Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT

15 MAWRTH 2017

 

 

Yn bresennol:

Y Cynghorydd J.E.Williams (Cadeirydd)

 

Cynghorwyr:

 

 

D.J.R. Bartlett, C.A. Campbell, J.M. Charles, I.W. Davies, W.G. Hopkins, P. Hughes-Griffiths, A. James, M.J.A. Lewis, D.W.H. Richards

 

Mrs. V. Kenny – Cynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig Rufeinig

Mrs. E. Heyes – Rhiant-lywodraethwr (Ardal Llanelli)

Mrs. K. Hill – Rhiant-lywodraethwr (Ardal Dinefwr)

Mrs. A. Pickles – Rhiant-lywodraethwr (Ardal Caerfyrddin) 

 

Hefyd yn bresennol:

 

Y Cynghorydd D.M. Jenkins – Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau

Y Cynghorydd G.O.Jones – Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant

 

Roedd y swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

 

Mr. G. Morgans – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro

Mr. A. Morgan – Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion

Mr. S. Smith – Pennaeth y Gwasanaethau Plant

Mr. D. Astins – Rheolwr Datblygu Strategol

Mr. S. Davies – Rheolwr y Rhaglen Foderneiddio

Mr. D. Jones – Rheolwr Cyllid Ysgolion

Mr. M. Hughes – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 

 

Lleoliad: Siambr Neuadd y Sir, Caerfyrddin (10:00 – 11:35yb)

 

 

1.         YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J.D. James a Mrs. J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

 

 

2.         DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

A. James

 

 

Eitem 7

 

Mae’n llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llangadog.

 

 

 

 

3.         DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

           

            Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

 

 

4.         CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

 

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

 

5.         EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r eitem ar gyfer y dyfodol a oedd i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 24ain Ebrill 2017.

 

 

6.         CATEGOREIDDIO YSGOLION 2017 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Cryno Cenedlaethol ar Gategoreiddio ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin gyda golwg ar y flwyddyn academaidd 2016/17. Roedd y wybodaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad yn tynnu sylw at sefyllfa bresennol ysgolion y Sir yn ogystal â mannau i’w gwella.  

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch p’un a oedd yna ddigon o Ymgynghorwyr Her yn Sir Gaerfyrddin, roedd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion yn cydnabod fod yna brinder gan mai dim ond chwe swyddog oedd yn nhîm craidd Sir Gaerfyrddin ar y pryd. Fodd bynnag, cymerwyd camau i fynd i’r afael â’r diffyg trwy gomisiynu penaethiaid a oedd yn gweithredu fel Ymgynghorwyr Her ychwanegol. Roedd yr unigolion hyn i gyd yn cael yr un hyfforddiant er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y gwasanaeth. Cynghorwyd y Pwyllgor y byddai yna ymgynghorydd ychwanegol yn ymuno â’r Awdurdod ar ôl y Pasg a bod yna fwriad i recriwtio ymhellach ar gyfer yr haf. 

 

Cyfeiriwyd at ymweliad y Pwyllgor ag ysgol yn ddiweddar lle’r oedd tri ymgynghorydd her gwahanol wedi ymweld â’r Pennaeth mewn un flwyddyn, gyda phob un ohonynt yn rhoi cyngor gwahanol. Mynegwyd pryder felly ynghylch diffyg cysondeb y cyngor a’r heriau a roddir i ysgolion. Roedd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion yn cydnabod fod newidiadau o ran Ymgynghorydd Her wedi digwydd gyda rhai ysgolion o ganlyniad i newid yn nhrefniadau’r Tîm Craidd / Comisiynu. Ychwanegodd fod y swyddogion yn parhau i sicrhau cysondeb ar draws eu gwaith, a bod cynnal digwyddiadau hyfforddi ar y cyd yn rheolaidd yn gymorth mawr yn hyn o beth. Yn ogystal, mae ysgolion bellach yn gweithio’n effeithiol mewn amgylchedd ‘hunanwella’. Er enghraifft, mae nifer o ‘Ysgolion Gwyrdd’ yn darparu cymorth i’w cydweithwyr fel rhan o gynnwys ‘dewislen gymorth’ ERW. Ychwanegodd fod rhai Ymgynghorwyr Her, yn anffodus, wedi gorfod cael eu hadleoli er mwyn cefnogi ein hysgolion. Mae hyn o ganlyniad i swyddi gwag yn y tîm craidd.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y penderfynid ac y cytunid ar gategori ysgol. Atgoffodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y Pwyllgor fod categori ysgol yn cael ei bennu yn dilyn Ymweliad Craidd cyntaf y flwyddyn academaidd a thrafodaethau rhwng yr ymgynghorydd her, y pennaeth, y corff llywodraethu a’r uwch dîm rheoli. Roedd yr ysgolion yn cael eu hannog i awgrymu pa gategori cymorth oedd yn briodol i’w sefyllfa yn eu barn hwy, a byddai hyn yn cael ei drafod a’i herio ymhellach gan Ymgynghorwyr Her wrth ymgynghori â’r partïon perthnasol. Byddai pawb a oedd yn rhan o’r broses yn cytuno ar y categori terfynol, a lle byddai yna anghytuno, byddai hyn yn cael ei gofnodi’n swyddogol mewn adroddiad. Atgoffodd y Pwyllgor hefyd y gallai ffactorau allanol cenedlaethol (e.e. perfformiad dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) effeithio ar y categori cymorth terfynol lle’r oedd ysgol yn cael ei rhoi. 

 

Mewn ymateb i awgrym bod yna ddwy adran addysg yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin mewn gwirionedd, sef Gwasanaeth Gwella Ysgolion ERW ar y naill law ac Adran Addysg yr Awdurdod ar y llaw arall, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod y swyddogaeth gwella ysgolion wedi’i chomisiynu gan ERW ac felly nad oedd yna unrhyw ddyblygu. Nid oedd gan yr Awdurdod swyddogion gwella ysgolion ar wahân.  Ychwanegodd fod y trefniadau o fewn ERW yn caniatáu perthynas waith lawer agosach rhwng swyddogion y ddau sefydliad. 

 

Mynegwyd pryder fod y pwysau a brofir gan ysgolion uwchradd er mwyn cyrraedd y categorïau cymorth uwch (sydd â chysylltiadau cryfion â chanlyniadau arholiadau) yn arwain at fod rhai ysgolion yn cyflwyno disgyblion i sefyll arholiadau TGAU flwyddyn ymlaen llaw a bod hyn yn rhoi pwysau gormodol ac annheg ar y disgyblion.    Awgrymwyd y gallai disgyblion gyflawni canlyniadau llawer gwell o gael astudio am ddwy flynedd lawn yn hytrach na chael eu gorfodi i astudio’r cwricwlwm cyfan mewn un flwyddyn. Roedd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion yn cydnabod pryder y Pwyllgor a nododd fod yr union fater hwn wedi cael ei drafod gan ERW. Roedd yn cytuno y dylai’r broses fod yn ymwneud â sicrhau bod disgyblion yn gallu gwneud eu gorau ac mai eu cyflawniad hwy oedd y ffactor pwysicaf, ac nid safle categori’r ysgol.  Dywedodd fod ysgolion effeithiol yn olrhain cynnydd disgyblion unigol yn rheolaidd dros ddwy flynedd y cwrs ac y dylid defnyddio’r arfer o gael disgyblion i sefyll arholiadau’n gynnar fel offeryn diagnostig i gynorthwyo’r dysgwyr. Ychwanegodd fod Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg wedi mynegi pryderon yn ddiweddar ynghylch yr arfer o gael disgyblion i sefyll arholiadau’n gynnar ar lefel genedlaethol. Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro hefyd yn cydnabod pryderon y Pwyllgor a rhoddodd sicrwydd i’r aelodau ei fod wedi bod yn trafod y mater hwn gydag ysgolion uwchradd unigol yn ystod y misoedd diwethaf. Nododd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod Llywodraeth Cymru yn flaenorol wedi cynnwys rhifedd a mathemateg o fewn y data perfformiad L2i a bod hyn wedi arwain at fod ysgolion yn teimlo bod pwysau arnynt i gyflwyno disgyblion ar gyfer arholiadau yn gynharach na’r hyn sy’n arferol. Roedd hyn bellach wedi cael ei newid i naill ai rhifedd neu fathemateg felly roedd disgwyl y byddai’r arfer hwn yn lleihau.

 

Gofynnwyd p’un a oedd perfformiad disgyblion mewn unedau anghenion addysgol arbennig yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar gategorïau cymorth ysgolion uwchradd. Cadarnhaodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod hyn yn digwydd wrth ddiffinio’r ‘Grŵp Safonau’ cenedlaethol. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd, tra bod perfformiad dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 sydd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim wedi dylanwadu ar bedwar o’r categorïau ysgolion uwchradd, ei bod hi’n bwysig cofio bod y categorïau’n ymwneud â’r cymorth sydd ei angen ar ysgolion er mwyn cyflawni safonau gwell. 

 

Nodwyd ei bod hi’n ymddangos bod yna gryn wahaniaeth rhwng y graffiau sy’n dangos y gwelliannau a wnaed gan ysgolion cynradd a’r rheiny yn y sector uwchradd. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei bod hi’n ymddangos felly ond bod hyn oherwydd bod 12 ysgol uwchradd yn cael eu cymharu â thros gant o ysgolion cynradd.  Atgoffodd y Pwyllgor eto mai’r mater pwysig oedd y cymorth a oedd yn dod gyda’r gwahanol gategorïau ac y gallai ysgolion, yn lleol, symud i fyny neu i lawr categori yn dibynnu ar y mesurau y gallai ysgol fod wedi’u rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn. Er efallai na fyddai hyn yn cael ei adlewyrchu’n genedlaethol, ar lefel leol roedd y swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i gefnogi’r agenda gwella.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

 

 

7.         ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW A CHYLLIDEB GYFALAF 2016/17 

 

Roedd y Cynghorydd A. James wedi datgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llangadog.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf y flwyddyn ariannol 2016/17 fel yr oeddynt ar 31ain Rhagfyr 2016 ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant. Cynghorwyd fod yr adroddiad ar y pryd yn dynodi gorwariant diwedd blwyddyn posibl o £1,767,000 yn ei gyllideb refeniw a bod y rhaglen gyfalaf yn dangos amrywiant net o -£6,550,000 yn erbyn cyllideb gymeradwy 2016/17.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y costau parhaus sy’n gysylltiedig ag ymddeoliad cynnar gwirfoddol a dileu swyddi i athrawon, rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod y swyddogion yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithio ar drefniadau newydd i gynorthwyo ysgolion mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys adolygu’r polisïau perthnasol. Sefydlwyd Panel a fyddai’n cynnwys swyddogion o’r adran Adnoddau Dynol, y Gwasanaethau Ariannol a’r Adran Addysg a Phlant. Byddai’r Panel yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr a’i nod oedd herio a chynorthwyo ysgolion mewn perthynas ag ailstrwythuro, rhyddhau staff a gwneud defnydd effeithlon o’u cyllidebau.  Gwnaed gwaith ychwanegol hefyd i gasglu data ar strwythurau staffio ysgolion. Yn y tymor hwy, roedd yr adran am ddatblygu polisi adleoli ar gyfer ysgolion a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ystyried athrawon sydd mewn perygl o golli eu swyddi (oherwydd cau ysgolion er enghraifft) a’r defnydd posibl o gymhellion ariannol ar gyfer ysgolion sy’n derbyn staff a oedd mewn perygl o golli eu swyddi o ysgolion eraill. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y swydd seicolegydd addysg sydd yn wag, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro na fyddai’r swydd yn cael ei hail-lenwi yn dilyn ymddeoliad y swyddog er mwyn gallu gwneud arbedion effeithlonrwydd. Fodd bynnag, pwysleisiodd na fyddai hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth gan y byddai’r ffyrdd newydd o weithio a fabwysiadwyd yng ngoleuni’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) diweddar yn lliniaru unrhyw effaith sy’n gysylltiedig â cholli’r swydd hon.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y strategaethau a ddatblygir i sicrhau cynaliadwyedd y Gwasanaeth Cerdd yn y tymor hir.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod y swyddogion yn ceisio ailfodelu’r gwasanaeth yng ngoleuni argymhellion Donaldson gan y gallai ysgolion eithrio o gaffael gwasanaethau dysgu cerdd, a oedd yn rhoi’r gwasanaeth mewn sefyllfa fregus ar adeg pryd yr oedd cyllidebau’n cael eu lleihau. Un datblygiad allweddol fyddai defnyddio’r athrawon teithiol i ddysgu offerynnau cerdd yn ogystal â darparu cymorth cwricwlwm ar gyfer elfen ‘greadigol’ cwricwlwm y dyfodol, fel yr argymhellwyd yn Adolygiad Donaldson.  Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu cronfa waddol ar gyfer gwasanaethau cerdd i gydnabod y pwysau ariannol a brofir gan awdurdodau lleol ond ni dderbyniwyd rhagor o fanylion hyd yma.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynnig i ddatblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli, rhoddodd Rheolwr y Rhaglen Foderneiddio wybod i’r Pwyllgor mai’r safle a gaiff ei ffafrio gan yr Awdurdod yw Caeau Chwarae Llannerch, sydd gerllaw lleoliad presennol yr ysgol. Roedd yn cydnabod bod yna beth gwrthwynebiad lleol i’r datblygiad arfaethedig ond y byddai’r ymarfer ymgynghori cyn-cynllunio yn rhoi cyfle i’r holl bartïon sydd â diddordeb i gyflwyno eu sylwadau a lleisio eu pryderon yn ffurfiol. Byddai angen cynnal yr ymarfer ymgynghori cyn i’r Awdurdod geisio caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr oedi parhaus o ran datblygu cyfleusterau ysgolion cynradd newydd yn Rhydaman, yn ogystal â’r arian nas gwariwyd mewn prosiectau Band A eraill megis Llangadog.  Roedd Rheolwr y Rhaglen Foderneiddio yn cydnabod y pryderon ac yn cytuno bod angen ad-drefnu’r ddarpariaeth gynradd yn ardal tref Rhydaman, ynghyd â chael cyfleusterau newydd.  Atgoffodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi gorfod defnyddio ei holl gyllid ar gyfer prosiectau Band A erbyn 2019 ond oherwydd y newid mewn demograffeg a’r cynlluniau adfywio ar gyfer y dref, y byddai’n annhebygol y byddai prosiect Rhydaman wedi cael ei gwblhau erbyn yr amser hwn. Dyma oedd y sefyllfa mewn ardaloedd eraill o’r Sir ac felly roedd prosiectau eraill wedi cael eu blaenoriaethu o flaen prosiectau megis Rhydaman er mwyn lleihau’r risg o golli’r cyllid. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd i’r aelodau fod y gwaith o ddatblygu cynigion a dod o hyd i dir addas yn Rhydaman, ochr yn ochr â swyddogion o’r Is-adran Adfywio a Pholisi, yn mynd rhagddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

 

 

8.         ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 2016/17: CHWARTER 3 - 1AF EBRILL TAN 31AIN RHAGFYR 2016

 

Derbyniodd y Pwyllgor yr Adroddiad ar Berfformiad Cynllun Gwella 2016/17 er mwyn craffu arno ar gyfer Chwarter 3 gyda golwg ar y camau gweithredu a’r mesurau sy’n berthnasol i’w faes gorchwyl.

 

Rhoddwyd sylw i’r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y prinder staff sydd yn rhwystr i ddarparu’r gwasanaeth ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant wybod i’r Pwyllgor fod yna brinder ymwelwyr iechyd yn genedlaethol a bod y rheiny sydd wedi cael eu recriwtio hefyd yn gweithredu o fewn gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd ac felly bod hyn yn cyfyngu ar eu gallu i godi cymaint o lwythi gwaith yn yr ardaloedd Dechrau’n Deg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyfodol y rhaglen Dechrau’n Deg, nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant ei bod yn parhau i fod yn rhaglen flaenllaw ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac er bod y cyllid ond yn cael ei gadarnhau flwyddyn ar ôl blwyddyn, nad oedd hi’n ymddangos fod dyfodol y rhaglen ei hun dan fygythiad uniongyrchol.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr oedi a achoswyd gan ddiffyg presenoldeb mewn apwyntiadau Seicoleg Addysg.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro y gallai hyn fod oherwydd rhieni nad ydynt yn dod i apwyntiadau neu gyfarfodydd yn cael eu canslo oherwydd nad yw gweithwyr proffesiynol eraill yn gallu dod iddynt. Roedd achosion o fethu â derbyn adroddiadau oddi wrth ymarferwyr y Bwrdd Iechyd hefyd yn arwain at ganslo cyfarfodydd ac oedi yn y broses o ganlyniad.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch model systematig yr Uned Plant a Theuluoedd o weithio ar draws y timau gwasanaethau plant, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynghylch cyflwyno’r dull newydd yn Nhimau Gofal Plant yr Awdurdod. Ychwanegodd, er bod y cam gweithredu hwn yn unol â’r targed, fod y gwaith o gyflwyno hyn wedi tynnu sylw at yr angen am weithwyr penodol mewn meysydd arbennig, a bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn.  

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwaith y Panel Pobl Ifanc Agored i Niwed yn y dyfodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod y Panel yn cwrdd bob chwarter gyda’r nod o gydlynu cymorth i bobl ifanc agored i niwed yng Nghyfnod Allweddol 4. Trafodwyd papur yn ymwneud â datblygu gwaith y Panel hwn ar gyfer y dyfodol gan y Tîm Rheoli Adrannol ym mis Ionawr 2017 ac roedd gwaith pellach yn awr yn cael ei wneud i sicrhau bod dysgwyr o’r fath yn ennill cymwysterau.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch penodi Rheolwr Ymddygiad a Phresenoldeb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod strwythur newydd ar gyfer y maes gwasanaeth hwn wedi cael ei gytuno ac y byddai’r broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn dechrau’n fuan. 

 

Gofynnwyd am ragor o fanylion ynglŷn â’r anawsterau a geir wrth recriwtio gofalwyr maeth yn y Sir.   Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod recriwtio gofalwyr maeth yn broblem ledled y Deyrnas Unedig a bod yr Awdurdod yn canfod ei fod yn cystadlu â’r sector preifat a chydag awdurdodau cyfagos fel ei gilydd.  Roedd y lwfansau a oedd yn cael eu cynnig gan awdurdodau eraill yn y rhanbarth yn fwy cystadleuol na rhai Sir Gaerfyrddin, ac er nad lwfansau o anghenraid yw prif ystyriaeth darpar ofalwr, roedd yn aml yn ddigon i ddylanwadu ar benderfyniad gofalwr posibl mewn rôl a oedd ar brydiau yn anodd ei gwneud. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

 

 

9.         Y PWYLLGOR CRAFFU – ADDYSG A PHLANT: Y DIWEDDARAF YNGHYLCH CAMAU GWEITHREDU AC ATGYFEIRIADAU

 

Cyfeiriwyd at Gynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg y Cyngor Sir a gofynnwyd p’un a dderbyniwyd adborth oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â’r ffordd ymlaen ar gyfer y Gymraeg mewn Cynlluniau Strategol Addysg.   Roedd y datganiad wedi bod yn sylw cyffredinol ynghylch y cynlluniau a dderbyniwyd ac roedd y swyddogion yn disgwyl ymateb manylach gan Lywodraeth Cymru maes o law gyda golwg ar gynllun Sir Gaerfyrddin. Cytunodd i ddosbarthu manylion ynghylch unrhyw ymateb i’r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r adroddiad. 

 

 

10.       LLOFNODI BOD COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 22AIN RHAGFYR 2016 YN GOFNOD CYWIR

 

Nodwyd bod y Cynghorydd M.J.A. Lewis mewn gwirionedd yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ac nid Cymdeithas Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newid uchod, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22ain Rhagfyr 2016 yn gofnod cywir.

 

 

11.       LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26AIN IONAWR 2017 YN GOFNOD CYWIR

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain Ionawr 2017 yn gofnod cywir.

 

 

12.       DERBYN COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y CYD RHWNG Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT A’R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD AR 25AIN IONAWR 2017

 

Nododd Mrs. A. Pickles nad oedd ei hymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn wedi cael eu cofnodi.

 

Roedd y Cynghorydd A. James hefyd am egluro fod ei ddatganiad o fuddiant yn anghywir ac mai ei wraig oedd yn nyrs mewn gwirionedd ac nid ei ferch. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newidiadau uchod, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25ain Ionawr 2017 yn gofnod cywir. 

 

 

13.       DERBYN COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y CYD AR GYFER YR HOLL BWYLLGORAU CRAFFU AR 15FED CHWEFROR 2017

 

Eglurodd Mrs. A. Pickles fod ei datganiad o fuddiant yn anghywir ac y dylai fod wedi darllen fel a ganlyn: "Mae hi’n Gyfarwyddwr ar Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n darparu cyrsiau Therapi Cwnsela. Bydd y Cwmni efallai’n cyflwyno neu’n rhan o gonsortiwm a allai gyflwyno tendr i’r Cyngor yn y dyfodol”. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newid uchod, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd ar gyfer yr holl bwyllgorau craffu ar 25ain Ionawr 2017 yn gofnod cywir.

 

 

 

 

LLOFNODWYD:

 

(Cadeirydd)

 

 

DYDDIAD: