Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Dydd Mercher, 22 Ionawr 2020

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd G. Thomas (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

S.M. Allen, K.V. Broom, I.W. Davies, K.Davies, R.E. Evans, W.T. Evans, A.L. Fox, G.R. Jones, M.J.A. Lewis, K. Lloyd, E.M.J.G. Schiavone, G. Thomas and D.T. Williams

 

Hefyd yn bresennol:

Y Cynghorwyr J. Tremlett, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:

A. Bracey, Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

J. Thomas, Pennaeth Dros Dro Y Gwasanaethau Integredig

R. Hemingway, Pennaeth Gwasanaethau Ariannol

A. Thomas, Gyfrifydd Grwp

R. Page, Uwch Reolwr Cymorth Busnes

S. Sauro, Rhelowr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau

E. Bryer, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP. - 10.00  - 11.45 yb

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ken Lloyd

5. Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau 2019/20 – 2022.

Mae aelod agos o'r teulu yn ofalwr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

</AI2>

<AI3>

3.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

</AI3>

<AI4>

4.            YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2020/21 - 2022/23 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 6 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·         Atodiad (i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad (ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

Roedd y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 19/20, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.5m) yng ngrant Llywodraeth Cymru gan fynd â'r Cyllid Allanol Cyfun i £274. 159m ar gyfer 2020/21. Roedd cyfrifoldebau a throsglwyddiadau newydd i'r setliad yn cynnwys cyllid ar gyfer Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad ac yn cyfrif am £5.8m neu 2.2% o'r cynnydd cyffredinol mewn cyllid.

 

Darparwyd manylion Grantiau Gwasanaethau Penodol Llywodraeth Cymru hefyd, gyda llawer ohonynt yn aros ar lefel debyg. Cafodd y Pwyllgor wybod bod y grant gweithlu gofal cymdeithasol wedi'i gynyddu o £30m i £40m ledled Cymru (oddeutu £600K ar gyfer Sir Gaerfyrddin).  Ceisiwyd eglurhad pellach i ddeall a ellid defnyddio'r cynnydd yn llawn tuag at bwysau ar wasanaethau na ellid ei osgoi.

 

Rhagwelwyd amrywiant o £3.5m yng ngorwariant yr Awdurdod, gyda gorwariant o £1m ar gyfer yr Adran Cymunedau ym meysydd cyllideb Pobl Hŷn, Anableddau Corfforol ac Anableddau Dysgu.

 

Roedd cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg mewn cynigion arbedion ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23.  Byddai angen nodi gostyngiad ychwanegol mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf.  O ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, roedd y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor wedi parhau ar y lefelau Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, a oedd yn cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, oherwydd yr oedi cyn cael y setliad dros dro, bod yr effaith ganlyniadol ar gwblhau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei hoedi i'r un graddau.  Felly, roedd y setliad terfynol i fod i gael ei gyhoeddi ar 25 Chwefror 2020 a byddai'r Cyngor Sir yn pennu'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2020.

 

Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Gofynnwyd a oedd y ffigur dilysu o gynnydd o 5% mewn costau nwy a thrydan yn realistig. 

Cynghorwyd y Pwyllgor bod hwn yn amcangyfrif wedi'i seilio ar dueddiadau a'r ffaith bod yr Awdurdod yn rhan o gontract wedi'i gaffael yn genedlaethol.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch grant y gweithlu a phryd y byddai'r awdurdod yn gwybod a fyddai modd defnyddio'r grant yn llawn.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod yr Awdurdod yn aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru, a hysbysodd y Pwyllgor nad oedd yn beth anghyffredin i dderbyn grantiau penodol wedi i'r flwyddyn ariannol ddechrau.

·         I osgoi dyblygu ymholiadau, awgrymodd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol cael crynodeb o'r sylwadau/adborth a roddwyd gan yr aelodau yn ystod y seminarau ymgynghori ynghylch y gyllideb.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y byddai'n ystyried sut fyddai modd gwneud hyn ar gyfer ymgynghoriadau'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 – 2022/23 yn cael ei dderbyn;

4.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU  2020 - 2023

 

[NODER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Aeth y Pwyllgor ati i ystyried Cynllun Busnes Drafft 2020 – 2023 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:

 

·         Gwasanaethau Gofal a Chymorth

·         Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu

·         Gwasanaethau Integredig

·         Comisiynu Gwasanaethau.

 

Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y cynllun busnes drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu.  Hefyd, roedd adborth gan grwpiau o staff hyd yn hyn wedi nodi y byddai mwy o bwyslais ar gamau gweithredu integredig o ran llesiant drwy gynlluniau is-adrannol yn cael ei groesawu ynghyd â sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau drwy ddulliau gwahanol yn wyneb y galw cynyddol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad: -

 

·         Gofynnwyd pa waith oedd yn cael ei wneud ar ddatblygu'r agenda atal.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod yna ffocws ar atal a hybu annibyniaeth a bod yr Awdurdod yn gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Ymhlith yr enghreifftiau a roddwyd roedd: defnyddio technoleg, Ymatebwyr o'r Gymuned, gweithio gyda meddygfeydd teulu, y prosiect CUSP, datblygu cynlluniau 'StayWell' ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau, ymgysylltu o'r newydd â'r gymuned a'r fenter 'Couch to 5k'.

·         Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect CUSP.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y prosiect CUSP wedi'i ddechrau tua 18 mis yn ôl mewn cydweithrediad â'r trydydd sector.  Nod y gwasanaeth CUSP oedd cynorthwyo pobl dros 18 oed i gadw eu hannibyniaeth neu fod yn annibynnol. Roedd cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu ynglŷn â beth bynnag oedd yn bwysig i'r unigolyn, a gallai gynnwys meysydd megis rheoli arian a garddio.  Darperir y gwasanaeth CUSP yn rhad ac am ddim; fodd bynnag, gall rhai defnyddwyr ddewis prynu gwasanaethau cwmnïau preifat yn dilyn atgyfeiriadau. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod yna ffocws ar yr agenda ataliol a chynghorodd, pan fydd rhywun mewn sefyllfa anodd, bod angen iddynt siarad â rhywun cyn gynted ag y bo modd er mwyn atal pethau rhag gwaethygu.  Roedd y ganolfan argyfwng (Noddfa Min Nos) wedi'i hagor yn Llanelli i helpu'r bobl hyn.

·         Gofynnwyd sut oedd y cyhoedd yn cael gwybod am y gwasanaeth a ddarperir gan y Noddfa Min Nos.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod yna lawer o gyhoeddusrwydd wedi bod ac y byddai'r gwasanaeth yn cael ei hysbysebu'n ehangach pan fyddai wedi'i sefydlu'n llawn.  Cynghorwyd y Pwyllgor hefyd fod yna bosibilrwydd y byddai canolfan yn cael ei hagor yng Nghaerfyrddin.

·         Gofynnwyd am y newyddion diweddaraf gyda golwg ar y cydweithio â phartneriaid megis y Bwrdd Iechyd a'r trydydd sector.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod pryderon wedi bod yn y gorffennol; fodd bynnag, roedd y partneriaethau bellach yn gweithio'n dda.  Cynghorwyd y Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin yn ymwneud i raddau helaeth â'r rhaglen drawsnewid a'i bod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd.  Er bod y gwaith yn mynd rhagddo, nid oedd yn digwydd mor gyflym ag y gobeithiwyd; fodd bynnag, roedd y prosiectau yn cyd-fynd â'r weledigaeth drawsnewid o gael un pwynt mynediad ar gyfer Iechyd Meddwl. Roedd ariannu ar y cyd yn peri her ond roedd pob parti wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatrys hyn.  Nodwyd bod cryn gynnydd wedi'i wneud er gwaethaf yr heriau.

·         Gofynnwyd am y diweddaraf ynghylch argaeledd gwelyau acíwt, gan fod y prinder cyfredol ledled Cymru yn rhoi mwy o bwysau ar gleifion, gofalwyr a staff. 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu nad oedd gwelyau acíwt bob amser yn addas ar gyfer unigolion; fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen y gwelyau hyn. Roedd y mater hwn yn cael ei godi'n gyson gyda'r Bwrdd Iechyd ac roedd y Noddfa Min Nos yn ymchwilio i atebion eraill i'r broblem.

·         Codwyd y mater o fod gwasanaeth yr heddlu yn delio â nifer gormodol o faterion lles.

Cynghorwyd y Pwyllgor bod y ffigurau wedi gostwng a bod data ar gael i gefnogi hyn.  Cydnabuwyd nad bod yn nalfa'r heddlu oedd y lle mwyaf addas; fodd bynnag, pe na fyddent yn y ddalfa byddai hyn hefyd yn achosi problemau i'r unigolyn hyd nes y gellid darparu gwasanaeth mwy addas.

·         Un o'r risgiau a nodwyd yn y cynllun busnes oedd bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r gorau i gyfrannu at leoliadau S.117 mewn gofal preswyl.  Gofynnodd y Pwyllgor faint o broblem oedd hyn i'r Awdurdod.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yna gytundeb cyfreithiol ar draws Cymru yr oedd y Byrddau Iechyd yn cyfrannu iddo. Fodd bynnag, yn Sir Gaerfyrddin roedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r gorau i'w gyfraniad o 50% tuag at wasanaethau gofal preswyl i bobl hŷn.  Roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r Bwrdd Iechyd.  Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod y Bwrdd Iechyd yn dadlau bod y cymorth yn cael ei ddarparu gan nyrsys sy'n ymweld, ac nad oedd angen lleoliadau preswyl.  Y gobaith oedd y gellid cywiro'r mater hwn trwy gymryd camau cyfreithiol.

·         Cyfeiriwyd at y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a chyfradd y bobl oedd yn cael eu cadw yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol. Gofynnwyd a oedd hyn oherwydd nifer y swyddi gwag ymhlith y staff.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig nad swyddi gwag oedd yr achos ac eglurodd fod yr amserau o ran sut oedd y ffigurau'n cael eu cadarnhau yn dangos ciplun yn unig ar gyfer y cyfnod hwnnw. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod gan yr Awdurdod lif cleifion da o'r ysbyty ac ar hyn o bryd dim ond un claf oedd yn aros am ofal.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y canlyniadau bodlonrwydd ar gyfer oedolion oedd yn fodlon ar eu gofal, a hefyd y gofalwyr a deimlai eu bod yn cael eu cefnogi.

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau nad oedd y ffigurau'n wael a bod y ffordd yr oedd rhai o gwestiynau'r arolwg wedi'u geirio yn amwys.  Byddai adroddiad C4 Cwynion a Chanmoliaeth yn darparu mwy o wybodaeth ynghylch canlyniadau'r arolwg.  Roedd adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd yn cadarnhau fod defnyddwyr yn hapus â'r gwasanaeth.  Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'r arolwg; fodd bynnag, byddai'r Awdurdod yn parhau ag arolygon er mwyn i'r Awdurdod allu monitro a datrys unrhyw faterion.  Nodwyd hefyd bod 84.6% yn ganlyniad bodlonrwydd da.   Atgoffwyd y Pwyllgor bod y tîm comisiynu yn mynd ati i fonitro ac adolygu darpariaethau gofal yn llym.

·         Cyfeiriwyd at gyfarfod diweddar gan y Cyngor Iechyd Cymuned, lle rhoddwyd cyflwyniad ar y broses ryddhau. Gofynnwyd i swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses.

Cadarnhaodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod cynnydd yn cael ei wneud ar y 4 llwybr ac y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chylchredeg i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau ar gyfer 2020 – 2023 yn cael ei dderbyn.

 

</AI5>

<AI6>

6.            ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £986K o ran y gyllideb refeniw ac y byddai £4K o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2019/20.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau / arsylwadau a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

Atodiad A - Crynodeb o'r sefyllfa

·         Nodwyd bod ffigur mis Awst o orwariant o £816K wedi cynyddu i £986K ym mis Hydref.  Gofynnwyd a oedd yna arwydd o'r sefyllfa bresennol.

Dywedodd Cyfrifydd y Grŵp fod yna amrywiaeth o ffactorau i'w hystyried ond y byddai tueddiadau'r blynyddoedd blaenorol yn dangos y posibilrwydd o ostyngiad yn y ffigur.

 

Atodiad B - Y Prif Amrywiannau

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant ar staff asiantaeth a'r modd yr oedd hyn hefyd yn fater i'r Bwrdd Iechyd.

Cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod hwn yn fater penodol ar gyfer gofal preswyl; fodd bynnag, roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn y maes hwn a gwelwyd gostyngiad.  Fel arfer byddai staff asiantaeth ond yn cael eu defnyddio os oedd perygl i wasanaethau rheng flaen.

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn Taliadau Uniongyrchol ar gyfer anableddau corfforol. Gofynnwyd sut oedd taliadau'n cael eu monitro i sicrhau bod y taliadau'n parhau i fod yn berthnasol.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes fod adolygiadau rheoli gofal yn cael eu cynnal. Roedd y Tîm Archwilio a Chydymffurfio yn sicrhau bod taliadau'n cael eu defnyddio'n gywir a bod unrhyw faterion a nodwyd yn cael eu codi gyda'r rheolwyr gofal.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adroddiad ar daliadau uniongyrchol yn cael ei ddatblygu.

·         Gofynnwyd a oedd yna dystiolaeth fod taliadau uniongyrchol yn cael eu camddefnyddio ac a oedd yna achosion o gymryd mantais o gleientiaid.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes fod Taliadau Uniongyrchol yn peri risg uwch na defnyddio darparwyr a reoleiddir; fodd bynnag, roedd camau diogelu ar waith i gyfyngu ar risgiau.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y ffi weinyddol o £1,000 oedd yn cael ei chodi ar unigolion a oedd yn hunanariannu lleoliadau preswyl.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes nad yw'r cynnig wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor eto.  Ffi flynyddol fyddai'r ffi ac roedd awdurdodau cyfagos eisoes yn codi tâl.  Byddai'r ffi yn cael ei chodi ar unigolion a oedd yn hunanariannu ond nad oeddent yn hyderus i gaffael y gwasanaethau eu hunain.  O dan y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant, pan ofynnir i'r Awdurdod Lleol, mae gan bobl yr hawl i gael eu lleoliad wedi'i gomisiynu trwy'r Awdurdod.  Roedd yr Awdurdod wedi cytuno ar gyfraddau cynaliadwy gyda darparwyr; fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai'r taliadau a godir ar ddefnyddwyr gwasanaeth fod yn fwy o wneud hyn trwy'r Awdurdod na thrwy gomisiynu'n uniongyrchol gyda darparwyr gwasanaethau.

 

 

 

Atodiad F - Yr Amrywiannau'n Fanwl

·         Gofynnwyd i swyddogion sut oedd yr Awdurdod yn sicrhau nad oedd defnyddwyr gwasanaeth yn dioddef yn sgil y gostyngiad mewn gofal dau ofalwr.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod timau amlddisgyblaeth yn cynnal asesiadau ar ôl i ddefnyddwyr gwasanaeth gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae hyn yn sgil canfod bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, pan fyddant yn dychwelyd adref, yn wahanol. Pe bai'r asesiad yn dod i'r casgliad bod angen yr un lefel o gymorth o hyd, yna byddai'n parhau i fod ar gael.  Roedd datblygiadau gyda chyfarpar newydd hefyd wedi cyfrannu at leihau gofal dau ofalwr, gan fod modd yn aml i un gofalwr eu defnyddio yn lle dau.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd y gofal oedd yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar ystyriaethau ariannol a'i fod yn gwbl seiliedig ar ofal.

Dywedodd Cyfrifydd y Grŵp fod yr holl gynigion i arbed arian a awgrymwyd gan Reolwyr Gwasanaethau yn cydymffurfio'n broffesiynol ac yn gyfreithiol â safonau gofal, a'u bod yn mynd trwy broses gadarn o herio i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

</AI6>

<AI7>

7.            EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU

 

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Strategaeth Anableddau Dysgu (2018/2023)

·         Gwasanaethau a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc (y diweddaraf am y Fforwm Amlasiantaeth)

·         Ymgynghoriad ar Gyllideb y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd

 

Cynghorwyd y Pwyllgor y byddai'r Gwasanaethau a'r Cymorth i Blant a Phobl Ifanc (y diweddaraf am y Fforwm Amlasiantaeth) yn fwy addas i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant.  Roedd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn aros i'r Cadeirydd gadarnhau a oedd yn fodlon ychwanegu'r eitem at eu Blaenraglen Waith.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

</AI7>

<AI8>

8.            DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

</AI8>

<AI9>

9.            EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 5 Mawrth 2020.

 

 

</AI9>

<AI10>

10.         COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD 21AIN TACHWEDD, 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi bod y Cadeirydd wedi derbyn adborth ardderchog ynglŷn â safon y gofal a ddarperir gan gartref gofal Y Bwthyn.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>