Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Addysg a Phlant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Dydd Gwener, 23 Mehefin 2017

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd D. Price (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr:

K.V. Broom, A. Davies, I.W. Davies, R.E. Evans, W.T. Evans, M.J.A. Lewis, J.P. Jenkins, G.R. Jones, K. Lloyd, K. Madge, E. Morgan, J.G. Prosser (In place of A.S.J. McPherson), B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone, E.G. Thomas a D.T. Williams

 

Mrs. V. Kenny – Cynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig Rufeinig

 

Hefyd yn bresennol:

Y Cynghorwyr G. Davies - Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant

Y Cynghorwyr J. Tremlett - Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn gwasanaethu yn y cyfarfod:

J. Morgan - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedau

G. Morgans - Cyfarwyddwr Addysg a Phlant Dros Dro

A. Bracey - Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

S. Smith - Pennaeth Gwasanaethau Plant

S. Sauro - Swyddog Adolygu Perfformiad

C. Gadd - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin - 2.00 - 3.45 pm

 

<AI1>

1.            PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd D Price yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

2.            YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  L. Bowen, B. Jones, D. Jones, A. McPherson, S. Najmi a G. Thomas yn ogystal â Mrs. E. Heyes (Rhiant-lywodraethwr Ardal Llanelli), Mrs. K. Hill (Rhiant-lywodraethwr Ardal Dinefwr), Mrs A. Pickles (Rhiant-lywodraethwr Ardal Caerfyrddin) a Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

 

</AI2>

<AI3>

3.            DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Mrs. V. Kenny

 

 

Rhif y Cofnod. 6

 

Ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Cynghorydd E Morgan

 

 

Rhif Cofnod 6

 

 

Mae ei ferch yn nyrs staff

 

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Rhif y Cofnod. 6

 

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae ei wraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman.

 

 

Cynghorydd B.A.L. Roberts

 

 

Rhif Cofnod 6

 

Mae ei merch yn ymwelydd iechyd

 

 

</AI3>

<AI4>

4.            DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

</AI4>

<AI5>

5.            CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

</AI5>

<AI6>

6.            ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2016/17

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K Madge, E Morgan and B.A.L. Roberts a Mrs. V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Nododd y swyddogion ei fod yn adroddiad cadarnhaol yn gyffredinol a bod yr adroddiad yn cynnwys dyfyniadau drwyddi draw i gynrychioli safbwyntiau'r defnyddwyr gwasanaethau a'r sefydliadau am y gwasanaethau a ddarperir. Nodwyd bod rhai meysydd i'w gwella ac efallai y byddai'r Pwyllgor am eu hystyried wrth bennu ei flaenraglenni gwaith priodol.

 

Nodwyd bod yr Adran wedi rheoli gwasanaethau o fewn y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy ddarparu mwy o becynnau gofal cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys peidio â gordanysgrifio cymorth oherwydd gallai hyn gael effaith niweidiol ar allu unigolyn. Roedd hefyd systemau gwell a mwy cadarn ar gyfer gwaith ataliol gyda theuluoedd yn seiliedig ar y model signs of safety. Tynnwyd sylw at y ffaith y cafwyd gwell perfformiad y llynedd o ran sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a byddai gwelliant parhaus yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth. Roedd y meysydd eraill i'w gwella yn cynnwys lleoliadau Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl mewn cymunedau.

 

Nododd y swyddogion fod yr Adran wedi bod yn datblygu ei dull o weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru 'Mwy na Geiriau' i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y gwasanaeth yn anelu at fynd y tu hwnt i fodloni'r ddyletswydd statudol hon a chydnabuwyd y pwysigrwydd o gynnig dewis iaith, yn enwedig o ran gwasanaethau megis gofal dementia.

 

Nododd y swyddogion fod galw cynyddol am wasanaethau ar gyfer pobl 85 oed a hŷn a byddai'r galw yn y maes hwn yn parhau i dyfu. Yn anochel byddai'n rhaid cael cynyddu'r gwariant ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion er mwyn ymdopi â'r galw hwn yn y blynyddoedd i ddod. Nododd yr Aelodau y dylai fod mwy o bwyslais ar y twf yn y galw ar gyfer y demograffig hyn yn yr adroddiad, oherwydd bod y twf yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Cytunodd y swyddogion y gallai'r adroddiad gynnwys rhagor o wybodaeth am broffilio demograffeg y boblogaeth. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofalwyr yn wasanaeth da a oedd yn cynorthwyo i reoli'r galw gan alluogi pobl i aros yn y gymuned. Cydnabuwyd bod angen cefnogaeth ar ofalwyr a nodwyd y byddai adolygiadau o'r pecynnau gofal o fewn yr amserlenni yn flaenoriaeth yn ystod 2017/18.

 

Tynnwyd sylw at y ffigurau ynghylch y gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal ac eglurwyd bod y graff yn adlewyrchu'r oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol yn unig. Nodwyd bod nifer o resymau eraill am yr oedi wrth drosglwyddo gofal, gan gynnwys rhesymau meddygol a bodlonrwydd teulu a ffrindiau. Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch prydlondeb y pecynnau gofal a oedd yn cael eu rhoi ar waith ac a fyddai gweithwyr cymdeithasol yn yr ysbytai yn ystod y penwythnosau. Esboniodd y swyddogion fod hyn yn darged perfformiad a bod angen i'r gwasanaeth fod yn fwy ymatebol ac wrth adolygu'r modd yr oedd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu, gallai arwain at newid i batrymau gwaith gweithwyr cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a holwyd ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau, esboniodd y swyddogion fod darpariaeth y tu allan i'r oriau arferol bob amser wedi bod ar gael gan yr Adran a bod gwasanaeth newydd i  ymateb i'r angen y tu allan i oriau swyddfa arferol yn cael ei ddatblygu. Nodwyd bod hyn yn gam cadarnhaol a fyddai'n darparu mwy na'r gwasanaeth ar alwad yn unig a gynigir gan y mwyafrif o awdurdodau lleol.

 

Tanlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol un maes gwaith sylweddol gan yr Adran y byddai'r Pwyllgor Craffu'n efallai'n awyddus i'w ystyried yn fanwl, sef cynllun y gweithlu. Eglurwyd bod hyd at 23% o Ofal Cartref yn cael ei ddarparu'n fewnol a rhagwelwyd y byddai'r gyfran sy'n cael ei darparu yn y modd hwn yn debygol o gynyddu. Cydnabuwyd y gallai'r Cyngor fod yn fwy rhagweithiol wrth hyrwyddo ei wasanaethau mewnol. Nodwyd bod rhai anawsterau wrth recriwtio gweithwyr gofal mewn rhai meysydd, ac roedd y gwasanaeth yn mynd i'r afael â hyn.   Esboniodd y swyddogion fod heriau o ran cyflogi nifer digonol o weithwyr gofal a bod y Cyngor wedi diddymu pen isaf y raddfa gyflogau ar gyfer y gweithwyr hyn, sydd mewn gwirionedd wedi arwain at godiad cyflog.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut yr oedd y darparwyr annibynnol yn cael eu harchwilio. Eglurwyd bod fframwaith sicrhau ansawdd ar waith a'u bod  hefyd yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Nododd y swyddogion hefyd fod dulliau gwell ar waith o ran olrhain gwasanaethau er mwyn atal materion megis cwtogi hyd yr ymweliad. Roedd ymagwedd fwy hyblyg yn cael ei defnyddio o ran darpariaeth gofal, ac roedd darparwyr wedi ymateb yn gadarnhaol. Nodwyd bod cael economi gymysg o opsiynau gofal yn yr ardal yn gadarnhaol.

 

Nodwyd bod datblygu darpariaeth gofal yn Llynnoedd Delta yn gyfle cyffrous a byddai'n cymryd amser i ddatblygu cynigion o ran sut  i ddiwallu anghenion pobl leol er y gorau.

 

Y maes blaenoriaeth sylweddol arall a nodwyd ar gyfer y Gwasanaeth oedd cyllidebau cyfun, a oedd yn fater cenedlaethol. Nodwyd bod llawer o heriau o ran cyllidebau cyfun ac er gwaethaf yr holl bartïon yn cytuno â'r egwyddorion, yr oedd yn fater cymhleth. Byddai'n rhaid i'r gwasanaeth sicrhau y byddai unrhyw newidiadau yn bodloni'r gofynion gofal a'r Cyngor fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, awgrymwyd efallai y byddai'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dymuno cynnwys yr eitem hon ar ei Flaenraglen Waith. Roedd yr Aelodau'n gefnogol i'r egwyddor o gyllidebau cyfun gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o ddiwallu'r galw mewn modd amserol heb golli ansawdd y gofal na dewis personol.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y goblygiadau cost ar gyfer y gwaith parhaus ar y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Nododd y swyddogion y pryderon hyn gan egluro fod y gwasanaeth yn ceisio rheoli'r galw a'r peryglon cysylltiedig ac roedd tîm bach wedi'i sefydlu at y diben hwn.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Addewid Hawliau Plant Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd a ddylid cael rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad am sicrhau cyfleoedd chwarae er mwyn cyflawni'r addewid hwn. Nodwyd bod blaenoriaethau'r gwasanaeth wedi'u hatodi i'r adroddiad, a oedd yn cynnwys ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio ysgolion y tu allan i oriau addysgu i alluogi plant i gael mwy o fynediad i gyfleoedd chwarae. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant ac Addysg Dros Dro fod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn tanategu llawer o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan wahanol adrannau. Er enghraifft, roedd Cyngor Ieuenctid a Chynghorau Ysgol bywiog.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a nodwyd bod gwasanaethau Timau Argyfwng yn dod i ben erbyn hanner nos ac yn aml ar ôl yr amser hwn yr oedd angen yr ymyriadau fwyaf. Nododd y swyddogion fod llawer o waith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â mynediad i wasanaethau ac ymyriadau llwyddiannus. Eglurwyd bod uchelgais i ddarparu gwasanaeth 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Iechyd Meddwl. Roedd Rhaglen Drawsnewid yn destun ymgynghoriad am 12 wythnos dros yr haf a byddai'r Aelodau yn cael cyfle i roi sylwadau ar y cynigion. Dywedwyd bod gwahanol fodelau gwasanaeth yn cael eu hystyried. Roedd yr Aelodau'n falch bod Iechyd Meddwl bellach yn rhan flaenllaw o drafodaethau.

 

Rhoddodd yr Aelodau sylwadau ar gludo'r henoed sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar y gwasanaeth ambiwlans. Nododd swyddogion fod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn un o'r ychydig o awdurdodau lleol sy'n cadw ei adain drafnidiaeth ei hun ac roedd yn gallu ystyried y ffordd orau i gefnogi gwasanaethau.

 

Nododd Aelodau fod rhai arferion da ar gyfer integreiddio pobl ag anableddau dysgu i gymunedau gan nodi hefyd achlysuron lle nad yw hyn wedi bod mor llwyddiannus. Dywedodd y swyddogion fod arferion da yn y maes hwn yn uchelgais ar gyfer y Gwasanaeth ac roedd systemau ar waith i adolygu'r gwaith hwn gyda darparwyr trydydd parti.

 

Nododd y Pwyllgor yn gyffredinol fod yr adroddiad yn un cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, 2016/17.

 

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

CADEIRYDD                                                                                    DYDDIAD

 

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

 

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>