byddai'r gyllideb yn cael ei hailbroffilio yn y flwyddyn ariannol nesaf.

·         O ran y gorwariant o £40k ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod costau staff asiantaeth wedi deillio o gyflwyno strwythurau newydd yn y parc ac o'r angen i gyflogi staff asiantaeth dros dro tra bo'r broses recriwtio briodol yn cael ei dilyn. Roedd y parc bellach wedi ei staffio'n llawn.

·         O ran gweithredu Parc Gwledig Pen-bre, gofynnwyd am eglurhad ar y rhagamcanion o ran gwneud elw yn y dyfodol. Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden fod y Parc wedi cynyddu ei incwm tua £0.25m dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf o achos y parc carafanau. Er mwyn cynnal a chynyddu'r potensial hwnnw i greu incwm, byddai angen buddsoddi yn y parc er mwyn gwella'r cyfleusterau presennol, er enghraifft cawodydd a chaffi newydd. Yn unol â hynny, roedd prif gynllun wedi ei ddatblygu a'i gymeradwyo ar gyfer y parc, ac roedd darpariaeth wedi ei gwneud yn rhaglen gyfalaf y Cyngor i gyllido'r gwelliannau hynny.

·         Cadarnhaodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, o ran digartrefedd, er nad oedd gan yr Awdurdod gysgodfan benodedig i'r digartref dros nos, fod ganddo amryw o fesurau i helpu pobl i gyflwyno'u hunain fel pobl ddigartref. Roedd y mesurau hynny'n cynnwys gallu cael mynediad i lety dros dro mewn argyfwng, a gweithrediad cynllun bond.

·         Dywedodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gais am eglurhad ar gost net gyfunol o £274k o ran gwasanaethau Canolfan Hamdden Sanclêr (£177k) a Chanolfan Grefftau Sanclêr (£97k), fod costau nad oedd modd eu rheoli yn ffactor a oedd wedi cyfrannu'n fawr at hyn. Roedd y rheiny'n cyfateb i £82k a £50k ac yn cynnwys costau corfforaethol ac ad-dalu benthyciadau cyfalaf i gyllido gwelliannau i'r cyfleusterau. Roedd yr adran yn ymwybodol iawn o'r angen i greu incwm/lleihau costau ar gyfer y cyfleusterau, ac roedd cyfarfod wedi'i gynnal yn ddiweddar ag aelodau lleol i drafod ffyrdd o gyflawni'r nod hwnnw. Fodd bynnag, roedd yn rhaid cydnabod er bod y cyfleusterau hamdden yn y trefi mwy o faint yn fwy cost-effeithiol, fod gan y cyfleusterau gwledig rôl gymunedol bwysig, er enghraifft roedd y ganolfan grefftau yn cynnwys llyfrgell a gorsaf yr heddlu.

·         Mewn ymateb i eglurhad ar y tangyflawniad arfaethedig o £17k o ran incwm yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, dywedodd y Pennaeth Hamdden er bod y sefyllfa'n siomedig, dylid ei hystyried yng nghyd-destun incwm targed a gyllidebwyd o £958k, ac yn hynny o beth nid oedd yn sylweddol. Un o'r rhesymau posibl dros y tangyflawni a ddisgwylid oedd cystadleuaeth yn ardal Llanelli gan ddarparwyr hamdden/ffitrwydd preifat.

·         Mynegwyd sylwadau ar ariannu cyfleusterau fel llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, a chydnabuwyd ei bod yn bosibl y byddai wastad angen rhywfaint o gymorth arnynt i sicrhau eu bod yn aros ar agor ac yn cyfrannu at hyfywedd diwylliannol y sir.

O ran cymorth ariannol, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y Cyngor, wrth bennu ei bolisïau prisio, yn cydnabod economeg amrywiol y sir ac yn gorfod sicrhau nad oedd y polisïau hynny'n anghymhelliad i'r rheiny oedd o dan anfantais ariannol mewn cymdeithas. Fodd bynnag, tra bo angen cymhorthdal ar lefydd fel llyfrgelloedd, theatrau ac amgueddfeydd, roedd swyddogion yn ymchwilio i ffyrdd amgen o greu incwm, er enghraifft hyrwyddo amgueddfeydd fel lleoliadau priodas.

·         Mewn ymateb i eglurhad ar y gorwariant arfaethedig o £469k yn Adain Rheoli Datblygu yr Is-adran Gynllunio, dywedodd y Pennaeth Cynllunio mai'r rheswm dros hynny oedd diffyg yn yr incwm o gymharu â'r rhagamcanion seiliedig ar lefelau incwm y flwyddyn gynt. Yn dilyn paratoi'r adroddiad ar ddiwedd mis Rhagfyr, roedd incwm yr Adain wedi cynyddu £124k, a'r disgwyl oedd y byddai incwm ychwanegol dros y misoedd nesaf a fyddai'n lleihau'r diffyg ymhellach. Ymhlith y ffactorau eraill oedd yn effeithio ar greu incwm oedd y ffaith bod y lefel adennill costau ledled Cymru ar gyfer gwasanaethau cynllunio yn llai na 50% o gost darparu'r gwasanaeth, ac roedd sylwadau'n cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu'r ganran honno. Ar hyn o bryd roedd yr Is-adran yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno ffioedd cyn cyflwyno cais, a phe baent yn cael eu cymeradwyo, byddent yn helpu i gyrraedd y targedau incwm.

·         Cyfeiriwyd at y mater o geisiadau cynllunio ôl-weithredol ac at a ellid cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio i wneud iawn am y costau cynyddol o ran eu prosesu, a oedd yn codi fel arfer o ganlyniad i gamau gorfodi. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod sylwadau wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gynyddu'r ffioedd. Fodd bynnag, nid oedd yn derbyn bod cyfiawnhad dros fabwysiadu'r ymagwedd honno.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

</AI6>

<AI7>

7.            DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

</AI7>

<AI8>

8.            EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL

 

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2018.

 

Cyfeiriwyd at Adroddiad Adfywio Tref Llanelli, i'w gyflwyno i'r cyfarfod nesaf a gwnaed awgrym bod adroddiad tebyg yn cael ei gyflwyno ar ganol trefi Caerfyrddin a Rhydaman. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cwestiwn tebyg wedi'i godi yng nghyfarfod y Cyngor ar 14 Chwefror, pryd y rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai adroddiad statws llawn ar gynnydd yr holl ddatblygiadau yn y sir yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 29 Mawrth, 2018. 

 

 

</AI8>

<AI9>

9.            EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU

 

Ystyriodd y Pwyllgor y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>