Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd F. Akhtar (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

F. Akhtar, C.A. Davies, W.R.A. Davies, H.L. Davies, R.E. Evans, W.T. Evans (In place of D.C. Evans), S.J.G. Gilasbey, B.W. Jones, H.I. Jones, S. Matthews, H.B. Shepardson, G.B. Thomas and A.Vaughan Owen

 

Hefyd yn Bresennol:

Cynghorydd L.D. Evans – Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Tai

Cynghorydd P. Hughes- Griffiths – Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:

I. Jones, Pennaeth Hamdden

J. Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel

H. Morgan, Rhelowr Datblygu Economaidd

J. Edwards, Rheolwr Datblygu & Treftadaeth Adeiledig

A. Thomas, Gyfrifydd Grwp

S. Walters, Rheolwr Datblygu Economaidd

M. Brookfield, Arweinydd Polisi Tai

A. Lodwig, Arweinydd Tim

K. Thomas, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr,  Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP. - 10.00 yb - 12.45 yp

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C. Campbell – Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig.

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

</AI2>

<AI3>

3.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

 

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

</AI3>

<AI4>

4.            GWASANAETH LLAWN Y CREDYD CYNHWYSOL - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 (gweler Cofnod 5), ar ôl rhoi ystyriaeth i adroddiad ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin, wedi gwneud cais am adroddiad diweddaru mewn chwe mis gan estyn gwahoddiadau i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac i Gyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin fod yn bresennol.  Yn unol â'r penderfyniad hwnnw estynnodd y Cadeirydd groeso i Adele Lodwig a Maria Brookfield o Is-adran Tai y Cyngor i'r cyfarfod, ynghyd â Menna Davies – Adran Gwaith a Phensiynau a Hayley Price a Suzanne Gainard – Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin.

 

Yna cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar effaith credyd cynhwysol ar denantiaid y cyngor ynghyd â chyflwyniadau gan y rhai a enwir uchod ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin o safbwynt eu sefydliadau unigol, er enghraifft:-

 

-       Yr Adran Gwaith a Phensiynau – cyflwyno a gweithredu Credyd Cynhwysol, gan gynnwys trefniadau presennol ar gyfer hawlwyr newydd a'r broses ymfudo a reolir erbyn Rhagfyr 2023 ar gyfer yr holl hawlwyr presennol sy'n cael taliadau gan y gronfa waddol.

-       Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin – darparu cyngor a chymorth i hawlwyr presennol budd-daliadau y gronfa waddol sy'n newid i gredyd cynhwysol a'r holl hawlwyr newydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft wyneb yn wyneb, gan gynnwys cyfweliadau yn y swyddfa ac ymweliadau cartref, gwe-sgwrs, gwasanaeth ffôn cenedlaethol a chymorth TG, a hynny er mwyn gallu cwblhau ffurflenni ar-lein. Roedd y cyngor hwnnw'n cynnwys asesiadau unigol a chyngor ynghylch a fyddai'n fuddiol i hawlwyr presennol budd-daliadau barhau ar y budd-daliadau hynny neu drosglwyddo i gredyd cynhwysol.

-       Is-adran Tai Sir Gaerfyrddin – mabwysiadu dull rhagweithiol ar gyfer ei thenantiaid drwy ddarparu cyswllt cynnar ac adnabod unrhyw un a allai, o bosib, fod mewn risg o dan y trefniadau newydd. Sefydlwyd tîm cyn-denantiaeth i helpu ac i gefnogi darpar denantiaid i reoli eu harian a'u tenantiaethau. Roedd hynny'n cynnwys cyflwyno hawliadau am fudd-daliadau'n gynnar er mwyn sicrhau bod taliadau'r budd-daliadau'n dechrau ar yr un pryd â dechrau'r denantiaeth, gan nad oedd modd ôl-ddyddio'r taliadau.

 

Cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad/cyflwyniadau a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y defnydd cynyddol o fanciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cydnabuwyd er bod defnydd o'r banciau bwyd wedi cynyddu, nid cyflwyno'r Credyd Cynhwysol sydd i gyfri'n gyfan gwbl am hyn. Fodd bynnag, nodwyd bod y broses gwneud cais am gredyd cynhwysol yn gymhleth, yn enwedig yn ystod y camau cynnar pan nad oedd hawlwyr yn cael taliadau. Yr amser rhwng cyflwyno cais am hawliad a'r taliad cyntaf yw 5 wythnos ar gyfartaledd, ac mae hwnnw'n cael ei dalu ar ffurf ad-daliad. Cyfeiriwyd hawlwyr oedd yn wynebu caledi ariannol yn ystod y cyfnod hwn at fanciau bwyd a phosibiliadau eraill er mwyn cael cymorth. Roedd taliadau ymlaen llaw o hyd at 100% ar gael, a byddai'r rhain yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 12 mis. Yn ogystal, cydnabuwyd er nad oedd dechrau'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus, gan arwain o bosib at gynnydd yn y nifer oedd yn defnyddio banciau bwyd, y gobaith oedd bod dileu'r cyfnod aros cychwynnol o 7 niwrnod cyn y gellid dechrau'r hawl i gael Credyd Cynhwysol wedi lleihau'r angen hwn.

·         Gan gyfeirio at gwestiwn ynghylch cefnogi gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru ar effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru, roedd hynny'n golygu bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn darparu ffigurau incwm ar gyfer rhent chwarterol i'r Llywodraeth. Hefyd, roedd Sir Gaerfyrddin wedi ysgrifennu at bob un o'i 957 o denantiaid sy'n cael Credyd Cynhwysol (ar 30 Medi 2019) yn gofyn am eu profiadau o'r system newydd.

 

Cydnabuwyd nad oedd lefel ôl-ddyledion rhent yr awdurdod ar ôl cyflwyno'r Credyd Cynhwysol wedi cynyddu yn unol â'r rhagfynegiadau gwreiddiol. Roedd y Cyngor mewn sefyllfa well na rhai o'r awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Gallai hynny fod o ganlyniad i ddull rhagweithiol y Cyngor o ran darparu cyngor a chymorth wedi'u teilwra i'w denantiaid oedd fwyaf agored i niwed er mwyn llywio'r system hawliadau newydd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rhoi cymorth i gyn-filwyr, cadarnhawyd bod tîm cyn-denantiaeth y Cyngor yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyn-filwyr sydd mewn angen, gan gynnwys eu gallu i gael mynediad at gyllid a rheoli cyllideb. Roedd mesurau hefyd ar waith i helpu i leihau ôl-ddyledion rhent/stopio'r broses o ran ׅôl-ddyledion i gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl. Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi hyfforddi staff yn ei chanolfannau gwaith i roi cyngor a chymorth i gyn-filwyr a, lle bo angen, roeddynt yn gallu gofyn i gyn-filwyr eraill am gymorth ychwanegol. Roedd y Cyngor Sir a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn aelodau o Gyfamod y Lluoedd Arfog.

·         Cyfeiriwyd at yr effaith niweidiol bosibl ar y bobl sydd ar fudd-daliadau ac sy'n rhannu eu cartrefi ag aelodau eraill o'r teulu sy'n hawlio budd-daliadau. Nodwyd bod gan y Cyngor drefniadau i roi cymorth i unigolion o'r fath drwy ddarparu 'gwasanaeth cofleidiol' i fodloni eu hanghenion unigol.

·         Cyfeiriwyd at y sefyllfa anarferol eleni lle roedd 53 o wythnosau pan oedd rhent yn daladwy ond gan fod credyd cynhwysol yn cael ei dalu bob pedair wythnos galendr, roedd hawlwyr yn colli wythnos. Tynnwyd sylw'r Gweinidog at y sefyllfa ac roedd y sefyllfa'n cael ei harchwilio ar hyn o bryd.

·         Cadarnhawyd bod pobl ddigartref yn gymwys i gael credyd cynhwysol a chymorth o ran cael llety.

·         Nodwyd nad oedd y cyfrif diweddar o ran pobl ddigartref wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o hynny'n digwydd. Fodd bynnag, os oedd aelodau'n ymwybodol o bobl ddigartref neu berson yr effeithiwyd arno gan ddigartrefedd, gofynnwyd iddynt gysylltu â'r is-adran tai er mwyn i'r lefel briodol o gymorth gael ei darparu.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch trefniadau staffio yn y Tîm Cymorth Tenantiaeth, cadarnhawyd bod cyllid ar gyfer dwy swydd gan Lywodraeth Cymru ar fin dod i ben ond roedd ceisiadau wedi cael eu cyflwyno i'r Cyfrif Refeniw Tai ariannu eu costau parhaus yn sgil y cymorth gwerthfawr roeddent yn ei ddarparu.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cymorth sydd ar gael ar gyfer Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, cadarnhawyd bod ymholiadau a dderbyniwyd gan Is-adran Tai y Cyngor oddi wrth aelodau o'r gymuned honno yn cael eu cyfeirio at y ganolfan Cyngor ar Bopeth, a oedd â'r darpariaethau a'r dulliau priodol i roi cymorth, gan gynnwys llinell iaith bwrpasol.

·         Cyfeiriwyd at y tri chyflwyniad a gafodd y Pwyllgor y bore hwnnw, ac awgrymwyd bod cyflwyniad tebyg yn cael ei roi i holl aelodau'r Cyngor, a hynny drwy seminar i'r holl aelodau, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am eu cyflwyniadau ac am ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer cynnal seminar i aelodau ar gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin.

 

</AI4>

<AI5>

5.            ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2019/20 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2019. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £703k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £169k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £32k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr ymweliadau safle a wnaethpwyd ym mis Mai 2019 â Chanolfan Hamdden Sanclêr, Y Gât a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gynnydd a gyflawnwyd ers yr adeg honno ar eu datblygiad yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod ymchwiliadau/adroddiadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ynghylch opsiynau ar gyfer y tri lleoliad ac y byddai hyn yn destun proses ddemocrataidd y Cyngor maes o law.

 

O ran Canolfan Hamdden Sanclêr, roedd model gweithredu newydd yn cael ei archwilio a'r gobaith oedd y byddai modd bod yn rhan o drefniant partneriaeth gyda'r cyngor cymuned. Dywedwyd bod angen gwneud dros £600k o waith i ddiweddaru'r cyfleuster ac roedd cais cyfalaf yn cael ei baratoi er mwyn ystyried ei gynnwys yn rhan o raglen gyfalaf 5 mlynedd y Cyngor. Er y byddai'r cais hwnnw'n dod o dan flwyddyn 5 yn y rhaglen petai'n cael ei dderbyn, y gobaith oedd y byddai unrhyw amrywiadau i'r rhaglen yn gallu caniatáu i'r cais gael ei ddwyn ymlaen.

 

O ran y sefyllfa yn y Gât, roedd ymgynghoriadau ar waith gyda'r Cyngor Cymuned ynghylch y modd y gweithredir y lle yn y dyfodol. Roedd llawer o opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, ac roedd gwaith ymgynghori ar waith gydag ysgolion ynghylch y math o gyfleuster yr hoffent weld yn cael ei ddarparu.

 

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant arfaethedig o £463k yn yr Is-adran Gynllunio a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, a oedd wedi bod yn broblem dro ar ôl tro yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig er bod y gorwariant arfaethedig yn sylweddol, roedd yr is-adran yn ymwybodol o nifer o geisiadau cynllunio oedd i ddod a byddai ffioedd y rheiny yn helpu i leihau'r gorwariant. O ran mynd i'r afael â'r gorwariant dibaid, roedd hynny'n cael ei archwilio'n lleol ac yn genedlaethol. Yn lleol, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflwyno polisi codi tâl yn ôl disgresiwn a allai gynnwys tâl am gyngor cyn cynllunio.

 

Yn genedlaethol, roedd newid yn y ddeddfwriaeth yn 2015 yn golygu mai'r awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am y gwaith a'r costau cysylltiedig o ran penderfynu ynghylch cynlluniau mawr megis ffermydd gwynt er bod y ffioedd ar eu cyfer yn daladwy i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru yn archwilio lefel y ffioedd cynllunio, lle gallai cynnydd drwyddi draw fod yn bosibl, ynghyd â phennu taliadau cynllunio ar sail adennill costau yn llawn. Yn ogystal roedd sylwadau wedi cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i gyflwyno ffioedd uwch ar gyfer ceisiadau cynllunio ôl-weithredol a thaliadau am gamau gorfodi.                                                                                                                                                                                       Fodd bynnag, nid oedd amserlen wedi cael ei phennu ar gyfer unrhyw newidiadau i'r drefn ffioedd cynllunio yng Nghymru.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynnydd o £79k yn y refeniw disgwyliedig o eiddo masnachol y Cyngor, roedd hynny oherwydd bod lefelau uwch na'r disgwyl o ddeiliadaeth yn y sir ac roedd galw mawr am yr unedau.

·         O ran Prosiect y Fargen Ddinesig, y sefyllfa bresennol ynghylch 11 prosiect y Fargen oedd bod 3 wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'w cymeradwyo ac roedd disgwyl i ddau arall gael eu cyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn gyfredol. 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant arfaethedig o £14k ar nofio am ddim ar gyfer plant o dan 16 oed ac i oedolion dros 60 oed, roedd hynny'n gysylltiedig â gostyngiad yn lefel y grant a roddwyd i'r awdurdod gan Chwaraeon Cymru. Oherwydd y gostyngiad hwnnw roedd angen i'r Cyngor archwilio'r modd roedd y cynllun yn gweithredu, a gallai hyn arwain at lai o amseroedd ar gael i fynd i nofio am ddim.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant o £12k yng nghyllideb Cynllunio a Datblygu Polisi, roedd hynny'n gysylltiedig â gwaith ymgynghori a ddarparwyd gan yr Uned Blaen-gynllunio i adrannau eraill y Cyngor. Fodd bynnag, gan fod y rhan fwyaf o amser yr Uned yn cael ei neilltuo i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, nid oedd ganddi'r gallu i gyflawni ei rôl ymgynghori ac roedd hyn wedi arwain at lefelau llai o incwm.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y tanwariant arfaethedig o £33k ar daliadau digolledu, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod hynny'n gysylltiedig â'r arian a dalwyd i denantiaid i'w digolledu pan fyddai gwaith yn cael ei wneud yn eu cartrefi.

·         Roedd yr amrywiant o £737k ar brosiect Cyrchfan Ymwelwyr Rhyngwladol Eiconig Pentywyn yn gysylltiedig â'i ailbroffilio ac roedd disgwyl iddo gael ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 16 Hydref 2019 gan eu bod yn gywir.

 

</AI5>

<AI6>

6.            EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2019.

 

</AI6>

<AI7>

7.            LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:

 

</AI7>

<AI8>

7.1.       3YDD HYDREF, 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 3 Hydref, 2019 gan eu bod yn gywir.

 

</AI8>

<AI9>

7.2.       16EG HYDREF, 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 16 Hydref 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>