Cyngor Sir

 

Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2019

 

 

YN BRESENNOL: Cynghorydd  K. Madge (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:-

 F. Akhtar

S.M. Allen

L.R. Bowen

K.V. Broom

C.A. Campbell

J.M. Charles

D.M. Cundy

W.R.A. Davies

T.A.J. Davies

G. Davies

H.L. Davies

I.W. Davies

J.A. Davies

K.Davies

S.L. Davies

E. Dole

J.S. Edmunds

D.C. Evans

H.A.L. Evans

L.D. Evans

R.E. Evans

W.T. Evans

A.L. Fox

S.J.G. Gilasbey

P. Hughes-Griffiths

A.D. Harries

J.K. Howell

P.M. Hughes

A. James

J.D. James

D.M. Jenkins

J.P. Jenkins

G.H. John

B.W. Jones

D. Jones

G.R. Jones

H.I. Jones

A. Lenny

M.J.A. Lewis

K. Lloyd

K. Madge

A.S.J. McPherson

E. Morgan

A.G. Morgan

B.D.J. Phillips

D. Price

J.G. Prosser

B.A.L. Roberts

H.B. Shepardson

A.D.T. Speake

L.M. Stephens

B. Thomas

D. Thomas

E.G. Thomas

G. Thomas

J. Tremlett

A.Vaughan Owen

D.T. Williams

J.E. Williams

 

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:-

W. Walters, Prif Weithredwr

J. Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedau

C. Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Mrs R. Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

G. Morgans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Phlant

L.R. Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

P.R. Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

L. Quelch, Y Pennaeth Cynllunio

J. Jones, Rheolwr Eiddo a Phrosiectau Mawr

D. Hockenhull, Rheolwr y y Cyfryngau a Marchnata

I.R. Llewelyn, Rheolwr Blaen-gynllunio

K. Thomas, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr,  Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP. - 10.00 yb - 12.00 yp

 

<AI1>

1.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry, A. Davies, P. Edwards, T. Higgins, R. James, C. Jones, T.J.J. Jones, S. Matthews, S. Najmi, D. Nicholas, S. Phillips, E. Schiavone, G. Thomas ac E. Williams

 

</AI1>

<AI2>

2.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J.A. Davies

8.2 - Cynllun Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT)

Mae hawl dramwy yn mynd ar hyd ei eiddo

Arwel Davies

8.2 - Cynllun Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT)

Mae hawl dramwy yn mynd ar hyd ei eiddo

A James

8.2 - Cynllun Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT)

Mae hawl dramwy yn mynd ar hyd ei eiddo

K. Broom

8.2 - Cynllun Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT)

Mae hawl dramwy yn mynd ar hyd ei heiddo

D. Phillips

8.2 - Cynllun Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT)

Mae hawl dramwy yn mynd ar hyd ei eiddo

 

 

</AI2>

<AI3>

3.            CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu Gareth Jones, y Cyn-gynghorydd Sir a fu'n cynrychioli Ward Gogledd Tref Caerfyrddin ac a fu hefyd yn Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg o dan y weinyddiaeth flaenorol.

 

Rhoddwyd teyrngedau i Mr Jones gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.

 

Safodd pob aelod mewn tawelwch yn arwydd o deyrnged er cof am Mr Jones.

 

·         Cyfeiriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant at farwolaeth gwraig Mr John Phillips, Cyn-gyfarwyddwr Addysg a Chyn-brif Weithredwr Cyngor Sir Dyfed a ragflaenodd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chydymdeimlodd â'r teulu.

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at y materion personol canlynol:-

 

-       Croesawodd y Cynghorwyr Dorian Williams a Colin Evans i'r cyfarfod ar ôl iddynt dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar,

-       Dywedodd ei fod yn cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar Ŵyl San Steffan yng Nghefn Sidan a gofynnodd i'r aelodau ei noddi er mwyn cefnogi'r elusen a ddewiswyd ganddo sy'n codi arian ar gyfer y banciau bwyd yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llandeilo. Hyd yn hyn, mae ei elusen wedi cyfrannu £1200 at y banciau bwyd,

-       Diolchodd i bawb a oedd wedi cefnogi'i Noson Eidalaidd Elusennol a oedd wedi codi bron i £500 ar gyfer y banciau bwyd,

 

·         Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi bod iddynt yn cynrychioli'r Cyngor, gan gynnwys:-

 

·         Gwasanaeth Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot,

·         Cyngor Mwslemiaid Cymru yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru,

·         Cynhadledd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda ynghylch 'Therapi Galwedigaethol; Gwerth ac Effaith o'r Crud i'r Bedd' lle roedd Ei Huchelder Brenhinol, y Dywysoges Frenhinol, yn bresennol,

·         Gwasanaeth Ymweld Blynyddol 'Priory for Wales of the most Venerable Order of the Hospital of St John of Jerusalem' â Dyfed yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

·         Gwasanaethau Blynyddol Sul y Cofio yn Llanelli, Caerfyrddin a Phump-hewl.

·         Seremoni, lle roedd Is-gadeirydd y Cyngor yn bresennol, a gafodd ei llywyddu gan Arglwydd-Raglaw Dyfed a rhoddwyd MBE i Mr Michael Clive Norman o Lanybydder.

 

·           Atgoffodd y Cadeirydd y Cyngor o nodau Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac anogodd aelodau i arwyddo'r rhuban a gwneud yr addewid "i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod".

 

·           Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole wrth y Pwyllgor am gyfraniad Mr Aled Walters o Sir Gaerfyrddin at lwyddiant De Affrica yn ennill Cwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar ac awgrymodd fod llythyr yn cael ei anfon ato yn cydnabod ei lwyddiant.

 

Cymeradwyodd y Cadeirydd y syniad uchod ac awgrymodd y dylid anfon llythyr tebyg at Dîm Rygbi Cymru am ennill y pedwerydd safle yn y twrneimant.

 

·           Dywedodd y Cynghorydd P. Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wrth y Cyngor am gyflawniadau diweddar Tîm Marchnata a'r Cyfryngau y Cyngor yng Ngwobrau 'Pride' y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (Diwydiant Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Cymru):

 

Gwobr Aur yn y categori 'Ymgyrch Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol' ar gyfer datblygiad a lansiad y Cyngor o'r Bwrdd Gweithredol Bach er mwyn helpu i egluro blaenoriaethau'r Bwrdd Gweithredol o ran "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin" ac i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn democratiaeth leol;

 

Wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori 'Ymgyrch y Celfyddydau, Diwylliant neu Chwaraeon' am hyrwyddo a marchnata Grand Départ Taith Prydain ym mis Medi 2018

 

Cyflwynodd y Cadeirydd y Wobr Aur i D. Hockenhull, Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau, a Laura Morris, Uwch-swyddog y Wasg

 

·                    Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas wrth y Cyngor am y gwobrau/cydnabyddiaethau diweddar y mae ysgolion/busnesau yn y sir wedi'u derbyn:-

 

-       Ysgol Gynradd Llandeilo am ennill y wobr Arian: Ymwybodol o Hawliau gan UNICEF, sef yr unig ysgol yn Sir Gaerfyrddin i ennill gwobr am wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ei pholisïau, ei harferion a'i hethos.

 

-       Enillodd y canlynol wobrau yn y 'Welsh National Wedding Awards':-

 

The Plough Inn – enillydd rhanbarthol yn y categori Man Cynnal Priodas Bwtîc;

Huw Rees Bridal - enillydd rhanbarthol Manwerthwr Priodasol y flwyddyn;

Dyfed Menswear - enillydd cenedlaethol a rhanbarthol yn y categori Dillad Dynion

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL anfon llythyron llongyfarch at Mr Aled Walters a Thîm Rygbi Cenedlaethol Cymru ar eu llwyddiannau yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar.

 

</AI3>

<AI4>

4.            LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9FED HYDREF, 2019

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2019 yn gywir, yn amodol ar gofnod 7.1 - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rob James, yn cael ei newid er mwyn nodi bod y Cynghorydd John Jenkins wedi gadael Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CYFLWYNIAD - Y SIARTER ANABLEDDAU DYSGU

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Sharon Ferwin, Uwch-reolwr y Cyngor ar gyfer Cynhwysiant Cymunedol, ynghyd â Sarah Phillips, Simon Rice ac Angie Edwards o Bobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin a gafodd eu gwahodd i roi cyflwyniad i'r Cyngor ynghylch y Siarter Anableddau Dysgu y gofynnwyd i'r Cyngor ymrwymo iddo.

 

Gwyliodd y Cyngor fideo byr ynghylch y Siarter Anableddau Dysgu sydd â'r nod o helpu i wella bywydau pobl sydd ag anableddau dysgu a gofyn i bobl/sefydliadau:-

 

·         Helpu pobl ag anableddau dysgu i wneud y pethau y maent am eu gwneud;

·         Rhoi mwy o ddewis iddynt;

·         Gwrando arnynt;

·         Eu trin fel oedolion;

·         Rhoi urddas a pharch iddynt;

·         Cadw eu gwybodaeth yn breifat

 

Rhoddwyd cyfle i'r Cyngor ofyn cwestiynau ar y cyflwyniad a nodwyd pe bai'n cytuno i lofnodi nodau ac amcanion y Siarter, bod copi mawr o'r Siarter wedi'i osod yn y cyntedd i aelodau ei lofnodi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am y cyflwyniad fideo ac am ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor yn llofnodi Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru

 

</AI5>

<AI6>

6.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

 

</AI6>

<AI7>

6.1.       CWESTIWN GAN MISS C. SYLVAN I'R CYNGHORYDD MAIR STEPHENS - DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

 

Gan nad oedd Miss Sylvan yn gallu mynd i gyfarfod y Cyngor y diwrnod hwnnw, darllenodd y Cadeirydd y cwestiwn canlynol

“10 mis yn ôl des i yma i ofyn cwestiwn i'r Cyngor Llawn ynghylch sut y bydd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Rwy'n falch iawn fod y Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd ym mis Chwefror, a bod y Cyngor yn gweithio i ddod yn gyngor di-garbon erbyn 2030 ac yn ymrwymo i ymwahanu pensiynau oddi wrth danwyddau ffosil ymhen 2 flynedd. Ond, rwy'n ofni bod pethau sy'n niweidiol i'r amgylchedd yn parhau i ddigwydd yn Sir Gaerfyrddin, ac nid yw hyn yn cyfateb i'r hyn mae fy nghyngor yn ei ddweud. Rwy'n 12 oed erbyn hyn, ac rwy'n ddigon ffodus i fyw bywyd cymharol wyrdd diolch i fy rheini. Ond sut y gall hyn ddod yn norm i bob person ifanc yn Sir Gaerfyrddin? Hoffwn ofyn i'r cynghorwyr sy'n gweithio ar faterion cynllunio, beth y maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd i atal adeiladu a datblygiadau nad ydynt yn ecolegol, i atal llecynnau glas rhag cael eu clirio (megis torri coed ar Lôn Jackson), i greu llecynnau glas newydd a phlannu coed, i wella trafnidiaeth gyhoeddus, osgoi adeiladu mwy o ffyrdd i geir a hyrwyddo syniadau megis Datblygiadau Un Blaned?”

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig gan y Dirprwy Arweinydd yn cael ei anfon at Miss Sylvan yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor.

 

</AI7>

<AI8>

7.            CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

 

</AI8>

<AI9>

7.1.       CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I CYNGHORYDD MAIR STEPHENS - DIRPRWY ARWEINYDD

 

Rydym bob amser yn canmol ein staff ond yn anaml iawn mae gennym ffordd o ddangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi'r gwaith caled y maent yn ei wneud.

Mae'n hawdd inni anghofio wrth inni dreulio amser arbennig gyda'n teuluoedd dros gyfnod y Nadolig a chymryd y gwyliau haeddiannol hynny, nad yw pobl eraill mor ffodus efallai. 

Felly oherwydd bod y Nadolig mor agos at y penwythnos eleni, a fyddai modd inni roi'r dewis i bobl nad ydynt yn rhan o wasanaethau rheng flaen gymryd y dydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith fel gwyliau, amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd neu oriau hyblyg, er mwyn inni helpu i sicrhau eu cydbwysedd bywyd a gwaith ac iddynt rannu yn y llawenydd a'r cyfle i ymlacio a gymerir yn aml yn ganiataol gennym”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch i chi Deryk am eich cwestiwn. Fy sylw cyntaf yw bod yr hyn yr ydych yn ei awgrymu union yr un peth â'r hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd, drwy ganiatáu hyblygrwydd mewn perthynas ag absenoldeb, gan gynnwys amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd.

 

Efallai y byddwch yn ymwybodol fod gennym ystod gynhwysfawr o bolisïau cyflogaeth sy'n rhoi'r hyblygrwydd i ni gefnogi staff mewn perthynas ag absenoldeb.

 

Yn y gorffennol, pan gaeodd yr Awdurdod y swyddfeydd dros gyfnod y Nadolig/y Flwyddyn Newydd ac roedd yn ofynnol i staff gymryd gwyliau blynyddol, cafwyd adborth gan nifer fawr o staff y byddai'n well ganddynt gymryd gwyliau pan fyddent yn dewis gwneud hynny, yn hytrach na phan mae'n orfodol. Hefyd, ni fyddai rhai o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn gymwys. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn bellach, a'r ystyriaeth bennaf yw bod angen i swyddogaeth gyhoeddus ein gwasanaethau fod ar gael ar gyfer ein rhanddeiliaid.

 

Felly, gallaf gadarnhau ein bod wedi gallu bodloni ceisiadau gan ein staff am wyliau hyblyg dros gyfnod y Nadolig, heb unrhyw broblemau o gwbl, a chynnal ein gwasanaethau heb unrhyw darfu o safbwynt pragmatig.

 

Mae hyn yn fy arwain at y mater rydych yn ei godi ynghylch diolch i'r staff am eu gwaith caled.

 

Efallai eich bod yn ymwybodol yr oedd y ffrwd waith ymgysylltu, fel rhan o Grŵp y Strategaeth Pobl, wedi penderfynu edrych ar sut yr ydym yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad i'r staff am eu gwaith caled. Roedd hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad Ail-achredu Buddsoddwyr mewn Pobl 2018 a oedd yn tynnu sylw at y dangosydd Cydnabod a Gwobrwyo Perfformiad o Safon Uchel fel maes i'w ddatblygu, er gwaetha'r cynnydd mesuradwy er 2017.

 

Yn ystod yr haf, cafodd holiadur ei greu a'i anfon at staff; cafodd ei anfon drwy e-bost ar gyfer staff swyddfa, ond ar gyfer staff rheng flaen (a oedd efallai'n awyddus i gael eu cynnwys, ond nad oedd ganddynt fynediad i e-bost fel rhan o'u swydd), aeth y grŵp allan i gynadleddau cymunedau, ceginau ysgolion ac i depos ledled y sir.

 

Dywedodd nifer fawr o'r staff mai'r hyn yr oeddent am ei gael fel cydnabyddiaeth oedd yn syml 'diolch' neu gydnabyddiaeth am eu gwaith, a dim ond 13% o'r ymatebwyr a awgrymodd cymhellion ariannol.

 

O ganlyniad i'w ganfyddiadau, cynigodd y ffrwd waith ymgysylltu ar 24 Hydref eleni i Grŵp y Strategaeth Pobl fod 'Diwylliant o roi diolch' yn cael ei dreialu er mwyn hyrwyddo'r arfer o reolwyr yn dangos gwerthfawrogiad i'w staff yn y modd y mae staff wedi nodi sy'n werthfawr iddyn nhw (h.y. diolch, cydnabyddiaeth yn breifat neu mewn grŵp bach). Mae'r cynllun treialu hwn yn cael ei dargedu ym maes Arlwyo Ysgolion a Chanolfannau Hamdden a bydd yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd gwahanol i grwpiau gwahanol (h.y. posteri neu sesiynau dysgu byr a deunydd atodol o bosibl) er mwyn nodi pa ffordd o ddarparu sydd fwyaf effeithiol. Bydd gwerthusiad yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y cynllun treialu. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y camau hyn i wella ein 'diwylliant o roi diolch' yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod cyfan fel rhan o drafodaeth ehangach yn cael ei monitro a'i hyrwyddo drwy hyfforddi a mentora.

 

Fel y dywedodd y grŵp, mae dweud diolch yn costio dim ond mae'n golygu popeth

 

Felly, diolch Deryk am eich cwestiwn a hyderaf fod fy ateb yn ddigonol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

 

</AI9>

<AI10>

8.            YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATER CANLYNOL:-

 

</AI10>

<AI11>

8.1.       ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) CAERFYRDDIN

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 21 Hydref, 2019 (gweler cofnod 9), wedi ystyried adroddiad ynghylch sefydlu Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin (AGB) a gafodd gefnogaeth aruthrol gan fusnesau yn yr ardal arfaethedig. Os câi ei weithredu, byddai'r AGB, drwy ardrethi busnes, yn cynhyrchu incwm o oddeutu £165k y flwyddyn neu £847k dros gyfnod y pum mlynedd i'w fuddsoddi mewn prosiectau a gwasanaethau er budd busnesau yng Nghaerfyrddin. Bydd yn canolbwyntio ar bedwar maes gweithgarwch gan gynnwys gwneud busnesau'n fwy proffidiol, gwella proffil y dref, gwella'r profiad parcio a golwg y dref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“bod y Cyngor yn:-

 

Cefnogi 'Cwmni AGB Caerfyrddin' er mwyn ei alluogi i gynnal pleidlais ffurfiol ynghylch a fyddai busnesau ardrethol y dref yn dymuno gweithredu Ardal Gwella Busnes (AGB) Caerfyrddin am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd neu beidio.

 

Cytuno ar ei safbwynt o ran rhoi cefnogaeth i egwyddor yr AGB a phleidleisio o ran ei 15 eiddo ardrethol yr effeithir arnynt o fewn y parth AGB (amcangyfrif o gost flynyddol yr ardoll yw £20,061 ynghyd â chwyddiant o 2% y flwyddyn).

 

Cytuno ar yr egwyddor o ymgymryd â chasglu ardoll yr AGB fel y nodwyd yn y Cytundeb Gweithredol ar ran Cwmni AGB Caerfyrddin, heb unrhyw gost i'r AGB am y cyfnod cyntaf o 5 mlynedd.

 

Cymeradwyo'r Datganiad o Wasanaethau Sylfaenol a amgaeir ar gyfer Cwmni'r AGB.

 

Enwebu cynrychiolydd o blith yr aelodau i fod ar Fwrdd Cwmni'r AGB.

 

Cytuno i reoli, heb unrhyw gost, broses bleidleisio yr AGB ar ran Cwmni AGB Caerfyrddin.”

 

 

</AI11>

<AI12>

8.2.       CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (CGHT) SIR GAERFYRDDIN

 

(NODER: Roedd y Cynghorwyr J.A. Davies, Arwel Davies, A. James, K. Broom a D. Phillips wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 21 Hydref, 2019 (gweler cofnod 11) wedi ystyried 'Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT) 2019-2029' a luniwyd yn unol ag Adran 60 (3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, sy'n gosod disgwyliad ar awdurdodau lleol Cymru i gynnal adolygiad statudol o'r CGHT y maent wedi'i gyhoeddi cyn pen 10 mlynedd ar ôl ei gyhoeddi. Os caiff ei fabwysiadu, byddai'r cynllun newydd yn disodli'r CGHT cychwynnol a gyhoeddwyd yn 2008 ar gyfer 2007-2017.

 

Os caiff ei fabwysiadu, nodwyd y byddai'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun, o ganlyniad i adnoddau ariannol prin, yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a chynghorau tref a chymuned, yr oedd nifer ohonynt eisoes wedi ymuno â'r cynllun. Y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd fyddai'n monitro'r gwaith o gyflwyno'r cynllun.

 

PENDERFYNWYD y dylid mabwysiadu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT) 2019-2029.

 

 

</AI12>

<AI13>

8.3.       YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL 2020-2040 (DRAFFT)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 21 Hydref, 2019 (gweler cofnod 12) wedi ystyried Drafft Ymgynghori Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy'n nodi strategaeth y Llywodraeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau cydnerth a gwella iechyd a llesiant cymunedau.

 

Cyfeiriwyd at faterion sy'n effeithio ar ardaloedd gwledig y Sir, fel y nodwyd yng Nghynllun Gwledig Sir Gaerfyrddin, a hefyd at gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg er mwyn iddo gael yr un statws ag ymgyngoreion eraill o ran ceisiadau cynllunio. Felly cynigwyd bod y sylwadau ychwanegol canlynol yn cael eu hychwanegu at ymateb y Cyngor:

 

·         Gofyn i Lywodraeth Cymru gwrdd â'r Cyngor i drafod bod Cynllun Gwledig Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynnwys mewn gwaith cynllunio a gweithredu yn y dyfodol

·         Cryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg a rhoi'r un statws iddo ag ymgyngoreion eraill o ran ceisiadau cynllunio

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.3.1

Derbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

"Nodi cynnwys yr ymgynghoriad;

 

Cymeradwyo'r ymatebion i'r ymgynghoriad a nodwyd yn yr adroddiad i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.”

 

8.3.2

Ychwanegu'r sylwadau ychwanegol canlynol fel atodiadau i'r ymateb i'r ymgynghoriad sydd i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

1.    Gofyn i Lywodraeth Cymru gwrdd â'r Cyngor i drafod bod Cynllun Gwledig Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynnwys mewn gwaith cynllunio a gweithredu yn y dyfodol

2.    Cryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg er mwyn rhoi'r un statws iddo ag ymgyngoreion eraill o ran ceisiadau cynllunio.

 

 

</AI13>

<AI14>

8.4.       FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 21 Hydref, 2019 (gweler cofnod 13), wedi ystyried fersiwn adneuol drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033, a luniwyd yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau'n ffurfiol ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (newydd).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, pe bai'n cymeradwyo'r cynllun ar gyfer ymgynghori, rhagwelwyd y byddai hynny'n dechrau tua diwedd mis Rhagfyr 2019. Byddai unrhyw sylwadau a ddaw i law yn yr ymgynghoriad, ynghyd â Fersiwn Adneuol Drafft o'r CDLl, yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w hystyried cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2020 er mwyn cynnal Archwiliad Cyhoeddus a'u mabwysiadu'n ffurfiol erbyn mis Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“Ystyried a chymeradwyo cynnwys y Fersiwn Adneuol Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033 (a dogfennau atodol) at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol;

 

 Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol, cartograffig a/neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Adneuol Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ;

 

Cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Moryd Byrri ac Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr at ddibenion ymgynghori yr un pryd â'r CDLl Adneuo.”

 

</AI14>

<AI15>

9.            DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 21AIN HYDREF, 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2019.

 

</AI15>

<AI16>

10.         AELODAETH PWYLLGORAU

 

</AI16>

<AI17>

10.1.    NODI BOD Y GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD KAREN DAVIES I GYMERYD LLE'R CYNGHORYDD EMLYN SCHIAVONE AR Y PWYLLGOR  ARCHWILIO

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grŵp gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi y byddai'r Cynghorydd Karen Davies yn cymryd lle'r Cynghorydd Emlyn Schiavone ar y Pwyllgor Archwilio.

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>