Cyngor Sir

 

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019

 

YN BRESENNOL: Cynghorydd  J.M. Charles (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:-

 H.I. Jones

F. Akhtar

S.M. Allen

L.R. Bowen

K.V. Broom

C.A. Campbell

J.M. Charles

D.M. Cundy

S.A. Curry

C.A. Davies

T.A.J. Davies

G. Davies

H.L. Davies

I.W. Davies

J.A. Davies

S.L. Davies

W.R.A. Davies

E. Dole

J.S. Edmunds

D.C. Evans

H.A.L. Evans

L.D. Evans

R.E. Evans

W.T. Evans

A.L. Fox

S.J.G. Gilasbey

P. Hughes-Griffiths

A.D. Harries

T.M. Higgins

J.K. Howell

A. James

J.D. James

R. James

D.M. Jenkins

J.P. Jenkins

G.H. John

C. Jones

B.W. Jones

D. Jones

G.R. Jones

T.J. Jones

A. Lenny

M.J.A. Lewis

K. Madge

S. Matthews

A.S.J. McPherson

E. Morgan

A.G. Morgan

S. Najmi

D. Nicholas

B.D.J. Phillips

D. Price

J.G. Prosser

E.M.J.G. Schiavone

H.B. Shepardson

A.D.T. Speake

L.M. Stephens

B. Thomas

D. Thomas

E.G. Thomas

G.B. Thomas

G. Thomas

J. Tremlett

A.Vaughan Owen

D.T. Williams

D.E. Williams

J.E. Williams

 

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:-

M. James, Prif Weithredwr

J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedau

C. Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Mrs R. Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

G. Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Phlant

W. Walters, Cyarfwyddwr Adfywio a Pholisi

L.R. Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

P.R. Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

J. Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel

R. Hemingway, Pennaeth Gwasanaethau Ariannol

A. Wood, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol

L Morris, Senior Press Officer

K. Thomas, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

E. Bryer, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr,  - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP. - 10.00 yb - 2.40 yp

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr P.M Edwards, P.M. Hughes, K. Lloyd, J.S. Phillips a B.A.L. Roberts.

 

Daeth ymddiheuriadau pellach i law ar gyfer sesiwn y prynhawn gan y Cynghorwyr A.W. Davies, I.W. Davies, J.S. Edmunds, D.C. Evans, H.I. Jones a T.J. Jones.

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

 

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J. Edmunds

9.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20.

Mae'n landlord preifat.

H.A.L. Evans

8 - Adeiladu Rhagor o Dai - Cynyddu ein Huchelgais.

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin.

H.A.L. Evans

9.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20.

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin.

K. Madge

9.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 tan 2021/22.

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

</AI2>

<AI3>

3.            CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad diweddar fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Lanymddyfri yn 2021, a diolchodd i'r bobl leol oedd yn croesawu'r ŵyl gan ddymuno'n dda iddynt gyda'r trefniadau;

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliadau diweddar â thri o drigolion y Sir ar achlysur eu penblwyddi yn 100 oed;

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliadau diweddar â:-

-       Yr hen orsaf reilffordd yn Login a oedd wedi cael ei haddasu i fod yn atyniad bwyd ac ymwelwyr ac roedd amgueddfa o hen bethau oedd yn ymwneud â'r rheilffordd i'w hagor cyn bo hir. Roedd y pentref hefyd yn ymgyrchu i wneud hen linell y rheilffordd yn llwybr addas i gerddwyr a beicwyr;

-       Agoriad rhan gyntaf Llwybr Beicio Dyffryn Tywi o Abergwili i Fronun yn Felin-wen;

-       Agoriad Ysgol Gymraeg newydd Parc y Tywyn;

-       Ysgol Griffith Jones lle trosglwyddwyd baton Grŵp Cefnogi Dementia Sanclêr a'r ardal i Gaerfyrddin a Llandeilo;

-       Cystadleuaeth siarad cyhoeddus Clwb Rotari Llanelli;

-       Gwobrau Dug Caeredin yn Nhre Ioan;

-       Noson Gwobrau Chwaraeon Tref Caerfyrddin;

-       Gwobrau Chwaraeon Actif 2018 Cyngor Sir Caerfyrddin yn Llanelli, lle enwyd Dewi Griffiths, y rhedwr o Llanfynydd, yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â meibion a theulu'r ddiweddar Pam Edmunds, cyn-gynghorydd sir dros Ward Elli am flynyddoedd lawer

·         Estynnwyd gair o longyfarchiadau i Iestyn Rees o Heol y Bryn, Pen-y-groes ar gael ei ddewis i gynrychioli Tîm Rygbi dan 20 Cymru

 

Hefyd, soniwyd wrth y Cyngor am Jack Morgan o Frynaman a oedd wedi chwarae dros y Tîm dan 20 yn erbyn Ffrainc a'r Eidal a, gobeithio, yn erbyn Lloegr yn y gêm nesaf.

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad gan Mr Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor, ei fod yn bwriadu gadael ei swydd yn yr haf a byddai'r Cyngor yn cael cyfle i ffarwelio ag ef yn swyddogol ymhen ychydig fisoedd.

 

</AI3>

<AI4>

4.            LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 9FED IONAWR 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

 

</AI5>

<AI6>

5.1.       CWESTIWN GAN CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n ddiweddar gan y Gymdeithas Cludo Nwyddau am yr oedi o ran rhoi ei Strategaeth Drafnidiaeth ar waith, yn enwedig ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd. A ydych yn credu bod y methiant hwn i wella'r cysylltiadau o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn cael effaith andwyol ar economi Sir Gaerfyrddin? Beth ddywedech chi wrth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Ydw, rwyf yn credu bod y methiant hwn i wella'r cysylltiadau o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn cael effaith andwyol ar yr economi yma yn Sir Gaerfyrddin, a byddwn yn annog Prif Weinidog Cymru i unioni'r mater cyn gynted â phosibl. Daeth ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, a drefnwyd gan yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, i'r ffordd liniaru arfaethedig i ben haf diwethaf, ac rwyf ar ddeall bod adroddiad yr Arolygydd bellach gydag uwch-weision sifil. Maent ar hyn o bryd yn paratoi'r cyngor a roddir i'r gweinidogion. Gobeithio, cyn bo hir bydd Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen glir ar gyfer beth sy'n digwydd nesaf, ond mae hynny'n gwbl ddibynnol ar argymhelliad yr adroddiad ynghylch p'un a ddylai cynllun fynd rhagddo ai peidio. Os gwneir y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda'r prosiect, rwyf wedi cael fy hysbysu y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn yr hydref ond byddai dal yn cymryd pum mlynedd i'w gwblhau. Fodd bynnag, mae AC Llafur Lee Waters wedi rhagweld y gallai penderfyniad i fwrw ymlaen fod yn agored i her gyfreithiol, felly gallai'r anawsterau barhau.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi gyrru ar hyd yr M4 yn ymwybodol o'r angen dybryd i leihau'r tagfeydd presennol. Mae'n wael iawn i'r gogledd o Gasnewydd, lle mae'r ffordd yn culhau i ddwy lôn yn unig wrth dwneli Brynglas. Ac mae bron pawb yn cytuno y bydd ffordd liniaru newydd yr M4 yn rhoi hwb i'r economi drwy wella mynediad i bobl a nwyddau i Dde a Gorllewin Cymru. Roedd yr Economegydd Stephen Bussell, o Ove Arup and Partners Ltd, wedi dweud wrth yr ymchwiliad y byddai effaith ehangach y cynllun ar Gymru a'r DU werth dros £2 biliwn. Awgrymodd y byddai'r gwelliannau o ran trafnidiaeth, effeithlonrwydd economaidd, diogelwch ac allyriadau carbon yn fwy na gwneud iawn am gost y buddsoddiad. Byddai amserau teithio yn llai, gan roi bod i fuddion penodol i gwmnïau logisteg a 'gweithrediadau dim ond mewn pryd' sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. Ond mae hyn i gyd wedi bod yn hysbys am y rhan orau o 30 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu darn o draffordd newydd 14 milltir (23km) chwe lôn i'r de o Gasnewydd, a fyddai'n cynnwys pont ar draws afon Wysg, yn ogystal ag ailfodelu sylweddol ar gyffyrdd 23 a 29 o'r M4. 

 

Ym mis Gorffennaf 2014 rhoddodd Edwina Hart, sef Gweinidog yr Economi ar y pryd, sêl bendith i'r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar sut i'w ariannu. Trafodwyd tri llwybr posibl - a'r llwybr du gafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hynny, cynigiwyd pedwerydd llwybr rhatach gan yr arbenigwr trafnidiaeth yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth yng Nghanolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru yn Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg. Gelwid y llwybr hwn yn llwybr glas a byddai'r gwaith yn cynnwys uwchraddio Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 yng Nghasnewydd a hen ffordd y gwaith dur hefyd. Dyma'r llwybr yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei ffafrio. Yn ogystal â bod yn rhatach, gellid osgoi effaith amgylcheddol enfawr y llwybr du. Mae fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi dadlau ers tro byd y dylai'r arian fyddai'n cael ei arbed wrth ddewis y Llwybr Glas gael ei ailfuddsoddi wedyn mewn mathau eraill o drafnidiaeth, yn enwedig gwella rhwydwaith rheilffyrdd De a Gorllewin Cymru.

 

Drwy gyd-ddigwyddiad, ysgrifennais at Ken Skates yr wythnos diwethaf i roi fy nghefnogaeth i'r bwriad i ddatblygu gorsaf parcffordd newydd i wasanaethu ardal drefol Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Dywedais wrtho pa mor bwysig y gallai'r cynigion fod o ran gwella cysylltiadau trafnidiaeth i Orllewin Cymru a'r tu hwnt. Gallai fod yn gyfle i fynd i'r afael â'r rhwystrau diamheuol i dwf economaidd sy'n bodoli yma yng Ngorllewin Cymru. Mae angen inni allu datblygu sectorau gwerth uwch a chyfleoedd cyflogaeth gwerth uwch i gyfateb â nhw. Rydym am gynyddu nifer y busnesau yn y sectorau hyn i ehangu'r sylfaen economaidd gan wella lefel Gwerth Ychwanegol Gros y rhanbarth o gymharu â chyfartaledd y DU. Mae'r rhain yn ddyheadau mae'r pedwar awdurdod lleol sy'n rhan o ranbarth Bae Abertawe yn eu rhannu. Gall seilwaith rheilffyrdd gwell ar gyfer gorllewin Cymru gyfan fod o fudd i ni i gyd, gan gynnwys trigolion Llandeilo.

 

Felly fy neges syml i Mark Drakeford fyddai datrys y mater a hynny cyn gynted â phosibl. Awgryma'r dystiolaeth sylweddol sydd ar gael fod angen cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn ddirfawr ar economi Gorllewin Cymru, a gallai unrhyw oedi pellach gael effaith drychinebus ar ein huchelgais o greu ffyniant o'r newydd i'n pobl yma yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Edward Thomas:

 

Diolch i chi Emlyn am yr ateb cynhwysfawr hwn a'r manylion rydych wedi'u rhoi inni. Ond pan fyddwch yn siarad â Phrif Weinidog Cymru, a fyddech cystal â'i atgoffa nad oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yn hyn ar y gwelliannau ffordd strategol ar gyfer Llandeilo a'r llygredd sy'n effeithio ar ganol y dref gan achosi problemau iechyd i blant a phobl hŷn Llandeilo? Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ei atgoffa o'r mater hwn, oherwydd nid wyf yn credu bod Ken Skates a'i Ddirprwy yn talu sylw i'r llythyron mae pobl Llandeilo yn ei ysgrifennu ato.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Iawn, fe wnaf i hynny

 

</AI6>

<AI7>

5.2.       CWESTIWN GAN CYNGHORYDD GARETH JOHN I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

 

“Allai'r Cyngor gael diweddariad ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud, y camau sy'n cael eu cymryd, a'r cytundebau gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda o ran sefydlu gwasanaeth gofal cymunedol gwir integredig ledled yr ardal? Allai'r Cyngor hefyd gael gwybod beth yw'r amserlen a ragwelir ar gyfer ei sefydlu?”

 

Ymateb y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd

Diolch ichi am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, ers peth amser mae strwythur integredig wedi bod gennym sydd wedi'i seilio ar y tair ardal ar gyfer pobl hŷn. Rydym yn rhannu pennaeth gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn â'r Bwrdd Iechyd a phennaeth comisiynu â Sir Benfro. Dros y 6 mis diwethaf araf fu'r cynnydd, er ein bod wedi cynnal perthynas waith gadarnhaol gyda Ceredigion, Sir Benfro a'r Bwrdd Iechyd. Gallaf adrodd cynnydd yn y meysydd canlynol:

 

- Bellach mae consensws ar draws y rhanbarth y dylai iechyd y gymuned a gofal cymdeithasol gael eu trefnu gan 7 ardal ar draws y rhanbarth.

 

- Datblygwyd cais trawsnewid gan y bartneriaeth ranbarthol, sydd wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, er ein bod yn dal i aros iddynt gytuno'n ffurfiol.

 

- Mae Prif Weithredwyr y 4 sefydliad rhanbarthol wedi cytuno ar ddull eang o ddiwygio a chryfhau'r bartneriaeth ranbarthol, a gobeithiwn y bydd cytundeb ffurfiol ar gyfer trefniadau cryfhau newydd wedi eu cymeradwyo erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Fodd bynnag, mae'r cynnydd wedi bod yn hynod o araf o ran cytuno ar fanylion y strwythurau y bydd angen eu rhoi ar waith er mwyn gweithredu'r cynnig integredig o ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol. Yn arbennig, nid oes hyd yn hyn ddealltwriaeth gyffredin ynglŷn â'r berthynas rhwng ardaloedd lleol a chlystyrau meddygon teulu, na pha wasanaethau penodol fyddai'n cael eu darparu ar lefelau lleol, sirol a rhanbarthol. Yn wir, yn y flwyddyn ddiwethaf mae rhai gwasanaethau iechyd megis therapïau wedi eu canoli yn y rhanbarth.

 

Fel Cyngor rydym yn glir ein bod am wneud cynnydd cyflym ac rydym yn dal yn optimistaidd y bydd ein perthynas weithio dda yn rhoi bod i gynigion ymarferol ac amserlen glir i'w gweithredu dros y flwyddyn nesaf.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gareth John:

 

“Diolch i chi am yr ymateb ac roedd nifer o elfennau cadarnhaol ynddo. Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth Aelodau'r Cynulliad ddoe fod llawer o waith i'w wneud o hyd, hyd yn oed â'r Gronfa Drawsnewid, i bontio, cysylltu, symleiddio ac ail-lunio sut y mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd. Hefyd, soniodd am rôl hanfodol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn hyn o beth, gan taw nhw yw'r cyfrwng y gall arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol ei ddefnyddio i gydweithio ag eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau ac i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol. Aeth ymlaen i ychwanegu ei fod wedi dechrau gweld newid a chysylltiadau gwell ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, a mwy o synnwyr o rannu'r un uchelgais. O gofio'r gwahaniaethau diwylliannol a sefydliadol enfawr rhwng y GIG a Llywodraeth Leol, hanes Hywel Dda o ran bod mewn partneriaethau hyd yn hyn a bod ei gapasiti strategol yn canolbwyntio'n llwyr ar gadw gwasanaethau acíwt i fynd, cydbwyso ei gyllideb, a dod o hyd i gae rhywle rhwng Sanclêr ac Arberth, fyddech chi'n gallu cadarnhau optimistiaeth y Gweinidog y bydd ein bwrdd partneriaeth ranbarthol, yn ei ffurf bresennol, yn gallu cyflawni'r nod?

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:-

Gan wybod faint o waith sydd wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n credu fy mod yn mynd i ofyn i'r Cyfarwyddwr roi newyddion da i chi.

 

Ymateb gan y Cyfarwyddwr Cymunedau:

Mae'n rhaid i ni fod yn optimistaidd bob amser sbo. Mae gwneud i hyn weithio yn anodd iawn ac mae'n rhywbeth mae'r DU gyfan wedi ceisio gweithio arno. Felly, rwy'n credu y byddwn i'n optimistaidd, ond byddwn i'n rhoi'r gair gochelgar o'i flaen. Felly byddwn i'n ochelgar ac yn optimistaidd ar yr un pryd. Ffurfiwyd y Byrddau Partneriaeth at un diben. Bellach maent wedi eu defnyddio fel cyfrwng ar gyfer newid llawer mwy. Fel y mae'r Aelod Arweiniol wedi dweud, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid iechyd ac awdurdodau cyfagos i gymryd camau breision tuag at ddiwygio hynny, gwneud y trefniadau llywodraethu'n addas at y diben, darparu cyllidebau cyfun o tua  £100m, ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn. Diwygio enfawr lle mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng arweinyddiaeth weithredol ddeinamig a goruchwyliaeth wleidyddol. A dyna'r her sef cael y trefniadau llywodraethu yn iawn a diwygio'r byrddau partneriaeth i fod yn addas i'r diben o ran cyflawni. Felly, optimistaidd ie, ond gochelgar hefyd, oherwydd fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gwneud hyn am amser hir iawn. Mae'r berthynas rhyngom yn dda ac mae parodrwydd i gydweithio. Ond fel y mae pethau, byddai dweud ein bod yno, yn or-ddweud sylweddol.  

 

</AI7>

<AI8>

6.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD.

 

</AI8>

<AI9>

6.1.       CWESTIWN GAN MISS C. SYLVAN I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

 

“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo yn Sir Gaerfyrddin a chawsom lifogydd y llynedd a achosodd ddigartrefedd, difrod a marwolaeth. Beth mae'r Cyngor yn ei roi ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel imi fyw, gweithio a magu teulu yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i Coral Sylvan am godi'r cwestiwn hwn gyda ni. Cyn ateb, rwyf am ddiolch iddi nid yn unig am y cwestiwn, ond am ddod atom y bore yma, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n torri tir newydd yn hanes Cyngor Sir Caerfyrddin. Nid wy'n meddwl ein bod wedi cael rhywun mor ifanc ag un ar ddeg oed yn dod yma o'r blaen i ofyn cwestiwn i ni, sy'n cynnig her i ni, ac sy'n gofyn inni ystyried y dyfodol yng nghyd-destun ei chenhedlaeth. Synnwn i ddim petai'n Arweinydd ar y Cyngor hwn rhyw ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn wych cael eich croesawu yma'n ffurfiol i'r Siambr a chael ymateb i gwestiwn y mae angen i ni fel cynghorwyr, fel cyngor sir, ac fel awdurdodau lleol ledled Cymru roi sylw iddo.

 

Rydym wedi clywed ers blynyddoedd nad yw'n edrych yn debyg fod gan bobl ifanc unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na'r byd o'u cwmpas.  Wel, mae arwyddion bod pethau'n newid. Fel y canodd rhywun roeddwn yn ei fwynhau nôl yn y 70au, Bob Dylan, mae'r amserau'n newid. Maent yn newid o ran y bobl ifanc sy'n barod i sefyll yn gadarn a gofyn y cwestiynau iawn a pherthnasol, ac mae clywed bod diddordeb ganddynt mewn gwleidyddiaeth a'r byd o'n cwmpas yn galondid mawr.

 

Rwy'n eistedd gyferbyn â'r Cyfarwyddwr Addysg ac rwy'n siŵr na fyddwch chi'n cytuno â mi fan hyn, ond gwnaed cryn argraff arnaf i ddydd Gwener diwethaf pryd yr aeth disgyblion ar draws y DU "ar streic" fel rhan o ymgyrch fyd-eang i weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Wyddoch chi beth, roeddwn i'n gyrru adref ar yr A48 nos Wener ddiwethaf a bu bron imi achosi damwain gan fy mod yn gwrando ar y newyddion am y streic a'i heffaith, ac ar bobl yn siarad am y peth. Dyfynnwyd siaradwr o Adran Addysg Llywodraeth y DU, a ddywedodd (a dyma pam bu bron imi gael damwain) mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid caniatáu absenoldeb yn ystod y tymor ysgol, a meddyliais i fi fy hun, ar ôl cael rheolaeth ar y llyw, beth am ddyfodol y blaned, pa mor eithriadol yw hynny? Mae'n rhaid bod hwnnw'n fater go eithriadol i ni i gyd.  

 

Cerddodd disgyblion o bob rhan o'r wlad mas o'u hysgolion er mwyn galw ar y llywodraeth i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i gymryd camau gweithredol i ymdrin â'r broblem honno. Cynhaliwyd protestiadau mewn mwy na 60 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, a bu i oddeutu 15,000 o fyfyrwyr gymryd rhan. Roeddent yn cario placardiau, ac roedd rhai ohonynt yn darllen: "Nid oes Planed B." Mae mor bwysig fod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud a'u bod yn cymryd diddordeb brwd yn y byd o'u cwmpas. O ran y cwestiwn penodol a ofynnwyd gennych, gallaf ddweud wrthych fod y Cyngor, ers y llifogydd y siaradoch amdanynt, wedi gofyn am asesiad o beth yn union ddigwyddodd ar draws ein sir tua diwedd y llynedd. Rydym am benderfynu mewn ffordd glir a manwl beth ddylai ein blaenoriaethau at y dyfodol fod yn y cyd-destun hwn.

 

Mae tystiolaeth wyddonol yn rhoi darlun clir iawn: Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd; mae'n digwydd yn bennaf o achos gweithgarwch dynol, a bydd ei effeithiau yn y degawdau i ddod yn rhai difrifol, ac, o bosibl, niweidiol. Nawr, nid wyf yn wyddonydd nac ychwaith yn un sy'n meddwl yn wyddonol, ond rwyf yn gwybod y bu i Darwin, pan gyhoeddodd 'Origin of Species', fenthyg peth deunydd gan Gymro amlwg iawn, Alfred Russel Wallace, a oedd eisoes wedi cyhoeddi ei ddamcaniaeth ynghylch esblygiad a dethol naturiol. Mae rhai wedi ei galw'n 'survival of the fittest' ac, yn y cyd-destun hwnnw, mae'n rhyfedd meddwl ein bod ni yma'n trafod dyfodol y blaned fel y rhywogaeth honno  yng nghyd-destun dethol naturiol. Byddech yn meddwl y byddem wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddoeth, o gofio ein lle ni yn y system honno. Yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod wedi ei ddefnyddio fel trwydded i ddinistrio ac i lygru. Mae'r gwyddonwyr yn glir ynghylch y dystiolaeth honno. Mae effeithiau niweidiol posibl o'n blaenau yn y degawadau i ddod. Allyriadau nwyon tŷ gwydr o geir ac o weithfeydd pŵer, yn ogystal â ffynonellau eraill a grëwyd gan Ddyn sy'n bennaf gyfrifol fel y gwyddoch, yn hytrach nag amrywiadau naturiol yn yr hinsawdd, beth bynnag y dywed Donald Trump. Mae'r allyriadau hyn yn cynnwys carbon deuocsid, y prif nwy tŷ gwydr, sydd wedi cyrraedd lefel yn ein hatmosffer nas gwelodd y Ddaear ers mwy na 400,000 o flynyddoedd. Mae'r nwyon tŷ gwydr hyn fel blanced sy'n cadw gwres yr haul yn agos at wyneb y ddaear, ac mae hynny'n effeithio ar system hinsawdd y blaned.

 

Yma yn Sir Gaerfyrddin, mae angen i ni benderfynu pa addasiadau y mae angen i ni eu gwneud i ymateb i'r her o'r newid hinsawdd hwnnw.

 

Yn ddiweddar rydym wedi ymuno â sefydliadau eraill yn y rhan hon o'r byd i greu prosiect sy'n un pwysig yn fy marn i, ac iddo'r enw bachog: ‘Asesu Tywydd Garw: profiadau lleol a blaenoriaethau'r dyfodol’.  Caiff ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a bydd yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys – bron hanner tir Cymru felly.

 

Byddai'r canlyniadau'n cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i'r cyhoedd, ymgysylltu â nhw a'u haddysgu, ac i wneud argymhellion ar gyfer polisïau trafnidiaeth, tai, llifogydd, yr amgylchedd, gwastraff a pholisïau eraill yma yn Sir Gaerfyrddin ac yn ein hawdurdodau cyfagos.

 

Byddwn yn adolygu effaith y tywydd garw a gafwyd yn ddiweddar ac yn y gorffennol, drwy ddefnyddio gwybodaeth a roddwyd i ni gan sefydliadau sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus megis yr heddlu, y frigâd dân, a'r gwasanaeth iechyd i enwi ond rhai.

 

Mae'n rhaid i ni ddod i delerau â'r ffaith y bydd llifogydd difrifol tebyg i'r rhai y gwelsom ym mis Hydref yn digwydd yn fwy aml ond mae hefyd angen i ni benderfynu sut i ymdopi â hyn. Mae cymunedau ledled y sir sy'n fwy tebygol o ddioddef llifogydd oherwydd llanw uchel neu afonydd yn gorlifo. Mae angen i'r rhain gael eu nodi ac mae angen i ni gyd wybod y ffordd orau i ofalu am lesiant y bobl sy'n byw yno. 

 

Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd llawer o dystiolaeth yn cael ei chasglu gan unigolion a sefydliadau er mwyn i ni baratoi yn well ar gyfer y newidiadau yn yr hinsawdd yn y blynyddoedd i ddod.

 

Mae awdurdodau lleol ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae hyd yn oed y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod awdurdodau lleol ledled y byd, fel Sir Gaerfyrddin, yn gyfrifol am fwy na 70% o'r mesurau lleihau newid yn yr hinsawdd. I arweinwyr lleol fel fi, mae gwell ansawdd aer, costau ynni is, gwell systemau trafnidiaeth a thwf gwyrdd yn gwneud synnwyr gwleidyddol ac economaidd.

 

Rydych eisoes wedi fy nghlywed yn sôn am bwysigrwydd gwella'r rheilffyrdd a'r cyfle i leihau nifer y cerbydau sy'n cludo nwyddau ar ein ffyrdd, ac ymhen ychydig funudau byddwch yn ein clywed yn trafod cynnig gan un o'n cynghorwyr, Aled Vaughan Owen.  I raddau mwy na'r rhan fwyaf ohonom efallai, mae Aled yn sylweddoli bod yn rhaid newid, ac yn ei rybudd o gynnig bydd yn gofyn i ni wneud Sir Gaerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon erbyn 2030. 

 

Rwyf wedi siarad llawer am y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol a'r newidiadau mae'n rhaid i ni eu gwneud. Ond dylwn sôn ychydig wrthych am y pethau rydym eisoes wedi eu rhoi ar waith.

 

Tua chwe mis yn ôl, cyflwynodd un o'n cynghorwyr ieuengaf, y Cynghorydd Liam Bowen, rybudd o gynnig i'r Cyngor hwn yn gofyn i ni ymuno â Chyngor Ceredigion drwy greu a chefnogi cynlluniau rhydd rhag plastig ar draws y sir.  Mae'r ymgyrchoedd rhydd rhag plastig hyn wedi deillio o ymgyrch ehangach "Arfordiroedd rhydd rhag plastig" Surfers Against Sewage yn erbyn plastig sy'n cael ei ddefnyddio unwaith yn unig. Rydym eisoes yn ymwybodol iawn o hyn diolch i'r gwaith gwych sydd wedi'i wneud gan David Attenborough. Rwy'n sôn fan hyn am y plastigau rydym yn eu defnyddio unwaith ac yna'n eu taflu i ffwrdd, megis cyllyll a ffyrc plastig, poteli diodydd a bocsys cludfwyd polystyren.  Gofynnodd i'r Cyngor yn gyntaf leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor gan gynnwys gwahardd gwellt a chwpanau plastig.  Hefyd gofynnodd i ni annog busnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i roi'r gorau i ddefnyddio deunyddiau plastig untro a mynd ati i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy.  Roedd am i ni hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn lle deunyddiau plastig untro ym mhob digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor.  Ac yn olaf, gofynnwyd i ni gefnogi ymgyrchoedd glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiadau eraill i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â phlastigion sy'n cael eu defnyddio unwaith o dan y cynlluniau "rhydd rhag plastig" hynny.

 

Ni fydd yn syndod i chi iddo gael cefnogaeth unfrydol y Cyngor hwn

 

Mae gennym eisoes bolisi o gynnwys technolegau carbon isel a di-garbon yn rhan o brosiectau adeiladu mawr megis gosod y paneli ffotofoltäig yn ddiweddar yn Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Carreg Hirfaen. Rydym hefyd wedi darparu'r adeilad ysgol cyntaf yng Nghymru wedi'i achredu'n llawn sy'n bodloni safonau Passivhaus, ym Mhorth Tywyn.

 

Mae'r Cyngor wedi darparu 28 o loriau sbwriel newydd; gan gostio tua £4 miliwn.  Mae'r cerbydau'n darparu gwasanaeth mwy effeithlon i drigolion a hefyd yn helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu'r sir.   Mae ganddynt adrannau gwahanol er mwyn cadw gwastraff bwyd a bagiau glas a du ar wahân.  Mae ein holl gerbydau newydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf o ran allyriadau sy'n sicrhau mai fflyd cerbydau Sir Gaerfyrddin yw'r fflyd fwyaf modern a chydnaws â'r amgylchedd yng Nghymru, os nad y DU gyfan.

 

Mae'r Cyngor wedi datblygu llwybrau cerdded a beicio diogel drwy fuddsoddiad Llwybrau Diogel yn y Gymuned a Llwybrau Diogel i Ysgolion er mwyn annog mwy o deithio cynaliadwy. Cefnogir y gwaith hwnnw gan ein timau Diogelwch ar y Ffyrdd sy'n gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo mentrau megis "bws cerdded" a'n rhaglen diogelwch ffyrdd eang.

 

Mae Adran yr Amgylchedd wedi newid llawer o'n goleuadau stryd i unedau LED mewn ymgais i leihau costau ynni, yn ogystal ag allyriadau carbon deuocsid.

 

Sir Gaerfyrddin oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cerbydau adrannol trydan tua saith mlynedd yn ôl. Yn ddiweddar rydym wedi cael cyllid ar gyfer gwefrwyr 'plygio i mewn' yn dilyn cynnydd yn nifer y cerbydau trydan sy'n cael eu gwerthu. Bydd y gwefrwyr cyflym hyn yn gwella ein darpariaeth bresennol yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig gwasanaeth mwy hygyrch i fodurwyr. Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o osod mwy o'r pwyntiau hyn ledled y Sir er mwyn ateb y galw cynyddol am geir trydan a cheir hybrid.

 

Y llynedd, enillodd y Cyngor wobr genedlaethol nodedig am brosiect cadwraeth bywyd gwyllt.  Enillodd y prosiect y wobr gyntaf yn y categori Rhagoriaeth mewn Cynllunio ar gyfer yr Amgylchedd Naturiol yng Ngwobrau 2018 y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, a gynhaliwyd yn Llundain.   Y dyddiau hyn mae cadwraeth yn rhan annatod o'r broses gynllunio, ac mae hynny ond yn iawn.

 

Mae cymaint yn rhagor y gallwn i ei ddweud wrthych a hyd yn oed wedyn, mae cymaint yn rhagor y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol. Bydd hynny'n rhan o'r drafodaeth nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwch chi Coral yn aros gyda ni i wrando arni. Rydym yn hoffi meddwl bod Sir Gaerfyrddin wastad wedi bod yn flaenllaw o ran cydlyniant cymdeithasol a newid. Nid oes rheswm gan y weinyddiaeth hon dros gefnu ar hynny mewn unrhyw ffordd, yn hytrach bydd yn cefnogi hynny yn y dyfodol. Er gwybodaeth i'r holl Gynghorwyr, rwyf hefyd am ychwanegu fod Coral wedi anfon dolen i ddogfen ataf, sef deiseb i'w llofnodi, oherwydd maent yn mynd â'r ymgyrch hon i Lywodraeth Cymru yn ogystal ag awdurdodau lleol, i ofyn iddynt ymrwymo i'r mesurau argyfwng hinsawdd cenedlaethol yng Nghaerdydd, Mae angen 5,000 o lofnodion arnynt cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y ddeiseb neu'n ei derbyn. Ar hyn o bryd, mae tua 1,200 o lofnodion ond rwy'n anfon y ddolen at bob un o'r 74 o Gynghorwyr sydd yma Coral, a diolch am y ddolen gyda llaw, ac rwy'n gobeithio, yn ogystal â'r 74 o gynghorwyr ynghyd â swyddogion (felly dyna bron i 90 arall), y byddant yn anfon y ddolen i drigolion yn eu wardiau fel y gallwn gyrraedd y 5,000 mor gyflym â phosibl, er mwyn cyflwyno'r ddeiseb yn ddiogel i Lywodraeth Cymru.

 

Unwaith eto, diolch yn fawr Coral am ddod yma heddiw, am ofyn cwestiwn mor berthnasol a bod mor ddewr, ac am yr hyder rydych wedi'i ddangos yma ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn Coral.

 

</AI9>

<AI10>

7.            YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

 

</AI10>

<AI11>

7.1.       RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

 

“Mae cydsyniad byd-eang bod newid yn yr hinsawdd yn peri risg sylweddol i'n hiechyd, ein heconomi, ein hamgylchedd ac yn peryglu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dengys tystiolaeth wyddonol yn glir nad oes gennym fwy na 12 mlynedd i atal trychineb o ran yr hinsawdd, a hyd yn oed yn lleol yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae dinasoedd, Awdurdodau Lleol a chymunedau ledled Cymru a'r DU yn teimlo'n rhwystredig gyda llywodraethau sy'n amharod i gymryd y camau brys sydd eu hangen er mwyn ymdrin â'r materion hyn.

 

Mae dyfodol dynoliaeth yn dibynnu ar arweinwyr mentrus a dewr heddiw i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn diogelu'r amgylchedd, ein dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod.

 

Cynigwn felly fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn

 

1.    Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.    Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030

3.    Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod di-garbon net o fewn 12 mis

4.    Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.    Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.    Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod di-garbon net.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

</AI11>

<AI12>

8.            ADEILADU RHAGOR O DAI - CYNYDDU EIN HUCHELGAIS

 

(SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Ystyriodd y Cyngor adroddiad a chyflwyniad a oedd yn amlinellu'r cynigion ar gyfer  cynyddu ei uchelgais o ddarparu mwy o dai fforddiadwy dros y 10 mlynedd nesaf, nid yn unig er mwyn diwallu anghenion tai cyffredinol a phenodol, ond hefyd er mwyn cefnogi'r blaenoriaethau strategol ehangach ar gyfer adfywio a datblygu ar draws y sir. Nodwyd bod y cyflwyniad yn rhoi sylw i'r pwyntiau canlynol:-

 

·         Tai Cymdeithasol – Yr Hanes;

·         Cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy;

·         Darparu 1,000 o dai fforddiadwy – 2018/19;

·         Cyfleoedd i gael buddsoddiad ychwanegol

·         Gwneud y gwahaniaethau;

·         Tai Cyngor 1981-2016, a'r dyfodol

·         Camau Nesaf – Amserlen ar gyfer cyflawni.

 

Atgoffwyd y Cyngor ei fod wedi gosod targed uchelgeisiol yn 2016 o ddarparu, trwy amryw ffyrdd, 1,000 o dai fforddiadwy erbyn 2020, ac roedd 650 wedi'u codi hyd yn hyn. Drwy reolaeth ariannol ofalus a mwy o allu i fenthyca drwy'r Cyfrif Refeniw Tai, byddai'r cynnig newydd yn galluogi'r Cyngor i ddarparu 900 o Dai Cyngor newydd sy'n Cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y 10 mlynedd nesaf. Yn ychwanegol at y targed hwnnw, nodwyd y byddai Cartrefi Croeso, cwmni tai lleol y Cyngor, yn darparu, drwy ystod o opsiynau tai, 500 o dai fforddiadwy fel dewis arall yn lle tai cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig, byddai angen datblygu cynllun manwl yn ei gylch a'i gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

8.1

Cadarnhau'r dull ehangach o ddarparu rhaglen 10 mlynedd ar gyfer tai Cyngor newydd;

8.2

Datblygu cynllun busnes cynhwysfawr a'i gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mai 2019.

 

</AI12>

<AI13>

9.            YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

 

</AI13>

<AI14>

9.1.       STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 - 2021/22

 

(SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 tan 2021/22 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ddweud bod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar gynigion y gyllideb, yn rhoi argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor, ac yn cyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 i 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran setliad Llywodraeth Cymru gan gymryd i ystyriaeth y ffigurau terfynol, adborth ar y broses ymgynghori a diweddariadau ar dwf a dilysu data.

Dywedodd fod y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, ar 19 Rhagfyr, wedi darparu cyllid ychwanegol o gymharu â'r setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Gan fod y ffigwr hwnnw ychydig yn well na'r disgwyl, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi gallu ailedrych ar rai o'r cynigion gwreiddiol ar gyfer y gyllideb ac ystyried opsiynau pellach, yn cynnwys ystyried y cynnig cyflog diweddaraf a chefnogi gwasanaethau a arweinir gan y galw, yr oeddent yn dal i gael eu rhoi dan bwysau, er enghraifft Gofal Cymdeithasol. Fodd bynnag, tra'n cydnabod bod y setliad ychydig yn well, roedd yn dal i fod yn sefyllfa heriol iawn ac roedd yn cynrychioli gostyngiad go iawn. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru ond wedi gallu darparu ffigurau ar lefel yr Awdurdod am flwyddyn, gan gyfyngu ar rychwant y Cyngor o ran rhagweld ei gynllun Ariannol Tymor Canolig 3 blynedd. Roedd hynny'n arbennig o berthnasol o ran Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan, a oedd i'w gynnal yn 2019.

Tynnodd sylw at rai o bwyntiau amlwg y setliad; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys y manylion llawn. Ar sail Cymru gyfan, roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu 0.2%, ac roedd Sir Gaerfyrddin wedi cael setliad arian ar sail tebyg am debyg ar gyfer 2018-19, gan roi i'r awdurdod £1.557m yn ychwanegol ar y setliad dros dro. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau ychwanegol ynghlwm wrth y cyllid ychwanegol hwnnw gan gynnwys newidiadau i'r cynllun rhyddhad ardrethi a chyllid ar gyfer cymhwysedd prydau ysgol am ddim ychwanegol.

Dywedodd tra bo mwyafrif y grantiau penodol wedi'u cynnal ar werth niwtral yn ariannol, fel oedd yn nodweddiadol ar yr adeg hon o'r flwyddyn, roeddid yn dal i aros am gadarnhad am rai grantiau arwyddocaol a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb yn benodol, gyda golwg ar wastraff ac ar gyllid chweched dosbarth. Fodd bynnag, yr hyn nad oedd yn nodweddiadol oedd lefel yr ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon. Er mai'r arwyddion anffurfiol oedd y byddai'n cael ei gyflawni'n llawn, yn yr un modd ag y bwriadwyd yn Lloegr, roedd yr ansicrwydd yn peri risg arwyddocaol gyda golwg ar gyllideb 2019/20.  

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau o fewn y strategaeth, fel y manylir yn yr adroddiad, fel sy'n arferol wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach fod ar gael, gyda'r dilysiad cyfan presennol yn ychwanegu rhyw £11.3m i'r gyllideb. Roedd un o'r addasiadau hynny'n ymwneud â'r gyllideb Gofal Cymdeithasol i Oedolion a oedd yn deillio o gostau cynyddol i'r Cyngor ar ôl i Allied Healthcare, un o ddarparwyr gwasanaeth y Cyngor, ddymchwel yn ariannol a'r penderfyniad dilynol i ddod â'r gwasanaeth yn ôl yn un mewnol. Er bod hynny wedi digwydd gan amharu cyn lleied â phosibl ar y defnyddwyr gwasanaeth, byddai angen i gyllideb 2019/20 ddarparu ar gyfer cysoni telerau ac amodau'r gweithwyr, gan gynnwys graddfeydd cyflog.

Dywedodd mai'r dilysiad mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â'r cynnig o godiad cyflog a wnaed gan y corff cyd-drafod ar gyfer cyflogwyr, a fyddai'n darparu codiad cyflog o 2% ynghyd â chyflwyno colofn gyflogau newydd o fis Ebrill 2019 a fyddai'n cysoni rhai o bwyntiau presennol y golofn gyflogau ac yn pontio rhai o'r bylchau digyswllt rhwng pwyntiau cyflog. O ganlyniad, byddai'r staff Cyngor sydd ar y tâl isaf, a oedd eisoes yn derbyn cyflog byw sylfaenol, yn cael codiad o 4.9%.  Fodd bynnag nid oedd y cynnig o godiad cyflog yn berthnasol i athrawon, yr oedd trefniadau cyflog cenedlaethol ar wahân ar waith ar eu cyfer, a oedd wedi arwain at gynnydd o hyd at 3.5% ym mis Medi 2018 a darpariaeth gyllidebol flynyddol o 2% ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd er bod cynigion y gyllideb, yr ymgynghorwyd yn eu cylch ym mis Tachwedd 2018, wedi tybio y byddai setliad arian niwtral i ysgolion, roedd y Bwrdd Gweithredol, o gofio bod angen cefnogi ysgolion lle bynnag y bo'n bosibl, gan ystyried yr effaith ar adrannau eraill, o ganlyniad i'r cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r setliad, yn cynnig bod y Cyngor, nid yn unig yn ychwanegu £1.8 miliwn o gyllid grant i ysgolion, ond yn ychwanegu £0.75 miliwn arall o arian craidd, gan olygu bod y cyfanswm yn cynyddu i dros £2.57 miliwn.

Hefyd cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at yr ymgynghori eang ynghylch y gyllideb a oedd wedi rhoi adborth sylweddol ar y cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron.

 

Dywedodd o ganlyniad i'r setliad mwy cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ac ar ôl caniatáu ar gyfer newidiadau dilysu, fod £528k ar gael i alluogi rhai addasiadau hanfodol i gael eu gwneud i strategaeth y gyllideb. Felly, roedd y Bwrdd Gweithredol yn argymell gwneud yr addasiadau canlynol i strategaeth y gyllideb a oedd yn ystyried y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth gan y cynigion nad oeddent yn cael cefnogaeth:-

·         cael gwared ar y gostyngiad o £32k yn y gyllideb a fwriadwyd ar gyfer Graeanu yn y Gaeaf. Bod y cynnig hwnnw wedi cael sgôr mynegai negyddol a gallai fod wedi effeithio ar ddiogelwch y preswylydd.

·         lleihau'r cynnig Ysgubo Ffyrdd Gwledig i £100k yn unig, gan ail-sefydlu £186k o'r gyllideb, a fyddai'n lliniaru'r effeithiau mwyaf difrifol.

·         gohirio am flwyddyn y toriadau arfaethedig i'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Seicoleg Addysg, gan gydnabod yr ymateb negyddol a gafwyd gan y cyhoedd a hefyd y pryderon a godwyd gan gynghorwyr yn ystod sesiynau seminarau'r aelodau.  

·         Darparu £160k yn ychwanegol at y gwasanaeth meysydd parcio gan gydnabod y cyfraniad mae'n ei wneud i'n heconomi leol ffyniannus, a fyddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'r gwasanaeth gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn y taliadau parcio ledled Sir Gaerfyrddin.

·         Bod yr Adran Cymunedau, dros y flwyddyn nesaf, yn ailedrych ar y cynnig i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac yn ceisio dod o hyd i newid yn y modd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu, a fyddai'n caniatáu i'r cyfleuster barhau i weithredu a hynny gan gyflawni'r lleihad mewn cost a gynigir.

·         Bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi ar gyfer 2019/20

Yn olaf, cyfeiriodd at y ffaith nad oedd y Bwrdd Gweithredol wedi ymateb i deimladau negyddol a gafwyd i'r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer gosod wyneb newydd ar y ffyrdd. Dywedodd nad camsyniad oedd hynny, gan y byddai'r grant ychwanegol o £1.5 miliwn y flwyddyn am 3 blynedd, yr oedd y Cyngor wedi llwyddo i'w gael, yn mwy na gwneud iawn am y gostyngiad yn y gyllideb refeniw, gyda'r cynnydd sylweddol yn y gwariant wedi ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai mabwysiadu'r cynigion yn caniatáu i'r Cyngor gyflawni cyllideb deg a chytbwys a oedd yn ymateb i'r pryderon mawr oedd wedi codi o'r broses ymgynghori, ac a roddai adnoddau ychwanegol sylweddol i wasanaethau hanfodol. Pe cânt eu mabwysiadu, byddai'r cynigion yn arwain at gynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a fyddai'n galluogi'r strategaeth o fewn yr adroddiad i gael ei chyflawni, ynghyd â'r newidiadau arfaethedig uchod a roddai Strategaeth gytbwys, gynaliadwy ac ymarferol ar gyfer y Gyllideb a oedd yn:

 

·         Ymateb i'r pryderon a godwyd wrth ymgynghori

·         Sicrhau, i'r graddau mwyaf posibl, fod lefelau a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal

·         Cydnabod bod pobl y sir yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd sydd ohoni, a, thrwy hynny, leihau cymaint â phosibl ar unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor

·         Paratoi'r Awdurdod, i'r graddau mwyaf posibl, am unrhyw ostyngiadau pellach mewn cyllid a allai ddigwydd yn y dyfodol.

 

Yna cynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol o ran Strategaeth Cyllideb 2019/20, y cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor a chymeradwyo'r cynllun ariannol tymor canolig fel sylfaen ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol. Eiliwyd y Cynnig.

 

Er i gynnig arall ar gyfer y gyllideb gael ei gyflwyno i'r Cyngor, cafodd ei dynnu'n ôl yn dilyn cyngor gan swyddog Adran 151 y Cyngor y byddai ei fabwysiadu'n golygu pennu cyllideb anghyfreithlon.

 

PENDERFYNWYD 

 

"cymeradwyo'r Strategaeth Cyllideb Refeniw am 2019/20, yn amodol ar y newidiadau canlynol:-

 

Ar gyfer 2019/20:

·         Cael gwared ar y gostyngiad o £32,000 yn y gyllideb mewn perthynas â Graeanu yn y Gaeaf;

·         Lleihau'r cynnig yn ymwneud ag Ysgubo Ffyrdd Gwledig £186,000, gan liniaru'r effeithiau mwyaf difrifol;

·         Gohirio'r toriadau arfaethedig i'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Seicoleg Addysg i gydnabod yr ymateb negyddol a gafwyd gan y cyhoedd a hefyd y pryderon a godwyd gan gynghorwyr yn ystod seminarau'r aelodau;

·         Rhoi swm ychwanegol o £160k i'r Gwasanaeth Meysydd Parcio i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y gwasanaeth ac i gyfyngu ar unrhyw gynnydd mewn taliadau parcio ledled Sir Gaerfyrddin

·         Bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi ar gyfer 2019/20

 

Ar gyfer 2020/21 a 2021/22:-

·         Bod yr Adran Cymunedau, dros y flwyddyn nesaf, yn ailedrych ar y cynnig i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac yn ceisio dod o hyd i newid yn y modd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu, a fyddai'n caniatáu i'r cyfleuster barhau i weithredu a hynny gan gyflawni'r lleihad mewn cost a gynigir;

·         Bod yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig i newid amlder cyfarfodydd y Cyngor o fod yn rhai misol i fod yn rhai chwarterol [blwyddyn 2] a Chludiant Ysgol Ôl-16 [blynyddoedd 2 a 3] yn cael eu tynnu'n ôl

Bod y Dreth Gyngor Band D am 2019/20 i’w gosod ar £1,255.17 (cynnydd o 4.89% ar gyfer 2019/20]

Bod y cyllid rheolaidd o £528k sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio'n llawn i gefnogi'r diwygiadau a gynigir i gyllideb 2019/20 fel y manylir uchod

Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod”.

 

</AI14>

<AI15>

9.2.       RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2019/20 - 2023/24

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd am y cyfnod rhwng 2019/20 a 2023/24, a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a roddai ystyriaeth i'r ymgyngoriadau ynghylch y gyllideb. Roedd y rhaglen yn darparu ar gyfer gwariant amcangyfrifedig o bron £261m dros y 5 mlynedd a oedd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu ac yn manteisio i'r eithaf ar ffynonellau allanol posibl, gyda chyfraniad y Cyngor tua £133m ynghyd â'r £128k o gyrff grant allanol. Pe cai ei mabwysiadu byddai'r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol i ddatblygu'r economi leol, i greu swyddi ac i wella ansawdd bywyd ein dinasyddion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn yr un modd â'r setliad refeniw, nad oedd y Cyngor wedi cael unrhyw ragamcanion oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2019/20. Yn unol â hynny, roedd y rhaglen yn seiliedig ar y cynsail y byddai benthyca â chymorth, a grant cyffredinol, y blynyddoedd i ddod ar yr un lefel ag y byddent yn 2019/20. Fodd bynnag, roedd grant cyfalaf ychwanegol at ddibenion cyffredinol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd o 2018/19 i 2020/21, a oedd yn dod i ryw £6.6m, a oedd wedi'i gynnwys bellach yn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd gyfredol.

 

Dywedodd fod llawer o'r buddsoddiadau wedi'u gwneud mewn cynlluniau megis rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, a oedd yn cael eu hystyried yn rhai pwysig ar gyfer y sir. Roedd cyllid newydd wedi'i ddarparu yn yr Adran Cymunedau ar gyfer canolfan hamdden Dyffryn Aman am 2020/21 ac ar gyfer parhau i gefnogi Tai yn y Sector Preifat yn 2023/24 ar gyfer grant cyfleusterau i'r anabl. Byddai Adran yr Amgylchedd yn dal i gael cefnogaeth ar gyfer Gwella Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a Chynlluniau Diogelwch Ffyrdd i mewn i 2023/24 ac ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi yn 2019/20. Yn ogystal, o ganlyniad i gyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru, byddai'r gwariant oedd wedi'i gyllidebu ar 'adnewyddu ffyrdd' am y tair blynedd nesaf yn cynyddu £1.5m ychwanegol y flwyddyn.

 

Roedd rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyfer blynyddoedd 2019/20 i 2023/24, ac roedd cyllidebau wedi'u hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno gan gynnwys Ysgol Gymraeg Cydweli, yr Hendy, Llandeilo a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwy ffrwd yn Rhydaman.  Roedd hynny gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B a oedd yn rhedeg tan 2024, a'r prif newid oedd cynnydd yn y gyfradd gyfrannu o 50% i 75% ar gyfer ysgolion, ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig, a thrwy hynny alluogi'r awdurdod i ddarparu mwy o ysgolion yn y rhaglen Band B £129.5m. Ar hyn o bryd roedd cyllideb yr Awdurdod wedi clustnodi cyllid ar gyfer £70m o'r rhaglen £129.5m.

 

Roedd cyllidebau'r adrannau Adfywio a'r Prif Weithredwr bellach yn cynnwys cynlluniau'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys y Pentref Llesiant a'r Egin. Roedd Canolfan Hamdden arfaethedig Llanelli a'r adolygiad o Ardal Llanelli hefyd wedi'u nodi fel cydran allweddol o fewn datblygiad arfaethedig y Pentref Llesiant. Roedd yna hefyd gefnogaeth barhaus ar gyfer Cronfa Prosiectau'r Strategaeth Drawsnewid o fewn yr adran Adfywio ar gyfer 2023/24 a oedd â'r potensial o gael cyllid allanol fel arian cyfatebol i gyllideb y Cyngor.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, roedd y rhaglen bresennol yn cael ei chyllido'n llawn am 5 mlynedd. Yna fe gynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol mewn perthynas â'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) a'r cyllid arfaethedig ar ei chyfer, yn unol â manylion yr adroddiad. Eiliwyd y Cynnig

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“bod y cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, gyda 2019/20 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2020/21 i 2023/24 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael yr hyn a ddisgwylir o ran y cyllid Allanol neu gyllid y Cyngor Sir;

bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo”.

 

HYD Y CYFARFOD

[SYLWER: Yn dilyn diwedd yr eitem hon am 1.00pm, tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr. Felly

 

PEDNERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol ohirio'r cyfarfod tan 2.00 pm, i alluogi gweddill yr eitemau ar yr agenda i gael eu hystyried.

 

CYFARFOD WEDI'I AILYMGYNNULL

Bu i'r Cyngor ailymgynnull am 2.00pm, i ystyried gweddill yr eitemau ar yr agenda.

 

 

</AI15>

<AI16>

9.3.       CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2019/20 - 2020/21 A LEFELAU RHENTI TAI 2021/22 - REFENIW A CHYFALAF

 

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J. Edmunds a H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2019 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, ar y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2019/2022. Roedd yn adleisio cynlluniau yn y Cynllun Busnes 30 blynedd sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) a'n Strategaeth Tai Fforddiadwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi sicrhau bod tenantiaid yn elwa ar Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wrth gamu ymlaen roedd y gyllideb wedi cael ei llunio mewn modd oedd yn gofalu bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos holl eiddo'r Cyngor i'r dyfodol. Adroddodd mai'r disgwyl dros y 3 blynedd nesaf oedd y byddai swm o £45m yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc dai a thrwy hynny barhau â'r daith fel y manylwyd yng Nghynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy.

 

Hefyd roedd y gyllideb yn darparu cyllid o ryw £44m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi Rhaglen Tai Fforddiadwy y Cyngor, a fyddai'n arwain at gynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y sir drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl. Byddai'r rhaglen adeiladu tai newydd yn cael ei chynnal drwy'r rhaglen gyfalaf a thrwy'r cwmni tai newydd – Cartrefi Croeso. 

 

Atgoffwyd y Cyngor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol iddi fod yn ofynnol i'r Awdurdod, ers 2015, fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, lle roedd yn ofynnol i gynnydd arfaethedig mewn rhent gael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, roedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, a oedd yn caniatáu i'r awdurdodau lleol o fewn eu band rhent targed i gynyddu'r rhent gan y CPI yn unig, gyda'r disgwyliad y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21. 

 

Fodd bynnag, ar 30 Ionawr 2019, ar ôl i'r polisi interim cychwynnol gael ei ystyried gan yr holl Awdurdodau Tai Lleol, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r Awdurdodau Lleol am ddiwygiad i'r polisi hwnnw a oedd yn rhoi hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol â rhent cyfartalog o fewn y Band Rhent Targed gynyddu rhent ‘hyd at £2 yr wythnos’, yn amodol ar sicrhau nad oedd y cynnydd cyfan mewn rhent ar gyfer eu hanghenion cyffredinol a'u stoc tai gwarchod yn fwy na 2.4% ac na fyddai unrhyw denant unigol yn derbyn cynnydd mewn rhent oedd yn fwy na'r codiad polisi y cytunwyd arno o 2.4% ynghyd â'r cynnydd o £2.00. Roedd y diwygiad hwnnw wedi galluogi'r Bwrdd Gweithredol i ystyried cynnydd yn y rhent a oedd yn caniatáu i'r Awdurdod gyflawni ei ymrwymiad blaenorol i denantiaid, drwy weithredu'r polisi cysoni gwreiddiol a sefydlu lefel rhent decach i bob tenant. O ganlyniad, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cynnig bod y rhent yn cael ei osod ar lefel isel a theg, a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac a oedd yn cynnal polisi cysoni'r Cyngor h.y.:-

-       Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

-       Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r rhent targed.

-       Gwneir cynnydd o 1.92% i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a chânt eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf.

Byddai hynny'n creu cynnydd o 2.4% neu £2.05 i'r rhent tai cyfartalog ac yn cefnogi cynllun busnes cynaliadwy.

Wrth gynnig argymhellion y Bwrdd Gweithredol, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnig diwygiedig wedi'i ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Cymuned yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror, 2019. Cafodd y cynnig ei eilio a:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

-       “Cynyddu'r rhent tai cyfartalog yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol  Llywodraeth Cymru (diwygiwyd ar 30 Ionawr]

a)    Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)   Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed

c)    Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a'u bod yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf

 

A thrwy hynny gynhyrchu cynnydd o 2.4% neu £2.05 mewn rhent tai cyfartalog a bydd yn darparu'r un gwerth casglu rhent cyffredinol i'r Cyfrif Tai;

 

-       Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

 

-       Rhoi'r polisi taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael budd o wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

 

-       Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

-       Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (cyllidebau amhendant yw rhai 2020/21 a 2021/22), fel y nodwyd yn Atodiad B;

 

-       Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2019/20, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2020/21 hyd 2021/22, fel y'u nodwyd yn Atodiad A”

 

</AI16>

<AI17>

9.4.       SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2019–22

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2019-2022, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·         Egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid;

·         Amlinellu sut y gallwn gyflawni newid a buddsoddiad trawsnewidiol, a gosod targedau tai fforddiadwy hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol;

·         Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd ariannol nesaf;

·         Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2019/20, sy’n dod i £6.1m.

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai yr adroddiad a dweud pe bai ei argymhellion yn cael eu mabwysiadu, byddai'n arwain at £45 miliwn yn cael ei wario dros y tair blynedd nesaf ar gynnal a gwella'r stoc tai ymhellach. Byddai hefyd yn golygu bod modd cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr gwerth £6.1 miliwn ar gyfer 2019/20. Amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gynllun ar gyfer 2019/20 a fyddai'n cynnwys:

 

-       £1m ar gyfer gwaith adeiladu ar ystadau presennol;

-       £2m i ddod â thai cyngor gwag yn ôl i ddefnydd cyn gynted â phosibl ac i Safon Tai Sir Gaerfyrddin +

-       £1.5m i wella ardaloedd cymunedol mewn cynlluniau gwarchod

-       £0.25m ar gyfer gwelliannau mewn perthynas â diogelwch tân.

 

Dywedodd y byddai'r cynllun, yn ychwanegol at yr uchod, yn helpu'r Cyngor i gyrraedd y targed o ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy, ar y cyd â'i bartneriaid tai a thrwy ddulliau eraill, gyda 650 wedi cael eu darparu hyd yn hyn. Roedd y cynllun hefyd yn manylu ar y cynigion i adeiladu 900 o dai cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf am gost o £150m, a byddai 200 ohonynt yn cael eu darparu dros gyfnod y cynllun am gost o £44m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

-       “ bod gweledigaeth uchelgeisiol STSG+, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ac ariannol dros y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau;

-       Cadarnhau bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru”.

 

</AI17>

<AI18>

9.5.       POLISI RHEOLI’R TRYSORLYS A STRATEGAETH  2019-2020

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wrth y Cyngor fod yn rhaid i'r Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Bod y Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20

a'r argymhellion ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

Bod y Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y

Dangosyddion Darbodus, a'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw a'r argymhellion ynddynt

yn cael eu cymeradwyo”.

 

</AI18>

<AI19>

10.         DERBYN ADRODDIAD CYFARFODAU Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 22AIN AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

 

</AI19>

<AI20>

10.1.    21AIN IONAWR 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2019.

 

</AI20>

<AI21>

10.2.    4YDD CHWEFROR 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019.

 

</AI21>

<AI22>

11.         PENODI SWYDD Y PRIF WEITHREDWR A PHENNAETH Y GWASANAETH TALEDIG.

 

(SYLWER: Gadawodd y Cyfarwyddwyr i gyd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)

 

Ystyriodd y Cyngor adroddiad am y trefniadau arfaethedig ar gyfer recriwtio i swydd Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaeth Taledig ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Prif Weithredwr presennol, Mr Mark James, ei fod yn ymddeol.  Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys y proffil swydd a'r fanyleb person arfaethedig ar gyfer y swydd, ynghyd â'r hysbyseb swydd yr oedd yn ofynnol ei hysbysebu'n gyhoeddus yn unol â gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru)(Diwygio) 2014.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor am y tri phwynt canlynol a oedd yn berthnasol i'r broses recriwtio:-

 

·         Byddai'r cyflog arfaethedig ar gyfer y swydd ar bwynt sefydlog o £145k y flwyddyn. Byddai angen cyflwyno unrhyw amrywiad i'r cyflog hwnnw i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth. Fodd bynnag, nid oedd yn cynnwys taliadau mewn perthynas â dyletswyddau Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau.

·         Yn ôl yr asesiad, y gofyniad ieithyddol o ran y swydd oedd lefel 4 ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg

·         Byddai'r swydd wag yn cael ei hysbysebu'n genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

11.1

Bod y Proffil Swydd a'r Fanyleb Person ar gyfer swydd y Prif Weithredwr yn cael eu cymeradwyo;

11.2

Bod yr hysbyseb swydd i ganiatáu i'r swydd uchod gael ei hysbysebu'n gyhoeddus yn unol â gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn cael ei chymeradwyo.

 

</AI22>

<AI23>

12.         AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT

 

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd R. Evans o'r Grŵp Annibynnol a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â  Grŵp Llafur. Nodwyd y byddai'r Grŵp Annibynnol, o ganlyniad i'r ymddiswyddiad, yn colli un sedd graffu ac un sedd reoleiddiol ac y byddai'r Grŵp Llafur yn ennill un sedd graffu ac un sedd reoleiddiol. Nid oedd newid i ddyraniad y seddi i'r Grŵp Llafur a'r aelod heb gysylltiad pleidiol.

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol fel y'u nodwyd yn nhabl 2B yn yr adroddiad,  roedd y Grŵp Annibynnol wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac roedd y Grŵp Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Andrew James i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwn.

 

O ran y newidiadau sy'n effeithio ar y sedd Reoleiddio, fel y nodwyd yn Nhabl 3 o fewn yr adroddiad, roedd y Grŵp Annibynnol wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Archwilio ac roedd Grŵp Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Deryk Cundy i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwnnw.

 

At hynny, yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n gosod y gofynion ar gyfer penodi Pobl i Gadeirio Pwyllgorau Craffu a Throsolwg, nododd y Cyngor, gan fod y Cynghorydd Evans wedi symud rhwng dau grŵp sy'n rhan o'r Weithrediaeth, nad oedd unrhyw newid o ran dyraniad 5 Cadeirydd y Pwyllgorau Craffu.

PENDERFYNWYD o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,

12.1

Mabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan y Grŵp Annibynnol a Grŵp Llafur, fel y nodir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad, yn benodol y seddi a ddyrennir parthed y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a'r Pwyllgor Archwilio;

12.2

Yn unol â Rheol 2(2)(n) o'r Weithdrefn Gorfforaethol i gymeradwyo newidiadau yn Aelodaeth y Pwyllgor o ganlyniad i argymhelliad 12.1 uchod;

12.3

Nodi nad oedd dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan Grŵp Plaid Cymru a'r Aelod heb Gysylltiad Pleidiol;

12.4

Yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw dyraniad y 5 Cadeirydd Craffu yn newid.

12.5

Nodi bod y Grŵp Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Rob Evans i lenwi ei sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac i'r Cynghorydd Deryk Cundy i lenwi ei sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Archwilio.

 

</AI23>

<AI24>

13.         PENODI AELODAU I WASANAETHU AR AWDURDOD TÂN AC ACHUB Y CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

 

O ganlyniad i adolygiad a gynhaliwyd yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Rob Evans o'r Grŵp Annibynnol a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â Grŵp Llafur, ystyriodd y Cyngor adroddiad a fanylai ar y newidiadau dilynol i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor ac adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol.

 

Nododd y Cyngor fod yr unig newidiadau a ddeilliai o'r newid uchod i'r aelodaeth yn ymwneud â dyraniad y seddi i'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mai'r bwriad yn dilyn trafodaethau ag Arweinwyr y Grwpiau oedd y byddai Plaid Cymru yn ildio sedd y Cyng. Mansel Charles, a fyddai'n cael ei ddisodli gan y Cyng. Rob Evans o Lafur.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

13.1

Bod dyraniad y seddi i aelodau etholedig ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei newid fel a ganlyn:-

Plaid Cymru (2) Llafur (2) Annibynnol (1) Heb gyswllt (1)

13.2

Nodi, yn unol ag argymhelliad 13.1 uchod, fod Grŵp Plaid Cymru wedi ildio sedd y Cynghorydd Mansel Charles a bod Grŵp Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Rob Evans fel ei gynrychiolydd ychwanegol.

 

</AI24>

<AI25>

14.         AELODAETH PWYLLGORAU

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

14.1

nodi y byddai'r Cynghorydd Mansel Charles yn cymryd lle'r Cynghorydd David Jenkins fel un o gynrychiolwyr Grŵp Plaid Cymru ar Bwyllgor Penodiadau B;

14.2

nodi y byddai'r Cynghorydd Rob Evans yn cymryd lle'r Cynghorydd John Prosser fel cynrychiolydd y Grŵp Llafur ar Gronfa Bensiwn Dyfed;

 

</AI25>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>